Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Cyfrifiadura Cwmwl (BSc Hons, Mynediad Sylfaen)
Bydd ein gradd mewn Cyfrifiadura Cwmwl yn rhoi dealltwriaeth i chi o’r prif agweddau ar amrywiaeth o gysyniadau, egwyddorion a thechnegau sy’n gysylltiedig â chyfrifiadura cwmwl, cyflunio seilwaith a rheolaeth. Mae’r cwrs yn cynnwys y cyfle i astudio tuag at gymhwyster diwydiannol megis Cydymaith Rhwydwaith Ardystiedig Cisco (CCNA a Gweithiwr Proffesiynol Rhwydwaith Ardystiedig Cisco (CCNP).
Bydd y rhaglen yn eich galluogi chi i nodi unrhyw dechnolegau priodol, technegau ac offer y mae eu hangen i weithredu seilwaith a gwasanaethau cwmwl. Byddwch yn nodi problemau neu dasgau, dylunio atebion a datrys dealltwriaeth ofynnol o’r angen am ansawdd sy’n dangos gallu i ddefnyddio tystiolaeth ategol.
Drwy ddatblygu’r sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen yng nghyd-destun cyflogaeth, gan gynnwys gweithio’n annibynnol neu’n aelod tîm, gellid dod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth ar draws amrywiaeth o sefydliadau wrth i’r gwasanaethau cwlwm a fabwysiadir barhau i dyfu ar garlam, a BBaChau hefyd yn defnyddio technolegau rhithwireddu yn fewnol.
Mae’r llwybrau cyflogaeth posibl yn cynnwys: Peirianwyr y Ganolfan Ddata, Peirianwyr Cwmwl, Peirianwyr DevOps Cwmwl, Peirianwyr Cymorth Rhaglenni, Gweinyddwyr Rhwydwaith, Gweinyddwyr System Weithredu, Peirianwyr Cymorth Rhwydwaith, Peirianwyr Diogelwch, Peirianwyr Systemau a Dadansoddwyr Rhwydwaith.
BSc (Anrh) | Rhaglen Gradd 4 Blynedd (Lefelau 3 i 6)
Cod UCAS: CC08
Gwneud cais drwy UCAS
STEM Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (Ffrwd Cyfrifiadura)
Rhaglen Sylfaen 1 Flwyddyn (Lefelau 3 i 4)
Cod UCAS: SCT1
Gwneud cais drwy UCAS
Dylai’r ymgeiswyr amser llawn sy’n dymuno dechrau ym mis Medi wneud cais drwy UCAS. Dylai ymgeiswyr rhan-amser wneud cais trwy’r Brifysgol.
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn?
- Dolenni diwydiannol sy’n bodoli ers tro.
- Cwrs sydd wedi ei achredu gan Gymdeithas Cyfrifiaduron Prydain (BCS) gyda statws Gweithiwr TG Proffesiynol Siartredig (CITP).
- Yn rhoi’r sgiliau diweddaraf i chi ynghyd â gwerthfawrogiad o ofynion y diwydiant.
- Caiff myfyrwyr eu trwytho mewn ystod o gysyniadau rhaglennu, technegau dadansoddi data a chloddio am ddata i ddatblygu datrysiadau systemau gwybodaeth soffistigedig a chymhleth.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae Cyfrifiadura Cwmwl yn faes arbenigol o fewn rhwydweithio cyfrifiadurol sy’n ymwneud â rheoli data mawr mewn canolfannau data, rhithwireddu a darparu gwasanaethau cwmwl.
Fel arfer, byddai pob sy’n gwneud cais i’r rhaglen hon yn meddu ar feddwl technegol ac efallai wedi astudio peirianneg, cyfrifiadura neu’r gwyddorau o’r blaen.
Mae’r rhaglen hon wedi’i llunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn rhwydweithiau cyfrifiadurol ond gan arbenigo mewn meysydd megis rhithwireddu a’r systemau cyfrifiadurol a ddefnyddir mewn canolfannau data sy’n cefnogi gwasanaethau ar y cwmwl.
Byddai hefyd ganddynt ddiddordeb mewn cronfeydd data a datblygu dealltwriaeth o reoli, a dadansoddi data mawr, a gweithredu gwasanaethau cwmwl.
Bydd gan ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen hon ddiddordeb mewn rhwydweithiau cyfrifiadurol a datblygiad rhaglenni wedi’u rhwydweithio a bydd yn debygol bod ganddynt rywfaint o brofiad rhaglenni ar y wefan.
Bydd myfyrwyr yn astudio cydbwysedd o fodylau o gwmpas themâu technolegau storio data a gwasanaethau seiliedig ar gwlwm gan gynnwys darparu a defnyddio’r gwasanaethau hynny.
Mae data ar raddfa uchel wedi’u storio mewn canolfannau data ac â gwasanaethau wedi’u rhwydweithiau a ddarparwyd gan ddefnyddio technolegau rhithwireddu, tra bydd ‘data mawr’ yn galw am nifer o wahanol ddulliau sy’n benodol i raglenni ar gyfer storio a dadansoddi.
Bydd modd hefyd i raddedigion weithredu gwasanaethau er mwyn darparu i’w trin a’u dadansoddi gan amrywiaeth o raglenni y bydd modd hefyd iddynt eu datblygu.
Byddai disgwyl i raddedigion y rhaglen hon geisio gwaith yn ddadansoddwyr data, datblygwyr rhaglenni, peirianwyr t ganolfan ddata, ac ati.
Blwyddyn Sylfaen (Tyst AU mewn STEM)
- Sgiliau Academaidd (20 credyd; gorfodol)
- Dadansoddi a Datrys Problemau (20 credyd; gorfodol)
- Prosiect Integreiddiol (20 credyd; gorfodol)
- Cyflwyniad i Raglennu Cyfrifiadurol (20 credyd; gorfodol)
- Cyflwyniad i Systemau Cyfrifiadurol (20 credyd; gorfodol)
- Cyflwyniad i Systemau Cyfrifiadurol (20 credyd; gorfodol)
Blwyddyn Un – Lefel 4 (BSc)
- Pensaernïaeth Gyfrifiadurol a Systemau Gweithredu (20 credyd; gorfodol)
- Dadansoddi Data a Rhithwireddu (20 credyd; gorfodol)
- Cyflwyniad i Gysyniadau Gwefan a Chronfa Ddata (20 credyd; gorfodol)
- Dysgu yn yr Oes Ddigidol (20 credyd; gorfodol; modwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Rhwydweithiau a Hanfodion Seiberddiogelwch (20 credyd; gorfodol)
- Datblygiad Meddalwedd (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Dau – Lefel 5 (BSc)
- Rhwydweithio Uwch (20 credyd; gorfodol)
- Gwneuthurwyr newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth (20 credyd; gorfodol; modwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Pensaernïaeth Cyfrifiadura Cwmwl (20 credyd; gorfodol)
- Diogelwch Data a Chydymffurfio (20 credyd; gorfodol)
- Systemau Gweithredu Rhwydwaith a Gwasanaethau (20 credyd; gorfodol)
- Gallu Rhaglennu’r Rhwydwaith (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Tri – Lefel 6 (BSc)
- Seiberddiogelwch Uwch (20 credyd; gorfodol)
- Gweinyddiaeth Cyfrifiadura Cwmwl (20 credyd; gorfodol)
- Tueddiadau sy’n dod i’r amlwg (20 credyd; gorfodol / dewisol (DDA) / dewisol (RhA))
- Prosiect Annibynnol (40 credyd; gorfodol; modwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion )
- Ymchwil Seiliedig ar Ddiwydiant (20 credyd; dewisol (DDA) / dewisol (RhA))
- Switsio, Llwybrydd a Diwifr (20 credyd; gorfodol).
Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw creu graddedigion sy’n helpu i lunio dyfodol datblygiad systemau cyfrifiadura a gwybodaeth. Mae cynnwys y cwrs yn gyfoes ac wedi’i lunio ar gyfer cyflogadwyedd drwy gysylltiadau cryf â chyflogwyr lleol a chenedlaethol.
Asesir myfyrwyr drwy gyfuniad o daflenni gwaith, gwaith ymarferol, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau. Yn aml asesir modylau ar sail aseiniad, neu aseiniad ac arholiad.
Gallai’r marc terfynol ar gyfer rhai modylau gynnwys un neu ragor o ddarnau o waith cwrs a osodwyd ac a gwblhawyd yn ystod y modwl. Asesir gwaith y prosiect ar sail adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.
Anogir myfyrwyr i ddefnyddio ein cysylltiadau â Software Alliance Wales a Go Wales i weithio ar gynlluniau masnachol ar gyfer eu modwl Prif Brosiect. Mae Go Wales yn darparu cyfleoedd am leoliadau gwaith cyflogedig gyda busnesau lleol. Mae opsiwn Blwyddyn mewn Diwydiant hefyd ar gael.
Dolenni Cysylltiedig
Gwybodaeth allweddol
32 pwynt UCAS
Mae gan ein graddedigion ragolygon gwaith rhagorol yn y diwydiant cyfrifiadura, addysgu, darlithio a TGCh, yn ogystal â meysydd eraill o’r economi.
Mae ystadegau diweddar yn dangos bod y mwyafrif llethol yn dilyn eu dewis lwybrau gyrfa ymhen chwe mis ar ôl graddio.
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hwn heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis Prosiect Annibynnol ond nid yw hwn yn ofyniad ac ni chaiff unrhyw effaith ar y radd derfynol.
- Cyfrifiadura Cymhwysol (BSc, HND, HNC, Mynediad Sylfaen)
- Cyfrifiadura (Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiber Ddiogelwch) (BSc, HND, HNC, Mynediad Sylfaen)
- Cyfrifiadura (Systemau Data a Gwybodaeth) (BSc, HND, HNC, Mynediad Sylfaen)
- Cyfrifiadura (Peirianneg Meddalwedd) (BSc, HND, HNC, Mynediad Sylfaen)
- Cyfrifiadura (Datblygu’r We) (BSc, HND, HNC, Mynediad Sylfaen)
Yohannes Zerzghi
“Dewises i fynd i Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant oherwydd nifer o ffactorau. Un o’r prif ffactorau yw bod gan y brifysgol staff cynorthwyol a chefnogol iawn. Hefyd, mae ei egwyddorion academaidd yn bodloni galwadau presennol y diwydiant cyfrifiadura.”
Matthew Cooze
"Mae sgôr Y Drindod Dewi Sant yn uchel o ran bodlonrwydd myfyrwyr a nifer y myfyrwyr sy’n cael eu cyflogi ar ôl graddio. Hoffwn i fynd ymlaen i astudio am radd Meistr.”
Helen Frey
“Mae cyfrifiaduron wedi mynd yn rhan annatod o fywyd bob dydd. Mae astudio cyfrifiadura’n heriol ac yn fuddiol. Rwy wrth fy modd â’m canlyniadau a byddai wedi bod yn amhosibl i mi ei wneud heb ddarlithwyr mor ardderchog.”
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
Ewch i dudalen Teithio’r Byd gyda’r Drindod Dewi Sant i ddysgu rhagor am gyfleoedd i astudio dramor.