Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Rheolaeth Adeiladu (BSc, HND, HNC)

Rheolaeth Adeiladu (BSc, HND, HNC)

Ymgeisio Drwy UCAS - Llawn Amser

Mae’r rhaglen hon yn amodol ar ddilysu.

Daeth y Drindod Dewi Sant yn gydradd 3ydd am foddhad myfyrwyr o ran Adeiladu - Complete University Guide 2023.

Gyda phwyslais arbennig ar eich paratoi ar gyfer gyrfa broffesiynol ddeinamig ym maes Rheolaeth Adeiladu, mae ymgynghori a chydweithio gyda Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB), Canolfan Arloesi Adeiladu Cymru (CWIC) a’r Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB) wedi ein helpu i ddatblygu rhaglen sydd mor agos â phosibl i ofynion y diwydiant adeiladu o ran sgiliau, i arloesi prosiectau blaengar a deinamig a fydd yn cefnogi a chyfoethogi cymunedau i mewn i’r ganrif nesaf.

Mae’r diwydiant adeiladu cyfoes yn wynebu heriau globaleiddio, newid yn yr hinsawdd, cleientiaid sy’n gofyn llawer a fframwaith rheoleiddio cymhleth. Mae technoleg a darpariaeth integredig yn chwarae rôl sy’n gynyddol bwysig yn y diwydiant. Mae’r cwrs yn eich paratoi i ddelio gyda’r heriau hyn mewn meysydd fel yr agweddau cyfreithiol, technegol, rheolaethol, economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ar brosiect adeiladu, gan roi i chi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth i wneud dewisiadau gwybodus, sicrhau effeithlonrwydd, ansawdd ac osgoi risg ar gyfer y prosiect.

Mae modylau craidd Rheolaeth Adeiladu yn caniatáu i fyfyrwyr ddysgu trwy ddulliau datrys problemau creadigol a gwaith cydweithredol. Mae’r cwrs hefyd yn cofleidio’r medrau deallusol ac ymarferol sydd eu heisiau gan gyrff proffesiynol, fel y Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB). Byddwch yn datblygu arbenigedd mewn technoleg adeiladu a chynllunio prosiect, rheolaeth prosiect a medrau digidol.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Dewisiadau Llwybr

Rheolaeth Adeiladu (BSc)
Cod UCAS:  CSM1
Gwnewch gais drwy UCAS

Rheolaeth Adeiladu (HND)
Cod UCAS:  CSM8
Gwnewch gais drwy UCAS


Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
E-bost Cyswllt: alan.nantel@uwtsd.ac.uk
Enw'r cyswllt:: Allan Lee Nantel

Pam dewis y cwrs hwn

  1. Mae gennym ddilyniant unigryw, o raglen cyn gradd, BSc i MSc a graddau ymchwil sy’n ymgysylltu’n uniongyrchol â chyflogadwyedd a datrysiadau ar gyfer materion diwydiannol.
  2. Mae’r Ysgol wedi’i mewnosod yn niwydiant adeiladu Cymru gyda chysylltiadau agos â sefydliadau diwydiannol e.e. CIOB, RICS, CABE a CITB.
  3. Mae’n Ganolfan ragoriaeth ac arloesi i Gymru a’r De-orllewin (CWIC).
  4. Mae’r staff yn aelodau o grŵp Ymchwil ac Arloesedd Canolfan Arbenigedd Rhanbarthol Cymru yn ymwneud â’r Economi Gylchol.
  5. Cysylltiadau uniongyrchol a phrosiectau â TRADA.
  6. Prosiectau adeiladu cynaliadwy byw gyda Down to Earth.
  7. Cysylltiadau cadarn â’r diwydiannau rheoli gwastraff a rheoli adeiladu a gwastraff dymchwel.
  8. Ymarferwyr y diwydiant yn addysgu fel darlithwyr gyda lefel o brofiad uchel.
  9. Cyfradd cyflogadwyedd uchel ymhlith ein myfyrwyr ar ddiwedd eu hastudiaethau.
  10. Addysgu trawsddisgyblaethol ac ymchwil ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
  11. Rhaglenni MSc mewn Rheoli Eiddo a Chyfleusterau, Adeiladu Cynaliadwy a Chadwraeth a Rheolaeth Amgylcheddol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r Diwydiant Adeiladu yn parhau i gynnig gwaith gwerth chweil a sefydlog yn y DU a thramor, o adeiladu tai i brosiectau seilwaith a chyfalaf mawr, a’r cyfan yn cael ei wneud gyda chymorth dulliau cynaliadwy, ac ethos o ofal cymunedol ac amgylcheddol. 

O'i ystyried yn ei gyfanrwydd, mae'n cyfrannu'n helaeth at gynnyrch domestig gros y DU (tua 9% yn uniongyrchol yn 2020, gan godi i tua 10% yn gyffredinol, pan ystyrir y gadwyn werth gyfan). Heb os, mae'n sbardun i dwf cynnyrch domestig gros hanesyddol yn y DU. 

Mae cadwyn werth y diwydiant yn cynnwys tua 300,000 o gwmnïau, gan gynnwys llawer o fusnesau teuluol a lleol bach a chanolig eu maint. Mae'r rhain yn cyflogi dros 3 miliwn o bobl mewn llu o rolau sy'n cynrychioli 8% o holl weithwyr y DU. Mae’r cyfleoedd gwaith yn amrywiol eu natur, o reoli prosiectau, dylunio a chostio, i ymchwilio ar y safle mewn dichonoldeb, logisteg gweithrediadau, cynllunio a gosod offer a gwasanaethau adeiladu. 

Mae'r cwrs Rheoli Adeiladu yn Y Drindod Dewi Sant yn cynnig dealltwriaeth i fyfyrwyr o dechnegau dylunio, methodoleg a gweithrediad prosiectau o'r cychwyn cyntaf i drosglwyddo cleientiaid, gan ddefnyddio astudiaethau achos ledled y DU a'r byd i feithrin gwybodaeth am ddefnydd ymarferol a sgiliau proffesiynol ar gyfer gwaith. 

Pynciau Modylau

Lefel 4:

  • Hanfodion Technoleg Adeiladu
  • Rheoli Iechyd, Diogelwch a Risg
  • Cyfrifoldebau Contract a Chyfrifoldebau
  • Gweithio gyda Thechnoleg Digidol
  • Gwyddor Deunyddiau a Gwasanaethau Adeiladu
  • Arolygu Digidol

Lefel 5:

  • Llunwyr Newid
  • Adeiladu Modern a Thraddodiadol
  • Rheoli Prosiect a Gweinyddiaeth Contract
  • Cynllunio Prosiect ar gyfer Adeiladu
  • Hunan-ddatblygiad, Arfer Proffesiynol, a Rheoli Personél Adeiladu
  • BIM

Lefel 6:

  • Prosiect Annibynnol
  • Prosiect Grŵp Integredig
  • Technoleg Adeiladu a Pheirianneg Sifil Uwch
  • Rheolaeth Adeiladu
  • Rheolaeth Cadwraeth Adeiladu, Asedau a Chyfleusterau
Asesiad

Asesu

Fel arfer, mae’r asesiadau a ddefnyddir yn y Rhaglenni hyn yn ffurfiannol neu yn grynodol. Dylunnir yr asesiad blaenorol er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn dod yn ymwybodol o’u cryfderau a’u gwendidau.

Yn nodweddiadol, bydd y math asesiadau wedi’u llunio ar ffurf ymarferion ymarferol, lle mae ymagwedd fwy ymarferol yn dangos gallu’r myfyriwr i ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau. Yn draddodiadol, caiff asesiad ffurfiol o fewn amser penodol ei gynnal drwy ddefnyddio profion ac arholiadau sydd, fel arfer, yn ddwy awr o hyd. 

Mae arholiadau yn ffordd draddodiadol o wireddu mai gwaith y myfyrwyr eu hunain yw’r gwaith a gyflwynir.  Er mwyn helpu dilysu gwaith cwrs y myfyriwr, y mae’n ofynnol mewn rhai modylau bod y myfyriwr a’r darlithydd yn trafod y testun a gaiff ei asesu ar sail unigol, gan adael y darlithydd i fonitro cynnydd.

Mae rhai modylau lle mae’r asesu’n seiliedig ar ymchwil yn gofyn bod myfyrwyr yn cyflwyno canlyniadau eu hymchwil i’r darlithydd a’r cymheiriaid ar lafar / yn weledol, a chaiff hyn ei ddilyn gan sesiwn cwestiwn ac ateb.

Mae’r math strategaethau asesu yn cyd-fynd â’r strategaethau dysgu ac addysgu a ddefnyddir gan y tîm, hynny yw, lle’r bwriad yw cynhyrchu gwaith sydd yn cael ei yrru bennaf gan y myfyriwr, gwaith unigol, adfyfyriol, a lle bo’n addas, yn alwedigaethol ei ffocws.

Caiff adborth ei roi i fyfyrwyr yn gynnar yn ystod y cyfnod astudio, a bydd hyn yn parhau drwy gydol y sesiwn astudio gyfan, gan ganiatáu y caiff mwy o werth ei ychwanegu at ddysgu’r myfyriwr.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. 

Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau. 

Gwybodaeth allweddol

Staff
Meini Prawf Mynediad

Meini Prawf Mynediad

Rheolaeth Adeiladu (BSc)

Bydd angen 96 pwynt Tariff UCAS arnoch yn y Safonau Uwch neu eu cywerth (240 o bwyntiau tariff UCAS yn flaenorol)

Rheolaeth Adeiladu (HND)

Bydd angen 48 pwynt Tariff UCAS arnoch yn y Safonau Uwch neu eu cywerth (120 o bwyntiau tariff UCAS yn flaenorol).

Rheolaeth Adeiladu (HNC)

Bydd angen 40 pwynt Tariff UCAS arnoch yn y Safonau Uwch neu eu cywerth (100 o bwyntiau tariff UCAS yn flaenorol).

Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd.

Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis cwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â'ch cymwysterau.

Blwyddyn Sylfaen mewn STEM (ffrwd amgylcheddol)
Fersiwn Saesneg - STEM (CertHE)

Cyfleoedd Gyrfa

Cyfleoedd Gyrfaol

Gwnaiff y rhaglen hon fodloni gofynion y diwydiant ac wrth wneud hynny darparu profiad dysgu galwedigaethol cadarn sy’n gofyn llawer yn academaidd, sy’n gysylltiedig â chyrff diwydiannol a phroffesiynol, gofyniad sy’n bodloni anghenion myfyrwyr a chyflogwyr fel ei gilydd.

Yn ychwanegol i hyn, mae’r tîm rhaglen wedi datblygu amcanion y rhaglen er mwyn cyfoethogi datblygiad cymhwysedd a hyfforddiant technegol ar lefel sy’n gallu bodloni gofynion cyfredol y diwydiant ar gyfer rheolaeth ganol.

Mae deilliannau’r modylau yn mynd i’r afael â phryderon megis cynaladwyedd, effeithlonrwydd ynni, rheoli cyfleusterau, yn ogystal â’r deilliannau mwy cyfarwydd megis theorïau rheoli, llythrennedd, datrys problemau ac anghenion y cleient. Mae amrywiaeth o sgiliau uwch sydd wedi’u dylunio i integreiddio gyda deilliannau’r modylau yn atodi’r rhain.

Costau Ychwanegol

Costau Ychwanegol

Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis prif brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol. 

Cyrsiau Cysylltiedig

Cyrsiau Cysylltiedig

  • Peirianneg Sifil a Rheolaeth Amgylcheddol
  • Mesur Meintiau
Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

Llety

Gweler ein tudalennau llety i gael rhagor o wybodaeth Llety.