Skip page header and navigation

Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Llawn amser) (BSc Anrh)

Caerfyrddin
3 Blynedd Llawn amser
96 o Bwyntiau UCAS

Nod y rhaglen Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yw eich troi’n fyfyriwr graddedig â’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i weithio ym maes chwaraeon, iechyd a ffitrwydd a fydd yn cyfrannu at godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o bwysigrwydd cynnal ffordd o fyw iach.

Mae’r pandemig Covid diweddar wedi amlygu ymhellach bwysigrwydd iechyd personol a llesiant gan gynyddu’r angen am arbenigwyr ym meysydd gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau datrys problemau, dadansoddi, ac ymchwilio’n annibynnol ac yn dysgu i ddod yn ddysgwr gydol oes annibynnol ac yn ymarferydd adfyfyriol.

Rhoddir pwyslais ar berthnasedd galwedigaethol, ac fe’ch anogir yn gryf i gael profiad a chymwysterau ychwanegol i gefnogi eich uchelgeisiau gyrfaol wrth i chi astudio. Yn ogystal â’r cyfleoedd i gasglu dyfarniadau galwedigaethol allanol, fel y cymwysterau hyfforddwr campfa, hyfforddwr personol a chymorth cyntaf, mae nifer o fodylau’n caniatáu i chi gael profiad o weithio gyda chleientiaid mewn lleoliad proffesiynol. Mae dyfarniadau galwedigaethol wedi’u hymgorffori yn y rhaglen hon, fel hyfforddwr campfa a hyfforddwr personol, gan wella’ch cyflogadwyedd.

Hefyd, bydd cyfleoedd i chi gael profiad o weithgareddau asesu iechyd a rhagnodi ymarfer corff sy’n berthnasol i broblemau yn y byd go iawn. Cewch eich cynnwys mewn gweithgareddau dysgu i reoli ar eich cyfer chi eich hunain, a gweithgareddau cydlynu. Un o gryfderau’r rhaglen yw’r cyfle i weithio gyda chleientiaid a datblygu sgiliau galwedigaethol a phroffesiynol ochr yn ochr â gwybodaeth ddamcaniaethol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
125L
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
96 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cyfle i gael eich cofrestru ar Gyfeirlyfr Ymarfer Corff a Ffitrwydd CIMSPA.
02
Defnydd o gyfleusterau hyfforddi ffitrwydd pwrpasol a labordai gwyddor ymarfer corff.
03
Cyfleoedd i weithio gyda chleientiaid mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn.
04
Cyfleoedd i weithio ochr yn ochr â staff yr Academi Chwaraeon sy'n darparu sesiynau hyfforddi, sesiynau cryfder a chyflyru a phrofion ffitrwydd.
05
Mynediad am ddim i’r ystafell iechyd, neuadd chwaraeon a phwll nofio i gefnogi diddordebau gradd.
06
Yn y 10 cwrs Gwyddor Chwaraeon gorau yn y DU am foddhad myfyrwyr.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Blwyddyn Un:

Mae blwyddyn gyntaf yr astudiaethau’n generig ar draws y portffolio o lwybrau gradd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, sy’n rhoi i fyfyrwyr sylfaen gre ym mhrif egwyddorion y pwnc, yn ogystal â’r amser i benderfynu p’un ai ydynt yn dymuno arbenigo mewn un llwybr penodol.

Tri phwnc craidd ffisioleg, seicoleg a biomecaneg yw’r sylfaeni, a chyflwynir y rhain drwy gyfuniad o ddarlithoedd damcaniaethol wedi’u dilyn gan gyfle i gymhwyso’r wybodaeth honno’n ymarferol yn ein labordai gwyddor chwaraeon llawn offer. 

Bydd myfyrwyr yn datblygu’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i ddefnyddio offer fel dadansoddwyr nwy, giatiau golau, platfformau grym, meddalwedd dadansoddi symudiad a dadansoddwyr cyfansoddiad y corff.

Ochr yn ochr â’r pynciau craidd, rhydd y flwyddyn gyntaf i fyfyrwyr y cyfle i astudio egwyddorion hyfforddi ac ymarfer corff, ac i gael dyfarniadau galwedigaethol fel Hyfforddwyr Campfa a Hyfforddwyr Personol ochr yn ochr â’u hastudiaethau, pe baent yn dymuno hynny.

Hefyd, caiff hanfodion maetheg ar gyfer chwaraeon eu datblygu, yn ogystal â dealltwriaeth o bwysigrwydd gweithgarwch corfforol i iechyd a lles.

Blwyddyn Dau:

Yn yr ail flwyddyn, bydd myfyrwyr yn parhau i ddatblygu eu gwybodaeth o bynciau sylfaen ffisioleg, biomecaneg a seicoleg, ochr yn ochr â datblygu eu gallu i ddeall a chynnal ymchwil.

Mae dau fodwl dewisol yn caniatáu i fyfyrwyr ddewis a dethol o blith ystod eang o fodylau ar draws yr ysgol Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored. Gallai’r modylau hyn fod o un o ystod o bynciau fel: maeth; atgyfeirio ymarfer corff; hyfforddi; ffyrdd o fyw awyr agored; a hybu iechyd.

Blwyddyn Tri:

Yn ystod y flwyddyn olaf, bydd myfyrwyr yn dyfnhau eu gwybodaeth yn eu maes arbenigol drwy gynnal eu hastudiaeth ymchwil arbrofol annibynnol eu hunain, ochr yn ochr ag adolygiad manwl o’r llenyddiaeth.

Gan adeiladu ar y ddwy flynedd gyntaf, bydd myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth mewn meysydd penodol fel ffisioleg eithafol, uwch ddulliau hyfforddi a seicoleg chwaraeon cymhwysol, gan hefyd gael opsiynau i ddewis modylau ar draws yr ysgol.

Gorfodol 

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Cyflwyniad i Seicoleg Iechyd ac Ymarfer Corff

(20 credydau)

Hyfforddiant Personol

(20 credydau)

Ffisioleg Ddynol a Ffitrwydd

(20 credydau)

Maetheg ar gyfer Iechyd

(20 credydau)

Cinesioleg

(20 credydau)

Gorfodol 

Maetheg ar gyfer Chwaraeon ac Ymarfer Corff

(20 credydau)

Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff

(20 credydau)

Asesiad Biomecanyddol o Berfformiad ac Anafiadau

(20 credydau)

Ymchwil mewn Iechyd, Ymarfer Corff ac Addysg Gorfforol

(20 credydau)

Ffisioleg Ymarfer Corff

(20 credydau)

Datblygu eich Proffil Proffesiynol (Lleoliad)

(20 credydau)

Gorfodol 

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Ffisioleg Ymarfer Corff Uwch

(20 credydau)

Arfer Seiliedig ar Dystiolaeth mewn Gwyddor Ymarfer Corff

(20 credydau)

Dewisol

Addysgeg Hyfforddi

(20 credydau)

Ymarfer Corff a Phoblogaethau Penodol

(20 credydau)

Arfer Proffesiynol mewn Chwaraeon ac Ymarfer Corff

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Carmarthen Accommodation

Llety Caerfyrddin

Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd.  Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Fel arfer, byddai disgwyl i fyfyrwyr gyflawni o leiaf 96 o bwyntiau UCAS (Tariff 2017) gyda ffocws ar bynciau seiliedig ar y gwyddorau a/neu addysg gorfforol. Bydd myfyrwyr aeddfed nad oes ganddynt bwyntiau UCAS digonol yn cael eu hystyried ar eu rhinweddau eraill drwy broses gyfweld.

  • Caiff y radd ei hasesu’n bennaf drwy gyfuniad o waith cwrs ac arholiad ymarferol. Bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu portffolio helaeth o arfer proffesiynol a thystiolaeth o astudiaethau achos.

  • Bydd rhaid i fyfyrwyr brynu tracwisg a thopiau hyfforddi’r brifysgol y bydd eu hagen mewn sesiynau ymarferol ac wrth weithio gyda grwpiau allanol.

    Bydd myfyrwyr sy’n dymuno cyflawni cymhwyster ychwanegol, galwedigaethol yn gorfod talu costau ychwanegol ar gyfer y cyrsiau hyn.

    £30 ar gyfer gweithgaredd ymsefydlu dros nos i holl fyfyrwyr blwyddyn 1.

    Dillad chwaraeon (£80-£120) yn amodol ar y cwrs.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Mae 90% o’n graddedigion yn y maes hwn mewn gwaith neu astudiaethau pellach llawn amser o fewn 6 mis i raddio. Yn gyffredinol, mae graddau gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff yn paratoi myfyrwyr ar gyfer graddau fel:

    • Ymchwil academaidd
    • Hyfforddi a chynghori athletwyr adloniadol (e.e. triathlon, rhedeg, seiclo)
    • Ffisiolegydd ymarfer corff clinigol GIG
    • Hyfforddwr personol
    • Gwyddonydd chwaraeon (yn gweithio gyda thimau chwaraeon proffesiynol, cyrff llywodraethu, ayb)
    • Hyfforddwr cryfder a chyflyru
    • Addysgu
    • Chwaraeon ieuenctid