Skip page header and navigation

Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid yn yr Hinsawdd (Llawn amser) (BSc Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
96 o Bwyntiau UCAS

Mae newid yn yr hinsawdd a gweithgareddau anthropogenig yn bygwth bywyd ar y Ddaear. Mae gan addysg amgylcheddol gydol oes rôl i’w chwarae wrth wneud cynaliadwyedd yn ran ganolog o gymdeithas fyd-eang. Mae Partneriaeth Dysgu Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn cydnabod gan y bydd rhan fwyaf o blant sy’n fyw heddiw yn debygol o ddioddef canlyniadau newid hinsawdd, mae’n gwneud synnwyr y dylent fod yn barod ac yn rhan o’r ras i “adeiladu capasiti” tuag at gynaliadwyedd.

Mae tîm y cwrs wedi datblygu cofnod ardderchog o gynnal ymchwil amgylcheddol, yn arbennig rheolaeth arfordirol a morol a chynaliadwyedd. Mae’r themâu hyn yn bwydo i mewn i strwythur y rhaglen. Mae’r cwrs hefyd yn ystyried cadwraeth cynefinoedd amgylcheddol a mewnosod seilwaith a mannau gwyrdd mewn amgylchedd dinesig. Gan ystyried lleoliad Abertawe a’r hinsawdd lleol, mae heriau llifogydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymgysylltu ag opsiynau peirianneg ‘meddal’ neu ‘naturiol’.

Byddwch yn dysgu’r gwyddoniaeth sy’n tanategu materion amgylcheddol a rhannu gwybodaeth ar faterion thematig allweddol gydag awdurdodau a grwpiau cyhoeddus fel ei gilydd. Daw cwmpas eang y cwrs o ganlyniad i ymgysylltu cadarn gyda diwydiant.

Bydd y rhaglen yn eich helpu i adeiladu sgiliau sy’n berthnasol i ystod eang o gyflogwyr, gan gynnwys meddwl beirniadol, y gallu i roi materion cymhleth mewn cyd-destun a’r gallu i gyflwyno dadl gydlynol.

Wedi’i greu gan ein myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr amgylcheddol sydd â gwybodaeth ddefnyddiol am Abertawe, y cwrs a sut i’w oroesi, cyngor ar wirfoddoli a chyfleoedd cyflogaeth i’w dilyn ar ôl cwblhau eich astudiaethau.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
SCC1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
96 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Dosbarthiadau bach lle cewch y cyfle i ofyn cwestiynau a dysgu’n weithredol.
02
Cyfleoedd i ddysgu mewn ffordd ymarferol drwy waith maes gan ddefnyddio ein lleoliad daearyddol gwych.
03
Ymgysylltu’n weithredol gyda chyflogwyr, yn arbennig trwy ein cyrsiau gwaith maes lle byddwch yn dod i adnabod rheolwyr gwarchodfeydd ac ymgynghorwyr amgylcheddol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Os ydych yn frwdfrydig ynghylch gwarchod yr amgylchedd ac mae arnoch eisiau datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau i wneud hynny, gallai’r cwrs hwn eich gweddu i’r dim. Mae’r campws canol dinas mewn lleoliad perffaith rhwng Penrhyn Gŵyr a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog – gan ddarparu safleoedd astudio perffaith ar gyfer gwyddor arfordirol a rheolaeth cynefinoedd.

Mae gennym hanes dwy flynedd ar bymtheg o ddarparu cyrsiau ar Gadwraeth Amgylcheddol a gyda dosbarthiadau cymharol fach, ceir llawer o gyfleoedd i rannu trafodaethau gyda’ch cymheiriaid a darlithwyr profiadol.

Mae hyn, ynghyd â gwaith maes ymarferol, yn ei wneud yn gwrs gwych ar gyfer ennill gwybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi. Mae ein staff yn cynnig amgylchedd dysgu cyfeillgar, hygyrch sydd â phrofiad o ecoleg arfordirol, morol a dŵr ffres, rheoli gwastraff ac asesu amgylcheddol. Maent i gyd yn ymchwilio’r weithredol gan alluogi i fyfyrwyr ymgysylltu â phrosiectau ymchwil ac yn elwa ohonynt.

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth

(20 credydau)

Gwasanaethau Bioamrywiaeth ac Ecosystemau

(20 credydau)

Newid yn yr Hinsawdd a Gweithredaeth Weledol

(20 credydau)

Sgiliau Maes a Labordy

(20 credydau)

Tirwedd Ffisegol a'r Geosffer

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy

(20 credydau)

Cadwraeth Arfordirol, Morol a Bywyd Gwyllt

(20 credydau)

Deddfwriaeth Amgylcheddol ac Economi Gylchol

(20 credydau)

Technolegau Carbon Isel

(20 credydau)

Adnoddau Dŵr a Monitro Amgylcheddol

(20 credydau)

Asesu, Rheoli ac Archwilio Amgylcheddol

(20 credydau)

Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol a Thechnolegau Synhwyro o Bell

(20 credydau)

Rheoli Cynefinoedd ac Adeiladu Gwydnwch

(20 credydau)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Cymunedau Trefol Cynaliadwy

(20 credydau)

Course Page Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd (BSc)
    Bydd angen 96 pwynt Tariff UCAS arnoch yn y Safonau Uwch neu eu cywerth (240 o bwyntiau tariff UCAS).


    Blwyddyn Sylfaen mewn STEM (cainc amgylcheddol)
    Rydym yn croesawu pob darpar fyfyriwr sydd â diddordeb yn yr amgylchedd ac ymrwymiad iddo i gysylltu â ni a thrafod gofynion mynediad.

    Dulliau Mynediad Amgen i Safon Uwch

    Cwblhau Cwrs Mynediad priodol neu brofiad galwedigaethol Proffesiynol yn llwyddiannus

    Yn arbennig rydym yn croesawu myfyrwyr aeddfed sydd â phrofiad galwedigaethol neu hyd yn oed gwirfoddol yn sector yr amgylchedd. Bydd y gofynion mynediad yn amrywio’n amodol ar eich cefndir. Weithiau fe allwn ofyn i chi wneud cwrs Mynediad i’ch paratoi chi ar gyfer astudio, neu fe allwn eich derbyn yn seiliedig ar eich profiad yn unig.

    Os oes gennych frwdfrydedd dros yr amgylchedd ond mae gennych gefndir addysgol ansafonol, mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod eich lle.

  • Mae asesiadau’n amrywio ar draws modylau drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau o adroddiadau maes a labordy i gyflwyniadau, traethodau ac arholiadau i roi’r cyfle i chi wneud yn dda a dangos eich gwybodaeth ddatblygol.

    Rydym yn ymfalchïo mewn rhoi adborth ardderchog ar bob cam o’r cwrs i’ch helpu i wneud cynnydd.

    Rydym yn defnyddio adborth i ddatblygu eich gwybodaeth am y cwrs ac, yn bwysig, eich helpu i ddatblygu eich sgiliau ehangach wrth ysgrifennu adroddiadau, a chyfathrebu gwyddoniaeth fel y galwch ddangos eich gallu i weithio’n effeithiol yn sector yr amgylchedd ar ddiwedd eich cwrs.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y prosiect mawr ond nid yw hyn yn ofynnol, ac ni fydd yn effeithio ar y marc terfynol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

  • Mae ein graddau amgylcheddol yn cyfuno astudiaethau academaidd gyda datblygiad sgiliau a medrau proffesiynol. Byddwch yn ennill sgiliau cyflogaeth trosglwyddadwy, gan gynnwys:

    • Dadansoddi data
    • Asesiadau amgylcheddol
    • Arolygu cynefinoedd
    • Adnabod straenachosyddion amgylcheddol
    • Dosbarthu gwybodaeth
    • Cyflwyniadau llafar a gweledol
    • Ysgrifennu Adroddiadau
    • Adnabod rhywogaethau

    Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn diwrnodau gwirfoddoli yn rhan o hyfforddiant gwaith maes ac fe’u hanogir i ddod o hyd i leoliadau gwaith dros yr haf a fydd yn rhoi profiad gwaith gwerthfawr iddynt.

    Cewch eich annog i ddefnyddio gwaith cydweithredol gyda darparwyr profiad gwaith i gasglu data ar gyfer eich traethawd hir (eich prosiect mawr eich hun yn eich blwyddyn olaf).

    Mae un o’n prosiectau ymchwil ysgol, adennill sbwriel mwyngloddiau, yn rhoi llawer o gyfleoedd i gasglu data a dadansoddi pridd. Mae cyfleoedd eraill ar gael gyda Dinas a Sir Abertawe, lle mae myfyrwyr wedi gwirfoddoli i gasglu a dehongli data gwastraff arolygon.

    Newyddion

    • Swyddi newydd ar gyfer graddedigion Y Drindod Dewi Sant ym maes diogelu a gwella’r amgylchedd
    • Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant i ymweld â Chernobyl i astudio effaith y trychineb ar yr amgylchedd

    Gyrfaoedd

    Mae ein rhaglenni Cadwraeth Amgylcheddol yn cwmpasu ystod eang o bynciau sy’n gallu arwain at nifer enfawr o yrfaoedd. Dyma restr o rolau newydd graddedigion diweddar:

    • Swyddog Arolwg Ystlumod
    • Rheolwr Datblygu Busnes yn Hydro Industries
    • Swyddog Ymchwil Morfilod yng Nghosta Rica
    • Swyddog Cymuned a Gwarchod Natur yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
    • Rheolwr Cadwraeth yng Nghanolfan Anifeiliaid Llys Nini RSPCA
    • Dadansoddwr Data yn PHS Group
    • Technegydd Cefnogi Data yn Veolia
    • Ecolegydd yn Jacobs UK Ltd
    • Swyddog Ynni yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot
    • Awdur Amgylcheddol
    • Swyddog Amgylcheddol yn Natural England
    • Arbenigwr Amgylcheddol yn EcoVigour
    • Technegydd Amgylcheddol yn Rockwool
    • Technegydd Amgylcheddol, Trin Dŵr, Swydd Rydychen
    • Swyddog Gwerthuso a Monitro yn Down to Earth
    • Swyddog Technegol Pysgodfeydd yng Nghyfoeth Naturiol Cymru
    • Swyddog lifogydd a Dŵr yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
    • Cynorthwyydd Technegol Risg Llifogydd yng Nghyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf
    • Ymgynghorydd Iechyd, Diogelwch ac Amgylcheddol
    • Dadansoddwr Seilwaith TG yn Coastal Housing Group
    • Ymchwilydd PhD
    • Swyddog y Wasg yn y Swyddfa Dywydd
    • Tîm cynhyrchu Springwatch a Chynorthwyydd Dysgu yn Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir
    • Rheolwr Prosiect yn Hydro Industries Ltd
    • Ymchwilydd ar gyfer Nutopia
    • Rheolwr Datblygu Gwledig yng Nghastell-nedd Port Talbot
    • Ecolegydd Uwch yn AECOM
    • Uwch Ecolegydd yn Asiant Cefnffyrdd De Cymru, Castell-nedd
    • Swyddog Cynaliadwyedd yn Y Drindod Dewi Sant
    • Rheolwr Tîm Ailgylchu Masnachol a Domestig, Dinas a Sir Abertawe
    • Technegydd Telemetreg Asedau Dŵr Gwastraff yn Nŵr Cymru Welsh Water
    • Swyddog Caniatáu Ansawdd Dŵr yng Nghaerdydd