Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff (BSc)
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sy’n cynnig y radd Therapi Chwaraeon achrededig gyntaf yng Nghymru. Mae’n un o 32 o raddau israddedig a achredwyd gan y Gymdeithas Therapyddion Chwaraeon, a hi yw’r unig raglen sy’n cynnig darpariaeth ddwyieithog. Mae myfyrwyr sy’n cwblhau’r radd lawn yn gymwys ar gyfer aelodaeth broffesiynol o’r gymdeithas, sy’n cynnwys indemniad meddygol, yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a’r defnydd o’r teitl ‘Therapydd Chwaraeon Graddedig’.
Mae Therapyddion Chwaraeon Graddedig yn arbenigwyr clinigol ym maes anafiadau cyhyrysgerbydol ag arbenigedd yn yr amgylchedd chwaraeon ac ymarfer corff. Mae graddedigion yn dod o hyd i waith ym maes chwaraeon proffesiynol, rhannol broffesiynol ac amatur ac arfer clinigol preifat. Mae rhai wedi mynd ymlaen i weithio yn y GIG ac eraill yn y lluoedd arfog.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen byddwch yn dod yn therapydd chwaraeon ac ymarfer corff cymwys sy’n gallu asesu, gwneud diagnosis, trin, adsefydlu ac atal anafiadau a salwch yn yr amgylchedd chwaraeon ac ymarfer corff. Ein nod yw datblygu ymarferwyr sy’n ymreolaethol yn glinigol ac yn gweithio o fewn eu cwmpas o ran arfer a gofynion meddygol-gyfreithiol y proffesiwn.
Mae’r modylau a’r asesiadau wedi’u llunio i sicrhau y byddwch yn gallu dangos y wybodaeth, dealltwriaeth, cymhwysiad a chymhwysedd sydd eu hangen i fodloni safon y corff proffesiynol.
Gallwch astudio 40 credyd o’r cwrs yma drwy gyfrwng y Gymraeg.
Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff (BSc)
Cod UCAS: STH1
Ymgeisio Drwy UCAS
Cadw lle ar Ddiwrnod Agored Gofyn am ragor o wybodaeth
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn?
- Gradd Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff hynaf Cymru a achredir gan y Gymdeithas Therapyddion Chwaraeon.
- Ar ôl graddio, bydd gan fyfyrwyr yr wybodaeth, sgiliau a hyder i weithio fel rhan o dîm neu’n annibynnol fel Therapydd Chwaraeon graddedig.
- Yn ogystal â’r prif sgiliau sydd eu hangen ar therapydd chwaraeon bydd myfyrwyr hefyd yn cael y sgiliau sydd eu hangen i gynnal asesiadau ffitrwydd ac iechyd ac yn cael y cyfle i ymgymhwyso fel hyfforddwyr campfa a hyfforddwyr personol.
- Mae cynnal a deall ymchwil hefyd yn sgil allweddol a ddatblygir trwy gydol y radd a chaiff myfyrwyr eu herio’n gyson i adolygu’n feirniadol yr ymchwil diweddaraf a chynnal eu hastudiaethau eu hunain. Yn y flwyddyn olaf, bydd myfyrwyr yn dylunio a chynnal eu prosiect ymchwil eu hunain mewn maes arbenigol o’u dewis.
- Mae'r staff yn Therapyddion Chwaraeon Graddedig profiadol, sydd wedi gweithio ym maes chwaraeon proffesiynol, lled-broffesiynol, cenedlaethol a rhyngwladol dros nifer o flynyddoedd.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Therapydd Chwaraeon Graddedig yw un sy’n gymwys ac yn gallu ymdrin ag anafiadau llym ‘ar ochr y cae’, perfformio asesiad clinigol i ddatblygu diagnosis, a defnyddio amrywiaeth o ddulliau triniaeth ochr yn ochr â thechnegau adsefydlu penodol chwaraeon i helpu'r athletwr yn ôl i gymryd rhan yn llawn mewn chwaraeon.
Bydd myfyrwyr yn dysgu mewn ystafelloedd therapi chwaraeon pwrpasol.
Yn y flwyddyn gyntaf, bydd myfyrwyr yn dysgu'r sgiliau hanfodol sydd eu hangen wrth asesu anafiadau chwaraeon, ynghyd â thechnegau meinwe meddal gan gynnwys tylino ar gyfer chwaraeon a chymorth cyntaf ar ochr y cae. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i weithio fel ymarferwyr cymorth cyntaf ar ochr y cae a chael profiad clinigol yn ein clinig tylino ar gyfer chwaraeon. Ochr yn ochr â’r modylau penodol therapi chwaraeon hyn, bydd myfyrwyr hefyd yn astudio ffisioleg dynol cymhwysol a modylau hyfforddiant personol.
Yn yr ail flwyddyn, addysgir myfyrwyr i gwblhau archwiliad ac asesiad llawn o anaf chwaraewr a gwneud diagnosis, trin yr anaf gyda thechnegau therapi â llaw ac adsefydlu'r athletwr i allu cymryd rhan lawn mewn chwaraeon.
Ym mlwyddyn olaf y rhaglen, bydd myfyrwyr yn astudio rheolaeth trawma chwaraeon, electrotherapi ac yn ymgymryd â 200 awr o arfer clinigol. Caiff yr oriau clinigol hyn eu cefnogi gan ein Clinig Anafiadau Chwaraeon sy’n cynnig apwyntiadau Therapi Chwaraeon i staff, myfyrwyr a’r cyhoedd, dan oruchwyliaeth y tîm therapi chwaraeon. Hefyd, anogir myfyrwyr i ymgysylltu â darparwyr lleoliad gwaith lleol a chenedlaethol i adeiladu portffolio helaeth o Brofiad Therapi Chwaraeon.
Yn ogystal, caiff prosiect ymchwil tebyg i draethawd hir mewn maes o ddiddordeb i'r unigolyn ei gwblhau yn y flwyddyn olaf hon.
Blwyddyn 1 (Tyst AU, Dip AU a BSc)
- Ffisioleg a Ffitrwydd Dynol (20 credyd; craidd)
- Cyflwyniad i Asesiad Clinigol (20 credyd; craidd)
- Cyflwyniad i Sgiliau Meinwe Feddal (20 credyd; craidd)
- Hyfforddiant Personol (20 credyd; craidd)
- Sgiliau Proffesiynol ar gyfer Therapyddion Chwaraeon (20 credyd; craidd)
- Anafiadau Chwaraeon ac Ymarfer Corff (20 credyd; craidd).
Blwyddyn 2 (Dip AU a BSc)
- Asesiad Biomecanyddol o Berfformiad ac Anaf (20 credyd; craidd)
- Asesiad Clinigol (20 credyd; craidd)
- Adsefydlu Cynnar a Chanolradd (20 credyd; craidd)
- Ffisioleg Ymarfer Corff (20 credyd; craidd)
- Therapi â Llaw (20 credyd; craidd)
- Ymchwil mewn Iechyd, Ymarfer Corff ac Addysg Gorfforol (20 credyd; craidd).
Blwyddyn 3 (BSc)
- Adsefydlu Uwch ac Atal Anafiadau (20 credyd; craidd)
- Ymarfer Corff a Phoblogaethau Penodol (20 credyd; craidd)
- Arfer Proffesiynol mewn Therapi Chwaraeon (20 credyd; craidd)
- Prosiect Ymchwil ar gyfer Therapyddion Chwaraeon ac Ymarfer Corff (40 credyd; craidd)
- Rheoli Trawma Chwaraeon (20 credyd; craidd).
Mae’r radd yn alwedigaethol ac felly caiff modylau eu hasesu drwy asesiadau ysgrifenedig ac ymarferol. Gall y rhain fod ar ffurf traethodau, adroddiadau, adolygiadau llenyddiaeth, archwiliadau clinigol eu natur a chyflwyniadau.
Caerfyrddin Iach, Cwrdd â’r Tîm a Llwyddiant Graddedigion
Pam dewis i astudio drwy Gyfrwng y Gymraeg?
Gwybodaeth allweddol
Disgwylir i fyfyrwyr gyflawni 120 o bwyntiau UCAS gyda ffocws ar bynciau seiliedig ar y gwyddorau ac addysg gorfforol. Rhaid i fyfyrwyr hefyd gael o leiaf Gradd C mewn TGAU Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth.
Rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol gyflawni IELTS lefel 7 heb yr un elfen o dan 6.51. Bydd myfyrwyr aeddfed nad oes ganddynt bwyntiau UCAS digonol yn cael eu hystyried yn ôl eu haeddiant drwy broses gyfweld.
Mae unrhyw le a gynigir ar y rhaglen BSc (Anrh) Therapi Chwaraeon yn amodol ar ddatgeliad DBS.
Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â chymwysterau.
Os ydych yn ystyried gwneud cais i’r cwrs BSc (Anrh) Therapi Chwaraeon yn Y Drindod Dewi Sant, ond mae gennych anabledd ac rydych yn poeni am sut y gallai hyn effeithio ar eich gallu i gymryd rhan mewn dosbarthiadau ymarferol a chwblhau asesiadau’n llwyddiannus, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen.
Bydd myfyrwyr sy’n graddio o’r radd yn cael teitl Therapydd Chwaraeon Graddedig a byddant yn gymwys i gael aelodaeth lawn o’r Gymdeithas Therapyddion Chwaraeon. Yn ogystal, byddant yn gallu gwneud cais am aelodaeth o'r Gofrestr gweithwyr proffesiynol Ymarfer Corff. Fel y cyfryw mae myfyrwyr yn orau gweddu mynd yn Therapyddion Chwaraeon neu’n ymgynghorwyr iechyd a ffitrwydd. Gallent hefyd fynd ymlaen i'r rhaglenni Meistr ôl-raddedig.
- Bydd rhaid i fyfyrwyr brynu tracwisg a thopiau hyfforddi’r brifysgol y bydd eu hagen mewn sesiynau ymarferol ac wrth weithio gyda grwpiau allanol.
- Dillad chwaraeon (£80-£120) yn amodol ar y cwrs
- Efallai y bydd tâl cofrestru’n cael ei godi ar fyfyrwyr sy’n dymuno cyflawni cymwysterau galwedigaethol ychwanegol gan y corff dyfarnu.
- £30 ar gyfer gweithgaredd ymsefydlu dros nos i holl fyfyrwyr blwyddyn 1
- BSc Iechyd, Maetheg a Ffordd o Fyw
- BA Addysg Antur Awyr Agored
- BA Addysg Gorfforol
- BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Richard Thomas, Un o Raddedigion BSc Therapi Chwaraeon
“Ar ôl meddwl yn galed, penderfynais ddychwelyd i addysg llawn amser drwy gofrestru ar gwrs newydd roedd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ei gynnig yng Nghaerfyrddin – reit ar stepen y drws! Gradd mewn Therapi Chwaraeon.
“Ar lafar y clywais am y cwrs ac ar ôl holi ymhellach a siarad gyda chyfarwyddwr y cwrs, Kate Evans, a’r Uwch Ddarlithydd, Dave Gardner, darganfûm mai hon oedd y radd Therapi Chwaraeon hynaf yng Nghymru a oedd wedi’i hachredu gan y Gymdeithas Therapyddion Chwaraeon.
“Roedd arna’i eisiau gwneud yn siŵr os oeddwn i am fuddsoddi tair blynedd o’m bywyd, lle buaswn yn gorfod aberthu amser ac arian a jyglo bod yn dad llawn amser, yn arddwr rhan amser ac yn fyfyriwr llawn amser buaswn yn gymwys ar ôl graddio i ddechrau arfer ar unwaith heb orfod cael rhagor o gymwysterau.
“Roeddwn yn gwybod gyda’r heriau oedd o’m blaen y byddai’n rhaid i mi fod â chariad at y cwrs os oeddwn am aberthu cymaint. Roeddwn yn hapus i glywed, ar ôl y flwyddyn gyntaf, y byddem ni’n ddigon cymwys i ddechrau arfer tylino chwaraeon ar ein cleientiaid ein hunain ac felly ennill rhyw faint o arian wrth astudio.
“Roedd gan Kate gariad at y radd ac roeddwn i’n hapus gwybod y byddai yna lawer o agweddau ymarferol i’r cwrs. A dweud y gwir, nid oeddwn yn barod am yr ysgrifennu academaidd a’r ymchwil y byddai disgwyl i ni ei wneud – nid oeddwn wedi bod ym myd addysg ers cryn amser ac roedd ysgrifennu traethodau academaidd eto yn her – yn sioc mawr i’r system!
“Hefyd, roedd caffael sgiliau technoleg gwybodaeth modern – cyflwyniadau PowerPoint a rhaglenni dadansoddi data ystadegol yn eithaf brawychus, ond darparodd y Brifysgol help drwy ddarparu sesiynau sgiliau astudio a alluogodd i mi gael hyfforddiant un i un gwerthfawr a daliais i fyny gyda phethau mewn dim o amser.
“Rwyf wedi gweithio gyda thîm rygbi rhanbarthol Dreigiau Casnewydd Gwent lle cyfarwyddwr y cwrs, Kate Evans, yw’r pennaeth adsefydlu. Roedd gweithio gyda rhywun o safon Kate yn anhygoel – rhywun sydd â dau MSc a BSc ynghyd â bron i 15 blynedd o brofiad yn gweithio mewn undeb rygbi proffesiynol a rhannol broffesiynol.
“Gweithiodd ei gwybodaeth ddofn a’i chariad at yr alwedigaeth ei ffordd lawr i ni fel myfyrwyr ac fe heriodd ni’n dau yn bersonol a phroffesiynol, yn amlwg eisiau i’w graddedigion Therapi Chwaraeon blwyddyn gyntaf newydd i lwyddo a dilyn ei chamau! Er, fe all fod yn peth amser cyn i mi ystyried PhD fel hi!”
Ewch i’n hadran Llety Caerfyrddin i ddysgu rhagor.
Darperir yr holl offer sydd ei angen i astudio’r radd hon gan y Brifysgol o fewn y clinigau anafiadau chwaraeon, Labordy Perfformiad Dynol, Labordy Cyfansoddiad y Corff, pwll nofio, ystafell iechyd a chlwb iechyd.
Cynhelir nifer o Ddiwrnodau Agored ac Ymweld yn ystod y flwyddyn ac anogwn darpar fyfyrwyr i ddod i drafod y cwrs gyda'r staff academaidd.