Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Cyfrifiadura (Systemau Data a Gwybodaeth) (BSc, HND, HNC, Mynediad Sylfaen)

Cyfrifiadura (Systemau Data a Gwybodaeth) (BSc, HND, HNC, Mynediad Sylfaen)

Ymgeisio Drwy UCAS - Llawn Amser

Mae’r rhaglen hon yn pwysleisio tair thema – storio data, dadansoddi data a systemau gwybodaeth. Wrth raddio o’r rhaglen hon, byddwch yn fedrus a gwybodus yn agweddau technegol gwyddor data, yn cynnwys dadansoddi data, delweddu data, casglu data a storio data, gyda phwyslais arbennig ar systemau gwybodaeth.

Mae cyfanswm y data sy’n cael ei gasglu ar draws y byd yn tyfu ac mae pwysigrwydd maes dadansoddi data wedi cynyddu wrth i’r diwydiant geisio cael y gwerth gorau am arian. Mae ein Systemau Data a Gwybodaeth yn ymgorffori’r technegau sydd eu hangen ar gyfer prosesu, dadansoddi a delweddu data ar raddfa fawr i fodloni’r angen hwn.

Fe gewch wybodaeth am sefyllfa gyfredol y diwydiant ac mae pwyslais hefyd ar sgiliau ar gyfer dysgu gydol oes, i roi’r gallu i chi i ddiweddaru eich sgiliau trwy gydol eich gyrfa yn y maes hwn sy’n symud yn gyflym.

Ceir cyfleoedd cyflogaeth o fewn sefydliadau sy’n casglu a phrosesu symiau mawr o ddata, gan weithio fel rhan o dîm yn dadansoddi data drwy ddefnyddio technegau ystadegol a defnyddio dulliau delweddu i gyflwyno’r canlyniadau. Fel arfer gallech ddisgwyl cael eich cyflogi fel dadansoddwr data yn y lle cyntaf

BCS- the Chartered Institute for IT Logo  Cisco Networking Academy Logo EC Council Academia Partner Logo

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Cyfrifiadura (Systemau Data a Gwybodaeth)

BSc | Rhaglen Radd 3 Blynedd Lefelau 4 i 6)
Cod UCAS: 318S 
Gwnewch gais drwy UCAS

HND | Rhaglen 2 Flynedd (Lefelau 4 i 5)
Cod UCAS: 345T 
Gwnewch gais drwy UCAS

BSc | Rhaglen 4 Blynedd gyda Mynediad Sylfaen (Lefelau 3 i 6)
Cod UCAS: CD11
Gwnewch gais drwy UCAS


STEM  Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (Ffrwd Gyfrifiadura)
Rhaglen Sylfaen 1 Flwyddyn (Lefel 3 i 4)
Cod UCAS: SCT1
Gwnewch gais drwy UCAS


CADW LLE AR DDIWRNOD AGORED CAIS AM WYBODAETH blog cyfrifiadur
E-bost Cyswllt: computing@uwtsd.ac.uk
Enw'r cyswllt:: Tim Bashford


Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

  1. Mae’r cynllun gradd hwn a achredir gan Gymdeithas Cyfrifiaduron Prydain (BCS) wedi’i gynllunio i gynhyrchu graddedigion sy’n barod i weithio yn niwydiant cyfrifiadura a systemau gwybodaeth y DU sy’n tyfu’n gyflym.
  2. Mae’r rhaglen yn cynnwys cysyniadau, egwyddorion a thechnegau traddodiadol datblygu meddalwedd, cronfeydd data a systemau gwybodaeth ond yn cymhwyso’r rhain o fewn cyd-destun peiriannu systemau mawr a chymhleth.
  3. Trwy ein cysylltiadau diwydiannol, rydym hefyd wedi datblygu strwythur rhaglen i roi i fyfyrwyr y sgiliau diweddaraf ynghyd â gwerthfawrogiad o ofynion y diwydiant. Mae’r cwrs hwn yn cyfrannu’n llawn at y gofynion academaidd sydd eu hangen ar raddedigion i gofrestru ar gyfer statws Gweithiwr Proffesiynol TG Siartredig (CITP).
  4. Dylai’r sawl sy’n gwneud cais i’r rhaglen hon fod yn rifog a chanddynt feddwl rhesymegol, ac mae’n debygol eu bod cynt wedi astudio gwyddoniaeth, mathemateg neu dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu. Bydd y cyfryw fyfyrwyr yn ceisio sgiliau rhaglennu, dadansoddi data a dylunio cronfeydd data mwy arbenigol.
  5. Mae myfyrwyr yn dysgu, yn fanwl, ystod o gysyniadau rhaglennu, delweddu data a thechnegau cloddio data i ddatblygu datrysiadau systemau gwybodaeth soffistigedig a chymhleth. Mae graddedigion yn debygol o chwilio am yrfaoedd ym meysydd datblygu cymwysiadau, dadansoddi systemau busnes, datblygu a gweinyddu cronfeydd data, ymgynghoriaeth a rheolaeth systemau gwybodaeth.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd myfyrwyr y rhaglen hon yn dysgu am ddylunio cronfeydd, creu a gweinyddu cronfeydd data a datblygu rhaglenni ar gyfer datblygu cymwysiadau a yrrir gan ddata. Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio ystod eang o bynciau cyffredin â nifer o gyrsiau o fewn y Portffolio Cyfrifiadura. Mae’r rhain yn darparu’r sylfaen sydd ei angen ar gyfer blynyddoedd diweddarach ac yn caniatáu hyblygrwydd wrth trosglwyddo ar draws llwybrau yn eich blwyddyn gyntaf.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn astudio modylau sy’n darparu mwy o ddyfnder ar gyfer eich dewis raglen. Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â phrosiect mawr sy’n darparu ffocws ar gyfer eich astudiaethau.

Mae’r cwrs yn ffocysu ar ddylunio, gweithredu, profi a chynnal systemau gwybodaeth ansawdd uchel a chymwysiadau a yrrir gan ddata. 

Byddwch yn ffocysu ar gaffael a defnyddio’r arbenigedd sydd ei angen ar ddatblygwr a rhaglennwr systemau gwybodaeth i greu datrysiadau i broblemau mawr a chymhleth.   Bydd yr arbenigedd a’r sgiliau y byddwch yn eu datblygu drwy beiriannu datrysiadau meddalwedd yn rhan o dîm yn uchel iawn eu parch ymhlith cyflogwyr.

Pynciau Modylau

Modylau Blwyddyn 0 - Mynediad Sylfaen

  • Ysgrifennu Academaidd (20 credyd)
  • Prosiect Integreiddio (20 credyd)
  • Mathemateg (10 credyd)
  • Gwyddoniaeth (10 credyd)
  • Systemau Cyfrifiadurol (20 credyd)
  • Cyflwyniad i Raglennu Cyfrifiadurol (20 credyd)
  • Dadansoddi a Datrys Problemau neu Fathemateg Bellach (20 credyd)

Modylau Blwyddyn 1 - MComp/BSc/HND/HNC

  • Sgiliau Academaidd a Chyflogadwyedd (20 credyd)
  • Pensaernïaeth a Rhwydweithiau Cyfrifiadurol (20 credyd)
  • Dadansoddi Data a Delweddu (20 credyd)
  • Peirianneg Gwybodaeth (20 credyd)
  • Technoleg a Diogelwch Rhyngrwyd (20 credyd)
  • Datblygu Meddalwedd (20 credyd)

Modylau Blwyddyn 2 - MComp/BSc/HND

  • Datblygu Cymwysiadau (20 credyd)
  • Systemau Rheoli Cronfeydd Data (20 credyd)
  • Prosiect Grŵp Menter ac Arloesi (20 credyd) (Nodyn: Myfyrwyr llawn amser yn unig)
  • Prosiect seiliedig ar Waith Llywodraethu, Deddfwriaeth a Moeseg (20 credyd) (Nodyn: Myfyrwyr rhan amser yn unig)
  • Rheoli Prosiect a Dulliau Ymchwil (20 credyd)
  • Rhaglennu Ystadegol (20 credyd)
  • Gwe Dechnolegau (20 credyd)

Modylau Blwyddyn 3 - MComp/BSc

  • Prosiect Mawr (40 credyd)
  • Uwch Ddatblygu’r We (20 credyd)
  • Data Mawr (20 credyd)
  • Systemau Gwybodaeth Daearyddol (20 credyd)
  • Peirianneg Defnyddioldeb (20 credyd)

Meistr Integredig 4 Blynedd - MComp

Mae MComp Systemau Data a Gwybodaeth yn rhaglen israddedig pedair blynedd a ariennir yn llawn, sy’n arwain at gymhwyster lefel Meistr.  Byddai disgwyl i chi ymuno â chyflogwyr ar lwybr carlam at reolaeth drwy ddysgu sgiliau arbenigol mewn:

  • Diogelwch Data (20 credyd)
  • Arweinyddiaeth a Rheolaeth (20 credyd)
  • Marchnata a Gwe Ddadansoddeg (20 credyd)
  • Prosiect Grŵp (60 credyd)

Sylwer: Mae mynediad Blwyddyn Sylfaen ar gael hefyd. Gweler:  Blwyddyn Sylfaen ar gyfer Cyfrifiadura ac Electroneg. Mae gennym hefyd opsiynau “Blwyddyn mewn Diwydiant”.

Asesiad

Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw cynhyrchu graddedigion sy’n helpu i siapio dyfodol datblygiad systemau cyfrifiadura a gwybodaeth. Mae cynnwys y cwrs yn gyfoes ac wedi’i lunio er mwyn annog cyflogadwyedd drwy gysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol.

Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o daflenni gwaith, asesiadau ymarferol, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau. Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniadau, neu aseiniadau ac arholiadau. Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modylau gynnwys gosod a chwblhau un neu fwy darn o waith cwrs yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.

Anogir myfyrwyr i ddefnyddio ein cysylltiadau gyda Chynghrair Meddalwedd Cymru a Go Wales i weithio ar gynlluniau masnachol ar gyfer eu modwl Prosiect Mawr. Mae Go Wales yn darparu’r cyfle i fynd ar leoliadau gwaith â chyflog gyda busnesau lleol.

Dolenni Cysylltiedig

Achrediadau Proffesiynol

Mae cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus yn cynnig y cyfle i gofrestru gan Gymdeithas Cyfrifiadurol Prydain (BCS) Gweithwyr Proffesiynol TG Siartredig (CITP) ar gyfer statws llawn.

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad

BSc (Anrh) Cyfrifiadura (Systemau Data a Gwybodaeth) – 3 blynedd Llawn Amser

104 pwynt tariff UCAS (260 gynt) gan gynnwys:

  • Dwy radd C Safon Uwch/AVCE; neu
  • Ddiploma Cenedlaethol BTEC graddau Pas, Pas, Pas; neu
  • Dystysgrif Genedlaethol BTEC graddau Teilyngdod, Pas; neu
  • NVQ Lefel 3 - Pas

Dylai pynciau Safon Uwch gynnwys TGCh, Cyfrifiadura, Mathemateg, Ffiseg neu debyg. Mae TGAU Mathemateg gradd C neu uwch yn ddymunol.

Cod UCAS: 318S Ymgeisio drwy UCAS 

Sylwer: Ar gyfer Gradd-brentisiaethau Digidol, cysylltwch ag apprenticeships@uwtsd.ac.uk. Ar gyfer astudiaethau rhan-amser eraill, cysylltwch â computing@uwtsd.ac.uk 

Ar gyfer mynediad Blwyddyn Sylfaen, gweler isod

HND Cyfrifiadura (Systemau Data a Gwybodaeth) – 2 flynedd Llawn Amser

48 pwynt tariff UCAS (120 gynt) gan gynnwys:

Safon Uwch/AVCE Gradd A-C; Diploma/Tystysgrif/Dyfarniad Cenedlaethol BTEC - Pas; NVQ Lefel 3 - Pas.

Dylai pynciau Safon Uwch gynnwys Mathemateg, TGCh, Ffiseg neu debyg. Mae TGAU Mathemateg gradd C neu uwch yn ddymunol.

Cod UCAS: 345T Ymgeisio drwy UCAS

HNC Cyfrifiadura (Systemau Data a Gwybodaeth) – 1 Flwyddyn Llawn Amser – Cod UCAS 477H

40 pwynt tariff UCAS (100 gynt)  

Cynnig Bagloriaeth Ryngwladol Arferol:
Cysylltwch â computing@uwtsd.ac.uk am ragor o wybodaeth.

Mynediad Sylfaen:

BSc (Anrh) | Rhaglen 4 Blynedd gyda Mynediad Sylfaen (Lefelau 3 i 6)
Cod UCAS: CD11 
Ymgeisio drwy UCAS

STEM Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (Ffrwd Cyfrifiadura) 
Rhaglen Sylfaen 1 Flwyddyn (Lefel 3 i 4)
Cod UCAS: SCT1 
Ymgeisio drwy UCAS

Arall:

Croesawir ceisiadau gan rai sy’n cynnig cymwysterau amgen. Cysylltwch â computing@uwtsd.ac.uk am ragor o wybodaeth.

Cyfleoedd Gyrfa

Mae gan ein graddedigion ragolygon gwaith rhagorol yn y diwydiant cyfrifiadura, addysgu, darlithio a TGCh, yn ogystal â meysydd eraill o’r economi. Dengys ystadegau diweddar bod y mwyafrif helaeth yn dilyn eu dewis lwybrau gyrfaol o fewn chwe mis i raddio.

Byddai graddedigion yn chwilio am swyddi ym meysydd datblygu cymwysiadau, dadansoddi systemau busnes, datblygu a gweinyddu cronfeydd data, ymgynghoriaeth a rheolaeth systemau gwybodaeth.

Dyma broffiliau rhai o raddedigion y rhaglen hon a lle maen nhw nawr:

Ar gyfer yr holl dystebau gan raddedigion, gweler yma:

Tystebau Graddedigion

Costau Ychwanegol

Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis prif brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol. 

Dyfyniadau Myfyrwyr

Thomas John, BSc Systemau Gwybodaeth Cyfrifiadurol, (Dezrez Services Ltd)

“Cwblhau’r BSc Systemau Gwybodaeth Cyfrifiadurol oedd y penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed. Gwnaeth y Brifysgol, y cymorth, ffrindiau a’r darlithwyr i mi deimlo’n gyfforddus o fewn wythnosau. Galluogodd fy mhrosiect Blwyddyn Olaf i mi ddeall yr angen am ddefnyddioldeb o fewn rhaglenni meddalwedd a’m helpodd wrth ddatblygu pecyn meddalwedd Rheolaeth Eiddo ar gyfer Dezrez Services Ltd.”

Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau i ddysgu rhagor.

Cyfleoedd i Astudio Dramor

Amherthnasol

Llety

Ewch i’n hadran Llety Abertawe i ddysgu rhagor.