Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Meysydd Pwnc - Cyrsiau Blynyddoedd Cynnar - Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Mae’r tîm Blynyddoedd Cynnar yn cydnabod pwysigrwydd rhoi ichi gyfleoedd amrywiol i gynyddu eich cyflogadwyedd.
Felly, mae pob rhaglen yn ffocysu ar ddatblygu eich sgiliau cyflogadwyedd a throsglwyddadwy. Mae’r rhain yn cynnwys:
- sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar
- rheoli amser
- sgiliau trefnu
- gwaith tîm
- Sgiliau TGCh a medrau digidol
- sgiliau ymchwil
Mae galw mawr am y sgiliau hyn oll gan amrywiaeth o gyflogwyr amrywiol; felly, bydd sgiliau a geir yn ystod eich astudiaethau yn drosglwyddadwy i wahanol lwybrau gyrfaol. Mae ein myfyrwyr israddedig wedi mynd ymlaen i lawer o wahanol yrfaoedd diddorol, gan gynnwys:
- Rheolwr a dirprwy reolwyr meithrinfeydd
- Cydlynwyr Cyfnod Sylfaen
- Swyddogion datblygu blynyddoedd cynnar / plentyndod cynnar
- Swyddogion chwarae
- Hwyluswyr Teuluoedd gyda’i Gilydd
- Swyddogion hyfforddi’r sector gwirfoddol
- Darlithwyr addysg bellach ac addysg uwch
Mae llawer o raddedigion wedi mynd ymlaen i weithio yn y llywodraeth a sectorau gwirfoddol a phreifat. Fodd bynnag, golyga natur amlddisgyblaeth yr Ysgol y gallwch gyrchu nifer o yrfaoedd eraill sy’n gysylltiedig â phlant ifanc a theuluoedd. Gall y rhain gynnwys yr heddlu, nyrsio a gwaith cymdeithasol.
Gwirfoddoli
Mae’r tîm Blynyddoedd Cynnar wedi dylunio amserlen sy’n sicrhau bod gennych gyfnodau rhydd rheolaidd ar y campws er mwyn ichi allu gwirfoddol mewn lleoliadau plentyndod cynnar / blynyddoedd cynnar, i gael profiad gwaith ymarferol pwysig. Os ydych yn fyfyriwr ar y BA (Anrhydedd) Addysg a Gofal Y Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar, rhaid i chi fynychu lleoliadau am o leiaf 100 diwrnod (cyfwerth â 700 awr). At ei gilydd, bydd hyn yn digwydd yn ystod eich astudiaethau Lefel 4 a Lefel 5. Mae hyn yn ofyniad gan Ofal Cymdeithasol Cymru er mwyn eich galluogi i gyflawni sgiliau academaidd ac ymarferol, gan roi ichi gymhwyster cydnabyddedig ar gyfer gweithio gyda phlant ifanc. Mae’r rhaglen radd hon wedi’i chynnwys yn rhestr Gofal Cymdeithasol Cymru o gymwysterau y mae eu hangen i weithio yn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru.
Wythnos Cyflogadwyedd
Yn ystod eich blwyddyn olaf, fe gewch gyfle i gael sgiliau trosglwyddadwy a chyflogadwyedd pellach a chymwysterau a thystysgrifau ychwanegol drwy fynychu ‘Wythnos Gyflogadwyedd’ y Blynyddoedd Cynnar. Wythnos arbennig yw hon lle bydd y tîm Blynyddoedd Cynnar yn trefnu i gyrsiau a/neu weithdai ychwanegol fod ar gael. Mae cymryd rhan yn y rhain yn werthfawr ond yn wirfoddol, ac fel arfer codir ffi bach amdanynt. Gall y rhain gynnwys:
- Cymorth Cyntaf (Paediatrig)
- Amddiffyn
- Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Sut i ysgrifennu CV
- Sgiliau cyfweliad
- Makaton
- Elklan
- Yoga Fi Fach
Fe wnes i wir fwynhau’r cwrs heddiw, roedd dysgu am rhywbeth newydd yn ddiddorol iawn! Rwy’n falch iawn ei fod wedi’i gynnal ac fy mod i wedi’i fynychu; buaswn yn ei argymell yn gryf i bobl. Rwyf hefyd yn ystyried gwneud peth astudio a hyfforddi’n gysylltiedig â hyn”
- Yoga Fi Fach - Caitlin Jones, myfyrwraig Lefel 6
Roedd yn wythnos wych o gyfleoedd a dysgu, diolch!! Dwi’n teimlo’n freintiedig ac yn ffodus iawn i fod yn astudio yn y Drindod Dewi Sant lle mae’r Ysgol Plentyndod Cynnar heb ei hail! Diolch yn fawr iawn i chi am eich ymrwymiad anhygoel a’ch gwaith caled wrth ddarparu cwrs mor rhagorol, gan gynnwys y gweithgareddau allgyrsiol, ac am gynnig i ni’r myfyrwyr gymaint o gefnogaeth ac anogaeth”
- Anna Latham, myfyrwraig Lefel 6
Ar ran yr holl fyfyrwyr sydd wedi mynychu’r wythnos gyflogadwyedd, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r holl staff sydd wedi helpu gyda’r wythnos.
- Kirsty Goff, myfyrwraig Lefel 6
Beth a alla’i ei wneud ar ôl graddio?
Mae’r BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar a’r BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar yn llwybrau gwych i mewn i nifer yrfaoedd.
Yn dilyn y rhaglen BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar, byddwch hefyd yn graddio gyda’ch trwydded i arfer wedi’i gydnabod ar restr cymeradwy Gofal Cymdeithasol Cymru i weithio fel ymarferydd proffesiynol gofal plant blynyddoedd cynnar.
Ar y BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar, byddwch yn graddio gyda gradd sy’n dangos tystiolaeth o nifer o sgiliau craidd sydd eu hangen i gynyddu’ch cyflogadwyedd a’ch helpu i ddilyn gyrfa ym maes Blynyddoedd Cynnar a disgyblaethau cysylltiedig. Mae’r sgiliau craidd hyn yn cynnwys:
- Sgiliau arwain rhagorol gan gynnwys rheoli pobl a lleoliad.
- Gwybodaeth fanwl o ddamcaniaeth ac arfer datblygu plant.
- Sgiliau cyfathrebu gwych mewn ystod o ddulliau priodol.
- Gwybodaeth ymarferol o gynllunio, arsylwi a datblygu’r cwricwlwm.
- Gwybodaeth am y sector o ran polisi presennol, rheoleiddio a sicrhau ansawdd.
- Sgiliau trefnu a rheoli amser.
- Profiad o fformatio a rhannu gwybodaeth, damcaniaeth ac ymchwil presennol ar amrywiaeth o lefelau.
- Lefel o broffesiynoldeb wrth weithio gyda phlant, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol.
- Sgiliau ymchwil, arloesi a menter.
- Cymwysterau sector-benodol ychwanegol
Gyrfaoedd yn y Blynyddoedd Cynnar
Gallai’r dewisiadau gyrfa ym maes addysg a gofal blynyddoedd cynnar gynnwys arweinwyr ystafell, rheolwyr lleoliadau, gweithwyr chwarae, gweithwyr ieuenctid, swyddog cymorth i deuluoedd, rolau gydag elusennau plant megis Barnardo’s, arweinydd clybiau ar ôl ysgol, gwarchodwr plant, cymorth bugeiliol, swyddog rhianta, hwylusydd teuluoedd, cymorth anghenion dysgu ychwanegol.
Astudio Pellach
Mae rhai o’n graddedigion yn mynd yn eu blaenau i astudiaethau pellach eraill. Mae rhai myfyrwyr wedi mynd ymlaen i astudio ein rhaglenni MA ni megis ein MA Llythrennedd Cynnar ac MA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar.
Mae rhaglenni ôl-raddedig fel y rhain yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr uwchsgilio a dyfnhau eu dealltwriaeth o blant ifanc a’u teuluoedd. Mae astudiaethau o’r fath wedi galluogi myfyrwyr ôl-raddedig i symud ymlaen yn eu maes gwaith cyfredol ac yn achos rhai i symud i yrfaoedd newydd.
Llwybr i addysgu
Fel myfyriwr y Blynyddoedd Cynnar yn y Drindod Dewi Sant byddwch yn sicr o gael cyfweliad ar gyfer y rhaglen TAR Cynradd ar yr amod eich bod yn bodloni’r gofynion o ran cymwysterau derbyn. Wrth wneud cais am y rhaglen TAR Cynradd byddwn ni, ar y cyd ag Addysg Gychwynnol Athrawon, yn eich cynorthwyo trwy gais a phroses gyfweld ffug.
Astudiaeth Ôl-raddedig a Llwybrau Amgen
Bydd graddedigion hefyd yn gallu symud ymlaen i nifer o gyrsiau ôl-raddedig yn eu maes diddordeb, gyda gradd dda ym maes Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yn bodloni’r gofynion derbyn ar gyfer nifer o lwybrau ôl-raddedig. Isod ceir rhai enghreifftiau o lwybrau a ddilynwyd gan raddedigion blaenorol, Gwaith Cymdeithasol:
- Therapi Chwarae
- Nyrsio
- Polisi a Llywodraeth
- Teulu a Chymunedau
- Ymchwil
- Therapi Lleferydd ac Iaith