Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Perfformio Lleisiol (BMus)
Mae’r rhaglen Perfformiad Lleisiol yn canolbwyntio arnoch chi, y canwr, ac yn agor yr amrywiaeth helaeth o gyddestunau y gallech chi eu harfer yn y diwydiant ac yn eich gyrfa. Wedi’i llunio’n benodol ar gyfer cantorion clasurol a phoblogaidd, trwy gyfuniad o fodylau dewisol ac ymreolaethol, mae’r rhaglen yn caniatáu i chi ymgysylltu ag astudiaethau sy’n ffocysu ar eich maes arbenigol.
Ymhlith nodau’r rhaglen hon mae cynhyrchu graddedigion sy’n gallu ymgymryd â swydd
yn y proffesiwn cerddoriaeth, gan ddatblygu rhagoriaeth dechnegol ym maes perfformio ac arfer trwy hyfforddiant galwedigaethol, a darparu sylfaen ddamcaniaethol, yn cynnwys dawn gerddorol, crefft llwyfan, ac ieithoedd.
Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau’r rhaglen hon yn meddu ar sgiliau perfformio lleisiol uwch ochr yn ochr ag ymwybyddiaeth o dechnolegau perfformio, technegau recordio, sgiliau cerddor sesiwn, trefniadau lleisiol a gweithio mewn cyd-destunau cydweithredol i greu gwaith, yn ogystal â gallu i weithio gyda chyfarwyddwr a/neu gyfarwyddwr cerddorol.
Un o nodweddion unigryw’r rhaglen yw’r prif hyfforddiant astudio un i un a gynigir bob wythnos ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn creu cyfleoedd dysgu personol lle gallwch siapio eich ffocws dysgu o gwmpas eich diddordebau a’ch uchelgeisiau gyrfaol. Mae’r rhain hefyd yn darparu cyfleoedd gwerthfawr, ychwanegol i staff ymgysylltu â myfyrwyr ar lefel fugeiliol.
Daeth y Drindod Dewi Sant yn 1af yng Nghymru am Ddrama, Dawns a Sinemateg
Complete University Guide 2023.
Perfformio Lleisiol: Cod UCAS: PEL1
Gwneir pob cais i astudio am raglen radd israddedig amser llawn trwy UCAS o dan god y sefydliad, T80
Ewch i’r adran Sut i wneud cais ar wefan y Brifysgol i gael rhagor o wybodaeth
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
5 rheswm i astudio’r cwrs hwn
- Rhaglen arbenigol sy’n canolbwyntio ar y diwydiant
- Fe’i cyflwynir gan academyddion ac ymarferwyr arbenigol
- Hyfforddiant lleisiol 1 i 1 helaeth
- Dosbarthiadau meistr a sesiynau hyfforddi gan artistiaid gwadd byd-enwog.
- Wedi’i leoli o fewn cyfleuster arbenigol yng Nghaerdydd
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Gan adeiladu ar lwyddiant parhaus ein rhaglenni lleisiol ôl-raddedig, mae’r BMus (Anrh) Perfformio Lleisiol newydd yn rhaglen arbenigol i gantorion sy’n canolbwyntio ar y diwydiant.
Cyflwynir y rhaglen gan academyddion ac ymarferwyr arbenigol o fri cenedlaethol a rhyngwladol o fewn cyfleuster arbenigol yng Nghaerdydd, prif ddinas Cymru.
Mae modylau’r rhaglen yn archwilio meysydd megis techneg leisiol, astudiaethau perfformio, symudiad, theori cerddoriaeth, technolegau perfformio a phrosiectau perfformio a luniwyd i ddatblygu dull cyfannol o berfformio lleisiol. Un o nodweddion penodol y rhaglen hon yw’r hyfforddiant lleisiol 1 i 1 helaeth a chyfres o artistiaid gwadd byd-enwog sy’n gweithio gyda’r myfyrwyr yn yr academi drwy gydol y flwyddyn academaidd.
Lefel 4:
- Techneg Leisiol 1
- Dawn Gerddorol Gyffredinol a Thechnegau Stiwdio
- Prosiect Perfformio 1
- Repertoire ac Arddull 1
- Dosbarth Perfformio
- Dysgu yn yr Oes Ddigidol
Lefel 5:
- Techneg Leisiol 2
- Perfformiad Ensemble
- Cyflwyno Perfformiad
- Prosiect Perfformio 2
- Gwneuthurwyr newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy
- Repertoire ac Arddull 2 (Dewisol)
- Trefniant Lleisiol (Dewisol)
Lefel 6:
- Perfformiad Terfynol
- Arfer Proffesiynol ar gyfer Perfformio
- Y Diwydiannau Creadigol
- Prosiect Annibynnol
Asesir y rhaglen hon drwy ystod o ddulliau sy’n cynnig cyfleoedd i gyflwyno dysgu mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol drwy gydol y cwrs. Mae nifer o’r dulliau yn cynnwys perfformiadau, portffolios, asesiadau technegol, recordio, profi electronig, trefnu, ffug glyweliadau, podlediadau, ysgrifennu traethodau a chyflwyniadau.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.
Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
- Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Gwybodaeth allweddol
- David Bebbington
- Camilla Roberts
- Louise Ryan
- Philip Lloyd Evans
- Gareth Jones
- Iwan Teifion Davies
- Conal Bembridge-Sayers
- Catherine Roe Williams
- Ben Davis
- Sarah Crisp
- Angharad Lee
- Tony Jones
- Richard Ellis
- Jacqueline Pischorn
- Pierre-Maurice Barlier
- Jolanda Pupillo
- Ester Borin Bonillo
- Jennifer Mackerras
- Lorriane Mahoney
- Amy Guppy
- Tori Johns
- Simon Rees
- Eilir Owen Griffiths
120 pwynt UCAS a Chlyweliad/Cyfweliad.
Rhagwelir y bydd graddedigion y rhaglen Perfformio Lleisiol yn cychwyn eu gyrfaoedd fel perfformwyr, crewyr, athrawon, artistiaid recordio, ac o fewn amrywiol ddisgyblaethau cysylltiedig eraill. Gall y BMus (Anrh) Perfformio Lleisiol arwain hefyd at astudiaeth ôl-raddedig.
Gallai’r costau ychwanegol o gael gafael ar sgorau cerddorol, recordiadau neu destunau academaidd fod oddeutu £600 i £800 dros gyfnod y rhaglen.