Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Troseddeg a Phlismona (BSc)
Mae’r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.
Nod y BSc mewn Troseddeg a Phlismona yw rhoi i fyfyrwyr fewnwelediad manwl i droseddeg a phlismona. Bydd pam bod pobl yn troseddu, beth sy’n atal pobl rhag trosedd, plismona trosedd, gwyddor dioddefwyr, y system gosb a’r system cyfiawnder troseddol i gyd yn cael eu harchwilio. Nod y radd hon yw paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa yn y system cyfiawnder troseddol, boed hynny’n blismona, gwasanaethau carchar a phrawf, gwaith ieuenctid neu ymchwil (i enwi rhai).
Bydd eich astudiaethau’n eich paratoi ar gyfer gyrfa ym maes troseddeg a phlismona trwy ddatblygu eich sgiliau proffesiynol a’ch sgiliau deallusol, gan gynnwys meddwl beirniadol, datrys problemau cymhleth, creadigrwydd ac adfyfyrio.
Byddwch yn ennill gwybodaeth systematig a dealltwriaeth hanfodol o’r sefydliadau, arferion, polisïau a phrosesau sy’n ymwneud â’r gyfraith, cyfiawnder a chosb sy’n dod i’r amlwg mewn ymateb i drosedd ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang a sut y mae’r rhain wedi datblygu.
Bydd gwybodaeth a dealltwriaeth o safonau plismona proffesiynol, sefyllfaoedd a chyd-destunau’n cael eu meithrin a meysydd penodol gyfrifoldebau plismona, gwneud penderfyniadau’n seiliedig ar dystiolaeth a rheoli trosedd yn cael eu cwmpasu,.
Ymhlith y sgiliau trosglwyddadwy sy’n cael eu meithrin ar y rhaglen hon mae ymchwil, dehongli, gwerthuso beirniadol a’r gallu i droi damcaniaeth yn arfer yn ogystal â’ch paratoi ar gyfer ymchwil neu astudio pellach yn eich maes.
Troseddeg a Phlismona (BSc)
Cod UCAS: CAP1
Gwnewch gais drwy UCAS
Gall y sawl sy’n gwneud cais ar gyfer cyrsiau llawn amser wneud hynny trwy UCAS. Gall y sawl sy’n gwneud cais i gyrsiau rhan amser wneud cais drwy’r Brifysgol.
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn?
- Mae’r cwrs wedi datblygu cysylltiadau cryf â sefydliadau lleol gan ddarparu profiad gwaith perthnasol a phroffesiynol. Gan roi i’n graddedigion y dechrau gorau posibl o waith academaidd i fyd gwaith. Bydd rhai o’r cyfleoedd a ddatblygwyd i wneud gwaith gwirfoddol yn caniatáu i fyfyrwyr chwarae rhan ganolog mewn amgylchedd gwaith proffesiynol ac yn rhoi cipolwg clir a manwl ar y proffesiwn.
- Mae tîm y cwrs yn darparu amgylchedd cyfeillgar ac agored er mwyn i fyfyrwyr ddysgu a datblygu. Mae yna dîm cymorth dysgu sy’n cynnal gweithdai a thiwtorialau rheolaidd ym meysydd datblygu sgiliau sylfaenol ac uwch.Caiff y lefelau gofal myfyrwyr rhagorol eu hadlewyrchu yng nghanlyniadau’r arolwg NSS ar gyfer y cwrs ac mae myfyrwyr yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi drwy gydol eu gyrfa brifysgol.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd y cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth i chi o’r system cyfiawnder troseddol, sylfeini cymdeithasol, diwylliannol wrth ddeall trosedd, effeithiau ymddygiad troseddol a gwyrdroëdig a throseddeg a phlismona cyfoes.
Blwyddyn Un – Lefel 4 (Tyst AU, Dip AU a BSc)
- Dynameg Ymddygiadol (20 credyd; gorfodol)
- Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth (20 credyd; gorfodol; modwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Cyfraith Troseddol (20 credyd; gorfodol)
- Plismona a Gwneud Penderfyniadau seiliedig ar Dystiolaeth (20 credyd; gorfodol)
- Dysgu yn yr Oes Ddigidol (20 credyd; gorfodol; modwl y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Proses Cyfreithiol (20 credyd; gorfodol)
Blwyddyn Dau – Lefel 5 (Dip AU a BSc)
- Ysgogwyr newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy (20 credyd; gorfodol; modwl y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Ysgogwyr newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth (20 credyd; gorfodol; modwl Graduate Attributes Framework)
- Yr Heddlu, Plismona a Chymdeithas (20 credyd; gorfodol)
- Cynhwysiant Cymdeithasol, Erledigaeth a Llesiant (20 credyd; gorfodol)
- Terfysgaeth ac Ymatebion Gwasanaethau Cyhoeddus (20 credyd; gorfodol)
- Deall Trosedd, Cyfiawnder a Chosb (20 credyd, gorfodol)
Blwyddyn Tri – Lefel 6 (BSc)
- Cynnal Ymchwiliadau (20 credyd; gorfodol)
- Trosedd a Bod yn Agored i Niwed (20 credyd; gorfodol)
- Cenedl, Hil, Crefydd a Throsedd (20 credyd, gorfodol)
- Prosiect Annibynnol (40 credyd; gorfodol; modwl y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Trosedd Difrifol a Chyfundrefnol (20 credyd; gorfodol)
Mae’r rhaglen yn defnyddio ystod o ddulliau asesu i roi’r cyfle i fyfyrwyr ymestyn eu sgiliau academaidd ac ymarferol ac i annog ymchwil annibynnol.
Defnyddir nifer o ddulliau asesu arloesol megis blogiau fideo, cyflwyniadau a chwarae rôl yn ogystal â dulliau asesu traddodiadol ar ffurf traethodau ac arholiadau.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.
Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
- Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Dolenni Cysylltiedig
Campws Busnes Abertawe
Gwirfoddoli gyda Heddlu De Cymru
Gwybodaeth allweddol
96 o Bwyntiau UCAS
Mae tîm y cwrs wedi datblygu cysylltiadau agos iawn gyda nifer o sefydliadau proffesiynol yn y sector cyhoeddus a meysydd y gwasanaethau cyfreithiol. Mae hyn wedi caniatáu ymgynghori agos ar ddatblygiad cynnwys y cwrs ac argaeledd cyfleoedd profiad gwaith unigryw.
Mae’r cwrs yn gweithio’n agos gyda Heddlu De Cymru a Heddlu Dyfed Powys, ac mae wedi datblygu rhaglen o waith gwirfoddol er mwyn i'r myfyrwyr gael profiad a mewnwelediad gwerthfawr i'r alwedigaeth.
Bydd hyn yn rhoi’r myfyrwyr mewn safle mwy manteisiol wrth gael swydd yn eu dewis alwedigaeth.
Mae’r cwrs yn darparu cyfle da ar gyfer myfyrwyr a fyddai â diddordeb yn y llwybr Carlam i’r Heddlu.
Mae’r cwrs yn gweithio’n agos gyda sefydliadau eraill y sector Cyhoeddus, y mae ganddynt oll adrannau cyfreithiol. Byddai’r cyfuniad o ddealltwriaeth a gwybodaeth am y sector cyhoeddus a’r sector cyfreithiol yn fanteisiol i swyddi o’r fath.
Mae’r tîm wedi datblygu perthnasau agos gyda chwmnïau cyfreithiol lleol ac mae’n datblygu cyfleoedd profiad gwaith a fyddai’n elwa’r myfyrwyr pe baent yn dewis mynd ymlaen i astudiaethau cyfreithiol pellach.
Nid oes costau ychwanegol yn perthyn i’r cwrs hwn.
- Y Gyfraith a Phlismona (BA)
- Y Gyfraith a Gwasanaethau Cyhoeddus (BA)
- Y Gyfraith a Throseddeg (BA)
- Plismona Proffesiynol (BSc)
- Plismona a Throseddeg (BSc)
- Gwasanaethau Cyhoeddus (BA, HND)
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
Ewch i dudalen Teithio’r Byd gyda’r Drindod Dewi Sant i ddysgu rhagor am gyfleoedd i astudio dramor.
Yn ogystal â’n , mae gan Abertawe hefyd nifer o neuaddau preifat i fyfyrwyr, sydd i gyd o fewn taith fer ar droed, gan gynnwys:
Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.