Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Peirianneg Fodurol (BEng, HND, Mynediad Sylfaen)
Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 2il yn y DU am foddhad myfyrwyr ym maes Peirianneg Fecanyddol -
Mae’r ddegawd nesaf yn addo bod yn eithriadol o gyffrous a disgwylir newidiadau sylweddol yn y diwydiant modurol. Golyga’r symud o foduron tanio mewnol tuag at bwerwaith hybrid a thrydanol sy’n golygu bod angen sgiliau peirianneg newydd. Mae’r brifysgol yn gweithio’n agos gyda’r diwydiant Modurol i roi i fyfyrwyr y wybodaeth a’r brwdfrydedd dros gerbydau modurol perfformio a phrif ffrwd, ymarferol.
Yn ddiweddar, mae’r Brifysgol wedi buddsoddi’n drwm yn ei chyfleusterau peirianneg a champws newydd. Yn fyfyriwr yn y rhaglen Peirianneg Fodurol, bydd gennych fynediad i’n gweithdai modurol penodol, labordai diagnostig peiriannau, dynamometrau siasi, cyfleusterau pwerwaith hybrid/trydan a’n cyfleusterau ffabrigadu a pheiriannu.
Bydd y cwrs yn datblygu ffiseg sylfaenol a sgiliau peirianneg mewn ffordd cyd-destunol trwy ddatblygu’r car, ei grogiant, reid, dull trin ac NVH (Sŵn, Dirgryniad ac Aflafarwch). Rhoddir pwysigrwydd i ddatblygiad y pwerwaith wrth i ni symud tuag at danwydd cynaliadwy ac uwch dechnolegau batri.
Yn llawer o’r modylau mae’r cwrs yn ystyried yr agweddau amgylcheddol ar ddylunio a thechnoleg sy’n drosglwyddadwy i ystod eang o gyfleoedd gwaith. Caiff y cwrs ei gefnogi gan gyfleoedd allgyrsiol i gymhwyso’r wybodaeth ddamcaniaethol a ddysgwyd yn y modylau i gymwysiadau modurol yn y byd go iawn.
Mae’r graddau Baglor a ganlyn wedi’u hachredu i nodi eu bod yn bodloni’r gofyniad academaidd, yn rhannol, i gofrestru ar gyfer Peiriannwr Siartredig (CEng yn rhannol) ar gyfer carfanau derbyn myfyrwyr o 2015 hyd at, ac yn cynnwys, 2023:
- BEng (Anrh) Peirianneg Fodurol (Llawn Amser, 3 Blynedd; EngC cyf 15956)
Peirianneg Fodurol (BEng)
Cod UCAS: H330
Gwneud gais trwy UCAS
Peirianneg Fodurol (HND)
Cod UCAS: 043H
Gwneud gais trwy UCAS
Rhaglen 4 Blynedd gyda Mynediad Sylfaen (BEng)
Cod UCAS: HH33
Gwneud gais trwy UCAS
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Gofyn am Ragor o Wybodaeth
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn?
- Cyfradd cyflogaeth o 94% ar gyfer graddedigion, yn bennaf yn y sector modurol.
- Dulliau addysgu o’r radd flaenaf ym meysydd hylosgiad a dylunio peiriannau.
- Labordy cerbydau trydan pwrpasol newydd.
- Staff angerddol a thrugarog
- Campws o’r radd flaenaf a adeiladwyd yn unswydd
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae diwydiant Modurol y DU a’r holl fyd wedi gweld datblygiadau technolegol enfawr yn y blynyddoedd diweddar ac er gwaethaf y pwysau economaidd y mae’r diwydiant wedi’u hwynebu, mae’n dal i dyfu.
Mae’r heriau technolegol y mae’r diwydiant yn eu hwynebu wrth gyflawni buddion o ran effeithlonrwydd ym mhob math o gerbyd, yn sgil deddfwriaethau fwyfwy caeth ac ymwybyddiaeth cwsmeriaid, wedi arwain at gynnydd yn y galw am Beirianwyr Modurol uchel eu sgil.
Dros y degawdau, mae ein graddedigion wedi dangos y gallu i ymateb i anghenion cyflogwyr ac yn cael eu cydnabod yn raddedigion sy’n gallu bwrw iddi’n syth a chyflawni’r dasg, wedi’u tanategu gan wyddor peirianneg fecanyddol craidd a’i gymhwysiad i ddylunio a datrys ystod o broblemau peirianneg yng nghyd-destun y diwydiant peirianneg chwaraeon moduro.
Mae’r rhaglenni Peirianneg Modurol wedi’i datblygu i baratoi myfyrwyr ar gyfer anghenion penodol y diwydiant hwn, gan gynnwys dylunio, gweithgynhyrchu, ansawdd a pheirianneg systemau - sydd i gyd yn hanfodol i weithrediad peirianneg cerbydau modern.
Bydd meysydd astudio arbenigol, yn cynnwys uwch ddylunio injans a deinameg cerbydau, yn eich galluogi i ffocysu ar feysydd o ddiddordeb arbenigol y gellir eu datblygu yn y modylau Grŵp a Phrosiect Mawr.
Mewn llawer o’r modylau mae’r cwrs yn ystyried yr agweddau amgylcheddol ar ddylunio a thechnoleg sy’n drosglwyddadwy i ystod eang o gyfleoedd gwaith. Rydym yn cynnal nifer o weithgareddau allgyrsiol sy’n darparu profiad rhagorol ar gyfer pob math o yrfa ym maes peirianneg modurol y gellir eu cysylltu â’ch gwaith prosiect ac aseiniad.
Caiff ein gradd BEng (Anrh) Peirianneg Fecanyddol (Llawn amser 3 Blynedd; EngC cyf 15956) ei hachredu i nodi ei bod yn bodloni gofynion academaidd, yn rhannol, i gofrestru’n Beiriannydd Siartredig (CEng yn Rhannol) gan y Sefydliad Peirianwyr Mecanyddol o dan drwydded gan reolydd y DU, sef y Cyngor Peirianneg.
Mae achrediad yn farc sicrwydd bod y radd yn bodloni’r safonau a bennir gan y Cyngor Peirianneg yn y DU, sef y Safon ar gyfer Cymhwysedd Peirianneg Proffesiynol (UK-SPEC). Bydd gradd achrededig yn rhoi ichi’r holl wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau, neu ran ohonynt, sydd eu hangen i gofrestru yn y pendraw yn Beiriannydd Corfforedig (IEng) neu Siartredig (CEng).
Mae rhai cyflogwyr yn dewis recriwtio o blith graddau achrededig, ac mae gradd achrededig yn fwy tebygol o gael ei chydnabod gan wledydd eraill sydd wedi llofnodi cytundebau rhyngwladol.
Datblygir nifer o themâu trwy gydol y cwrs. Y brif thema peirianneg gyda phynciau fel Mathemateg, gwyddor Peirianneg gan ymgorffori dadansoddi Deinameg a Straen; Dylunio Peirianneg; Technoleg Cerbydau yn ogystal â Sgiliau Gweithdy ac Astudio ym Mlwyddyn 1.
Mae blwyddyn 2 yn cyfoethogi’r astudiaethau peirianneg craidd gyda Mecaneg Thermohylif a CAE a Dadansoddi Straen a modylau arbenigol fel Dynameg Cerbydau a Dylunio Injans. Nodwydd bwysig o flwyddyn 2 yw’r Prosiect Grŵp a gefnogir gan Reolaeth, Arloesi a Chynaliadwyedd gan ddarparu ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy iawn.
Cyflwynir pynciau estynedig yr uchod yn ystod blwyddyn 3gyda Dulliau Cyfrifiadurol Uwch ochr yn ochr Dadansoddi Straen Uwch ac FEA gan ddarparu sgiliau dadansoddi uchel ynghyd â modylau arbenigol uwch mewn prosiect blwyddyn olaf sy’n galluogi’r myfyriwr i arddangos eu gwybodaeth a’r sgiliau maent wedi’u hennill yn ystod eu hamser yn Y Drindod Dewi Sant.
Rhestr Modylau
Blwyddyn Sylfaen (TystAU STEM)
- Sgiliau Academaidd (20 credyd; gorfodol)
- Mathemateg Bellach (20 credyd; gorfodol)
- Gwyddoniaeth Bellach ar gyfer Peirianneg (20 credyd; gorfodol)
- Prosiect Integreiddio (20 credyd; gorfodol)
- Cyflwyniad i Beirianneg Modurol (20 credyd; gorfodol)
- Cyflwyniad i Fathemateg a Gwyddoniaeth (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Un – Lefel 4 (HNC, HND a BEng)
- Dulliau Dadansoddol (20 credyd; gorfodol)
- Systemau Rheoli Trydanol (20 credyd; gorfodol)
- Dylunio a Defnyddiau Peirianneg (20 credyd; gorfodol)
- Gwyddor Beirianneg (20 credyd; gorfodol)
- Technoleg Cerbydau (20 credyd; gorfodol)
- Gweithdy ac Arfer (20 credyd; pas cydran).
Blwyddyn Dau – Lefel 5 (HND a BEng)
- Systemau Gyriad Amgen (20 credyd; gorfodol)
- Systemau Siasis Modurol (20 credyd; gorfodol)
- Rheolaeth Peirianneg (20 credyd; pas cydran)
- Prosiect Dylunio Grŵp (20 credyd; gorfodol)
- Dadansoddi Straen a CAE (20 credyd; gorfodol)
- Thermodynameg a Hylosgiad (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Tri – Lefel 6 (BEng)
- Deunyddiau Modurol a Chynaliadwyedd (20 credyd; gorfodol)
- Dylunio Pwerwaith Cyfoes (20 credyd; gorfodol)
- Prosiect Annibynnol (40 credyd; gorfodol; modwl y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Reid, Dull Trin ac NVH (20 credyd; gorfodol)
- Dylunio Strwythurol a Dadansoddi Hylif ( 20 credyd; gorfodol).
Caiff y cwrs ei asesu drwy gymysgedd o waith cwrs, profion cyfnod, cyflwyniadau, arholiadau llafar ac arholiadau papur.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.
Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
- Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Dolenni Cysylltiedig
Cyrsiau Peirianneg yn PCYDDS
Gwybodaeth allweddol
- Mark Sandford (Cyfarwyddwr Rhaglen)
- Dr Kerry Tudor
- Abigail Summerfield
- Dr Owen Williams
- Richard Sutton
- Tim Tudor
BEng Peirianneg Modurol Pedair Blynedd Mynediad Sylfaen
Mae ein cynigion wedi’u seilio ar 32 pwynt UCAS (80 cynt) ar gyfer y mynediad sylfaen i’n graddau pedair blynedd.
Ni fyddwn yn gofyn am bynciau penodol. Byddwn yn derbyn Safonau Uwch, Diplomau Cenedlaethol, Tystysgrifau, Dyfarniadau Cenedlaethol neu gyfwerth, gan gynnwys NVQ Lefel 3, Diploma 14-19 a chyrsiau mynediad.
Ar yr amod eich bod chi’n cyflawni’r pwyntiau sydd eu hangen, byddai un lefel A yn ddigonol. Hefyd, mae angen TGAU Mathemateg gradd C neu uwch.
Nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Cymerwn eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd i ystyriaeth. Yn yr achosion hyn, rhaid iddynt ddarparu tystiolaeth o allu i ddilyn y cwrs yn llwyddiannus.
Rydym yn hoffi rhoi pob cyfle i ymgeiswyr o’r fath ddangos bod ganddynt y cymhelliant a’r gallu i lwyddo yn eu dewis raglen.
HND
80 pwynt o gymwysterau lefel 3 technegol fel Diploma Estynedig BTEC. Gellir ystyried profiad perthnasol.
BEng Peirianneg Fodurol
112 pwynt (280 cynt) o bynciau Safon Uwch rhifog neu dechnegol, gan gynnwys Mathemateg neu Ffiseg gradd B neu uwch. Hefyd, mae angen TGAU Mathemateg gradd C. Gellir ystyried profiad perthnasol.
Nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Cymerwn eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd i ystyriaeth. Yn yr achosion hyn, rhaid iddynt darparu tystiolaeth o allu i ddilyn y cwrs yn llwyddiannus.
Rydym yn hoffi rhoi pob cyfle i ymgeiswyr o’r fath ddangos bod ganddynt y cymhelliant a’r gallu i lwyddo yn eu dewis raglen.
Mae’r galw uchel cyfredol am raddedigion peirianneg modurol wedi’i adlewyrchu yn y canran uchel o’n myfyrwyr sy’n cael eu drafftio i swyddi llawn amser neu astudiaethau pellach o fewn 6 mis o orffen eu hastudiaethau.
Mae gweithgynhyrchwyr mawr y DU a chyflenwyr Haen 1 yn amsugno’r rhan fwyaf o’n graddedigion, sydd hefyd yn wir am gwmnïau ymchwil ac ymgynghori.
Mae ein cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i fael gyrfaoedd llwyddiannus iawn mewn cwmnïau fel Jaguar Land Rover, Ford, McLaren Automotive, Mahle Powertrain, JCB yn ogystal â chwmnïau chwaraeon moduro fel AMG Mercedes, Williams F1 a Force India.
Nid oes costau ychwanegol gyda’r cwrs hwn.
- Peirianneg Chwaraeon Moduro (BEng, HND, Mynediad Sylfaen)
- Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu (BEng, Mynediad Sylfaen)
- Peirianneg Fodurol (MSc): Automotive Engineering (MSc) [Saesneg]
Karl Smith, BEng Peirianneg Modurol – HORIBA MIRA
“Caniataodd fy amser yn Y Drindod Dewi Sant Abertawe i mi ddatblygu sgiliau peirianneg rasio ymarferol a sail wybodaeth a roddodd i mi hanfodion cadarn ym maes peirianneg.
Heb gefnogaeth ac arweiniad, a gefais yn Y Drindod Dewi Sant Abertawe, ni fuaswn fyth wedi gwireddu fy mhotensial na faint rwyf wedi’i ddysgu mewn tair blynedd fer.
Trwy fy mhrofiadau yn Y Drindod Dewi Sant, gwnaeth y staff help gyda’r gweithgareddau allgyrsiol roeddwn yn rhan ohonynt, llwyddais i gael swydd llawn amser cyn graddio. Wrth edrych nôl, mae’r sgiliau sylfaenol rwy’n eu defnyddio yn fy nhasgau beunyddiol i gyd wedi’u seilio ar yr hyn a ddysgais yn y brifysgol.”
Gwybodaeth am Fwrsariaethau/Ysgoloriaethau.
Ewch i dudalen Teithio’r Byd gyda’r Drindod Dewi Sant i ddysgu rhagor am gyfleoedd i astudio dramor.
Ewch i'r adran llety i ddysgu rhagor.
Mae gan yr Ysgol Beirianneg hanes hir o weithio’n agos gyda’r diwydiant modurol mewn nifer o feysydd hanfodol.
Rydym yn angerddol bod cynnwys a strwythur ein cyrsiau yn paratoi ein myfyrwyr ar gyfer llwyddiant yn eu dewis yrfaoedd.
Mae ein holl raglenni peirianneg wedi’u datblygu’n unol â mewnbwn gan gynrychiolwyr diwydiannol i sicrhau bod ein myfyrwyr yn barod am yrfa wedi iddynt raddio.
Mae’r berthynas waith glos hon gyda diwydiant wedi darparu cyfleoedd i fyfyrwyr ymgymryd â lleoliadau gwaith ac interniaethau gydag amrywiaeth o gwmnïau, fel Ford, Aston Martin a McLaren.