Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Peirianneg Drydanol ac Electronig (BEng, HND, Mynediad Sylfaen)
Mae PCYDDS wedi’i rhestru’n gydradd 5ed yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig - Complete University Guide 2023.
Wrth i dechnoleg ddatblygu, mae peirianneg drydanol ac electronig yn dod yn hynod bwysig ac yn cael lle amlwg ym mhob maes, gan gynnwys - ond heb fod yn gyfyngedig i - gerbydau trydan, gweithgynhyrchu, cynhyrchu pŵer, rhwydweithiau trawsyrru a dosbarthu, dyfeisiau clyfar, systemau cyfathrebu a gwybodaeth. Er mwyn cefnogi'r angen i leihau allyriadau carbon, rhaid i'r genhedlaeth newydd o beirianwyr allu deall y technolegau presennol a'r rhai sy'n dod i'r amlwg.
Mae cynaliadwyedd bywyd modern yn dibynnu ar leihau allyriadau carbon trwy gynyddu effeithlonrwydd ynni dyfeisiau trydanol a defnyddio cerbydau trydan. Trwy’r rhaglen radd hon, byddwch yn dod i ddeall agweddau allweddol ar ystod o gysyniadau, egwyddorion, a thechnolegau sy’n gysylltiedig â pheirianneg drydanol ac electronig, y mae gan rai ohonynt le blaenllaw yn y ddisgyblaeth.
Byddwch yn dysgu cymhwyso technolegau, technegau ac offer priodol i ddatrys problemau neu i fodloni set o ofynion a nodi problemau neu dasgau, a dylunio atebion gyda dogfennaeth briodol, sy'n dangos y gallu i ddefnyddio tystiolaeth ategol ac i gyfathrebu'n effeithiol.
Bydd y rhaglen hon hefyd yn meithrin trafodaeth ar gymwysiadau, cysyniadau, egwyddorion, technegau a damcaniaeth ac yn datblygu eich dealltwriaeth o'r dulliau meintiol a'r egwyddorion mathemategol sy'n gysylltiedig â pheirianneg drydanol ac electronig. Byddwch hefyd yn dysgu am integreiddio agweddau dylunio, technoleg a masnachol priodol er mwyn datblygu a thargedu atebion amgylcheddol gynaliadwy ac arloesol i broblemau.
Peirianneg Drydanol ac Electronig (BEng Hons) | Rhaglen Radd 3 Blynedd (Lefelau 4 i 6)
Cod UCAS: 3TY8
Gwnewch gais drwy UCAS
Peirianneg Drydanol ac Electronig (HND) | Rhaglen 2 Flynedd (Lefelau 4 i 5)
Cod UCAS: 116H
Gwnewch gais drwy UCAS
Peirianneg Drydanol ac Electronig (BEng Hons) | Rhaglen 4 Blynedd gyda Mynediad Sylfaen (Lefelau 3 i 6)
Cod UCAS: 53R2
Gwnewch gais drwy UCAS
STEM Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (Ffrwd Electronig)
Rhaglen Sylfaen 1 Flwyddyn (Lefel 3 i 4)
Cod UCAS: STE6
Gwnewch gais drwy UCAS
CADW LLE AR DDIWRNOD AGORED CAIS AM WYBODAETH blog cyfrifiadur
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
- Tybir bod gan y myfyrwyr sy'n dymuno astudio'r rhaglen Peirianneg Drydanol ac Electronig ddiddordeb mewn datblygiad trydanol neu electronig, er y gall eu cefndiroedd gynnwys astudio ffiseg a mathemateg. Bydd ganddynt ddiddordeb mewn electroneg ac efallai y byddant eisoes wedi cwblhau nifer o brosiectau fel hobi.
- Mae’r cynllun gradd hwn wedi’i gynllunio i greu graddedigion sydd â’r medrau addas i weithio yn y diwydiant peirianneg drydanol ac electronig yn y DU. Trwy ein cysylltiadau diwydiannol, rydym hefyd wedi datblygu strwythur rhaglen i roi'r sgiliau diweddaraf i fyfyrwyr ynghyd â gwerthfawrogiad o ofynion diwydiant.
- Caiff myfyrwyr gyswllt eang â thechnolegau modern gan gynnwys electroneg pŵer a gyriannau, prosesyddion signal digidol, systemau cyfathrebu digidol uwch, C, C++, Java, PLCs a systemau rheoli.
- Dylai ymgeiswyr i’r rhaglen hon fod yn rhifog a chanddynt feddwl rhesymegol, ac mae'n debygol y byddant wedi astudio peirianneg, gwyddoniaeth, mathemateg neu ffiseg yn flaenorol. Byddant yn ceisio dod yn arbenigwyr cyfrifiadurol sy'n gallu deall agweddau caledwedd, meddalwedd a chyfathrebu ar systemau cyfrifiadurol ac electronig.
- Byddai disgwyl i raddedigion y rhaglen hon chwilio am waith fel peirianwyr trydanol, peirianwyr electronig, peirianwyr cynnal a chadw trydanol, ac ati. Yn y rolau hyn, gallent ddisgwyl gael eu cyflogi mewn nifer o sectorau diwydiant gan gynnwys awyrofod, modurol, dosbarthu, gweithgynhyrchu, ac ati.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd y cwrs BEng hwn yn datblygu gwybodaeth o’r peirianneg trydanol ac electronig sydd eu hangen ar gyfer sefydliadau diwydiannol modern.
Bydd myfyrwyr yn astudio egwyddorion trydanol ac electronig, microbroseswyr a mathemateg. Mathemateg, dylunio cylched, prosesu signalau digidol, electroneg pŵer a dylunio system electronig.
Mae’r rhaglen hefyd yn cwmpasu cysyniadau electronig fel damcaniaeth egwyddorion trydanol, a pheiriannau a gyrwyr trydanol. Is-set o’r thema electroneg yw datblygu systemau wedi’i fewnblannu a chaiff hyn ei gefnogi gan gyflwyniad i raglennu cyfrifiadurol, peirianneg cyfrifiadurol a microbroseswyr. Hefyd, ymdrinnir â offeryniaeth a rheolaeth offer trydanol hefyd.
Rhoddir pwyslais ar ymarferion ymarferol i atgyfnerthu’r cysyniadau damcaniaethol a drafodir mewn darlithoedd. Gwneir defnydd helaeth o becynnau meddalwedd o safon ddiwydiannol, fel Matlab, Xilinx, Mentor Graffics a Visual Development Studio Microsoft.
Mae gan yr Ysgol systemau prosesu signal digidol a datblygu synthesis digidol o’r radd flaenaf ac mae hyn yn bosibl o ganlyniad i roddion offer gan Xilinx a Texas Instruments. Mae hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad uniongyrchol o’r dechnoleg orau a ddefnyddir yn y diwydiant ar hyn o bryd.
Nod cyffredinol y rhaglen hon yw datblygu myfyrwyr sydd â'r sgiliau i weithio ym maes peirianneg drydanol ac electronig. Trwy nifer o gysylltiadau diwydiannol, mae’r ysgol wedi sefydlu galw cryf am y rhaglen hon yn y diwydiant. Mae gan gyflogwyr feddwl mawr o’r arbenigedd a’r sgiliau a ddatblygir gennych, o ddylunio a gweithredu datrysiadau i broblemau diffiniedig yn rhan o dîm.
Nodyn: Bydd myfyrwyr HNC yn astudio eu modylau dros 2 flynedd, yn rhan-amser.
Tystysgrif AU STEM (Electroneg)
- Sgiliau Academaidd (20 credyd; gorfodol)
- Dadansoddi a Datrys Problemau (20 credyd; gorfodol)
- Prosiect Integreiddio (20 credyd; gorfodol)
- Cyflwyniad i Systemau Cyfrifiadurol (20 credyd; gorfodol)
- Cyflwyniad i Electroneg (20 credyd; gorfodol)
- Cyflwyniad i Fathemateg a Gwyddoniaeth (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Un – Lefel 4 - BEng/HND/HNC
- Hanfodion Systemau Cyfrifiadurol (10 credyd; gorfodol)
- Egwyddorion Trydanol ac Electronig (20 credyd; gorfodol)
- C Mewnblanedig (20 credyd; gorfodol)
- Dysgu yn yr Oes Ddigidol (20 credyd; gorfodol; Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Mathemateg (20 credyd; gorfodol)
- Microgyfrifiaduron, Perifferolion a Rhyngwynebu (20 credyd; gorfodol)
- Signalau a Systemau (10 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Dau - Lefel 5 - BEng/HND
- Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth (20 credyd; gorfodol; Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Systemau Deallusrwydd Gwasgaredig (20 credyd; gorfodol)
- Electroneg I (20 credyd; gorfodol)
- Peirianneg Drydanol (20 credyd; gorfodol)
- Prosiect Grŵp (20 credyd; dewisol (Gradd-brentisiaethau Digidol) / dewisol (Rhan-amser))
- Prosiect Seiliedig ar Waith (20 credyd; dewisol (Gradd-brentisiaethau Digidol) / dewisol (Rhan-amser))
- Trawsddygiaduron a Chyflyru Signalau (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Tri - Lefel 6 - BEng
- Rheolyddion Rhesymeg Rhaglenadwy Cymhwysol (20 credyd; Gorfodol)
- Electroneg II (20 credyd; Gorfodol)
- Dylunio Systemau Electronig (20 credyd; Gorfodol)
- Prosiect Annibynnol (40 credyd; Gorfodol; Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Electroneg Pŵer a Gyriannau (20 credyd; Gorfodol).
Sylwer: Mae mynediad Blwyddyn Sylfaen ar gael hefyd. Gweler y Flwyddyn Sylfaen ar gyfer Cyfrifiadura ac Electroneg. Mae gennym hefyd opsiynau “Blwyddyn ym Myd Diwydiant.”
Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw cynhyrchu graddedigion sy’n helpu i siapio dyfodol cyfrifiadura ac electroneg. Mae cynnwys y cwrs yn gyfoes ac wedi’i lunio er mwyn annog cyflogadwyedd drwy gysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol.
Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o asesiadau ymarferol yn y labordy, aseiniadau, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau. Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniadau, neu aseiniadau ac arholiadau. Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modylau gynnwys gosod a chwblhau un neu fwy darn o waith cwrs yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.
Anogir myfyrwyr i ddefnyddio ein cysylltiadau gyda Chynghrair Meddalwedd Cymru a Go Wales i weithio ar gynlluniau masnachol ar gyfer eu modwl Prosiect Mawr. Mae Go Wales yn darparu’r cyfle i fynd ar leoliadau gwaith â chyflog gyda busnesau lleol.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.
Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
- Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Gwybodaeth allweddol
Cynnig Safon Uwch Arferol ar gyfer y BEng (Anrh):
- 104 pwynt tariff UCAS i gynnwys:
- Dwy radd C Safon Uwch/TAAU; neu
- Diploma Cenedlaethol BTEC gyda graddau Teilyngdod/Teilyngdod/Teilyngdod; neu
- Tystysgrif Genedlaethol BTEC gyda graddau Teilyngdod, Llwyddo; neu
- NVQ Lefel 3 - Llwyddo
- Sylwch y dylai/gall pynciau Lefel Uwch gynnwys Mathemateg, TGCh, Ffiseg neu debyg. Byddai’n well pe bai gan ymgeiswyr radd C neu uwch mewn TGAU Mathemateg.
Cynnig Bagloriaeth Ryngwladol Arferol:
- Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.
Cynnig Safon Uwch Arferol ar gyfer HND:
- 48 pwynt tariff UCAS i gynnwys:
- Un radd C Safon Uwch/TAAU; neu
- Diploma Cenedlaethol BTEC gyda graddau Llwyddo, Llwyddo, Llwyddo; neu
- Tystysgrif Genedlaethol BTEC gyda graddau Llwyddo, Llwyddo; neu
- NVQ Lefel 3 - Llwyddo
- Dylai pynciau Lefel Uwch gynnwys Mathemateg, TGCh, Ffiseg neu debyg.
- Byddai’n well pe bai gan ymgeiswyr radd C neu uwch mewn TGAU Mathemateg.
Cynnig Bagloriaeth Ryngwladol Arferol:
- Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.
Arall:
Croesewir ceisiadau gan y rhai sy'n cynnig cymwysterau amgen. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.
Dylai fod gan ymgeiswyr i’r rhaglen hon feddwl technegol ac efallai y byddant wedi astudio peirianneg, cyfrifiadureg neu'r gwyddorau o'r blaen.
Byddant yn ceisio dod yn arbenigwyr a all ddeall agweddau caledwedd, meddalwedd a chyfathrebu systemau trydanol ac electronig. Byddai disgwyl i raddedigion y rhaglen hon chwilio am waith fel peirianwyr trydanol, peirianwyr electronig, peirianwyr cynnal a chadw trydanol, ac ati.
Yn y rolau hyn, gallent ddisgwyl gael eu cyflogi mewn nifer o sectorau diwydiant gan gynnwys awyrofod, modurol, dosbarthu, gweithgynhyrchu, ac ati.
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis prif brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol.
Teithiau astudio (Dewisol) – Ymweliadau diwydiannol wedi'u trefnu gan ysgolion yn y DU neu yn Ewrop.
(Tua £50 ar gyfer teithiau o fewn y DU / Tua £200 ar gyfer teithiau o fewn Ewrop)
Cydnabyddir, er enghraifft, y gallai’r union gostau’n gysylltiedig â thaith maes amrywio o flwyddyn i flwyddyn.
Ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau i ddysgu rhagor.
Ewch i adran Llety Abertawe i ddysgu rhagor.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.