Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Meysydd Pwnc  -  Cyrsiau Blynyddoedd Cynnar  -  Rhaglenni Atodol a Mynediad Uniongyrchol

Rhaglenni Atodol a Mynediad Uniongyrchol

Top up and direct entry programmes banner

Rydym yn cynnig ein BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yn y dydd neu’r nos fel rhaglenni mynediad uniongyrchol. Golyga hyn, os ydych wedi astudio cymwysterau blynyddoedd cynnar gyda darparwr arall efallai y gallwch drosglwyddo’r rhain i’n rhaglen ni a bydd hyn yn eich caniatáu i gwblhau BA (Anrh) llawn.

Ar hyn o bryd, mae gennym wahanol fathau o fynediad uniongyrchol.

Gallwch ddod yn syth i mewn i lefel 5 ein gradd naill ai ym mis Mawrth/Ebrill (darpariaeth gyda’r nos, 2 flynedd) neu ym mis Medi (rhaglen 3 blynedd dydd).

Gallwch hefyd fynd yn uniongyrchol i lefel 6 (gradd 3 neu 2 blynedd, yn y dydd neu nos).

Mae’n ein cyrsiau mynediad uniongyrchol a 'top-up' ar gael ar ein campws SA1 Abertawe neu ar ein campws yng Nghaerfyrddin, neu ar ein campws gymunedol yng Nghaerdydd. Mae lleoliad yn ddibynnol ar ddarpariaeth gyda'r dydd neu nos.

Rhaglen atodol 

Os oes gennych Radd Sylfaen yn barod mewn rhaglen plentyndod cynnar/addysg gynnar, mae hwn yn gyfle gwych i chi ‘ychwanegu’ at eich cymhwyster presennol i Radd BA Anrhydedd lawn.

Mae’r rhaglen wedi’i dylunio’n arbennig ar gyfer y rheiny a allai fod yn gweithio’n llawn amser er mwyn gallu ychwanegu at, a chwblhau, rhaglen radd lawn mewn llai na blwyddyn.

Mae hyn yn gyfwerth â blwyddyn olaf rhaglen radd israddedig ac fe gaiff ei gyflwyno un noswaith yr wythnos ac ambell Ddydd Sadwrn.

Mae’r rhaglen yn cynnwys 6 modwl gydag amrywiaeth o ddulliau asesu gan gynnwys traethodau, portffolios, cyflwyniadau grŵp a thrafodaethau grŵp.

“Mae’r gefnogaeth ymarferol rydym wedi’i chael gan YDDS wedi bod yn anhygoel.Mae’r cwrs wedi ein helpu i ddatblygu.I rywun sydd am weithio gyda phlant ifanc, mae’r cwrs hwn yn un delfrydol a bydd o gymorth mawr i’r rheiny sydd hefyd am symud ymlaen ac ymchwilio i yrfa ym maes iechyd hefyd.”Salihah Miah, a raddiodd yn 2017

Manteision

Mae cwblhau cwrs ‘Atodol’ a chyflawni gradd BA Anrhydedd lawn yn arddangos nifer o sgiliau cyflogadwy fel:

  • Sgiliau academaidd
  • Sgiliau trefnu
  • Sgiliau rheoli
  • Sgiliau arwain

I gael gwybod rhagor am y cwrs atodol a sut i wneud cais, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch â: Glenda Tinney 01267 676605 neu e-bost g.tinney@uwtsd.ac.uk