Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Meysydd Pwnc - Cyrsiau Blynyddoedd Cynnar - Pam ni?
Pam dewis Blynyddoedd Cynnar, YDDS
“Mae yna gydsyniad cyffredinol bod profiadau plentyndod cynnar yn hanfodol bwysig i ddatblygiad hir dymor plant a’u cyraeddiadau’n ddiweddarach mewn bywyd. O ganlyniad, y blynyddoedd cynnar yw’r sylfeini y mae cymdeithas yn dibynnu arnynt er mwyn ffynnu a datblygu yn y dyfodol” (Llywodraeth Cymru 2016).
Mae ein Rhaglenni Blynyddoedd Cynnar yn darparu ymagwedd gynhwysfawr at anghenion plant, gan gydnabod y potensial enfawr i blant sy’n cael y cyfleoedd iawn ffynnu a datblygu. Bydd gennych rôl i’w chwarae wrth ddatblygu addysg a gofal blynyddoedd cynnar ymhellach, gan gymryd yr wybodaeth a’r sgiliau a gafwyd drwy ymgymryd â’r radd gyffrous hon i’ch dewis rôl broffesiynol wedi ichi raddio.
Rydym yn canolbwyntio ar eich datblygiad fel gweithwyr proffesiynol blynyddoedd cynnar a byddwn yn eich paratoi at yrfa foddhaus a chyffrous, gan ddylanwadu’n bositif ar fywydau plant y byddwch yn gweithio gyda nhw pan fyddwch yn ddarpar ymarferwyr a phan fyddwch naill ai’n graddio gyda BA(Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar neu BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar.
Ochr yn ochr ag astudiaethau academaidd, fe gewch gyfle i gymhwyso damcaniaeth i arfer pan fyddwch mewn lleoliad gan greu cyswllt cryf rhwng damcaniaethau iechyd, lles, addysg a datblygiad a chyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau a’ch medrau ymarferol. Rydym yn cynnig ystod o gymwysterau ychwanegol i gyfoethogi eich sgiliau a’ch gwybodaeth gan gynnwys cymhwyster amddiffyn cydnabyddedig, cymorth cyntaf a gweithio gyda theuluoedd. Hefyd, mae gennym wythnos o gyrsiau byr wedi’u hanelu at gyfoethogi eich cyflogadwyedd wedi i chi raddio.
Bydd y rhaglenni gradd yn eich paratoi chi at fod yn ymarferydd adfyfyriol, yn arweinydd, yn arloeswr a chreu sylfaen cadarn er mwyn ichi ddechrau gweithio mewn galwedigaeth gyda’r sgiliau iawn i sicrhau y byddwch yn darparu gofal effeithiol pa bynnag lwybr gyrfaol y byddwch yn penderfynu ei ddilyn.
Cyflwyniad hyblyg gyda’r nos
Rydym hefyd yn cynnig rhaglen dwy flynedd hyblyg gyda’r nos yng Nghaerdydd, rhaglen carlam hyblyg dwy flynedd (yn Abertawe a Chaerfyrddin) ochr yn ochr â’n llwybr tair blynedd traddodiadol yn y dydd.
Mae’r asesiadau sydd wedi’u cynnwys yn y rhaglenni’n cysylltu ag arfer, ac yn cynnwys cyflwyniadau, gweithgareddau cynlluniedig, posteri a phapurau briffio. Nid yw arholiadau’n rhan o’n strwythur asesu.
Dengys yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, ACM, bod ein myfyrwyr yn rhoi gwerth mawr i’r berthynas gyda staff a darlithwyr. Ni oedd yr ysgol a berfformiodd orau yn y Brifysgol yn 2016 ac mae’n arwain y sector ar draws Cymru o ran boddhad myfyrwyr.
Roedd 91% o fyfyrwyr Ysgol Blynyddoedd Cynnar YDDS yn fodlon ar eu cwrs – ACM 2018.
Roedd 93% o fyfyrwyr Ysgol Blynyddoedd Cynnar YDDS yn fodlon ar yr addysgu ar eu cwrs – ACM 2018.
Cytunodd 97% o fyfyrwyr yr Ysgol Blynyddoedd Cynnar fod y staff yn dda am esbonio pethau - NSS 2018.
Cytunodd 96% o fyfyrwyr Ysgol Blynyddoedd Cynnar YDDS bod staff wedi gwneud y pwnc yn ddiddorol – ACM 2018.
Mae’r blynyddoedd cynnar yn hanfodol i gyflawniadau a rhagolygon plant wrth iddynt dyfu a datblygu. Dewch i fod yn rhan o’r daith anhygoel hon!