Skip page header and navigation

Peirianneg Chwaraeon Moduro (Llawn amser) (BEng Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
112 o Bwyntiau UCAS

Bwriedir i’r rhaglenni Peirianneg Chwaraeon Moduro roi sylfaen gadarn i chi yng ngwyddoniaeth a thechnolegau peirianneg fecanyddol a’r modd y cânt eu cymhwyso wrth ddylunio a datrys ystod o broblemau peirianneg yng nghyd-destun y diwydiant chwaraeon moduro. Nod y rhaglenni yw datblygu eich gallu i weithio gydag eraill i gymhwyso’r gwaith hwn i broblemau yn y byd go iawn.

Bydd eich gradd yn canolbwyntio ar gerbydau rasio perfformiad uchel, o ran y reid a gofynion trin y cerbyd, a pherfformiad ac effeithlonrwydd y pwerwaith. Bydd y cwrs yn defnyddio offer a phrosesau o safon diwydiant i ymchwilio i ddyluniadau cerbydau. Mae’r offer hyn yn cynnwys Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur, Caffael Data a phecynnau efelychu datblygedig megis Dynameg Hylifol Cyfrifiadurol a Dadansoddiad Elfen Feidraidd.

Mae meysydd astudio arbenigol yn cynnwys dylunio peiriannau datblygedig, dylunio pwerwaith, dynameg cerbydau, aerodynameg, a rheolaeth drydanol. Mae prosiectau annibynnol a grŵp yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu’r arbenigeddau hyn ymhellach.

Yn llawer o’r modylau mae’r cwrs yn ystyried yr agweddau amgylcheddol ar ddylunio a thechnoleg sy’n drosglwyddadwy i ystod eang o gyfleoedd gwaith. Caiff y cwrs ei gefnogi gan gyfleoedd allgyrsiol i gymhwyso’r wybodaeth ddamcaniaethol a ddysgir yn y modylau i gymwysiadau Chwaraeon Moduro yn y byd go iawn.

Achredwyd y graddau Baglor canlynol fel rhai sy’n bodloni’r gofynion academaidd, yn rhannol, ar gyfer cofrestru fel Peiriannydd Siartredig (CEng yn rhannol) ar gyfer y carfanau derbyn o 2015 hyd at, ac yn cynnwys, 2023:

  • BEng (Anrh) Peirianneg Chwaraeon Moduro (Amser Llawn 3 Blynedd; EngC cyf 15968)

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
H336
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
112 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Y cwrs Peirianneg Chwaraeon Moduro hynaf yn y wlad.
02
Y cyfleuster chwaraeon moduro pwrpasol mwyaf newydd yn y wlad.
03
Tîm rasio dan arweiniad myfyrwyr, sy’n rhoi profiad ymarferol a lywir gan y diwydiant.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd meysydd astudio arbenigol, gan gynnwys uwch ddylunio peiriannau a deinameg cerbydau, yn eich galluogi i ganolbwyntio ar feysydd o ddiddordeb arbenigol y gellir eu datblygu yn y modylau Grŵp a Phrosiect Mawr.

Yn llawer o’r modylau mae’r cwrs yn ystyried yr agweddau amgylcheddol ar ddylunio a thechnoleg sy’n drosglwyddadwy i ystod eang o gyfleoedd gwaith. Caiff y cwrs ei gefnogi hefyd gan gyfleoedd allgyrsiol i gymhwyso’r wybodaeth ddamcaniaethol a ddysgir yn y modylau i gymwysiadau chwaraeon moduro yn y byd go iawn.

Mae ein BEng (Anrh) Peirianneg Chwaraeon Moduro (Llawn amser 3 Blynedd; cyf EngC 15968) a BEng (Anrh) Peirianneg Chwaraeon Moduro gyda blwyddyn mewn diwydiant (Llawn Amser 4 Blynedd; cyf EngC 15969) wedi eu hachredu’n gyrsiau sy’n bodloni’r gofynion academaidd, yn rhannol, ar gyfer cofrestru fel Peiriannydd Siartredig (CEng yn Rhannol) gan y Sefydliad Peirianwyr Mecanyddol o dan drwydded gan reoleiddiwr y DU, sef y Cyngor Peirianneg.

Mae achrediad yn farc sicrwydd bod y radd yn bodloni’r safonau a bennir gan y Cyngor Peirianneg yn Safon y DU ar gyfer Cymhwysedd Peirianneg Proffesiynol (UK-SPEC).

Bydd gradd achrededig yn rhoi ichi’r holl wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau, neu ran ohonynt, sydd eu hangen i gofrestru yn y pendraw yn Beiriannydd Corfforedig (IEng) neu Siartredig (CEng). Mae rhai cyflogwyr yn dewis recriwtio o blith graddau achrededig, ac mae gradd achrededig yn debygol o gael ei chydnabod gan wledydd eraill sydd wedi llofnodi cytundebau rhyngwladol.

Gorfodol 

Dulliau Dadansoddol

(20 credydau)

Dylunio a Deunyddiau Peirianneg

(20 credydau)

Gwyddor Peirianneg

(20 credydau)

Systemau Rheoli Trydanol

(20 credydau)

Gweithdy ac Arfer

(20 credydau)

Technoleg Chwaraeon Moduro

(20 credydau)

Gorfodol 

Dynameg Chwaraeon Moduro

(20 credydau)

Systemau Gyriant Amgen

(20 credydau)

Thermodynameg a Hylosgi

(20 credydau)

Rheoli Peirianneg

(20 credydau)

Prosiect Dylunio Grŵp

(20 credydau)

Dadansoddi Straen a Pheirianneg gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAE)

(20 credydau)

Gorfodol 

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Deinameg Chwaraeon Moduro Uwch

(20 credydau)

Dylunio Pwerwaith Cyfoes

(20 credydau)

Dadansoddi Strwythurol a Hylifol

(20 credydau)

Deunyddiau Modurol a Chynaliadwyedd

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • 112 pwynt (280 yn flaenorol) o bynciau Safon Uwch rhifog neu dechnegol, gan gynnwys Mathemateg neu Ffiseg gradd B neu uwch. Hefyd, mae angen TGAU Mathemateg gradd C. Gellir ystyried profiad perthnasol.

    Nid yw ein cynigion wedi’u seilio ar ganlyniadau academaidd yn unig. Rydym yn ystyried eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd hefyd. Yn yr achosion hyn, rhaid darparu tystiolaeth o allu i ddilyn y cwrs yn llwyddiannus. Rydym yn hoffi rhoi pob cyfle i ymgeiswyr o’r fath ddangos bod ganddynt y cymhelliant a’r gallu i lwyddo yn eu dewis raglen.

  • Caiff y cwrs ei asesu drwy gymysgedd o waith cwrs, profion cyfnod, cyflwyniadau, arholiadau llafar ac arholiadau.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y prosiect mawr ond nid yw hyn yn ofynnol, ac ni fydd yn effeithio ar y marc terfynol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Mae graddedigion y cwrs hwn wedi cael swyddi ar draws y diwydiant chwaraeon moduro, o weithgynhyrchwyr cydrannau arbenigol i dimau Fformiwla 1 a WRC. Mae graddedigion yn gweithio nawr mewn rolau megis datblygu a chalibro peiriannau perfformiad uchel a dylunio aerodynameg.

    Gellir trosglwyddo’r sgiliau a ddatblygir ar y cwrs i ddiwydiannau eraill ac mae llawer o fyfyrwyr wedi symud i’r diwydiant modurol ehangach yn ogystal â gweithio i weithgynhyrchwyr cyfarpar gwreiddiol (OEMs) fel Ford, Jaguar Land Rover a chyflenwyr haen un fel Mahle. Bob blwyddyn mae nifer o’n graddedigion wedi dewis parhau â’u hastudiaethau academaidd i lefel Meistr a PhD.

Mwy o gyrsiau Peirianneg Fodurol, Mecanyddol a Thrydanol

Chwiliwch am gyrsiau