Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Seicoleg Gymhwysol (BSc)
Mae Seicoleg yn parhau i fod yn un obynciau mwyaf poblogaidd ar lefel addysg uwch yn y DU. Mae’r rhaglen SeicolegGymhwysol yn darparu‘r theorïau seicolegolsydd eu hangen i ddeall y meddwl dynol asut mae hyn yn effeithio ar ymddygiad acyn rhoi i chi’r wybodaeth a’r arfer ar sut maeseicolegwyr yn cymhwyso theori i wellaiechyd meddwl a llesiant trwy wahanolgyfnodau datblygiad dynol.
Mae’r rhaglen Seicoleg Gymhwysol yn darparu cyfle unigryw i chi ddysgu i roi’r theorïau ac egwyddorion hyn o seicoleg ar waith yn ymarferol a diriaethol.
Mae’r rhaglen hon yn ymateb i’r angen hanfodol am ymarferwyr proffesiynol i weithio gyda grwpiau ac unigolion mewn lleoliadau clinigol, cymdeithasol, addysgol a gweinyddol i feddu ar wybodaeth a dealltwriaeth eang o brosesau seicolegol ymddygiad nodweddiadol ac annodweddiadol sy’n bresennol yn yr oes sydd ohoni.
Gyda pharhad modylau cymhwysol penodol, pwyslais ar sgiliau ymchwil empirig a modiwl lleoliad, y disgwyl yw bod graddedigion y modiwl hon yn cael y cyfle i wneud cyfraniad sylweddol i ddyfodol economaidd a chymdeithasol cymdeithas.
Mae’r rhaglen yn cwmpasu’r prif barthau gwybodaeth o fewn maes seicoleg a amlinellir gan yr ASA a BPS yn ogystal â chynnwys modylau seicoleg gymhwysol arbenigol.
Seicoleg Gymhwysol (BSc)
Cod UCAS: L3C8
Gwnewch gais drwy UCAS
Dylai ymgeiswyr llawn amser wneud cais drwy UCAS. Dylai ymgeiswyr rhan amser wneud cais drwy’r Brifysgol.
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Bydd yn eich helpu i...
- ddeall chi eich hun ac eraill
- gwneud synnwyr o’r byd
- datblygu sgiliau dadansoddi cadarn trwy gymhwyso dulliau gwyddonol
- cael mynediad at ragolygon gwaith rhagorol mewn amrywiaeth o yrfaoedd
- paratoi at yrfa fel seicolegydd
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae Seicoleg yn ddisgyblaeth hynod o ddiddorol i’w hastudio. Mae pobl, at ei gilydd, yn chwilfrydig ynghylch pobl eraill, eu meddyliau a’u hymddygiad. Mae ein bywydau bob dydd yn cynnwys cwestiynau di-rif – Pam? Sut? Beth? Pryd? Tra bydd pytiau anecdotaidd, llên gwerin a diarhebion fel pe baent yn taflu rhywfaint o oleuni ar y rheswm pam mae pobl yn gwneud yr hyn a wnânt, mae seicoleg yn ceisio defnyddio trylwyredd gwyddor i egluro ymddygiad dynol.
Mae seicolegwyr ac ymchwil seicolegol yn cael effaith enfawr ar bob agwedd ar fywyd cyhoeddus, yn enwedig mewn meysydd megis addysg, iechyd, yr economi, diwydiant a chyfiawnder cymdeithasol. Bydd y cwrs astudio hwn yn darparu rhaglen aml-haen ac amrywiol a fydd yn cynnwys trylwyredd gwyddor a sut y cymhwysir hynny i ddylanwadu ar arfer ar bob lefel o gymdeithas.
Yn ystod eich tair blynedd byddwch yn archwilio materion seicolegol o nifer o safbwyntiau, gan gydnabod bod seicoleg yn cwmpasu ystod o ddulliau ymchwil, damcaniaethau, tystiolaeth a chymwysiadau. Byddwch yn archwilio patrymau ymddygiad normal ac annormal, a gweithrediad a phrofiad seicolegol, trwy ymchwilio i swyddogaeth gweithrediad yr ymennydd mewn ymddygiad a phrofiadau dynol.
Bydd cyfleoedd i wneud astudiaethau empirig sy’n cwmpasu amrywiaeth o ddulliau casglu data, gan gynnwys arbrofion, arsylwadau, profion seicometrig, holiaduron, cyfweliadau ac astudiaethau maes o’r byd go iawn gan ddefnyddio pecynnau meddalwedd arbrofol cyfredol.
Yn sgil amrywiaeth eang y sgiliau generig a thrylwyredd yr addysgu, derbynnir yn gyffredinol fod hyfforddiant mewn seicoleg yn baratoad ardderchog ar gyfer nifer o yrfaoedd. Yn ychwanegol at sgiliau a gwybodaeth bynciol, mae graddedigion yn datblygu sgiliau cyfathrebu, rhifedd, gwaith tîm, meddwl yn feirniadol, cyfrifiadura, dysgu annibynnol a llawer mwy, gyda’r rhain i gyd yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan gyflogwyr.
Blwyddyn Un – Lefel 4 (Tyst AU, Dip AU a BSc)
- Dulliau Ymchwil I (20 credyd; craidd)
- Iechyd Meddwl a Datblygiad Plant (20 credyd; gorfodol)
- Cyflwyniad i Seicoleg Fiolegol a Gwybyddol (20 credyd; gorfodol)
- Dysgu yn yr Oes Ddigidol (20 credyd; gorfodol; modwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Seicoleg y Cyfryngau (20 credyd; gorfodol)
- Dulliau a Safbwyntiau Seicolegol (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Dau – Lefel 5 (Dip AU a BSc)
- Iechyd Meddwl a Datblygiad Pobl Ifanc (20 credyd; gorfodol)
- Gwahaniaethau Unigol: Damcaniaeth ac Arfer (20 credyd; gorfodol)
- Seicoleg Sefydliadol (20 credyd; gorfodol)
- Dulliau Ymchwil II (20 credyd; craidd)
- Seicoleg Gymdeithasol (20 credyd; gorfodol)
- Seicoleg Chwaraeon ac Iechyd (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Tri – Lefel 6 (BSc)
- Niwrowyddoniaeth Fiolegol a Gwybyddol (20 credyd; gorfodol)
- Therapi Gwybyddol Ymddygiadol a Therapïau Gwybyddol Newydd (20 credyd; dewisol)
- Gwybyddiaeth ar Waith (20 credyd; dewisol)
- Ecoseicoleg (20 credyd; dewisol)
- Moeseg, Gwerthoedd a’r Hunan Proffesiynol (20 credyd; dewisol)
- Seicoleg Fforensig a’r Meddwl Troseddol (20 credyd; dewisol)
- Iechyd Meddwl mewn Plant a Phobl Ifanc (20 credyd; dewisol)
- Prosiect Empirig Seicoleg (20 credyd; craidd)
- Seicoleg, Iechyd a Salwch (20 credyd; dewisol)
- Seicopatholeg ac Iechyd Meddwl (20 credyd; dewisol)
- Gwybodaeth a Hunaniaeth Gymdeithasol (20 credyd; dewisol)
- Seicoleg Addysg a Heneiddio (20 credyd; dewisol)
- Seicoleg Rhagfarn a Gwahaniaethu (20 credyd; dewisol)
Sylwch, mae'r modiwlau hyn yn newid ychydig o flwyddyn i flwyddyn, oherwydd newidiadau staff, datblygu'r cwricwlwm ac argymhellion yn dilyn dilysu.
Bydd y rhaglen yn cynnig amrywiaeth o ddulliau asesu gwahanol er mwyn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymestyn eu sgiliau ymarferol ac academaidd ac annog dysgu annibynnol.
Bydd y rhain yn cynnwys asesiadau traddodiadol megis traethodau academaidd ac arholiadau yn ogystal â dulliau asesu mwy arloesol megis posteri academaidd, asesiadau ar-lein, cyflwyniadau grŵp, ysgrifennu adroddiadau, trafodaethau, cwestiynau atebion byr neu amlddewis a thaflenni ymgyrchu / hyrwyddo.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.
Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
- Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Yr Athrofa
Bywyd ar gampws Caerfyrddin
Gwybodaeth allweddol
Ar gyfer mynediad yn 2019
Gwneir cynigion nodweddiadol o 96 pwynt tariff ar gyfer y rhaglen BSc Seicoleg Gymhwysol. Mae’r rhaglen hon wedi’i hanelu at y rhai sy’n gadael ysgol â chymwysterau Safon Uwch, y rhai sydd â chymhwyster Mynediad i AU a’r rhai sydd wedi gadael addysg ac sydd bellach yn dymuno dychwelyd.
Nid oes disgwyliad y bydd ymgeiswyr wedi astudio Seicoleg at Safon Uwch. Rydym yn awyddus i asesu pob cais ar ei deilyngdod ei hun, a byddwn hefyd yn ystyried llwybrau anhraddodiadol, er ei bod yn bosibl y bydd angen cynnal cyfweliad cyn cynnig lle.
Mae cymorth ychwanegol gyda sgiliau astudio ar gael i unrhyw fyfyriwr sydd ag angen hyfforddiant mwy dwys ac mae natur yr asesiadau a’r adborth yn y flwyddyn gyntaf yn darparu digon o gyfleoedd i fyfyrwyr a all fod â diffyg profiad academaidd neu hyder ddatblygu eu harddull academaidd.
Mae gradd mewn Seicoleg Gymhwysol yn agor drysau at nifer o yrfaoedd, gan gynnwys y canlynol:
- Addysgu*
- Gwaith Cymdeithasol
- Adnoddau Dynol*
- Gofal Iechyd/GIG
- Gwleidyddiaeth a’r Gwasanaeth Sifil
- Y Cyfryngau a hysbysebu
- Swyddog Polisi
- Gweithiwr proffesiynol yn y diwydiant gofal
- Arweinydd Chwarae
- Gweithio gydag Oedolion ag Anawsterau Dysgu
- Gwasanaeth yr Heddlu
- Gwasanaeth Prawf
- Swyddogion addysg
- Astudiaeth/ymchwil ôl-raddedig
- Gwaith Cymdeithasol*
- Seicolegydd
*gyda chymhwyster ychwanegol
Mae’n rhaid i fyfyrwyr wneud cais am, a chael, Gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y Drindod Dewi Sant. Mae'r ffi'n cael ei bennu gan y DBS; ar hyn o bryd, y ffi yw tua £44.
Mae’n ofynnol i fyfyrwyr gael 10 diwrnod o brofiad ymarferol ar leoliad mewn sefydliad addysgol. Bydd costau teithio a chostau lluniaeth yn sgil hyn.
Mae’r Ysgol hefyd yn cynnig cyfleoedd dewisol i fyfyrwyr ar gyfer astudio dramor yn lefel 5.
Y myfyrwyr a fydd yn talu’r costau uchod.
Hannah Eaton | BSc Seicoleg Gymhwysol
MSc Gyfredol: Delweddu’r Ymennydd a Niwrowyddoniaeth Wybyddol ym Mhrifysgol Birmingham. Astudiais am radd BSc mewn Seicoleg Gymhwysol yn y Drindod Dewi Sant, a dyna oedd y penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed. Cyn dechrau fel myfyriwr israddedig, roedd fy nghanlyniadau TGAU yn ofnadwy, ac nid oeddwn wedi bod yn rhan o fyd addysg ers dros bum mlynedd. Ond er nad oeddwn yn credu y byddai fyth yn digwydd, cefais fy nerbyn! Yn ystod y tair blynedd, nid yn unig y dysgais i sgiliau a ganiataodd i mi ddechrau ar gwrs MSc, ond hefyd cefais gymorth ac arweiniad gan griw o ddarlithwyr eithriadol o amyneddgar a gwybodus, fel na allwn fod wedi dymuno astudio yn unrhyw le arall.
Katie Magness | BSc Seicoleg Gymhwysol
Roedd astudio ar gyfer gradd gyntaf mewn Seicoleg Gymhwysol yn y Drindod Dewi Sant wedi fy helpu i fagu hyder a gwella fy sgiliau, yn ogystal â chyfoethogi fy ngwybodaeth a dealltwriaeth o Seicoleg a datblygu sgiliau newydd. Mae’r cwrs yn cwmpasu llawer o feysydd gwahanol o fewn Seicoleg, a mwynheais i’n benodol ddysgu sut i gymhwyso damcaniaethau a modelau seicolegol i sefyllfaoedd o fywyd go iawn. Ar ôl graddio, gwnes i gais am ysgoloriaeth PhD yn edrych ar Gymhlethdod mewn Gofal Iechyd yng nghefn gwlad Cymru a chael fy nerbyn.
Jolene John | BSc Seicoleg Gymhwysol
Roedd y cwrs Seicoleg Gymhwysol yn bleser pur ar ei hyd, ac roedd yr ystod eang o fodylau’n cadw’r cwrs yn ddiddorol. Mae’r dulliau gwahanol o gyflwyno aseiniadau wedi addysgu llawer o sgiliau newydd i mi ac wedi fy helpu i fagu hyder. Ar un adeg roedd meddwl am gyflwyno i gynulleidfa yn frawychus, nawr rwy’n teimlo fy mod i’n gallu gwneud hyn yn hawdd. Mae’r modylau’n cwmpasu ystod enfawr o safbwyntiau seicolegol o enedigaeth i henaint, gan ddarparu cipolwg trylwyr ar sut mae seicoleg yn cael ei chymhwyso i’n bywydau bob dydd. Mwynheais i’n fawr Seicoleg Chwaraeon Gymhwysol; roedd fy nhraethawd hir wedi’i seilio ar ddamcaniaethau a gafodd eu haddysgu yn ystod y darlithoedd hyn. Ers hynny rwyf wedi cael lle ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ar y rhaglen MSc Seicoleg Chwaraeon.
Cassandra Dalton | BSc Seicoleg Gymhwysol
Mwynheais i’n fawr y radd Seicoleg Gymhwysol a astudiais i ar gampws Caerfyrddin y Drindod Dewi Sant. Roedd y rhaglen yn hynod o ddiddorol ac amrywiol. Mae’r cwrs wedi’i strwythuro’n dda ac yn amrywiol iawn a gall hyn arwain at lawer o wahanol lwybrau gyrfaol. Roedd y darlithwyr yn barod i’ch helpu ac yn gefnogol gydol y cwrs. Ar ôl gorffen fy ngradd, dechreuais i weithio yng Ngholeg Penfro, ac ar hyn o bryd rwy’n cwblhau cwrs TAR gyda gobaith o fod yn athrawes yn yr Adran Seicoleg yn y coleg.
Jeyda Hunt | BSc Seicoleg Gymhwysol
Ers gadael y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin dechreuais ar gwrs Meistr mewn Niwrowyddonieth Wybyddol a Dulliau Ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe. Rwy’n credu bod y cwrs BSc Seicoleg Gymhwysol wedi rhoi’r sylfaen mewn seicoleg i mi yr oedd ei heisiau i fynd â’m gyrfa academaidd ymhellach. Mwynheais f’amser yn y Drindod yn fawr iawn a mwynhau elfennau cymhwysol y cwrs. Ers cwblhau fy ngradd MSc, rwyf wedi cymryd amser i godi arian ar gyfer fy ngradd PhD rwy’n bwriadu ymgymryd â hi’r flwyddyn nesaf ym maes niwroddirwyiad a niwrogenesis.
Kitiaria Muldoon | BSc Seicoleg Gymhwysol
Y tri Athro Seicoleg yn y Drindod, Caerfyrddin yn sicr yw’r athrawon gorau ges i erioed, a chwaraeon nhw rôl fawr wrth f’ysbrydoli i ddilyn llwybr seicoleg. Mae’r cwrs Seicoleg Gymhwysol yn cwmpasu ystod eang o bynciau ac mae’n llwyddo’n dda i gwmpasu’r sylfeini mewn amryw o feysydd o fewn Seicoleg. Roedd y modwl Niwrowyddoniaeth yn arbennig o bwysig i mi gan fy mod i bellach yn gweithio gyda chleientiaid sydd wedi cael anaf i’r ymennydd. Roedd y modwl fforensig hefyd yn arbennig o ddefnyddiol o ran deall achosion a chymhelliannau posibl ar gyfer ymddygiad troseddol.
Rwy’n gweithio nawr fel seicolegydd cynorthwyol ar gyfer cwmni sy’n arbenigo mewn cefnogi unigolion ag ymddygiad heriol. Rwy’n gweithio gydag ystod o unigolion sydd ag anghenion yn gysylltiedig ag anaf i’r ymennydd, iechyd meddwl, troseddu, cyflyrau niwrolegol ac anabledd dysgu. Byddwn i’n argymell y cwrs yn y Drindod Dewi Sant Caerfyrddin yn fawr i unrhyw un sy’n meddwl am ddilyn gyrfa mewn Seicoleg. Mae’n dda cael y cyfle hwn yn ardal Sir Gaerfyrddin, gan fod cynifer o fyfyrwyr yn gorfod teithio i astudio.
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth