Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Rheolaeth Twristiaeth Fyd-eang (BA)
Mae’r radd BA mewn Rheolaeth Twristiaeth Fyd-eang yn radd dysgu gyfunol. Caiff modylau academaidd eu cyflwyno ar-lein, ac mae’r modylau lleoliad ar gael gydag ystod o ddarparwyr yn y DU a thramor. Golyga’r dull hyblyg hwn y gellir darparu’r radd mewn unrhyw leoliad ar draws y DU, a hyd yn oed dramor.
Wrth astudio’r BA mewn Rheolaeth Twristiaeth Fyd-eang fe gewch brofiad o weithio ar leoliad mewn amrywiaeth o leoliadau a phrofiad ymarferol wrth ddatblygu eich sgiliau academaidd, ymarferol a rhyngbersonol. Yr ystod hwn o sgiliau a fydd yn eich galluogi, ar ddiwedd eich astudiaethau, i ddechrau gyrfa rheoli yn y diwydiant twristiaeth.
Rheolaeth Twristiaeth Fyd-eang (BA)
Cod UCAS: GRM1
Gwnewch gais drwy UCAS
Tyst AU Rheolaeth Twristiaeth a Digwyddiadau Byd-eang
Cod UCAS: GTE1
Gwnewch gais trwy UCAS
Cais am Wybodaeth
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn?
- Cewch weithio ar leoliad mewn amrywiaeth o leoliadau.
- Cewch brofiad ymarferol gwerthfawr o reoli digwyddiadau.
- Byddwch yn datblygu eich sgiliau academaidd, ymarferol a rhyngbersonol.
- Gallwch astudio’n hyblyg mewn lle sy’n addas i chi.
- Cewch fwynhau cefnogaeth staff addysgu profiadol ac arbenigol.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd y radd hon yn rhoi i chi’r holl sgiliau sydd eu hangen i weithio yn y diwydiant twristiaeth trwy astudio modylau ar gynaliadwyedd, arweinyddiaeth, marchnata, lletygarwch a rheoli busnes, i enwi ond rhai. Trwy gydol eich astudiaethau fe gewch y cyfle i gysylltu ag arbenigwyr trwy ddarlithoedd gwadd ac ymweliadau â’r diwydiant ar deithiau maes.
Blwyddyn Un – Lefel 4 (BA)
- Sgiliau Busnes ar gyfer y Diwydiant Lletygarwch (MG)
- Lletygarwch a Gwasanaethau Gwesteion ar gyfer y Diwydiant
- Rheolaeth ac Ymddygiad Cyfundrefnol
- Hanfodion Marchnata
- Adnoddau Personél a Datblygu
- Lletygarwch a Rheolaeth Twristiaeth Gynaliadwy
Blwyddyn Dau – Lefel 5 (BA, DipHE)
- Rheolaeth Treftadaeth a Thwristiaeth
- Rheoli Gweithrediadau Gwasanaeth Gwesteion (Lleoliad)
- Rheolaeth Gweithrediadau (Lleoliad)
- Datblygiad Proffesiynol ar gyfer y Diwydiant (Lleoliad)
- Y Diwydiant Twristiaeth a Digwyddiadau Byd-eang
- Polisi a Chynllunio Twristiaeth
Blwyddyn Tri – Lefel 6 (BA)
- Themâu Cyfoes yn y Sector Lletygarwch
- Adolygu Hunanberfformiad (Lleoliad)
- Rheolaeth Cyrchfannau Byd-eang
- Adroddiad Ymchwil i’r Diwydiant (Lleoliad)
- Ymgynghori Sefydliadol (Lleoliad)
- Ymagwedd Strategol at Arfer Busnes Cynaliadwy
Ar ddechrau’r rhaglen, bydd myfyrwyr yn mynychu cyfnod cynefino a fydd yn para wythnos lle byddant yn derbyn gwybodaeth am eu rhaglen yn ogystal â’r gofynion asesu. Caiff gwaith cwrs (y prif strategaeth asesu) a thasgau ymarferol eu gosod mewn amrywiaeth o fformatau. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Ymarferion ymarferol yn y dosbarth (e.e. seminarau dadlau)
- Chwarae rhan (e.e. ffug gyfweliadau, senarios sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ayb)
- Cyflwyniadau
- Logiau Dysgu – naill ai wedi’u cwblhau ar leoliad neu mewn sesiynau mewnol ymarferol
- Prosiectau Ymchwil
- Mentora gan gymheiriaid
- Trafodaeth feirniadol am fideo
- Traethodau
- Adroddiadau
- Asesiadau o leoliadau profiad gwaith.
Dolenni Perthnasol
Gwybodaeth allweddol
- Helen Evans – Rheolwr Rhaglen
Fel arfer mae’r rhaglenni’n gofyn bod myfyrwyr wedi cyflawni 88 o bwyntiau UCAS. Er bod graddau’n bwysig, nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu eich addasrwydd ar gyfer eich dewis gwrs, rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â'ch cymwysterau, ac fe gynhelir y rhain yn rhithiol ac ar gampws.
Mae cyflogadwyedd wrth wraidd y rhaglen.
Yn ogystal â phrofiad ymarferol ar leoliadau mewn lleoliad twristiaeth neu ddigwyddiadau, mae gan y rhaglen fodylau sy’n ymgorffori sgiliau trosglwyddadwy arloesi, ymdrin â digwyddiadau annisgwyl, gwytnwch, menter a chyfrifoldeb personol, datrys problemau a chreadigrwydd, arfer adfyfyriol a datblygu ffordd o feddwl mentrus.
Ategir yr addysgu a arweinir gan arfer gan ddarlithoedd gwadd a theithiau maes rheolaidd i ddarparwyr a lleoliadau perthnasol a deinamig.
Hefyd, bydd dysgwyr yn cael y cyfle i dderbyn arweiniad gyrfaoedd pwrpasol yn ogystal â sesiynau datblygu sgiliau i wella eu hyder, fel hyfforddiant LinkedIn, i wella eu presenoldeb ar-lein a ffug cyfweliadau.
Mae’r holl gostau ychwanegol a nodir yn yr adran hon yn ddangosol. Cydnabyddir, er enghraifft, y gallai’r union gostau’n gysylltiedig â thaith maes amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Gwneir pob ymdrech i gadw costau mor isel â phosibl ac fel arfer caiff teithiau maes dewisol eu cynllunio ymhell ymlaen llaw. Mae’r ddisgyblaeth academaidd hon yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr dalu mewn rhandaliadau misol.
Costau Angenrheidiol
- Teithio i leoliad – gwneir pob ymdrech i leoli myfyrwyr o fewn pellter cymudo i ble maent yn byw. Mae myfyrwyr yn gyfrifol am eu costau teithio i leoliad.
- Teithiau maes yn y DU – rhaid i’r myfyriwr dalu’r costau ac fe fyddant yn gysylltiedig â theithio a llety: maent yn debygol o fod yn llai na £100 y flwyddyn.
Dewisol
- Mae teithiau maes rhyngwladol yn ddewisol ac felly rhaid i’r myfyriwr dalu'r gost gyfan. Amcangyfrifir y bydd y costau’n debygol o fod yn llai na £750.
- Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol (BA, DipAU, TystAU)
- Rheolaeth Digwyddiadau Byd-eang (BA)
- Rheolaeth Twristiaeth (BA, DipAU)
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
Ewch i dudalen Teithio’r Byd gyda’r Drindod Dewi Sant i ddysgu rhagor am gyfleoedd i astudio dramor.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.