Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Peirianneg Fecanyddol (BEng, Mynediad Sylfaen)
Mae PCYDDS wedi’i rhestru’n 2il yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr mewn Peirianneg Fecanyddol
Nod y rhaglen Peirianneg Fecanyddol yw dysgu hanfodion gwyddor peirianneg fecanyddol i chi, a'i defnydd mewn dylunio a datrys amrywiaeth o broblemau peirianneg. Defnyddir peirianneg fecanyddol ym mhob maes diwydiannol lle caiff peiriannau eu defnyddio neu eu dylunio ac mae'r galw am beirianwyr sydd wedi cael addysg dda’n parhau’n uwch na’r cyflenwad.
Bydd y rhaglen hefyd yn ystyried agweddau amgylcheddol dylunio a thechnoleg a bydd yn eich galluogi i ennill amrywiaeth o sgiliau sy'n berthnasol i ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth.
Yn un o raddedigion y rhaglen hon, byddwch yn ceisio sicrhau atebion cynaliadwy i broblemau a bydd gennych strategaethau ar gyfer bod yn greadigol ac yn arloesol a goresgyn anawsterau trwy ddefnyddio eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o ffiseg, mecaneg, gwyddor deunyddiau, trosglwyddo gwres a thermodynameg, mewn modd hyblyg, wrth astudio system fecanyddol. Bydd pwyslais ar ddatrys problemau trwy gymhwyso sgiliau rhifiadol, cyfrifiannol, dadansoddol a thechnegol, gan ddefnyddio offer priodol.
Bydd y rhaglen hon hefyd yn meithrin eich agwedd broffesiynol a'ch gallu i weithio yn rhan o dîm wrth gynyddu eich effeithiolrwydd fel cyfathrebwr sy'n gallu arfer cyfrifoldeb a dulliau rheoli cadarn.
Mae'r graddau Baglor a ganlyn wedi'u hachredu yn rhai sy'n bodloni'r gofyniad academaidd, yn rhannol, ar gyfer cofrestru’n Beiriannydd Siartredig (CEng yn Rhannol) ar gyfer y carfannau a dderbyniwyd o 2015 hyd at, a chan gynnwys, 2023: BEng (Anrh) Peirianneg Fecanyddol (3 Blynedd Llawn Amser; cyf EngC 15964)
BEng | Rhaglen Radd 3 Blynedd
Cod UCAS: H301
Gwnewch gais trwy UCAS
BEng | Rhaglen 4 Blynedd gyda Mynediad Sylfaen
Cod UCAS: H300
Gwnewch gais trwy UCAS
Dylai ymgeiswyr llawn amser sy'n dymuno dechrau ym mis Medi wneud cais trwy UCAS. Dylai ymgeiswyr rhan-amser, neu ymgeiswyr i drydedd flwyddyn y BEng (yn dechrau ym mis Ebrill), wneud cais trwy’r Brifysgol gan ddefnyddio’r botwm Ymgeisio ar frig y dudalen, neu drwy chwilio Dod o Hyd i’ch Cwrs.
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Gofyn am Ragor o Wybodaeth
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn?
- Interniaethau gyda chwmnïau adnabyddus.
- Prosiectau allgyrsiol fel 'Peirianwyr heb Ffiniau' a 'Her Dylunio Peirianneg IMechE'.
- Campws o'r radd flaenaf a digonedd o offer y mae gan fyfyrwyr fynediad iddynt o 9-5 yn ystod yr wythnos.
- Mynediad 24 awr i CAD y campws a chyfleusterau meddalwedd eraill.
- Mae 98.4% o’n graddedigion o’r llynedd mewn gwaith neu addysg lawn amser.
- Carfannau a grwpiau addysgu bach.
- Mae’r rhaglen wedi’i llunio mewn partneriaeth â’r Diwydiant.
- Cewch astudio ar ein campws o’r radd flaenaf ger y Glannau yn Abertawe (SA1) sydd werth £300m.
- Prosiectau diwydiannol byw i fyfyrwyr.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bwriad y rhaglen BEng Peirianneg Fecanyddol yw dysgu hanfodion gwyddor peirianneg fecanyddol i fyfyrwyr, a'i defnydd mewn dylunio a datrys amrywiaeth o broblemau peirianneg. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth mewn ystod addas o brosesau a deunyddiau gweithgynhyrchu.
Bydd y rhaglen hefyd yn ystyried agweddau amgylcheddol dylunio a thechnoleg a bydd yn galluogi myfyrwyr i ennill casgliad o sgiliau a fydd yn berthnasol i ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth.
Rydym wedi paratoi myfyrwyr ar gyfer amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth mewn cwmnïau bach a mawr. Dyma enghreifftiau o gwmnïau sydd wedi cyflogi graddedigion blaenorol: Corus, Ford, Schaeffler, Robert Bosch a Visteon.
Mae gweithgynhyrchu yn y DU yn cynnig gyrfaoedd sy'n talu'n dda i raddedigion peirianneg a gwyddoniaeth. Er gwaethaf hyn, mae llawer o ffynonellau'n dogfennu'r prinder peirianwyr ym maes diwydiant y DU, sy'n golygu bod gan raddedigion o'r cyrsiau hyn lawer o opsiynau ar gael iddynt.
Mae ein BEng (Anrh) Peirianneg Fecanyddol (3 Blynedd Llawn Amser; cyf EngC 15964) a BEng (Anrh) Peirianneg Fecanyddol gyda blwyddyn mewn diwydiant (4 Blynedd Llawn Amser; cyf EngC 15965) wedi’u hachredu yn rhai sy’n bodloni’r gofyniad academaidd, yn rhannol, ar gyfer cofrestru’n Beiriannydd Siartredig (CEng yn Rhannol) gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol dan drwydded gan reoleiddiwr y DU, y Cyngor Peirianneg.
Mae achrediad yn farc sicrwydd bod y radd yn bodloni’r safonau a bennir gan y Cyngor Peirianneg yn y DU, sef y Safon ar gyfer Cymhwysedd Peirianneg Proffesiynol (UK-SPEC). Bydd gradd achrededig yn rhoi ichi’r holl wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau, neu ran ohonynt, sydd eu hangen i gofrestru yn y pen draw yn Beiriannydd Corfforedig (IEng) neu Siartredig (CEng).
Mae’n well gan rai cyflogwyr recriwtio o raddau achrededig, ac mae gradd achrededig yn debygol o gael ei chydnabod gan wledydd eraill sydd wedi llofnodi cytundebau rhyngwladol.
Blwyddyn Sylfaen (Tyst AU STEM)
Cynlluniwyd y flwyddyn sylfaen i ddatblygu eich sgiliau mathemategol, dadansoddol ac astudio, i roi’r sgiliau academaidd angenrheidiol i chi astudio peirianneg yn llwyddiannus ar lefel gradd.
- Sgiliau Academaidd (20 credyd; gorfodol)
- Mathemateg Bellach (20 credyd; gorfodol)
- Gwyddoniaeth Bellach ar gyfer Peirianneg (20 credyd; gorfodol)
- Prosiect Integreiddio (20 credyd; gorfodol)
- Cyflwyniad i Fathemateg a Gwyddoniaeth (20 credyd; gorfodol)
- Gweithgynhyrchu a Deunyddiau (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Un – Lefel 4 (HNC, HND a BEng)
- Egwyddorion Trydanol ac Electronig (20 credyd; gorfodol)
- Cymwysiadau Peirianneg a Sgiliau Astudio (20 credyd; pasio pob elfen)
- Dylunio Peirianneg (20 credyd; gorfodol)
- Mathemateg Peirianneg (20 credyd; gorfodol)
- Gwyddor Peirianneg (20 credyd; gorfodol)
- Deunyddiau a Chyflwyniad i Brosesu (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Dau – Lefel 5 (HND a BEng)
- Rheoli ac Awtomeiddio (20 credyd; gorfodol)
- Prosiect Grŵp (20 credyd; pasio pob elfen)
- Rheoli, Arloesedd a Chynaliadwyedd (20 credyd; pasio pob elfen)
- Dylunio a Thechnoleg Gweithgynhyrchu (20 credyd; craidd)
- Dadansoddi Straen a Deinameg (20 credyd; gorfodol)
- Mecaneg Thermohylif (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Tri – Lefel 6 (BEng)
- Prosesau a Deunyddiau Uwch (20 credyd; pasio pob elfen)
- Mecaneg Thermohylif Uwch (20 credyd; gorfodol)
- Dulliau Cyfrifiannu (20 credyd; pasio pob elfen)
- Prosiect Annibynnol (40 credyd; gorfodol; modwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Dadansoddi Strwythurol a Hylifol (20 credyd; gorfodol).
Mae gan fyfyrwyr ar y math hwn o raglen ddiddordeb naturiol yn eu harbenigedd, a nod y tîm addysgu yw manteisio ar y diddordeb hwnnw fel bod y myfyrwyr yn mwynhau dysgu ac yn gwerthfawrogi'r buddion y gall gradd mewn peirianneg eu hychwanegu er mwyn atgyfnerthu eu meysydd diddordeb.
Bydd yr asesiadau ar gyfer y rhaglen yn gymysgedd o waith cwrs ac arholiadau ffurfiol. Bydd modylau megis y prosiect grŵp a’r prosiect Mawr hefyd yn cynnwys cyflwyniadau lle cewch gyfle i arddangos eich gwaith.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.
Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
- Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Dolenni Cysylltiedig
Fideo Mecanyddol a Gweithgynhyrchu
SA1 Glannau Abertawe
Gwybodaeth allweddol
BEng Mynediad Sylfaen Pedair Blynedd
Ar gyfer y mynediad sylfaen i'n graddau pedair blynedd, mae ein cynigion yn seiliedig ar 32 pwynt UCAS (80 yn flaenorol). Ni fyddwn yn nodi'r pynciau sydd eu hangen. Byddwn yn derbyn Safon Uwch, Diplomâu Cenedlaethol, Tystysgrifau, Dyfarniadau Cenedlaethol neu gyfwerth, gan gynnwys NVQ Lefel 3, Diploma 14-19 a chyrsiau Mynediad. Ar yr amod eich bod chi’n cyflawni’r pwyntiau gofynnol, byddai un Safon Uwch yn ddigonol. Mae gradd C mewn TGAU Mathemateg yn ofynnol hefyd.
Nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Rydym yn cymryd eich sgiliau, eich cyraeddiadau a’ch profiad bywyd i ystyriaeth. Yn yr achosion hyn, rhaid darparu tystiolaeth o’ch gallu i ddilyn y cwrs yn llwyddiannus. Hoffwn roi pob cyfle i ymgeiswyr o'r fath ddangos bod ganddynt y cymhelliant a'r gallu i lwyddo yn eu dewis raglen.
BEng
112 pwynt (280 yn flaenorol) o bynciau Safon Uwch rhifol neu dechnegol, i gynnwys gradd B neu uwch mewn Mathemateg neu Ffiseg. Mae gradd C mewn TGAU Mathemateg hefyd yn ofynnol. Gellir ystyried profiad perthnasol.
Gellir ystyried profiad diwydiannol perthnasol hefyd wrth benderfynu cymhwysedd ar gyfer gofynion mynediad.
Nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Rydym yn cymryd eich sgiliau, eich cyraeddiadau a’ch profiad bywyd i ystyriaeth. Yn yr achosion hyn, rhaid darparu tystiolaeth o’ch gallu i ddilyn y cwrs yn llwyddiannus. Hoffwn roi pob cyfle i ymgeiswyr o'r fath ddangos bod ganddynt y cymhelliant a'r gallu i lwyddo yn eu dewis raglen.
Mae graddedigion o raglenni a gynigir gan yr ysgol wedi dod o hyd i waith mewn ystod eang o ddiwydiannau, gan gynnwys y rolau canlynol: peiriannydd gweithgynhyrchu, peiriannydd dylunio, peiriannydd cynnal a chadw a pheiriannydd prosiect. Mae llawer o gyn-fyfyrwyr wedi gwneud cynnydd sylweddol yn eu gyrfaoedd, ac mae llawer ohonynt bellach mewn swyddi peirianneg neu reoli uwch yn eu sefydliadau. Mae'r rhain yn cynnwys nifer o uwch beirianwyr, arweinwyr adran a rheolwyr adrannol mewn cyfleusterau gweithgynhyrchu mawr fel Ford a Tata.
Costau ychwanegol i'w talu gan y myfyrwyr
Fel sefydliad, rydym yn ceisio gwella profiadau myfyrwyr yn barhaus ac o ganlyniad, efallai y bydd angen i fyfyrwyr dalu costau ychwanegol am weithgareddau a fydd yn ychwanegu gwerth at eu haddysg. Lle bo modd, cedwir y costau hyn mor isel â phosibl, ac mae’r gweithgareddau ychwanegol yn ddewisol.
Costau teithiau maes a lleoliadau
Bydd teithiau maes ar gael i fyfyrwyr, sy’n ddewisol. Mae myfyrwyr sy'n dewis dilyn interniaethau/lleoliadau gwaith fel arfer yn cael eu hariannu gan y brifysgol (hyd at £1000) i dalu am gostau teithio a byw.
IMechE
- Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu (BEng) – fersiwn Saesneg: Mechanical and Manufacturing Engineering (BEng, Foundation Entry)
- Gweithrediadau Gweithgynhyrchu Uwch Rhan amser (BEng, HNC)
- Peirianneg Systemau Gweithgynhyrchu (BEng) – fersiwn Saesneg: Manufacturing Systems Engineering (BEng)
“Mwynheais y cwrs hwn oherwydd ei fod yn gyfuniad o Fathemateg, Gwyddoniaeth a Chyfrifiadura. Mae'n hybu diogelwch swydd gan ei fod yn faes amryfal o'r holl adrannau peirianneg. Mae lleoliad PCYDDS yn addas iawn, ac mae’n hawdd cyfathrebu â’r hyfforddwyr oherwydd maint bach y dosbarthiadau.”
Habtom Ghirmay BEng Peirianneg Fecanyddol
Ewch i dudalen Teithio’r Byd gyda’r Drindod Dewi Sant i ddysgu rhagor am gyfleoedd i astudio dramor.
Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.