Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Peirianneg Sifil (BSc, HND, HNC)

Peirianneg Sifil (BSc, HND, HNC)

Ymgeisio Drwy UCAS - Llawn Amser

Mae’r rhaglen hon yn amodol ar ddilysu.

Caiff y cwrs gradd Peirianneg Sifil ei adeiladu o gwmpas pum prif faes: defnyddiau, strwythurau, geotechneg, arolygu a rheoli adeiladu. Caiff yr holl feysydd hyn eu nodi’n bynciau craidd sydd eu hangen yn y cwricwlwm peirianneg sifil, yn ôl y Cydfwrdd Cymedrolwyr ar gyfer rhaglenni gradd achrededig, os ydych yn bwriadu dilyn llwybr tuag at ddod yn beiriannydd siartredig.

Mae gan staff amrywiaeth eang o gysylltiadau â’r diwydiant adeiladu a ddatblygwyd fel ymarferwyr, ac fel aelodau o gyrff proffesiynol, yn ogystal â thrwy prosiectau cydweithredol diwydiannol a phrosiectau ymchwil mewn gwahanol feysydd peirianneg sifil.

Datblygir cysylltiadau agos gyda Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB), Canolfan Arloesi Adeiladu Cymru (CWIC) a’r sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB) Mae hyn yn darparu ystod eang o wybodaeth a phrofiad i gefnogi’ch cwrs, a rhagolygon cyflogadwyedd da fel peirianwyr sifil gyda’r cyfle i arallgyfeirio i feysydd cysylltiedig fel syrfewyr adeiladu a safleoedd.

Caiff pynciau fel peirianneg seilwaith trafnidiaeth neu beirianneg amgylcheddol eu hystyried mewn modylau penodol. Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o ddysgu seiliedig ar brosiectau gan ddefnyddio astudiaethau achos a senarios go iawn, ymweliadau â safleoedd, ymarferion arolygu ymarferol a phrofion labordy.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Peirianneg Sifil (BSc)
Cod UCAS: CEN1
Gwnewch gais drwy UCAS

Peirianneg Sifil (HND)
Cod UCAS: CEN8
Gwnewch Gais drwy UCAS

Peirianneg Sifil (HNC)
Cod UCAS: CEN9
Gwnewch Gais drwy UCAS

Dylai ymgeiswyr llawn amser wneud cais drwy UCAS. Dylai ymgeiswyr rhan amser wneud cais drwy’r Brifysgol.


Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am wybodaeth
E-bost Cyswllt: alan.nantel@uwtsd.ac.uk
Enw'r cyswllt:: Allan Lee Nantel


£9,000
£13,500

Pam dewis y cwrs hwn

  1. Mae gennym ddilyniant unigryw, o raglen cyn gradd, BSc i MSc a graddau ymchwil sy’n ymgysylltu’n uniongyrchol â chyflogadwyedd a datrysiadau ar gyfer materion diwydiannol.
  2. Mae’r Ysgol wedi’i mewnosod yn niwydiant adeiladu Cymru gyda chysylltiadau agos â sefydliadau diwydiannol e.e. CIOB, RICS, CABE a CITB.
  3. Mae’n Ganolfan Ragoriaeth ac arloesi i Gymru a’r De-orllewin (CWIC).
  4. Mae’r staff yn aelodau o grŵp Ymchwil ac Arloesedd Canolfan Arbenigedd Rhanbarthol Cymru yn ymwneud â’r Economi Gylchol.
  5. Cysylltiadau uniongyrchol a phrosiectau â TRADA.
  6. Prosiectau adeiladu cynaliadwy gyda Down to Earth.
  7. Cysylltiadau cadarn â’r diwydiannau rheoli gwastraff a rheoli adeiladu a gwastraff dymchwel.
  8. Ymarferwyr y diwydiant yn addysgu fel darlithwyr gyda lefel o brofiad uchel.
  9. Cyfradd cyflogadwyedd uchel ymhlith ein myfyrwyr ar ddiwedd eu hastudiaethau.
  10. Addysgu trawsddisgyblaethol ac ymchwil ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
  11. Rhaglenni MSc mewn Rheoli Eiddo a Chyfleusterau, Adeiladu Cynaliadwy a Chadwraeth a Rheolaeth Amgylcheddol. 

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Fel y dywed Caroline Gumble (Prif Swyddog Gweithredol y CIOB yn 2020) "Mae'r diwydiant adeiladu yn effeithio ar bawb, gan ddylanwadu ar gynhyrchiant a llesiant, creu'r cartrefi, ysbytai, ysgolion, gweithleoedd a seilwaith sy'n hanfodol ar gyfer ansawdd bywyd da" ac mae'n mynd ymlaen i ddweud bod adeiladu yn ddiwydiant hynod gymhleth ond hynod gyffrous ac arloesol.

Mae'r rhai sy'n gweithio ar safleoedd adeiladu yn cyfrif am 6% o allbwn economaidd y DU, ond os ychwanegwch chi hefyd y gwasanaethau megis syrfewyr meintiau, penseiri a pheirianwyr, yn ogystal â hurio planhigion a chyflenwyr adeiladu, mae'r allbwn bron yn ddwywaith cymaint â hynny.  Mae hon yn ganran fawr o allbwn economaidd y DU.  Mae'r diwydiant adeiladu yn darparu swyddi ar gyfer tua 2.3 miliwn o bobl, sef dros 7% o gyfanswm y DU. Mae swyddi adeiladu hefyd yn ennill 5% yn fwy na diwydiannau eraill ar gyfartaledd, a chaiff graddedigion yn y maes hwn gyfleoedd yn y DU a thramor mewn amrywiaeth o yrfaoedd gwerth chweil. 

Pynciau Modylau

Blwyddyn Un: Lefel 4 - BSc/HND/HNC

  • Materion Amgylcheddol a Sgiliau Academaidd
  • Technoleg Peirianneg Sifil 1
  • Arolygu
  • Gwyddor Defnyddiau
  • Mathemateg Peirianneg a Strwythurau
  • Modelu Gwybodaeth Adeiladu a CAD

Blwyddyn Dau: Lefel 5 - BSc/HND

  • Monitro’r Amgylchedd a Thechnoleg
  • Technoleg Peirianneg Sifil 2
  • Daeareg a Mecaneg Priddoedd
  • Cynhyrchu Safle a Rheoli Prosiect
  • Arferion a Gweithdrefnau Contract
  • Dulliau Ymchwil a GIS

Blwyddyn Tri: Lefel 6 - BSc

  • Technoleg Peirianneg Sifil 3
  • Rheoli Prosiectau Peirianneg Sifil ac Asesu’r Amgylchedd
  • Monitro a Rheoli Cynllunio Prosiectau
  • Prosiect Integredig 3
  • Prosiect Ymchwil Unigol.
Asesiad

Fel arfer, mae’r asesiadau a ddefnyddir yn y Rhaglenni hyn yn ffurfiannol neu yn grynodol. Dylunnir yr asesiad blaenorol er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn dod yn ymwybodol o’u cryfderau a’u gwendidau.

Yn nodweddiadol, bydd y math asesiadau wedi’u llunio ar ffurf ymarferion ymarferol, lle mae ymagwedd fwy ymarferol yn dangos gallu’r myfyriwr i ymgymryd ag  amrywiaeth o weithgareddau. Yn draddodiadol, caiff asesiad ffurfiol o fewn amser penodol ei gynnal drwy ddefnyddio profion ac arholiadau sydd, fel arfer, yn ddwy awr o hyd. 

Mae arholiadau yn ffordd draddodiadol o wireddu mai gwaith y myfyrwyr eu hunain yw’r gwaith a gyflwynir.  Er mwyn helpu dilysu gwaith cwrs y myfyriwr, y mae’n ofynnol mewn rhai modylau bod y myfyriwr a’r darlithydd yn trafod y testun a gaiff ei asesu ar sail unigol, gan adael y darlithydd  i fonitro cynnydd.

Mae rhai modylau lle mae’r asesu’n seiliedig ar ymchwil yn gofyn bod myfyrwyr yn cyflwyno canlyniadau eu hymchwil i’r darlithydd a’u cymheiriaid ar lafar / yn weledol, a chaiff hyn ei ddilyn gan sesiwn cwestiwn ac ateb. 

Mae’r math strategaethau asesu yn cyd-fynd â’r strategaethau dysgu ac addysgu a ddefnyddir gan y tîm, hynny yw, lle’r bwriad yw cynhyrchu gwaith sydd yn cael ei yrru’n bennaf gan y myfyriwr, gwaith unigol, adfyfyriol, a lle bo’n addas, yn alwedigaethol ei ffocws.

Caiff adborth ei roi i fyfyrwyr yn gynnar yn ystod y cyfnod astudio, a bydd hyn yn parhau drwy gydol y sesiwn astudio gyfan, gan ganiatáu y caiff mwy o werth ei ychwanegu at ddysgu’r myfyriwr.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. 

Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau. 

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad

Peirianneg Sifil (BSc)
Bydd angen 96 pwynt Tariff UCAS arnoch yn y Safonau Uwch neu eu cywerth (240 o bwyntiau tariff UCAS yn flaenorol)

Peirianneg Sifil (HND)
Bydd angen 48 pwynt Tariff UCAS arnoch yn y Safonau Uwch neu eu cywerth (120 o bwyntiau tariff UCAS yn flaenorol)

Peirianneg Sifil (HNC)
Bydd angen 32 pwynt Tariff UCAS arnoch yn y Safonau Uwch neu eu cywerth (80 o bwyntiau tariff UCAS yn flaenorol)

Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis cwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â'ch cymwysterau.

Cyfleoedd Gyrfa

Gwnaiff y rhaglen hon fodloni gofynion y diwydiant ac wrth wneud hynny darparu profiad dysgu galwedigaethol cadarn sy’n gofyn llawer yn academaidd, sy’n gysylltiedig â chyrff diwydiannol a phroffesiynol, gofyniad sy’n bodloni anghenion myfyrwyr a chyflogwyr fel ei gilydd. Yn ychwanegol i hyn, mae’r tîm rhaglen wedi datblygu amcanion y rhaglen er mwyn cyfoethogi datblygiad cymhwysedd technegol a hyfforddiant ar lefel sy’n gallu bodloni gofynion cyfredol y diwydiant ar gyfer rheolaeth ganol.

Mae’r llwybr Peirianneg Sifil a Rheoli’r Amgylchedd wedi’i drefnu er mwyn darparu graddedigion ag ystod o sgiliau a wnaiff eu galluogi i gael swyddi o fewn sefydliadau cleientiaid a sefydliadau contractio. Mae natur amrywiol y llwybr sy’n ffocysu ar faterion amgylcheddol a materion peirianneg sifil yn cynnig i fyfyrwyr amrywiaeth o yrfaoedd posib yn y meysydd hyn.

Mae deilliannau’r modylau yn mynd i’r afael â phryderon megis cynaladwyedd, effeithlonrwydd ynni, rheoli cyfleusterau, yn ogystal â’r deilliannau mwy cyfarwydd megis theorïau rheoli, llythrennedd, datrys problemau ac anghenion y cleient. Mae amrywiaeth o sgiliau uwch sydd wedi’u dylunio i integreiddio gyda deilliannau’r modylau yn atodi’r rhain.

Costau Ychwanegol

Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis prif brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol. 

Cyrsiau Cysylltiedig
  • Mesur Meintiau (BSc, HND, HNC)
  • Arolygu Adeiladau (BSc, HND, HNC)
  • Rheolaeth Adeiladu (BSc, HND, HNC)
Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau i ddysgu rhagor.

Llety

Ewch i adran Llety Abertawe i ddysgu rhagor.