Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Iechyd Meddwl (BSc)
Trwy gyflwyno’r rhaglen ar benwythnosau a gyda’r nos, mae’r radd BSc Iechyd Meddwl yn cynnig profiad dysgu unigryw i unigolion sydd naill ai’n gweithio ar hyn o bryd yn y maes iechyd meddwl neu sy’n dymuno datblygu eu gwybodaeth ymhellach, neu'r rhai sy’n dymuno dilyn gyrfa mewn iechyd meddwl heb unrhyw brofiad blaenorol.
Iechyd Meddwl (BSc)
Cod UCAS: 7HL3
Gwnewch gais drwy UCAS
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored CAIS AM WYBODAETH
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
- Labordai Seicoleg newydd sy’n annog sgiliau meddwl beirniadol, datrys problemau ac ymchwilio.
- Gwella’r ddealltwriaeth o’r cyswllt rhwng cysyniadau damcaniaethol a chymwysiadau ymarferol.
- Cynorthwyo ac arwain myfyrwyr ar bob lefel trwy ddarlithoedd, seminarau mewn grwpiau bach a gweithdai.
- Darparu cefnogaeth trwy ein system tiwtora personol.
- Cefnogi datblygiad ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a sgiliau cyflogadwyedd ymhlith myfyrwyr.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Lluniwyd y radd BSc Iechyd Meddwl i roi gwybodaeth a dealltwriaeth gynhwysfawr i fyfyrwyr o sut a pham mae unigolion yn datblygu anawsterau iechyd meddwl. Mae’r rhaglen, a gyflwynir trwy lwybr dysgu hyblyg gyda sesiynau addysgu ar benwythnosau yn bennaf, yn archwilio sut y gallwn helpu atal, lleihau a chefnogi’r unigolion hyn mewn amrywiol leoliadau unigol a grŵp o fewn maes iechyd meddwl.
Yn ogystal mae’r rhaglen wedi’i strwythuro’n arbennig i gynnwys sgiliau cyflogadwyedd a phroffesiynol cadarn, gan gynnwys ffocws cryf ar waith mewn grwpiau bach, a modwl sy’n cynnig lleoliad gwaith. Mae’r rhaglen wedi’i saernïo i sicrhau datblygiad cydlynol o ran dealltwriaeth ddamcaniaethol, sgiliau ymarferol ac ymchwil, a materion moesegol a phroffesiynol sy’n berthnasol i faes iechyd meddwl a lles.
O fewn amgylchedd cefnogol gall myfyrwyr ddewis cofrestru ar y llwybr gradd BSc llawn neu gofrestru ar y Dystysgrif Addysg Uwch lefel pedwar, cyn ystyried symud ymlaen i’r Diploma Addysg Uwch neu’r radd lawn.
Blwyddyn Un – Lefel 4
- Cyflwyniad i Ddulliau Ymchwil (20 credyd; gorfodol)
- Iechyd Meddwl a Datblygiad Plant (20 credyd; gorfodol)
- Cyflwyniad i Iechyd Meddwl (20 credyd; gorfodol)
- Dysgu yn yr Oes Ddigidol (20 credyd; gorfodol; modwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Sgiliau Proffesiynol ar gyfer Iechyd Meddwl (20 credyd; gorfodol)
- Straen, Ymdopi, a Gwydnwch (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Dau – Lefel 5
- Caethiwed, Camddefnyddio Sylweddau a Dibyniaethau Seicolegol (20 credyd; gorfodol)
- Sgiliau Ymchwil Cymhwysol (20 credyd; gorfodol)
- Sgiliau a Dulliau Cwnsela (40 credyd; gorfodol)
- Diwylliant a Chymuned (20 credyd; gorfodol)
- Modelau a Dulliau Triniaeth (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Tri – Lefel 6
- Dadleuon Cyfredol ym maes Iechyd Meddwl (20 credyd; gorfodol)
- Prosiect Ymchwil Annibynnol (40 credyd; gorfodol)
- Iechyd Meddwl a’r Boblogaeth sy’n Heneiddio (20 credyd; gorfodol)
- Addysg Iechyd Meddwl (20 credyd; gorfodol)
- Prosiect Dysgu Seiliedig ar Waith (20 credyd; gorfodol).
Lluniwyd asesiadau’r rhaglen i alluogi myfyrwyr i ddangos ystod o sgiliau a gwybodaeth, gan gynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder academaidd. Bydd asesiadau enghreifftiol yn cynnwys cyflwyniadau, taflenni hybu iechyd, llenyddiaeth sy’n codi ymwybyddiaeth, traethodau traddodiadol, portffolios a phrosiectau ymchwil cymhwysol.
Mae’n amlwg mai nod y gweithdrefnau asesu yw cefnogi ac asesu cynnydd y myfyrwyr.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.
Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
- Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Dolenni Cysylltiedig
Gwybodaeth allweddol
Fel arfer gwneir cynigion o 64 pwynt tariff UCAS ar gyfer y rhaglen BSc Iechyd Meddwl.
Mae’r BSc Iechyd Meddwl yn addas ar gyfer ystod eang o fyfyrwyr, gan gynnwys myfyrwyr â chymwysterau Safon Uwch a Mynediad sy’n dymuno ymuno â’r sector, a hefyd gyn weithwyr a gweithwyr cyfredol a fyddai naill ai’n dymuno ffurfioli eu profiad yn gymhwyster neu symud ymlaen yn eu dewis faes.
Mae’n bosibl na fydd angen pwyntiau UCAS ar fyfyrwyr â phrofiad, ond rhaid dangos profiad a chymwyseddau perthnasol i ymgymryd â chymhwyster ar lefel addysg uwch.
Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio’n benodol ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd perthnasol a gwybodaeth bwnc-benodol ar gyfer ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth a gyrfa ym maes eang darparu gwasanaeth gofal iechyd.
Yn sgil y ffaith mai’r GIG yw’r cyflogwr mwyaf yng Nghymru a’r sylw a roddir i Iechyd Meddwl ar Agenda Llywodraeth Cymru a’r Llywodraeth Ganolog, gall y rhaglen hon helpu nid yn unig i ddatblygu casgliad cryf o sgiliau cyflogadwyedd a all helpu unigolion i ymuno ag ystod o broffesiynau yn gysylltiedig ag iechyd meddwl, ond hefyd ddarparu cyfle deniadol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus i’r rhai sydd eisoes yn gweithio yn y meysydd proffesiynol hyn.
Efallai bydd rhaid i fyfyrwyr wneud cais am, a chael, Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Y Drindod Dewi Sant. Mae'r ffi'n cael ei bennu gan y DBS; ar hyn o bryd, y ffi yw tua £44.
Mae’r Ysgol hefyd yn cynnig cyfleoedd dewisol i fyfyrwyr gymryd rhan mewn ymweliadau tu hwnt i'r campws. Rhaid i’r myfyrwyr dalu cost yr ymweliadau dewisol hyn.
- Deall Iechyd Meddwl (TystAU)
- Seicoleg (BSc)
- Seicoleg Gymhwysol (BSc)
- Seicoleg a Chwnsela (BSc)
Michelle Janes | BSc Iechyd Meddwl – myfyrwyr yr ail flwyddyn
“Mae’r cwrs wedi bod yn heriol a difyr; mae’r cymorth parhaus gan y staff yn wych.”
Ewch i’r adran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau am ragor o wybodaeth.
Ewch i’r adran llety i ddysgu rhagor.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r cyfarwyddwr rhaglen, Karen Eaton-Thomas ar (01267) 225147 neu drwy e-bost at K.EatonThomas@uwtsd.ac.uk.