Cymelliadau hyfforddi athrawon
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cymhellion Hyfforddi Athrawon bob blwyddyn. Caiff symiau’r bwrsariaethau sydd ar gael a’r pynciau y maent yn gysylltiedig â nhw eu pennu’n flynyddol mewn ymateb i anghenion y sector addysg.
Mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi cyhoeddi argaeledd, y pynciau sy’n cael eu cynnwys a lefelau’r cymhellion hyfforddiant cychwynnol athrawon (HCA) TAR a fydd yn berthnasol yng Nghymru yn y flwyddyn academaidd.
- Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory: arweiniad i fyfyrwyr
- Y Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol
- Mwy o wybodaeth am gymhellion Addysg Gychwynnp Athrawon
Isod, cewch dabl sy’n dangos manylion y cymhellion ariannol sydd ar gael ar gyfer myfyrwyr TAR sy’n cychwyn ym is Medi. Mae’r ffigurau dros dro hyn ar gyfer 2022/2023 dal yn aros i gael eu cwblhau gan Lywodraeth Cymru. Mae manylion pellach i’w gweld ar eu gwefan Cynllun cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer pynciau â blaenoriaeth: canllawiau i fyfyrwyr.
Cymhwyster gradd | Pynciau blaenoriaeth uchel
Bioleg Cemeg |
---|---|
Anrhydedd dosbarth 1af a/neu PhD neu gradd | £15,000 |
2:1 | £15,000 |
2:2 | £15,000 |
Prosesir bwrsarïau ym mis Medi unwaith yr ydych wedi cofrestru ar y cwrs.