Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Mesur Meintiau (BSc, HND, HNC)

Mesur Meintiau (BSc, HND, HNC)

Ymgeisio drwy UCAS – Llawn Amser

Mae’r rhaglen hon yn amodol ar ddilysu.

Daeth y Drindod Dewi Sant yn =3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr mewn Adeiladu

Complete University Guide 2023

Mae’r rhaglen yn darparu symbyliad deallusol, cymhwysiad ymarferol a datblygiad sgiliau addas i’ch gwneud chi’n fyfyriwr graddedig cymwys sy’n barod ar gyfer eich dewis rôl o fewn maes Mesur Meintiau.

Mae technoleg a darparu integredig yn chwarae rhan fwyfwy pwysig yn y diwydiant. Mae ymgynghori gyda grwpiau cyswllt â’r diwydiant, mewn cydweithrediad â’r Bwrdd Hyfforddi Diwydiant Adeiladu (CITB) a Chanolfan Arloesi Adeiladu Cymru (CWIC), Y Sefydliad Siartredig Adeiladu (CIOB), y Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) a chyrff proffesiynol eraill, wedi helpu’r brifysgol i ddatblygu rhaglen sydd wedi’i alinio mor agos â phosibl i ofynion ac anghenion y diwydiant adeiladu.

Mae modylau’n caniatáu i fyfyrwyr ddysgu drwy ddatrys problemau’n greadigol a gweithio’n gydweithredol. Mae’r cwrs hefyd yn cofleidio’r cymwyseddau deallusol ac ymarferol sy’n ofynnol gan gyrff proffesiynol, megis y CIOB a Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS). Byddwch yn datblygu arbenigedd ym meysydd rheoli costau, caffael, sgiliau meintoliad, rheoli risg, technegau costio, economeg dylunio a chaffael.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Mesur Meintiau (BSc)
Cod UCAS: K241
Gwnewch gais trwy UCAS

Mesur Meintiau (HND)
Cod UCAS: 042k
Gwnewch gais trwy UCAS

Mesur Meintiau (HNC)
Cod UCAS: QSUH
Gwnewch gais trwy UCAS


Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
E-bost Cyswllt: d.hughes@uwtsd.ac.uk
Enw'r cyswllt:: Dr Deborah Hughes


Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn?

  1. Mae gennym ddilyniant unigryw, o raglenni cyn gradd, BSc i MSc a graddau ymchwil sy’n ymgysylltu’n uniongyrchol â chyflogadwyedd a datrysiadau ar gyfer materion diwydiannol.
  2. Mae’r Ysgol wedi’i mewnosod yn niwydiant adeiladu Cymru gyda chysylltiadau agos â sefydliadau diwydiannol e.e. CIOB, RICS, CABE, CITB.
  3. Mae’n Ganolfan ragoriaeth ac arloesi ar gyfer Cymru a’r De-orllewin (CWIC).
  4. Mae’r staff yn aelodau o grŵp Ymchwil ac Arloesi Canolfan Arbenigedd Rhanbarthol Cymru yn ymwneud â’r Economi Gylchol.
  5. Cysylltiadau uniongyrchol a phrosiectau â TRADA.
  6. Prosiectau adeiladu cynaliadwy byw gyda Down to Earth.
  7. Cysylltiadau cadarn â’r diwydiannau rheoli gwastraff a rheoli adeiladu a gwastraff dymchwel.
  8. Ymarferwyr o’r diwydiant yn addysgu fel darlithwyr gyda lefel uchel o brofiad.
  9. Cyfradd cyflogadwyedd uchel ymhlith ein myfyrwyr ar ddiwedd eu hastudiaethau.
  10. Addysgu ac ymchwil trawsddisgyblaethol ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
  11. Rhaglenni MSc mewn Rheoli Eiddo a Chyfleusterau, Adeiladu Cynaliadwy a Chadwraeth a Rheolaeth Amgylcheddol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Fel y dywed Caroline Gumble (CEO y CIOB yn 2020), “Mae’r diwydiant adeiladu yn effeithio ar bawb, gan ddylanwadu ar gynhyrchiant a llesiant, creu’r cartrefi, ysbytai, ysgolion, gweithleoedd a seilwaith sy’n hanfodol ar gyfer ansawdd bywyd da,” ac mae’n mynd ymlaen i ddweud bod adeiladu yn “ddiwydiant cymhleth iawn ond eithriadol o gyffrous ac arloesol”.

Mae’r rheiny sy’n gweithio ar safleoedd adeiladu yn unig yn cyfrif am 6% o allbwn economaidd y DU, ond os gwnewch chi hefyd gynnwys y gwasanaethau fel syrfewyr meintiau, penseiri a pheirianwyr yn ogystal â llogwyr peiriannau a chyflenwyr adeiladu, mae’r allbwn yn agosach at ddwbl hynny. Mae hyn yn ganran mawr o allbwn economaidd y DU. 0} Hefyd, mae swyddi adeiladu’n talu’n dda, gan dalu cyfartaledd o 5% yn fwy na diwydiannau eraill, ac mae gan raddedigion yn y maes gyfleoedd yn y DU a thramor mewn amrywiaeth o yrfaoedd boddhaus.

Pynciau Modylau

Blwyddyn Un – Lefel 4 (HNC, HND a BSc)

  • Arolygu Digidol (20 credyd; gorfodol)
  • Amcangyfrif a Mesur Gwaith o fewn Amgylchedd Adeiladu (20 credyd; gorfodol)
  • Hanfodion Technoleg Adeiladu (20 credyd; gorfodol)
  • Cyflwyniad i Gyfrifoldebafu Contractau a Chyfreithiol yn yr Amgylchedd Adeiledig (20 credyd; gorfodol)
  • Gwyddor Faterol a Gwasanaethau Adeiladu (20 credyd; gorfodol)
  • Sgiliau Proffesiynol ac Iechyd a Diogelwch mewn Adeiladu (20 credyd; gorfodol).

Blwyddyn Dau – Lefel 5 (HND a BSc)

  • Adeiladu Modern a Thraddodiadol: Rheoli’r Broses Ddylunio ac Adeiladu (20 credyd; gorfodol)
  • Egwyddorion Mesur ac Amcangyfrif (20 credyd; gorfodol)
  • Rheoli Prosiectau a Gweinyddu Contractau (20 credyd; gorfodol)
  • Hunanddatblygiad, Arfer Proffesiynol a Rheoli Personél Adeiladu (20 credyd; gorfodol)
  • Rheoli Adeiladu Cynaliadwy (20 credyd; gorfodol)
  • Prosiect seiliedig ar Waith (20 credyd; gorfodol).

Blwyddyn Tri – Lefel 6 (BSc)

  • Uwch Dechnoleg Peirianneg Adeiladu a Sifil (20 credyd; gorfodol)
  • Rheoli Adeiladu (20 credyd; gorfodol)
  • Economeg Dylunio (20 credyd; gorfodol)
  • Prosiect Annibynnol (40 credyd; gorfodol; modwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
  • Prosiect Grŵp Integredig (20 credyd; gorfodol)
Asesiad

Fel arfer, mae’r asesiadau a ddefnyddir yn y Rhaglenni hyn yn ffurfiannol neu’n grynodol ac wedi’u cynllunio i sicrhau bod myfyrwyr yn dod yn ymwybodol o’u cryfderau a’u gwendidau. Fel arfer, bydd y math hwn o asesiadau wedi’i llunio ar ffurf ymarferion ymarferol lle mae dull ymarferol yn dangos gallu’r myfyriwr ar amrywiaeth o weithgareddau. Yn draddodiadol, caiff asesiad ffurfiol o fewn amser penodol ei gynnal drwy ddefnyddio profion ac arholiadau sydd, fel arfer, yn para dwy awr.

Mae arholiadau’n ddull traddodiadol o wirio mai gwaith y myfyriwr yntau yw’r gwaith a gynhyrchwyd. Er mwyn helpu dilysu gwaith cwrs y myfyriwr, y mae’n ofynnol mewn rhai modylau bod y myfyriwr a’r darlithydd yn trafod y testun a gaiff ei asesu ar sail unigol, gan adael y darlithydd i fonitro cynnydd.

Mae rhai modylau lle mae’r asesu’n seiliedig ar ymchwil yn gofyn bod myfyrwyr yn cyflwyno canlyniadau’r ymchwil ar lafar/yn weladwy i’r darlithydd a chyfoedion, gyda sesiwn holi ac ateb i ddilyn. Mae’r cyfryw strategaethau asesu yn cyd-fynd â’r strategaethau dysgu ac addysgu a ddefnyddir gan y tîm, hynny yw, lle’r nod yw creu gwaith sydd dan arweiniad myfyrwyr, yn unigol, yn adfyfyriol a phan fo’n briodol, wedi’i gyfeirio at alwedigaeth. Bydd adborth i fyfyrwyr yn digwydd ar ddechrau’r cyfnod astudio ac yn parhau gydol y cyfnod astudio a thrwy hynny ganiatáu ar gyfer ychwanegu gwerth o’r radd flaenaf at yr hyn y mae’r myfyriwr yn ei ddysgu.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. 

Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau. 

Dolenni Perthnasol

Dysgwch ragor am ein graddau mewn Adeiladu

Campws y Glannau Newydd Sbon

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad

Mesur Meintiau (HND)

Bydd angen 96 pwynt Tariff UCAS arnoch yn y Safonau Uwch neu eu cywerth (240 o bwyntiau tariff UCAS yn flaenorol).

Mesur Meintiau (BSc)

Bydd angen 96 pwynt Tariff UCAS arnoch yn y Safonau Uwch neu eu cywerth (240 o bwyntiau tariff UCAS yn flaenorol).

Blwyddyn Sylfaen mewn STEM (Ffrwd Amgylcheddol)

Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â'ch cymwysterau.

Cyfleoedd Gyrfa

Mae galw mawr am fesurwyr meintiau yn y DU ac mae diffyg ohonynt. Bydd y ffaith fod gweithlu’r DU yn heneiddio ac effaith Brexit yn golygu ei fod yn hanfodol i’r prinder sgiliau hyn cael ei ddatrys. Yng Nghymru’n unig, amcangyfrifir y bydd angen recriwtio 1,300 o bobl bob blwyddyn i lenwi’r bylchau fydd yn cael eu gadael yn y diwydiant o ganlyniad i ymddeoliadau. Nod y cwrs gradd hwn yw cynhyrchu graddedigion â’r sgiliau mesur meintiau sydd eu hangen i lenwi’r bwlch yn niwydiant adeiladu’r DU.

Mae adeiladu’n cyfrannu tua £132 biliwn i’r asedau sefydlog sy’n sail i economi’r DU. Yn ôl disgrifiad y CIOB (2020) mae gennym dros 28 miliwn o gartrefi, ¼ miliwn milltir o ffyrdd, 46 maes awyr, 350,000 milltir o garthffosydd a 10,000 milltir o reilffyrdd cenedlaethol. Yn fwy a mwy aml, fel diwydiant, rydym yn gweld effeithiau technolegau digidol ar y ffordd rydym yn gweithio, megis dronau a realiti rithwir ac estynedig. Hefyd, mae gan y diwydiant adeiladu ran bwysig i chwarae wrth symud tuag at well effeithlonrwydd ynni a chynaliadwyedd.

Dylunnir y rhaglen hon gan ystyried y materion uchod. Er enghraifft, mae deilliannau’r modylau yn mynd i’r afael â phryderon megis cynaladwyedd, effeithlonrwydd ynni, rheoli cyfleusterau, yn ogystal â’r deilliannau mwy cyfarwydd megis theorïau rheoli, llythrennedd, datrys problemau ac anghenion y cleient. Mae amrywiaeth o sgiliau uwch sydd wedi’u dylunio i integreiddio gyda’r deilliannau’r modylau yn atodi’r rhain.

Gwnaiff y rhaglen hon fodloni gofynion y diwydiant ac wrth wneud hynny, darparu profiad dysgu galwedigaethol cadarn sy’n gofyn llawer yn ddeallusol, sy’n gysylltiedig â chyrff diwydiannol a phroffesiynol, gofyniad sy’n bodloni anghenion myfyrwyr a chyflogwyr fel ei gilydd. Yn ychwanegol i hyn, mae y tîm rhaglen wedi datblygu amcanion ar gyfer y rhaglen sy’n cyfoethogi datblygiad cymhwysedd a hyfforddiant technegol ar lefel sy’n gallu bodloni gofynion cyfredol y diwydiant ar gyfer rheolaeth ganol.

Bydd graddedigion y Rhaglen Mesur Meintiau’n dod o hyd i waith naill ai ar ochr ymgynghori’r diwydiant fel Mesurwyr Meintiau, yn rhoi cyngor i gleientiaid ar economeg eu prosiectau datblygu, neu mewn rolau fel Rheolwyr Masnachol ar ochr gontractio’r diwydiant. Ar ddiwedd y cwrs, rhagwelir y bydd graddedigion wedi ennill sgiliau digonol i allu ymgymryd â rôl syrfëwr meintiau graddedig yn y naill sector neu’r llall. Mae gennym hanes cyflogaeth ardderchog ar gyfer ein myfyrwyr graddedig.

Costau Ychwanegol

Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hwn heb unrhyw gostau ychwanegol.

Efallai bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y prosiect mawr ond nid yw hyn yn ofynnol, ac ni fydd yn effeithio ar y marc terfynol.

Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

Cyfleoedd i Astudio Dramor

Ewch i dudalen Teithio’r Byd gyda’r Drindod Dewi Sant i ddysgu rhagor am gyfleoedd i astudio dramor.

Llety

Ewch i’r adran llety i ddysgu rhagor.

Gwybodaeth Pellach

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.