Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Peirianneg Beiciau Modur (BEng, HND, Mynediad Lefel Sylfaen)

Peirianneg Beiciau Modur (BEng, HND, HNC, Mynediad Lefel Sylfaen)

Ymgeisio Nawr

Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 2il yn y DU am foddhad myfyrwyr ym maes Peirianneg Fecanyddol

Complete University Guide 2023

Mae Reidio Beiciau Modur a Chwaraeon Beiciau Modur yn parhau i fod yn boblogaidd iawn yn rhyngwladol ac mae’n ffordd wych o astudio peirianneg i’r rheini sy’n teimlo’n angerddol am feiciau modur. Mae’r synergedd rhwng peirianneg draddodiadol ac efelychiad drwy gymorth cyfrifiadur, modern sy’n rhan annatod o’n rhaglenni Beiciau Modur, yn rhoi sgiliau peirianneg o’r radd flaenaf i’r myfyrwyr ynghyd â’r cyfle i gymhwyso eu sgiliau’n ymarferol gyda beiciau modur ar ffyrdd a chylchedau gyrru go iawn.

Yn ddiweddar mae’r Brifysgol wedi buddsoddi’n helaeth yn ei chyfleusterau peirianneg a champws newydd. Fel myfyriwr ar ein rhaglen Peirianneg Beiciau Modur, bydd gennych fynediad at ein gweithdai beiciau modur penodol, labordai diagnostig peiriannau, deinamometrau siasi, cyfleusterau pwerwaith hybrid a’n cyfleusterau ffabrigo a pheiriannu helaeth.

Byddwch yn dysgu i ddatblygu eich sgiliau ffiseg a pheirianneg sylfaenol mewn ffordd sy’n addas i’r cyd-destun drwy ddatblygiad y beic modur, ei geometreg a’i hongiad a datblygiad y peiriant wrth i ni symud at danwyddau cynaliadwy a thechnoleg fatrïau uwch.

Mae gan y Brifysgol berthnasoedd hirsefydlog â’r diwydiant beiciau modur ar lefel ryngwladol ac mae’n cynnal cyswllt rheolaidd â sefydliadau allweddol o ran datblygu ein rhaglenni. Mae ein hymwneud â’r diwydiant a’n hachrediad gan IMechE yn helpu i gynnal trylwyredd academaidd ynghyd â’n brwdfrydedd am beirianneg.

Mae’r rhaglen radd â chysylltiadau da yn y diwydiant, gyda chysylltiadau uniongyrchol â thimoedd ym mhencampwriaethau MotoGP, Moto2 a phencampwriaeth SuperSport y Byd.

Mae ein staff academaidd yn gweithio ar lefel uchaf chwaraeon beiciau modur.

Achredwyd y graddau Baglor canlynol fel rhai sy’n bodloni’r gofynion academaidd, (yn rhannol), ar gyfer cofrestru fel Peiriannydd Siartredig (CEng yn Rhannol), ar gyfer y carfannau hyd at ac yn cynnwys 2023:

  • BEng (Anrh) Peirianneg Beiciau Modur (Amser Llawn 3 Blynedd; EngC cyf 15966)
OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Peirianneg Beiciau Modur (BEng)
Cod UCAS: H331
Gwnewch gais trwy UCAS

Peirianneg Beiciau Modur Mynediad Lefel Sylfaen (BEng)
Cod UCAS: H390
Gwnewch gais trwy UCAS

Peirianneg Beiciau Modur (HND)
Cod UCAS: MCE8
Gwnewch gais trwy UCAS

Peirianneg Beiciau Modur (HNC)
Cod UCAS: MCE8
Gwnewch gais trwy UCAS


Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
Enw'r cyswllt:: Dr Owen Williams


Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn?

  1. Yr unig raglen benodedig BEng Peirianneg Beiciau Modur yn y byd.
  2. Yr unig dîm rasio beiciau modur dan arweiniad myfyrwyr.
  3. Cysylltiadau unigryw, arbenigol â’r diwydiant.
  4. Staff brwdfrydig a thrugarog.
  5. Campws o’r radd flaenaf a adeiladwyd yn unswydd

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Rydym yn sicrhau bod y modylau y byddwch yn eu hastudio yn rhoi ichi olwg gynhwysfawr i fyd arloesol peirianneg beiciau modur a sut y mae’n esblygu i fodloni anghenion y defnyddiwr, y diwydiant a’r amgylchedd.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r datblygiadau a wnaed yn y maes, o ganlyniad i bwysau parhaus cynaliadwyedd amgylcheddol a gwell perfformiad, wedi arwain at ddatblygiadau technolegol mawr o ran dyluniad y siasi a’r pwerwaith ac erbyn hyn mae yna nifer mawr o swyddi ar gyfer peirianwyr sydd â’r sgiliau rydym yn eu darparu.

Mae’r rhan fwyaf o’n modylau’n cael eu haddysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd a gweithdai ymarferol neu brofiad labordy.

Anogir myfyrwyr yn weithredol i gymryd rhan yn y nifer mawr o weithgareddau allgyrsiol rydym ni fel ysgol yn eu rhedeg, am ein bod yn teimlo bod y rhain yn ategu’r astudiaethau academaidd, gan ddarparu enghreifftiau yn y byd go iawn i roi prawf ar y syniadau a’r sgiliau y byddwch yn eu dysgu yn y darlithoedd.

Mae ein cyrsiau

  • BEng (Anrh) Peirianneg Beiciau Modur (Amser Llawn 3 Blynedd; EngC cyf 15966)
  • BEng (Anrh) Peirianneg Beiciau Modur gyda blwyddyn mewn diwydiant (Amser Llawn 4 Blynedd; EngC cyf 15967)

wedi’u hachredu fel rhai sy’n bodloni’r gofynion academaidd, yn rhannol, ar gyfer cofrestru fel Peiriannydd Siartredig (CEng yn Rhannol), gan y Sefydliad Peirianwyr Mecanyddol dan drwydded gan reoleiddiwr y DU, y Cyngor Peirianneg.

Mae achrediad yn farc sicrwydd bod y radd yn bodloni’r safonau a bennir gan y Cyngor Peirianneg yn Safon y DU ar gyfer Cymhwysedd Peirianneg Proffesiynol (UK-SPEC).

Bydd gradd achrededig yn rhoi ichi’r holl wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau, neu ran ohonynt, sydd eu hangen i gofrestru yn y pendraw yn Beiriannydd Corfforedig (IEng) neu Siartredig (CEng). Mae rhai cyflogwyr yn dewis recriwtio o blith graddau achrededig, ac mae gradd achrededig yn debygol o gael ei chydnabod gan wledydd eraill sydd wedi llofnodi cytundebau rhyngwladol.

Pynciau Modylau

Mae’r pynciau Peirianneg creiddiol i fod yn sylfaen i’ch astudiaethau mewn peirianneg beiciau modur yn cynnwys Mathemateg, Thermodynameg, Mecaneg, Electroneg a Strwythurau sy’n cael eu cyflwyno ym Mlwyddyn 1, eu datblygu ym Mlwyddyn 2 gyda Thermohylif a Thanio ac wedyn eu harchwilio’n fwy manwl ym Mlwyddyn 3 gyda chymhwyso’r disgyblaethau craidd yn bwnc-benodol mewn pynciau megis Dylunio Pwerwaith Cyfoes.

Mae’r thema Dylunio ei hun yn dechrau ym Mlwyddyn 1 gyda Dylunio a Defnyddiau Peirianneg ac wedyn mae’n cael ei datblygu ym Mlwyddyn 2 gyda Dadansoddi Straen a Pheirianneg drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAE) a’r Prosiect Grŵp, gan arwain at Ddylunio Beiciau Modur ac Arloesi ac wrth gwrs y Prosiect Annibynnol ym Mlwyddyn 3.

Yn olaf, mae thema Peirianneg Gymhwysol yn symud drwy Dechnoleg Beiciau Modur ym Mlwyddyn 1, drwy Ddeinameg Beiciau Modur a Systemau Gyriad Amgen ym Mlwyddyn 2 i Ddylunio Beiciau Modur ac Arloesi ym Mlwyddyn 3.

Er nad yw'n thema ynddi’i hun, mae Rheolaeth Peirianneg, a gyflwynir ym Mlwyddyn 2, yn sylfaen i ddull llwyddiannus gyda’r Prosiect Dylunio Grŵp a’r Prosiect Annibynnol ac mae’n rhoi cipolwg gwerthfawr ar reoli timoedd rasio a chwmnïau bach a mawr.

Mae’r Flwyddyn Sylfaen, y bydd rhai ohonoch yn ei hastudio ar ddechrau eich amser gyda ni, wedi’i llunio i ddatblygu eich sgiliau mathemateg, dadansoddi ac astudio, er mwyn rhoi i chi’r sgiliau academaidd sydd eu hangen i astudio peirianneg yn llwyddiannus ar lefel gradd.

Caiff eich sgiliau academaidd eu datblygu drwy fodylau peirianneg perthnasol yn cynnwys Mathemateg, Gwyddoniaeth, Sgiliau Academaidd, Technoleg Fodurol a Phrosiect Peirianneg.

Blwyddyn Sylfaen (Tyst AU STEM)

  • Sgiliau Academaidd (20 credyd; gorfodol)
  • Mathemateg Bellach (20 credyd; gorfodol)
  • Gwyddoniaeth Bellach ar gyfer Peirianneg (20 credyd; gorfodol)
  • Prosiect Integreiddio (20 credyd; gorfodol)
  • Cyflwyniad i Beirianneg Fodurol (20 credyd; gorfodol)
  • Cyflwyniad i Fathemateg a Gwyddoniaeth (20 credyd; gorfodol).

Blwyddyn Un – Lefel 4 (HNC, HND a BEng)

  • Dulliau Dadansoddol (20 credyd; gorfodol)
  • Systemau Rheoli Trydanol (20 credyd; gorfodol)
  • Dylunio a Deunyddiau Peirianneg (20 credyd; gorfodol)
  • Gwyddor Beirianneg (20 credyd; gorfodol)
  • Technoleg Beiciau Modur (20 credyd; gorfodol)
  • Gweithdy ac Arfer (20 credyd; pasio pob elfen).

Blwyddyn Dau – Lefel 5 (HND a BEng)

  • Systemau Gyriad Amgen (20 credyd; gorfodol)
  • Rheolaeth Peirianneg (20 credyd; pasio pob elfen)
  • Prosiect Dylunio Grŵp (20 credyd; gorfodol)
  • Dynameg Beiciau Modur (20 credyd; gorfodol)
  • Dadansoddi Straen a Pheirianneg drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAE) (20 credyd; gorfodol)
  • Thermodynameg a Thanio (20 credyd; gorfodol).

Blwyddyn Tri – Lefel 6 (BEng)

  • Deunyddiau Modurol a Chynaliadwyedd (20 credyd; gorfodol)
  • Dylunio Pwerwaith Cyfoes (20 credyd; gorfodol)
  • Prosiect Annibynnol (40 credyd; gorfodol; modwl y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
  • Dylunio Beiciau Modur ac Arloesi (20 credyd; gorfodol)
  • Dylunio Strwythurol a Dadansoddi Hylifau ( 20 credyd; gorfodol).
Asesiad

Mynediad Lefel Sylfaen

Caiff y cwrs ei asesu drwy gymysgedd o waith cwrs, profion cyfnod, cyflwyniadau, arholiadau llafar ac arholiadau.

BEng

Caiff y modylau eu hasesu mewn amryw ffyrdd yn cynnwys arholiadau traddodiadol, gwaith cwrs, gweithgareddau ymarferol, cyflwyniadau grŵp ac unigol, y mae pob un o’r rhain wedi’u llunio i roi’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i’r myfyrwyr wrth iddyn nhw symud ymlaen yn eu hastudiaethau a’u gyrfaoedd.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. 

Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau. 

Dolenni Cysylltiedig

Grand Prix Ynys Manaw 2019


Fideo Peirianneg Beiciau Modur

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad

BEng Peirianneg Beiciau Modur Mynediad Lefel Sylfaen Pedair Blynedd

Ar gyfer mynediad lefel sylfaen i’n graddau pedair blynedd, mae ein cynigion wedi’u seilio ar 32 pwynt UCAS (80 yn flaenorol).

Ni fyddwn yn mynnu ar bynciau penodol.

Byddwn yn derbyn cymwysterau Safon Uwch, Diplomâu Cenedlaethol, Tystysgrifau, Dyfarniadau Cenedlaethol neu’r cyfwerth, yn cynnwys NVQ Lefel 3, Diploma 14-19 a chyrsiau Mynediad.

Ar yr amod eich bod chi’n cyflawni’r pwyntiau sydd eu hangen, byddai un Safon Uwch yn ddigonol. Hefyd, mae angen TGAU Mathemateg gradd C neu uwch.

Nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd; rydym yn ystyried eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd hefyd.

Yn yr achosion hyn, rhaid darparu tystiolaeth o allu i ddilyn y cwrs yn llwyddiannus. Rydym yn hoffi rhoi pob cyfle i ymgeiswyr o’r fath ddangos bod ganddynt y cymhelliant a’r gallu i lwyddo yn eu dewis raglen.

BEng

112 pwynt (280 yn flaenorol) o bynciau Safon Uwch rhifog neu dechnegol, gan gynnwys Mathemateg neu Ffiseg gradd B neu uwch. Hefyd, mae angen TGAU Mathemateg gradd C. Gellir ystyried profiad perthnasol.

Nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd; rydym yn ystyried eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd hefyd.

Yn yr achosion hyn, rhaid darparu tystiolaeth o allu i ddilyn y cwrs yn llwyddiannus. Rydym yn hoffi rhoi pob cyfle i ymgeiswyr o’r fath ddangos bod ganddynt y cymhelliant a’r gallu i lwyddo yn eu dewis raglen.

HND

80 pwynt o gymhwyster lefel 3 technegol fel Diploma Estynedig BTEC. Gellir ystyried profiad perthnasol.

Cyfleoedd Gyrfa

Mae graddedigion y cwrs hwn wedi dod o hyd i swyddi ar draws y diwydiant beiciau modur, o weithgynhyrchwyr cydrannau arbenigol i weithgynhyrchwyr beiciau modur prif ffrwd.

Mae graddedigion nawr yn gweithio mewn rolau megis datblygu a chalibro peiriannau, cymorth peirianneg rasys a dadansoddi perfformiad.

Gellir trosglwyddo’r sgiliau a ddatblygir ar y cwrs i ddiwydiannau eraill ac mae llawer o fyfyrwyr wedi symud i’r diwydiant modurol ehangach hefyd.

Mae ein graddedigion beiciau modur wedi’u cyflogi gan:

  • ECStar Suzuki
  • MarcVDS Honda
  • Tech3 Yamaha
  • Honda World Endurance
  • FTR
  • Kalex
  • Suter
  • Buell
  • Triumph
  • Norton
  • Royal Enfield

ac maent wedi gweithio i dimoedd rasys ym mhencampwriaethau MotoGP, Moto2, SuperSport y Byd, Uwch-feic Prydain ac Uwch-feic yr Eidal i enwi ond ychydig.

Bob blwyddyn mae nifer o’n graddedigion hefyd wedi dewis parhau â’u hastudiaethau academaidd i lefel Meistr a PhD.

Ble mae ein Graddedigion Peirianneg Beiciau Modur?

Giovanni Piras - Suzuki MotoGP

Graddiodd Gio gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Peirianneg Beiciau Modur yn 2015. Yn ystod ei amser yn y brifysgol datblygodd ddiddordeb brwd mewn deinameg beiciau modur a dadansoddi data. Tra bu’n gweithio i Moto Rapido Racing Ducati ym mhencampwriaeth Uwch-feic Prydain symudodd ymlaen yn gyflym o rôl Prif Fecanydd i Beiriannydd y Ras lle cafodd y cyfle i roi’r sgiliau a gafodd o’r cwrs ar waith ac i ddilysu’r gwaith a gyflawnodd yn ei draethawd hir, a fe oedd â gofal am osodiadau’r cerbydau a dadansoddi data i’r beicwyr Jakub Smrž a John Hopkins.

Gan ddechrau ym mis Ionawr 2016 sicrhaodd Gio swydd ei freuddwydion yn gweithio ym MotoGP i Dîm Ffatri Suzuki yn Beiriannydd Perfformiad, gan ddadansoddi data i’r ddau feiciwr Maverick Viñales ac Aleix Espargaro.

Sven Lemmerling – KALEX

Graddiodd Sven o’r Drindod Dewi Sant yn 2011 â Gradd Ddosbarth Cyntaf. Yn ddiweddar mae wedi dechrau gweithio i Kalex yn yr Almaen, gan weithio ar y beic Moto3 newydd. Tra bu yn y Drindod Dewi Sant, arbenigodd Sven mewn peirianneg deunyddiau cyfansawdd, gan ddylunio ac adeiladu braich siglo ffeibr carbon strwythurol ar gyfer beic modur i’w brosiect blwyddyn olaf. Arweiniodd y prosiect at nifer o gyhoeddiadau cynhadledd a datganiad i’r wasg gan y cwmni a ddarparodd y feddalwedd gyfosod, gan arddangos prosiect Sven.

Ian Henshaw - FTR Moto

Graddiodd Ian o’r Drindod Dewi Sant yn 2010 ar ôl cwblhau prosiect blwyddyn olaf ar brofion strwythurol ac efelychiad siasi beiciau modur.  Yn fuan rhoddodd Ian yr arbenigedd hwn at ddefnydd da gan sicrhau swydd yn FTR Moto. Bellach mae Ian yn wyneb cyson yn lôn y pit mewn llawer o ddigwyddiadau proffil uchel yn cynnwys MotoGP.

Mara Bernini – Tîm Yamaha yr Eidal ar gyfer WSB

Graddiodd Mara o’r Drindod Dewi Sant yn 2010 ar ôl prosiect blwyddyn olaf yn arbenigo mewn caffael data. Ar ôl dychwelyd i’r Eidal, sicrhaodd Mara swydd gyda thîm Yamaha yr Eidal ar gyfer pencampwriaeth Uwch-feic y Byd yn arbenigo mewn data a systemau rheoli tyniant. Gwelwyd Mara mewn nifer o ddigwyddiadau WSB o gwmpas Ewrop ac yn prawf-reidio beiciau modur Yamaha. Bellach mae Mara wedi dechrau gweithio fel peiriannydd data i Ducati ym Mhencampwriaeth Uwch-feic yr Eidal.

Alex Exarheas - Datron Technology

Graddiais o’r Drindod Dewi Sant yn 2008 gyda gradd 2:2, gan ganolbwyntio’n bennaf ar gaffael data a 2D. Gwelais fod hon yn ffordd i ddeall ymhellach beth sy’n digwydd i feic modur wrth symud a datblygais hobi yn ddiddordeb angerddol. Seiliwyd fy nhraethawd hir ar effaith proffil y teiar cefn ar yr ongl bwyso allan fwyaf.

Bûm yn gweithio ym mhadog Uwch-feic Prydain gyda Gearlink Kawasaki fel Peiriannydd Data cyn cael cynnig swydd gyda Datron Technology.

Keith Bidey - Mercedes GP Petronas F1

Ar ôl hyfforddi mewn Dassault Systèmes CATIA, bûm yn ddigon ffodus i gael y cyfle i weithio contract gyda Thîm F1 Honda fel Peiriannydd Dylunio drwy Gymorth Cyfrifiadur. Ar ôl cwblhau’r contract, cynigiodd y Tîm swydd i mi yn gweithio fel Peiriannydd Cymorth Dylunio / Gweithgynhyrchu drwy Gymorth Cyfrifiadur. Arhosais yn fy rôl pan ddaeth y Tîm yn Brawn GP ac wedyn yn Dîm F1 Mercedes GP Petronas. A minnau yn dod yn syth o’r Brifysgol mae hwn yn gyfle lwcus does dim modd cwyno amdano!

Costau Ychwanegol

Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

Efallai bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y prosiect mawr ond nid yw hyn yn ofynnol, ac ni fydd yn effeithio ar y marc terfynol.

Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael ewch i’n hadran ar Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

Cyfleoedd i Astudio Dramor

Ewch i dudalen Teithio’r Byd gyda’r Drindod Dewi Sant i ddysgu rhagor am gyfleoedd i astudio dramor.

Llety

Ewch i dudalen Llety Abertawe am ragor o wybodaeth

Gwybodaeth Pellach

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.