Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Cyfrifiadura (Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiber Ddiogelwch) (BSc, HND, HNC, Mynediad Sylfaen)
Tair prif thema’r rhaglen hon yw Llwybro a Switsio, Diogelwch a Gwaith Fforensig. Byddwch yn ymgymryd ag ystod o dasgau cysylltiedig â rhwydweithio mewn sefydliadau ac yn gallu datblygu datrysiadau soffistigedig i broblemau rhwydwaith pan fyddwch yn graddio o’r rhaglen hon. Fel arfer, byddai disgwyl i chi allu gweithredu a gweinyddu seilwaith rhwydwaith ar gyfer sefydliad.
Lluniwyd y rhaglen hon i gyfoethogi perthnasedd diwydiannol drwy ganolbwyntio ar gymhwyso theori’n ymarferol gan gynnal trylwyredd academaidd. Mae hyn yn gwneud y rhaglen yn hollol wahanol i raddau cyfrifiadura traddodiadol.
Nod y rhaglen yw datblygu dealltwriaeth o agweddau allweddol ar ystod o gysyniadau, egwyddorion a thechnegau sy’n gysylltiedig â seilwaith a gwasanaethau rhwydwaith. Byddwch yn dysgu i ddewis y technolegau, technegau ac offer cywir i’w defnyddio, a’u cymhwyso’n briodol. Byddwch hefyd yn adnabod problemau, llunio datrysiadau, a dadansoddi technolegau rhwydweithio a chysyniadau a gymhwysir wrth ddatrys problemau wedi’u diffinio’n fras neu wrth ddatblygu datrysiadau rhwydwaith i fodloni gofynion yn y byd go iawn.
Mae’r rhaglen yn cynnwys y deunydd sydd ei angen ar gyfer cymhwyster Cydymaith Rhwydwaith Ardystiedig Cisco (CCNA).
Gall myfyrwyr weithio tuag at y cymhwyster hwn a gydnabyddir ar draws y byd, ochr yn ochr â’u gradd BSc.
Cyfrifiadura (Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiber Ddiogelwch)
BSc | Rhaglen Radd 3 Blynedd (Lefelau 4 i 6)
Cod UCAS: 233S
Gwnewch gais drwy UCAS
HND | Rhaglen 2 Flynedd (Lefelau 4 i 5)
Cod UCAS: 121T
Gwnewch gais drwy UCAS
BSc | Rhaglen 4 Blynedd gyda Mynediad Sylfaen (Lefelau 3 i 6)
Cod UCAS: CNS1
Gwnewch gais drwy UCAS
STEM Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (Ffrwd Gyfrifiadura)
Rhaglen Sylfaen 1 Flwyddyn (Lefel 3 i 4)
Cod UCAS: SCT1
Gwnewch gais drwy UCAS
CADW LLE AR DDIWRNOD AGORED CAIS AM WYBODAETH blog cyfrifiadur
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
- Wedi’i addysgu gan staff sydd ag ardystiadau academaidd a diwydiannol perthnasol.
- Ceir profiad ymarferol gyda llwybryddion, switsys, waliau tân a meddalwedd Cisco a ddefnyddir o fewn y diwydiant rhwydweithio a diogelwch.
- Wedi’i gyfuno ag ardystiad Llwybro a Switsio CCNA y mae galw mawr amdano.
- Dysgu a chynnal profion treiddio, ymchwiliadau hacio a fforensig moesegol.
- Rhoi ichi’r holl sgiliau sydd eu hangen i fynd i weithio yn y diwydiant rhwydweithio a diogelwch.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Nod y rhaglen hon yw darparu gwybodaeth a sgiliau trylwyr ym maes arbenigol rhwydweithio. Bydd myfyrwyr yn defnyddio’u harbenigedd i ddylunio, gweithredu a datrys problemau seilwaith rhwydwaith cymhleth. Mae’r Ysgol yn Academi Cisco, yn Ganolfan Cymorth Academi a Chanolfan Hyfforddi Hyfforddwyr. Mae’r Ysgol wedi bod yn cyflwyno rhaglen Academi Rhwydweithio Cisco ers 1999.
Caiff y rhaglen israddedig ei chyfuno â chwricwlwm Cydymaith Rhwydwaith Ardystiedig Cisco (CCNA). Cisco yw prif weithgynhyrchwr dyfeisiau rhwydwaith y byd ac mae’r CCNA yn gymhwyster proffesiynol blaenllaw yn y diwydiant rhwydweithio.
Modylau Blwyddyn 0 - Mynediad Sylfaen
- Ysgrifennu Academaidd (20 credyd)
- Prosiect Integreiddio (20 credyd)
- Mathemateg (10 credyd)
- Gwyddoniaeth (10 credyd)
- Systemau Cyfrifiadurol (20 credyd)
- Cyflwyniad i Raglennu Cyfrifiadurol (20 credyd)
- Dadansoddi a Datrys Problemau neu Fathemateg Bellach (20 credyd)
Modylau Blwyddyn 1 - MComp/BSc/HND/HNC
- Sgiliau Academaidd a Chyflogadwyedd (20 credyd)
- Pensaernïaeth a Rhwydweithiau Cyfrifiadurol (20 credyd)
- Dadansoddi Data a Delweddu (20 credyd)
- Peirianneg Gwybodaeth (20 credyd)
- Technoleg a Diogelwch Rhyngrwyd (20 credyd)
- Datblygu Meddalwedd (20 credyd)
Modylau Blwyddyn 2 - MComp/BSc/HND
- Gwaith Fforensig Cyfrifiadurol (20 credyd)
- Prosiect Grŵp Menter ac Arloesi (20 credyd) (Sylwer: Myfyrwyr llawn amser yn unig)
- Prosiect seiliedig ar Waith Llywodraethu, Deddfwriaeth a Moeseg (20 credyd) (Sylwer: Myfyrwyr rhan amser yn unig)
- Rheoli Prosiect a Dulliau Ymchwil (20 credyd)
- Cysyniadau Llwybro a Switsio (20 credyd)
- Dyfeisiau Clyfar a Chysylltiedig 1 (20 credyd)
- Rhwydweithiau ac Efelychu Diwifr (20 credyd)
Modylau Blwyddyn 3 - MComp/BSc
- Prosiect Mawr (40 credyd)
- Diogelwch Rhwydweithiau Uwch (20 credyd)
- Cysyniadau Llwybro a Switsio (20 credyd)
- Dyfeisiau Clyfar a Chysylltiedig 2 (20 credyd)
- Rhwydweithiau Ardal Eang (20 credyd)
Mae MComp Cyfrifiadura (Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiber Ddiogelwch) yn rhaglen israddedig pedair blynedd a ariennir yn llawn, sy’n arwain at gymhwyster lefel Meistr. Byddai disgwyl i chi ymuno â chyflogwyr ar lwybr carlam at reolaeth drwy ddysgu sgiliau arbenigol mewn:
- Diogelwch Data (20 credyd)
- Technolegau Rhwydwaith sy’n Dod i’r Amlwg (20 credyd)
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth (20 credyd)
- Prosiect Grŵp (60 credyd)
Sylwer: Mae mynediad Blwyddyn Sylfaen ar gael hefyd. Gweler y Flwyddyn Sylfaen ar gyfer Cyfrifiadura ac Electroneg. Mae gennym hefyd opsiynau “Blwyddyn ym Myd Diwydiant.”
Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw cynhyrchu graddedigion sy’n helpu i siapio dyfodol seilweithiau rhwydwaith. Mae cynnwys y cwrs yn gyfoes ac wedi’i lunio er mwyn annog cyflogadwyedd drwy gysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol.
Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o asesiadau ymarferol yn y labordy, aseiniadau, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau. Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniadau, neu aseiniad ac arholiad. Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modylau gynnwys gosod a chwblhau un neu fwy darn o waith cwrs yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.
Anogir myfyrwyr i ddefnyddio ein cysylltiadau gyda Chynghrair Meddalwedd Cymru a Go Wales i weithio ar gynlluniau masnachol ar gyfer eu modwl Prosiect Mawr. Mae Go Wales yn darparu’r cyfle i fynd ar leoliadau gwaith â chyflog gyda busnesau lleol.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.
Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
- Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Dolenni Cysylltiedig

Arddangosfeydd Prosiect Blwyddyn Olaf

Achrediadau Proffesiynol

Achrediadau Proffesiynol
Mae cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus yn cynnig y cyfle i gofrestru gan Gymdeithas Cyfrifiadurol Prydain (BCS) Gweithwyr Proffesiynol TG Siartredig (CITP) ar gyfer statws llawn.
Gwybodaeth allweddol
MComp Cyfrifiadura (Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Diogelwch) – COD UCAS: 515R
120 o bwyntiau tariff UCAS (300 cynt) i gynnwys:
- Dwy radd C Safon Uwch/AVCE; neu
- Diploma Cenedlaethol BTEC graddau Teilyngdod, Pas, Pas; neu
- Tystysgrif Genedlaethol BTEC graddau Teilyngdod, Teilyngdod; neu
- NVQ Lefel 3 - Pas
Dylai pynciau Lefel Uwch gynnwys Cyfrifiadura, TGCh, Mathemateg, Gwyddoniaeth neu debyg.
Mae TGAU Mathemateg Gradd 4 (C cynt) neu uwch yn ddewisol.
BSc Cyfrifiadura (Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiber Ddiogelwch) – COD UCAS: 233S
104 pwynt tariff UCAS (260 cynt) gan gynnwys:
- Dwy radd C Safon Uwch/AVCE; neu
- Diploma Cenedlaethol BTEC graddau Pas, Pas, Pas; neu
- Tystysgrif Genedlaethol BTEC graddau Teilyngdod, Pas; neu
- NVQ Lefel 3 - Pas
Sylwer y dylai/gall pynciau Lefel Uwch gynnwys TGCh, Cyfrifiadura, Mathemateg, Ffiseg neu debyg.
Mae TGAU Mathemateg Gradd 4 (C cynt) neu uwch yn ddewisol.
HND Cyfrifiadura (Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Diogelwch) – COD UCAS: 121T
48 pwynt tariff UCAS (120 cynt) gan gynnwys:
- Un radd C Safon Uwch/AVCE
- Diploma/Tystysgrif/Dyfarniad Cenedlaethol BTEC – Pas; NVQ Lefel 3 – Pas.
Dylai pynciau Lefel Uwch gynnwys, Mathemateg, TGCh, Ffiseg neu debyg.
Mae TGAU Mathemateg Gradd 4 (C cynt) neu uwch yn ddewisol.
HND Cyfrifiadura (Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Diogelwch) – COD UCAS: 012H
40 pwynt tariff UCAS (100 cynt)
Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â'ch cymwysterau.
Cynnig Bagloriaeth Ryngwladol Nodweddiadol:
Cysylltwch â computing@uwtsd.ac.uk am ragor o wybodaeth.
Arall:
Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rheiny sy’n cynnig cymwysterau amgen. Cysylltwch â computing@uwtsd.ac.uk am ragor o wybodaeth.
Blwyddyn Sylfaen mewn STEM – COD UCAS: HG1F
Mae’r rhaglen yn pwysleisio pedair thema allweddol o fewn Rhwydweithio Cyfrifiadurol: llwybro a switsio, technolegau rhwydwaith sy’n dod i’r amlwg, dylunio rhwydweithiau a diogelwch.
Bydd graddedigion yn gallu ymgymryd ag ystod o dasgau cysylltiedig â rhwydweithio mewn sefydliadau ac yn gallu datblygu datrysiadau soffistigedig i broblemau rhwydweithio.
Rhagwelir bod graddedigion ym maes rhwydweithiau cyfrifiadurol (RhC) yn gallu dod o hyd i waith mewn nifer o wahanol feysydd o RhC, gan gynnwys llwybro a switsio, dylunio rhwydweithiau a diogelwch.
Disgwylir i raddedigion chwilio am swyddi fel:
- Gweinyddwyr Rhwydwaith
- Cymdeithion Rhwydwaith
- Peirianwyr Rhwydwaith
- Gweinyddwr System
Dyma broffiliau rhai o raddedigion y rhaglen hon a lle maen nhw nawr:
Ceir yr holl ardystiadau gan raddedigion yma:
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis prif brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol.
Robert Leyshon BSc (Anrh) Rhwydweithiau Cyfrifiadurol
“Rwyf wedi dechrau swydd wych, mis ar ôl graddio, gyda CGI fel Peiriannydd Wintel Iau. Oni bai am fy mhrosiect blwyddyn olaf, dwi ddim yn credu y bydden i wedi llwyddo i gael y swydd.”
Simon Downes BSc (Anrh) Rhwydweithiau Cyfrifiadurol
“Am ein bod yn rhan o academi CISCO rydym yn cael mynediad i hyfforddiant a datblygiad o safon diwydiant, a mynediad i gyrsiau CCNA gan gynnwys arholiadau ac ardystiad. Mae’r rhaglen Rhwydweithiau Cyfrifiadurol ei hun yn hynod ymarferol, rydym yn gwneud llawer o waith labordy ac yn dod i ddeall sut i fewnosod, ffurfweddu a datrys problemau materion rhwydweithio mewn amgylcheddau real. Mae hyn yn rhoi i chi gymwysterau a gydnabyddir yn fyd-eang ond hefyd meddu ar yr agwedd ymarferol honno, mae’n eich paratoi at fyd gwaith. Gan fod y dyfodol yn rhoi llawer o bwys ar gyfrifiaduron a rhwydweithiau h.y. y rhwydwaith pethau, mae e bellach yn reidrwydd. Y dyddiau hyn, mae gan bawb yr offer sydd ei angen i gysylltu â’r we ond nid ydynt o reidrwydd yn gwybod sut i gadw’n ddiogel, mae’r math yma o wybodaeth yn amhrisiadwy.”
Aaron Cowdry BSc (Anrh) Rhwydweithiau Cyfrifiadurol
“Roedd gen i fwy o ddiddordeb mewn rhwydweithiau na’r llwybr Gwyddor Cyfrifiadurol mwy traddodiadol. Rwy’n gwneud fy mhrosiect blwyddyn olaf ar brofion treiddio rhwydwaith diwifr, i wirio a yw rhwydwaith yn ddiogel. Mae dysgu am ddiogelwch mewn rhith-beiriannau yn faes sy’n tyfu ac mae’r galw am ddiogelwch yn enfawr. Mae’r defnydd o galedwedd CISCO yn unigryw i’r Brifysgol hon, gan ein galluogi i gael y sgiliau sydd eu hangen ar y diwydiant, er enghraifft, datrys y problemau sy’n codi wrth ddefnyddio’r caledwedd na fyddech yn eu profi pe baech ond yn defnyddio Olrheiniwr Pecyn CISCO (efelychydd). Buaswn yn argymell y cwrs oherwydd mae’r staff yn gyfeillgar a chefnogol ac mae sgiliau a ddysgir yn gyfredol nawr ac ar gyfer y dyfodol.”
Ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau i ddysgu rhagor.
Ewch i’n hadran Llety Abertawe i ddysgu rhagor.