Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Arolygu Adeiladau (BSc, HD, HNC)

Arolygu Adeiladau (BSc, HD, HNC)

Ymgeisio drwy UCAS - Llawn Amser

Mae’r rhaglen yn amodol ar ail-ddilysu.

Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr ym maes adeilad

- Complete University Guide 2023.

Hoffech chi gael cymhwyster uwch i ddatblygu eich gyrfa a’ch datblygiad yn y dyfodol mewn Arolygu Adeiladu, neu un o’r disgyblaethau eraill cysylltiedig iawn ym maes amgylchedd adeiledig? Dyluniwyd y rhaglen hon ar eich cyfer chi. Mae ymgynghori â’r grwpiau cysylltu diwydiannol wedi helpu i ddatblygu rhaglen, mewn cydweithrediad â chyrff proffesiynol a sefydliadau diwydiant, sydd mor agos ag y bo modd at ofynion y diwydiant adeiladu.

Mae diwydiant adeiladu heddiw yn wynebu heriau globaleiddio, y newid yn yr hinsawdd, cleientiaid sy’n gofyn llawer a fframwaith rheoleiddio cymhleth. Mae pwysigrwydd cynyddol technoleg a darparu integredig yn chwarae rhan fwyfwy pwysig yn y diwydiant. Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r sgiliau i chi ymdrin â’r heriau hyn mewn meysydd megis yr agweddau cyfreithiol, technegol, rheoli, economaidd a chymdeithasol, ac amgylcheddol ar brosiect adeiladu.

Mae’r cwrs hefyd yn cofleidio’r cymwyseddau deallusol ac ymarferol sy’n ofynnol gan gyrff proffesiynol, megis y Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB) a Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS). Bydd myfyrwyr yn datblygu arbenigedd ym maes technoleg adeiladu, technegau arolygu, cyfrifoldebau cyfreithiol a rheoli prosiectau. Mae Iechyd a Diogelwch a Rheoli Risg hefyd yn brif ddisgyblaethau sy’n eich paratoi i weithio mewn amgylchedd adeiladu.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Arolygu Adeiladau (BSc)
Cod UCAS: 8K32
Gwnewch gais trwy UCAS

Arolygu Adeiladau (HND)
Cod UCAS: 125S
Gwnewch gais trwy UCAS

Arolygu Adeiladau (HND)
Cod UCAS: BSU9
Gwnewch gais trwy UCAS


Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
E-bost Cyswllt: d.hughes@uwtsd.ac.uk
Enw'r cyswllt:: Dr Deborah Hughes


Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn?

  1. Mae gennym ddilyniant unigryw, o raglenni cyn gradd, BSc i MSc a graddau ymchwil sy’n ymgysylltu’n uniongyrchol â chyflogadwyedd a datrysiadau ar gyfer materion diwydiannol.
  2. Mae’r Ysgol wedi ennill ei phlwyf yn niwydiant adeiladu Cymru gyda chysylltiadau agos â sefydliadau diwydiannol e.e. CIOB, RICS, CABE, CITB.
  3. Canolfan ragoriaeth ac arloesi i Gymru a de-orllewin Lloegr (CWIC).
  4. Mae’r staff yn aelodau o grŵp Ymchwil ac Arloesedd Canolfan Arbenigedd Rhanbarthol Cymru ar yr Economi Gylchol.
  5. Cysylltiadau uniongyrchol a phrosiectau â TRADA.
  6. Prosiectau adeiladu cynaliadwy byw gyda Down to Earth.
  7. Cysylltiadau cadarn â’r diwydiannau rheoli gwastraff a rheoli adeiladu a gwastraff dymchwel.
  8. Ymarferwyr o’r diwydiant yn addysgu fel darlithwyr gyda lefel uchel o brofiad.
  9. Cyfraddau cyflogadwyedd uchel ymhlith ein myfyrwyr ar ôl eu hastudiaethau.
  10. Addysgu ac ymchwil trawsddisgyblaethol ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
  11. Rhaglenni MSc mewn Rheoli Eiddo a Chyfleusterau, Adeiladu Cynaliadwy a Chadwraeth a Rheolaeth Amgylcheddol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r rhaglenni hyn ym maes Arolygu Adeiladu yn ymwneud ag adeiladau a’u perfformiad wrth ddefnyddio, boed yn ased cyfalafol neu’n gyfleuster gweithredol. Mae’r ddisgyblaeth yn cofleidio dyluniad a manyleb adeiladu, rheoli prosiectau, ffactorau cyfreithiol ac economaidd yn ogystal â materion amgylcheddol.

Mae deilliannau’r rhaglenni yn cynnwys; y gallu i ddadansoddi ystod o broblemau arolygu wrth ddarparu atebion ymarferol; darparu dealltwriaeth ddofn o’r agweddau technegol, cyfreithiol a threfniadol ar arolygu a rhoi amrywiaeth o sgiliau i chi fel y bo gofyn gan arolygwyr mewn ymarfer proffesiynol neu mewn sefydliadau mawr.

Mae’r rhaglenni hyn yn cynnwys rhai modylau a gyflwynir yn gyffredin gyda rhaglenni cysylltiedig eraill yn yr Athrofa h.y. Technoleg Bensaernïol, Mesur Meintiau, Rheolaeth Eiddo, Rheolaeth Prosiect ac Adeiladu ac ati, ond dim ond lle mae’r rhain yn darparu’r sylfeini hanfodol neu pan fo angen ymagwedd ryngddisgyblaethol.

Pynciau Modylau

Blwyddyn Un – Lefel 4 (HNC, HND a BSc)

  • Arolygu Digidol (20 credyd; gorfodol)
  • Hanfodion Technoleg Adeiladu (20 credyd; gorfodol)
  • Cyflwyniad i Gyfrifoldebau Contract a Chyfreithiol yn yr Amgylchedd Adeiledig (20 credyd; gorfodol)
  • Gwyddor Faterol a Gwasanaethau Adeiladu (20 credyd; gorfodol)
  • Sgiliau Proffesiynol ac Iechyd a Diogelwch mewn Adeiladu (20 credyd; gorfodol)
  • Gweithio gyda Thechnolegau Digidol a BIM (20 credyd; gorfodol).

Blwyddyn Dau – Lefel 5 (HND a BSc)

  • Adeiladu Modern a Thraddodiadol: Rheoli’r broses Ddylunio ac adeiladu (20 credyd; gorfodol)
  • Rheoli Prosiectau a Gweinyddu Contractau (20 credyd; gorfodol)
  • Arolygu Eiddo ac Ailddefnyddio Adeiladau (20 credyd; gorfodol)
  • Hunan-Ddatblygiad, Arfer Proffesiynol a Rheoli Personél Adeiladu (20 credyd; gorfodol)
  • Rheoli Adeiladu Cynaliadwy (20 credyd; gorfodol)
  • Prosiect Mawr (20 credyd; gorfodol).

Blwyddyn Tri – Lefel 6 (BSc)

  • Uwch Wasanaethau Adeiladu a Dylunio Amgylcheddol (20 credyd; gorfodol)
  • Uwch Dechnoleg Peirianneg Adeiladu a Sifil (20 credyd; gorfodol)
  • Cadwraeth Adeiladau, Rheoli Asedau a Chyfleusterau (20 credyd; dewisol)
  • Economeg Ddylunio (20 credyd; dewisol)
  • Prosiect Annibynnol (40 credyd; gorfodol; modwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
  • Prosiect Grŵp Integredig (20 credyd; gorfodol)
Asesiad

Fel arfer asesiadau ffurfiannol neu grynodol yw’r rhai a ddefnyddir yn y Rhaglenni hyn. Dylunnir yr asesiad cyntaf i sicrhau bod myfyrwyr yn dod yn ymwybodol o’u cryfderau a’u gwendidau. Fel arfer, bydd y math hwn o asesiadau wedi’i llunio ar ffurf ymarferion ymarferol lle mae dull ymarferol yn dangos gallu’r myfyriwr ar amrywiaeth o weithgareddau.

Cynhelir asesiadau traddodiadol ffurfiol o fewn amser penodol drwy gyfrwng profion ac arholiadau sydd, fel arfer, yn para dwy awr. Mae arholiadau’n ddull traddodiadol o wirio mai gwaith y myfyriwr yntau yw’r gwaith a gynhyrchwyd.

Er mwyn helpu dilysu gwaith cwrs y myfyriwr, y mae’n ofynnol mewn rhai modylau bod y myfyriwr a’r darlithydd yn trafod y testun a gaiff ei asesu ar sail unigol, gan adael y darlithydd i fonitro cynnydd.

Mae rhai modylau lle mae’r asesu’n seiliedig ar ymchwil yn gofyn bod myfyrwyr yn cyflwyno canlyniadau’r ymchwil ar lafar/yn weladwy i’r darlithydd a chyfoedion, gyda sesiwn holi ac ateb i ddilyn.

Mae’r strategaethau asesu hyn yn cyd-fynd â’r strategaethau dysgu ac addysgu a ddefnyddir gan y tîm, hynny yw, lle’r nod yw creu gwaith sydd, yn bennaf, dan arweiniad myfyrwyr, yn unigol, yn adfyfyriol a phan fo’n briodol, sydd â thuedd alwedigaethol.

Mae’r strategaethau asesu hyn yn cyd-fynd â’r strategaethau dysgu ac addysgu a ddefnyddir gan y tîm, hynny yw, lle’r nod yw creu gwaith sydd, yn bennaf, dan arweiniad myfyrwyr, yn unigol, yn adfyfyriol a phan fo’n briodol, sydd â thuedd alwedigaethol.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. 

Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau. 

Dysgwch ragor am ein graddau mewn Adeiladu

Campws y Glannau Newydd Sbon

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad

Arolygu Adeiladau (BSc)

Bydd angen 96 pwynt Tariff UCAS arnoch mewn arholiadau Safon Uwch neu gywerth (240 o bwyntiau tariff UCAS yn flaenorol).

Arolygu Adeiladau (HND)

Bydd angen 48 pwynt Tariff UCAS arnoch mewn arholiadau Safonau Uwch neu gywerth (120 o bwyntiau tariff UCAS yn flaenorol).

Arolygu Adeiladau (HNC)

Bydd angen 40 pwynt Tariff UCAS arnoch mewn arholiadau Safonau Uwch neu gywerth (100 o bwyntiau tariff UCAS yn flaenorol).

Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â'ch cymwysterau.

Blwyddyn Sylfaen mewn STEM (ffrwd amgylcheddol)

Cyfleoedd Gyrfa

Mae’r rhaglenni hyn yn cyfuno astudiaethau academaidd â defnydd sgiliau a chymwyseddau proffesiynol. Byddant yn eich gwneud chi’n agored i’r gofynion addysgol sydd eu hangen i gofleidio safonau uchaf y diwydiant, trwy ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau ym maes dylunio adeilad, eiddo, patholeg adeiladau (diffygion adeiladau), yn ogystal â mewn meysydd economaidd, cyfreithiol, technegol, dylunio a rheol, sef pynciau mor hanfodol yng ngofal asedau a chyfleusterau adeiledig gwerth uchel.

Byddant yn eich paratoi i weithio’n arolygydd proffesiynol ac i wneud cais am aelodaeth o’r prif gyrff proffesiynol gan gynnwys Sefydliad Brenhinol Syrfewyr Siartredig (RICS), y Sefydliad Adeiladu Siartredig, a Chymdeithas Peirianwyr Adeiladu. Yn ogystal â sgiliau proffesiynol a thechnegol sy’n benodol i arolygu adeiladau, bydd sgiliau’n cael sylw sy’n hanfodol fusnes bob dydd, megis cyflwyno, cyfathrebu a gwaith tîm.

Costau Ychwanegol

Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hwn heb unrhyw gostau ychwanegol.

Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis prif brosiect ond nid yw hwn yn ofynnol ac ni chaiff unrhyw effaith ar y radd derfynol.

Dyfyniadau Myfyrwyr

Poppy Reynolds, BSc (Anrh) Arolygu Adeiladu

“Dewises i BSc (Anrh) Arolygu Adeiladu oherwydd bod gen i ddiddordeb yn yr wyddor sydd wrth wraidd adeiladu ac roeddwn i am wneud gradd sy’n arwain at yrfa yn hytrach na gradd gyffredinol. Mae’r cwrs Arolygu Adeiladu yn symud o Adroddiadau Prynwyr Cartrefi i brosiectau byw sy’n chwilio am gamau gwella, diffygion a gwerthoedd. Roeddwn i wrth fy modd â’r prosiect yn yr Eglwys Gymunedol gan ei bod hi’n ddiddorol gweld y prosesau y mae ymarferwyr yn mynd trwyddyn nhw, yn ogystal â gwneud fy nyluniadau fy hun.”

Jamie Best, Melin Consultants – Asesiad Modwl BREEAM

‘Mae Melin Consultancy yn gwneud yr asesiad BREEAM ar Gampws newydd SA1 ar ran y Gyfadran rhwng nawr a nes cwblhau’r gwaith. Caiff myfyrwyr yn Ysgol Pensaernïaeth, Amgylcheddau Adeiledig a Naturiol y cyfle i weld pob cam o’r broses asesu. Mae BREEAM yn helpu gwella cynaliadwyedd adeiladau – yn lleihau’r galwadau ar ynni ond hefyd yn edrych ar y cynllun economaidd-gymdeithasol o fewn adeiladau. Bydd myfyrwyr sy’n astudio rhaglenni Amgylchedd Adeiledig yn Y Drindod Dewi Sant yn eu gweld nhw â’u llygaid eu hunain, asesiad byd go iawn ac yn rhan o’r modwl BREEAM, a bydd yn gweithio gyda chontractwyr, peirianwyr ac ati. Mae’n mynd â nhw i ffwrdd o’r ddamcaniaeth academaidd fel y gall y myfyrwyr ofyn cwestiynau go iawn ac ymdrin â materion go iawn.”

Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau
Cyfleoedd i Astudio Dramor

Ewch i dudalen Teithio’r Byd gyda’r Drindod Dewi Sant i ddysgu rhagor am gyfleoedd i astudio dramor.

Llety

Ewch i adran Llety Abertawe i ddysgu rhagor.

Gwybodaeth Pellach

Bydd Blwyddyn un yn cyfarwyddo myfyrwyr tuag at brif gysyniadau ac egwyddorion arolygu adeiladau; modylau megis technoleg adeiladu, gwyddor faterol, arolygu a materion cyfreithiol yn arwain ar y lefel hon. Bydd Materion Amgylchedd Adeiledig a Sgiliau Academaidd yn gosod y sylfaen ar gyfer astudio ar lefel AU, tra bydd Modelu Gwybodaeth Adeiladu a CAD yn ffurfio’r sylfaen y caiff ffurfiau mwy modern ar adeiladu eu dylunio a’u hadeiladu arni.

Mae Blwyddyn dau yn gyfnod canolradd sy’n mynd â datblygiad personol ac academaidd y myfyriwr i lefel uwch. Datblygir disgyblaethau a gyfarfuwyd ar yr adeg hon ymhellach ac ychwanegir meysydd pynciol newydd i ategu’r flwyddyn olaf. Mae’r egwyddorion a astudiwyd ym mlwyddyn 1 wedi eu hadeiladu ar Dechnoleg Adeiladu 2, gwasanaethau Caffael a Rheoli Prosiect ac Amgylcheddol. Cyflwynir myfyrwyr i Batholeg Adeiladau ac Addasu Adeiladau, lle ymchwilir i’r rhesymu wrth wraidd yr heriau a roddir i ffabrig adeiladu.

Bydd myfyrwyr sy’n dechrau eu blwyddyn olaf eisoes wedi cael y wybodaeth ategol a’r sgiliau astudio sydd eu hangen i gynnal astudiaeth fanwl. Ar hyn o bryd, bydd myfyrwyr yn dilyn nifer o fodylau academaidd drylwyr ac ymarferol berthnasol. Ar y lefel hon bydd meysydd megis Datblygu Cynaliadwy a Chontract yn caniatáu ar gyfer rhywfaint o arbenigedd. Pan gyfunir hyn â Phrif Brosiect, bydd gan y myfyriwr arbenigedd y gallant eu defnyddio yn rhan o’u cynllun datblygu yn y dyfodol, heb gau cyfleoedd cyflogaeth. Bydd yr astudio’n canolbwyntio ar dechnolegau adeiladu uwch, egwyddorion gwerthuso a meysydd arfer proffesiynol. Mae’r rhaglenni hyn yn annog myfyrwyr i ymgysylltu â chyrff proffesiynol a sefydliadau allanol ym maes arolygu adeiladu. Fel arfer mae hyn yn digwydd yn ystod cyfnodau’r gwyliau pan fydd mwy o hyblygrwydd o ran amseriadau ar gael.

Rhaid i’r holl fyfyrwyr anrhydedd gwblhau’r prif brosiect, yr ystyrir ei fod o bwys mawr, ac o’r herwydd mae’n fodwl 40 credyd. Yma, bydd disgwyl i chi ddisgwyl dangos eu gallu i ddefnyddio sgiliau, gwybodaeth a meddwl deongliadol. Bydd hyn yn golygu gwaith astudio mewn labordy, yn y maes, ar gyfrifiadur, drwy dechnoleg gwybodaeth a/neu astudio ar sail llyfrgell/desg sy’n gysylltiedig ag agweddau ar eu dewis bwnc. Ar y lefel hon, mae’r modylau’n gyd-destunol eu natur ac yn cynnig digon o gyfleoedd ar gyfer astudio trylwyr, manwl.