Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Cyfrifiadura (Peirianneg Meddalwedd) (BSc, HND, HNC, Mynediad Sylfaen)
Cysyniadau datblygu meddalwedd a dylunio meddalwedd yw’r themâu a bwysleisir ar y rhaglen hon. Wedi graddio, byddwch yn fedrus ac yn wybodus yn agweddau technegol datblygu meddalwedd. Bydd swyddi’n debygol o fod o fewn sefydliadau meddalwedd arbenigol, neu o fewn sefydliadau sy’n rhoi o’u hadnoddau i ddatblygu systemau meddalwedd technegol iawn, gan weithio fel aelod o dîm, yn synio, dylunio, datblygu a gweithredu systemau meddalwedd cymhleth.
Nod y rhaglen yw meithrin dealltwriaeth o agweddau allweddol ar ystod o gysyniadau, egwyddorion a thechnegau sy’n gysylltiedig â datblygu meddalwedd, y mae rhai ohonynt ar reng flaen y ddisgyblaeth.
Byddwch yn dysgu i ddod o hyd i’r technolegau, technegau ac offer cywir i’w defnyddio, a’u cymhwyso. Cewch eich annog i adnabod problemau neu dasgau a chymhwyso egwyddorion peirianneg meddalwedd wrth ddylunio cymwysiadau, gan ddangos dealltwriaeth o’r angen am ansawdd gyda dogfennaeth briodol sy’n dangos gallu i ddefnyddio tystiolaeth ategol.
Yn ystod eich astudiaethau cewch y wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i ddadansoddi technolegau datblygu meddalwedd a dysgu am y technegau a ddefnyddir i ddatrys problemau, neu wrth ddatblygu cymwysiadau, i fodloni gofynion y byd go-iawn. Hefyd, caiff eich sgiliau cyflogaeth trosglwyddadwy eu meithrin.
Cyfrifiadura (Peirianneg Meddalwedd)
BSc | Rhaglen Radd 3 Blynedd Lefelau 4 i 6)
Cod UCAS: 145S
Gwnewch gais drwy UCAS
HND | Rhaglen 2 Flynedd (Lefelau 4 i 5)
Cod UCAS: 878T
Gwnewch gais drwy UCAS
BSc | Rhaglen 4 Blynedd gyda Mynediad Sylfaen (Lefelau 3 i 6)
Cod UCAS: SEC1
Gwnewch gais drwy UCAS
STEM Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (Ffrwd Cyfrifiadura)
Rhaglen Sylfaen 1 Flwyddyn (Lefel 3 i 4)
Cod UCAS: SCT1
Gwnewch gais drwy UCAS
Cadw Lle Ar Ddiwrnod Agored Cais Am Wybodaeth Cyfrifiadura Blog
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
- Mae’n rhoi ichi’r holl sgiliau sydd eu hangen i fynd i weithio yn y diwydiant peirianneg meddalwedd.
- Wedi’i addysgu gan staff sydd â phrofiad o’r diwydiant ac sydd â chymwysterau academaidd perthnasol.
- Dysgu sgiliau rhaglennu perthnasol i’r diwydiant peirianneg meddalwedd.
- Ymgyfarwyddo ag offer a dulliau a ddefnyddir i reoli prosiectau meddalwedd mawr.
- Llwybr cyflym i statws Peiriannwr Siartredig (CEng) drwy gwblhau ein cwrs a achredir gan Gymdeithas Cyfrifiadurol Prydeinig (BCS).
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cwrs yn ffocysu ar ddylunio, gweithredu, profi a chynnal datrysiadau meddalwedd ansawdd uchel. Bydd y myfyriwr yn ffocysu ar gaffael a defnyddio’r arbenigedd sydd ei angen ar raglennydd proffesiynol i greu datrysiadau i broblemau mawr a chymhleth. Bydd yr arbenigedd a’r sgiliau y byddwch yn eu datblygu drwy beiriannu datrysiadau meddalwedd yn rhan o dîm yn uchel iawn eu parch ymhlith cyflogwyr.
Modylau Blwyddyn 0 - Mynediad Sylfaen
- Ysgrifennu Academaidd (20 credyd)
- Prosiect Integreiddio (20 credyd)
- Mathemateg (10 credyd)
- Gwyddoniaeth (10 credyd)
- Systemau Cyfrifiadurol (20 credyd)
- Cyflwyniad i Raglennu Cyfrifiadurol (20 credyd)
- Dadansoddi a Datrys Problemau neu Fathemateg Bellach (20 credyd)
Modylau Blwyddyn 1 - MComp/BSc/HND/HNC
- Sgiliau Academaidd a Chyflogadwyedd (20 credyd)
- Pensaernïaeth a Rhwydweithiau Cyfrifiadurol (20 credyd)
- Peirianneg Gwybodaeth (20 credyd)
- Technoleg a Diogelwch Rhyngrwyd (20 credyd)
- Mathemateg (20 credyd)
- Datblygu Meddalwedd (20 credyd)
Modylau Blwyddyn 2 - MComp/BSc/HND
- Datblygu Meddalwedd Uwch (20 credyd)
- Datblygu Cymwysiadau (20 credyd)
- Systemau Rheoli Cronfeydd Data (20 credyd)
- Prosiect Grŵp Menter ac Arloesi (20 credyd) (Sylwer: Myfyrwyr llawn amser yn unig)
- Prosiect seiliedig ar Waith Llywodraethu, Deddfwriaeth a Moeseg (20 credyd) (Sylwer: Myfyrwyr rhan amser yn unig)
- Dulliau Rheoli Prosiect ac Ymchwil (20 credyd)
- Dyfeisiau Clyfar a Chysylltiedig 1 (20 credyd)
Modylau Blwyddyn 3 - MComp/BSc
- Prosiect Mawr (40 credyd)
- Uwch Ddatblygu’r We (20 credyd)
- Deallusrwydd Artiffisial a Dysgu Peiriannau (20 credyd)
- Cymwysiadau wedi’u Rhwydweithio (20 credyd)
- Dyfeisiau Clyfar a Chysylltiedig 2 (20 credyd)
Modylau Blwyddyn 4 - Meistr Integredig - MComp
Mae MComp Cyfrifiadura (Peirianneg Meddalwedd) yn rhaglen israddedig pedair blynedd a ariennir yn llawn, sy’n arwain at gymhwyster lefel Meistr. Byddai disgwyl i chi ymuno â chyflogwyr ar lwybr carlam at reolaeth drwy ddysgu sgiliau arbenigol mewn:
- Datblygu Meddalwedd Ystwyth (20 credyd)
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth (20 credyd)
- Marchnata a Gwe Ddadansoddeg (20 credyd)
- Prosiect Grŵp (60 credyd)
Sylwer: Mae mynediad Blwyddyn Sylfaen ar gael hefyd. Gweler: Blwyddyn Sylfaen ar gyfer Cyfrifiadura ac Electroneg Mae gennym hefyd opsiynau “Blwyddyn ym Myd Diwydiant.”
Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw cynhyrchu graddedigion sy’n helpu i siapio dyfodol peirianneg meddalwedd. Mae cynnwys y cwrs yn gyfoes ac wedi’i lunio er mwyn annog cyflogadwyedd drwy gysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol.
Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o daflenni gwaith, asesiadau ymarferol, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau. Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniadau, neu aseiniad ac arholiad. Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modylau gynnwys gosod a chwblhau un neu fwy darn o waith cwrs yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.
Anogir myfyrwyr i ddefnyddio ein cysylltiadau gyda Chynghrair Meddalwedd Cymru a Go Wales i weithio ar gynlluniau masnachol ar gyfer eu modwl Prosiect Mawr. Mae Go Wales yn darparu’r cyfle i fynd ar leoliadau gwaith â chyflog gyda busnesau lleol.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.
Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
- Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Dolenni Cysylltiedig
Achrediadau Proffesiynol
Mae cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus yn cynnig y cyfle i gofrestru ar gyfer statws llawn Gweithiwr Proffesiynol TG Siartredig (CITP) gyda Chymdeithas Gyfrifiadurol Prydain (BCS) a statws CEng rhannol.
Gwybodaeth allweddol
MComp Cyfrifiadura (Peirianneg Meddalwedd) – Pedair Blynedd Llawn Amser
120 pwynt tariff UCAS (300 cynt) gan gynnwys:
- Dwy radd C Safon Uwch/AVCE; neu
- Diploma Cenedlaethol BTEC graddau Teilyngdod, Pas, Pas; neu
- Tystysgrif Genedlaethol BTEC graddau Teilyngdod, Teilyngdod; neu
- NVQ Lefel 3 - Pas
Dylai pynciau Lefel Uwch gynnwys Cyfrifiadura, TGCh, Mathemateg, Gwyddoniaeth neu debyg. Mae TGAU Mathemateg gradd C neu uwch yn ddymunol.
BSc Cyfrifiadura (Peirianneg Meddalwedd) – Tair Blynedd Llawn Amser
104 pwynt tariff UCAS (260 cynt) gan gynnwys:
- Dwy radd C Safon Uwch/AVCE; neu
- Diploma Cenedlaethol BTEC graddau Pas, Pas, Pas; neu
- Tystysgrif Genedlaethol BTEC graddau Teilyngdod, Pas; neu
- NVQ Lefel 3 - Pas
Dylai pynciau Lefel Uwch gynnwys TGCh, Cyfrifiadura, Mathemateg, Ffiseg neu debyg. Mae TGAU Mathemateg gradd C neu uwch yn ddymunol.
HND Cyfrifiadura (Peirianneg Meddalwedd) – Dwy Flynedd Llawn Amser
48 pwynt tariff UCAS (120 cynt) gan gynnwys:
- Un radd C Safon Uwch/AVCE; neu
- Diploma/Tystysgrif/Dyfarniad Cenedlaethol BTEC – Pas; neu
- NVQ Lefel 3 – Pas.
Dylai pynciau Lefel Uwch gynnwys, Mathemateg, TGCh, Ffiseg neu debyg.
Mae TGAU Mathemateg gradd C neu uwch yn ddymunol.
HND Cyfrifiadura (Peirianneg Meddalwedd) – Un Flwyddyn Llawn Amser
40 pwynt tariff UCAS (100 cynt)
Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â'ch cymwysterau.
Cynnig Bagloriaeth Ryngwladol Nodweddiadol:
Cysylltwch â computing@uwtsd.ac.uk am ragor o wybodaeth.
Arall:
Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rheiny sy’n cynnig cymwysterau amgen. Cysylltwch â computing@uwtsd.ac.uk am ragor o wybodaeth.
Blwyddyn Sylfaen mewn STEM
Mae gan ein graddedigion ragolygon gwaith rhagorol yn y diwydiant cyfrifiadura, addysgu, darlithio a TGCh, yn ogystal â meysydd eraill o’r economi. Dengys ystadegau diweddar bod y mwyafrif helaeth yn dilyn eu dewis lwybrau gyrfaol o fewn chwe mis i raddio.
Byddai graddedigion yn chwilio am swyddi fel: Rhaglennydd Ffiseg, Peiriannydd Meddalwedd, Datblygwr Meddalwedd, Profwr Meddalwedd a Rheolwr Adeiladu TG.
Dyma broffiliau rhai o raddedigion y rhaglen hon a lle maen nhw nawr:
Ar gyfer yr holl dystebau gan raddedigion, gweler yma:
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis prif brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol.
Lleoliad
Bydd ffi ychwanegol o £1800 ar gyfer myfyrwyr sy’n dewis astudio’r rhaglen gyda’r lleoliad blwyddyn mewn diwydiant dewisol.
I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
Ewch i’n hadran Llety Abertawe i ddysgu rhagor.