Isod ceir manylion am yr ysgoloriaethau a’r bwrsarïau sydd ar gael i’n myfyrwyr ôl-raddedig.
Bwrsariaethau Mynediad
Bwrsari Myfyrwyr o gefndir gofal
Bwrsari sydd ar gael i fyfyrwyr o dan 25 oed sy’n dod i’r brifysgol o gefndir gofal (i helpu gyda chostau cychwynnol adnoddau ac offer
Meini Prawf Cymhwystra:
Profiad o ofal (3 mis neu ragor yn byw o dan Ofal Awdurdod Lleol dros eu tair oed). Ar gael i rai o dan 25 yn unig.
Bydd disgwyl i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu cais e.e. Cadarnhad o’ch amgylchiadau trwy lythyr gan eich Awdurdod Lleol (ALl) neu Awdurdod Gofal, yn cadarnhau eich bod o dan ofal eich ALl am gyfnod o 3 mis neu fwy dros eich tair oed.
Swm y Dyfarniad: Hyd at £1,000
Gwybodaeth Ychwanegol: Ffurflen gais i gynnwys thystiolaeth ategol
Mae’r bwrsariaeth yn cael ei dalu mewn 3 taliad (un bob tymor) - 25%, 25% a 50%
Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsari Myfyrwyr o gefndir gofal
Bwrsariaeth ar gyfer unrhyw fyfyriwr sydd ag, neu'n cael asesiad o anabledd, gydag unrhyw gostau yn ymwneud a'r anabledd hwnnw i hyrwyddo'u hastudiaethau.
Bwrsariaeth i fyfyrwyr sydd ag angen cymorth gyda chostau Asesiad Diagnostig i gefnogi costau Profion Diagnostig (gwahaniaethau dysgu) a/neu offer arbenigol (pan nad yw myfyrwyr yn gymwys i gael y Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) a/neu i gynorthwyo gyda chostau cyfraniadau unigol (ar gyfer myfyrwyr Cyllid Myfyrwyr Lloegr).
Mae Gwasanaethau Myfyrwyr wedi nodi bod angen asesiad diagnostig ar y myfyriwr,
Neu
Mae angen offer arbenigol ar y myfyriwr ond nid yw’n gymwys i gael cymorth y Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA).
Swm y Dyfarniad: Hyd at £700
Dyddiad olaf i wneud cais: Gall myfyrwyr wneud cais unrhyw bryd
Gwybodaeth Ychwanegol: Ni ellir dyfarnu’r arian hwn i fyfyrwyr sydd eisoes yn derbyn cymorth y DSA.
Ffurflen gais i gynnwys copi o’ch llythyr hysbysiad Cyllid Myfyrwyr a phrawf o'r costau offer arbenigol (lle'n berthnasol)
Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsari Anabledd
ar gyfer myfyrwyr dan 25 oed sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu rhieni
Hyd at £1000 i gynorthwyo myfyrwyr (18–25 oed) sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu rhieni ac nad ydynt yn cael unrhyw gyswllt â nhw neu nad ydynt mwyach yn cael eu cefnogi gan eu teulu oherwydd bod y berthynas wedi chwalu gan arwain at roi’r gorau i gysylltu ers 12 mis neu fwy.
Meini Prawf Cymhwystra:
Rhaid i fyfyrwyr fod o dan 25 oed a bydd yn ofynnol iddynt ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu cais e.e. cadarnhad gan Gyllid Myfyrwyr eu bod yn cael eu hasesu am gyllid fel myfyriwr sydd wedi ymddieithrio, neu gopi o’r dystiolaeth a roddwyd i Gyllid Myfyrwyr yn rhan o’r cais ymddieithrio.
Swm y Dyfarniad: Hyd at £1,000
Gwybodaeth Ychwanegol: Ffurflen gais i gynnwys tystiolaeth ategol
Mae’r bwrsari'n cael ei dalu mewn tri rhan – 25% yn nhymor 1, 25% yn nhymor 2 a 50% yn nhymor 3.
Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsari Myfyrwyr sydd wedi Ymddieithrio
ar gyfer myfyrwyr sy'n ofalwyr a/neu myfyrwyr â chostau gofal plant
Myfyrwyr sy'n Ofalwyr Ifanc (o dan 25), yn Ofalwyr am aelod o'r teulu neu'n rhieni â chostau Gofal plant
Hyd at £500 i gynorthwyo gyda chostau gofal plant (mewn meithrinfa neu gyda gofalwr cofrestredig o fewn y DU), os nad oes arian ar gyfer gofal plant ar gael drwy’r llywodraeth neu Gyllid Myfyrwyr. Mae'r bwrsariaeth yma'n cael ei dalu mewn dau ran-dal – 50% bob semestr.
neu
Hyd at £500 i gynorthwyo oedolion dibynnol, os nad yw myfyriwr yn gymwys i gael y grant Oedolion Dibynnol a’r Grant Cymorth Arbennig drwy Gyllid Myfyrwyr (byddai’r dystiolaeth sy’n ofynnol yn cynnwys y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) neu’r Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) perthnasol). Mae'r bwrsariaeth yma'n cael ei dalu mewn dau rhan-dal – 50% bob semestr.
neu
Hyd at £1000 i fyfyrwyr o dan 25 sy’n gweithredu fel Gofalwr Oedolion Ifanc. Disgwylir i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth i gefnogi’u cais e.e. llythyr o ffynhonnell broffesiynol yn cadarnhau eu statws (oddi wrth Awdurdod Leol / Gwasanaethau Cymdeithasol / Grwp cefnogi Gofalwyr Ifanc) Mae'r bwrsariaeth yma'n cael ei dalu mewn 3 rhan-dal – 25% yn y tymor cyntaf, 25% yn yr ail dymor a 50% yn y tymor olaf.
Disgwylir i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth i gefnogi’u cais e.e. llythyr o ffynhonnell broffesiynol yn cadarnhau eu statws / llythyr Cyllid Myfyrwyr yn dangos nad ydynt yn derbyn y grantiau eraill.
Mwyafswm y bwrsariaeth: £1,000
Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsari Rhieni a Gofalwyr
ar gyfer myfyrwyr sy’n dod o ardaloedd Ehangu Cyfranogiad MALIC 40
Hyd at £100 i gefnogi myfyrwyr sy’n dod o ardaloedd Ehangu Cyfranogiad fel y’u dynodwyd gan Lywodraeth Cymru.
Meini Prawf Cymhwystra: Mae cod post cartref y myfyrwyr (nid eu cyfeiriad adeg tymor) yn perthyn i ddau gwintel isaf MALlC 40 fel y’u darperir gan Lywodraeth Cymru.
Dyddiad olaf i wneud cais: Nid oes angen gwneud cais cychwynnol; bydd y Brifysgol yn cysylltu â myfyrwyr sy’n gymwys am y bwrsari hwn.
Gwybodaeth Ychwanegol: Gall myfyrwyr dderbyn y bwrsari unwaith yn y flwyddyn academaidd a phrosesir y bwrsari ym mis Mai.
cymorth â chostau cefnogaeth llesiant
Myfyrwyr Trawsryweddol ac Anneuaidd
Hyd at uchafswm o £250 i bob myfyriwr cymwys, a ddarperir fel arfer yn ôl-weithredol ar ôl cyflwyno derbynebau prynu.
Rhagwelir y bydd y bwrsari hwn yn cynorthwyo myfyrwyr Trawsryweddol ac Anneuaidd i gael cymorth llesiant priodol – er enghraifft, teithio i apwyntiadau, presgripsiynau, gwasanaethau cymorth a lloches.
Bydd myfyrwyr yn nodi eu bod yn Drawsryweddol neu’n Anneuaidd a byddant wedi ysgwyddo costau llesiant perthnasol.
Swm y Dyfarniad: Hyd at £250
Gwybodaeth Ychwanegol: Dyfernir y bwrsari hwn fel arfer fel ad-daliad ar ôl cyflwyno derbynebau priodol. Os na all myfyrwyr dalu costau ymlaen llaw yna anogir ceisiadau i’r Gronfa Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr.
Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen Bwrsari Llesiant Myfyrwyr Trawsryweddol ac Anneuaidd
ar gyfer myfyrwyr sy'n ymgymryd â modiwlau drwy gyfrwng y Cymraeg
Myfyrwyr sy'n ymgymryd â modiwlau cyfrwng Cymraeg
Dyfernir y wobr i fyfyrwyr israddedig sy’n cynnal y cyfan neu ran o’u hastudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg/yn ddwyieithog:
£50 am bob 10 credyd a gwblhawyd yn llwyddiannus drwy gyfrwng y Gymraeg/yn ddwyieithog (rhaid bod o leiaf 50% o’r modiwlau yn ddwyieithog a chanddynt côd C)
Swm y Dyfarniad: Hyd at £900 (neu £1200 mewn rhaglenni gradd dwy flynedd ddwys)
Dyddiad olaf i wneud cais: 29ain Ebrill 2024
Gwybodaeth Ychwanegol: Mae’r wobr yma’n gysylltiedig â chanlyniadau ac mi fydd yn cael ei wobrwyo wedi’r byrddau arholi ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.
Sylwer na fydd myfyrwyr sydd eisoes yn derbyn Ysgoloriaethau Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gymwys ar gyfer £500 cyntaf yr ysgoloriaeth hon ac yn derbyn yr elfen ychwanegol yn unig.
Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Gwobr Cyfrwng Cymraeg / Dwyieithog
Bydd yr ysgoloriaeth hon ar gael i gefnogi pedwar myfyriwr sydd â statws ffoadur neu sy’n ceisio lloches yn y DU.
Mynediad i'r Brifysgol a chefnogaeth i fyfyrwyr â statws ceisiwr lloches y DU neu statws ffoadur.
Mi fydd y bwrsari yma'n hepgor ffioedd ac yn cynnwys cefnogaeth atodol ar gyfer astudio yn cychwyn yn y flwyddyn academaidd 2024/25.
Er mwyn gwneud cais ar gyfer y bwrsari yma bydd angen bod ymgeiswyr yn cwrdd â'r cymwysterau a'u nodwyd yn y telerau ac amodau.
Mae'r cymwysterau'n cynnwys:
- Dal statws o'r rhestr a nodwyd uchod a
- Derbyn cais di-amod neu amodol ar gyfer astudio ar gwrs amser llawn, israddedig yn PCYDDS.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 30ain Mai 2024
Ffurflen gais: Ffurflen gais Bwrsari Prifysgol Noddfa
Bwrsariaethau Cymorth Ariannol
Cymorth â chostau datblygu gyrfa neu profiad gwaith
Telir costau o hyd at £200 ar gyfer cyrsiau datblygu byr neu Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (yn ychwanegol at y cwrs) neu hyd at £1000 ar gyfer interniaethau a drefnwyd gan y myfyriwr (yn dibynnu ar y profiad). Rhaid i gyrsiau neu interniaethau fod yn berthnasol i’r rhaglen academaidd.
Er y gall myfyrwyr wneud mwy nag un cais, yr uchafswm y gellir ei ddyfarnu at ei gilydd i unrhyw fyfyriwr mewn blwyddyn academaidd yw £1000.
Ni chaiff myfyrwyr sydd wedi’u penodi’n interniaid INSPIRE neu sy’n elwa o interniaethau STEM y Brifysgol wneud cais yn ychwanegol trwy’r gronfa hon oherwydd ariennir y rolau hynny drwy’r gronfa hon eisoes. Mae myfyrwyr sy'n cynrychioli’r Brifysgol yn yr Eisteddfod hefyd yn cael eu cefnogi drwy’r gronfa hon, felly mae unrhyw daliadau’n cyfrannu at yr uchafswm dyfarniad o £1000.
Bwriedir i’r Bwrsari Datblygu Gyrfa gynorthwyo â phrofiad gwaith yn gysylltiedig â chostau teithio / llety. Ni ddylai’r profiad gwaith fod yn elfen orfodol o leoliad gwaith o fewn y cwrs.
Ymgeisiwch nawr: Ffurflen gais Bwrsari Datblygu Gyrfa
cymorth â chostau cwrs
Myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig
Hyd at £250 i gynorthwyo myfyrwyr amser llawn i wneud cais am gostau yn gysylltiedig â’u cwrs
Dyfernir y bwrsari hwn fel arfer fel ad-daliad ar ôl cyflwyno derbynebau prynu. Os na all myfyrwyr dalu costau ymlaen llaw yna anogir ceisiadau i’r Gronfa Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr.
Gall costau yn gysylltiedig â’r cwrs gynnwys: llyfrau arbenigol, offer arbenigol ac ati.
Er y gall myfyrwyr wneud mwy nag un cais lle mae’r cymorth y gofynnir amdano yn llai na £250, yr uchafswm y gellir ei ddyfarnu at ei gilydd i unrhyw fyfyriwr mewn blwyddyn academaidd yw £250
Swm y Dyfarniad: Hyd at £250
Gwybodaeth Ychwanegol: Bydd angen i fyfyrwyr gyflwyno copiau o dderbyniadau fel prawf o’r costau
Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsari Costau Cwrs
am gymorth â dyfais neu costau rhyngrwyd
Myfyrwyr amser llawn a rhan amser sydd wedi cofrestru ar gwrs yn YDDS
Bwriad y fwrsariaeth Cysylltedd Digidol hon yw rhoi cymorth i fyfyrwyr nad oes ganddynt fynediad at ddyfais a/neu ddarpariaeth rhyngrwyd ar gyfer eu hastudiaethau ac y mae cyllid yn rhwystr iddynt brynu eu dyfais eu hunain. Dyfernir y fwrsariaeth i fyfyrwyr cymwys sy'n ceisio cyfraniad ariannol tuag at gysylltedd digidol (hyd at £100) neu gostau dyfais (hyd at £500).
Er mwyn bod yn gymwys, rhaid bod myfyrwyr wedi cael eu cofrestru ar isafswm o 40 credyd ar gwrs PCYDDS a byddant yn derbyn y lefel uchaf o gymorth Cyllid Myfyrwyr.
Bydd angen i fyfyrwyr sy'n derbyn yr uchafswm Cyllid Myfyrwyr ac sy'n dymuno derbyn cymorth drwy'r llwybr ymgeisio hwn:
- Cwblhau’r ffurflen gais ar-lein;
- Darparu copi o'u llythyr Cyllid Myfyrwyr yn dangos eu bod yn derbyn y lefel uchaf o gymorth ariannol.
Os ydych eisoes wedi prynu dyfais a/neu fand eang i gefnogi eich astudiaethau, a fyddech cystal â chynnwys prawf prynu hefyd.
Uchafswm y dyfarniad drwy'r fwrsariaeth hon yw £500.
Noder:
Os nad ydych yn cael y cymorth ariannol mwyaf gan Gyllid Myfyrwyr mae gennych ddau lwybr amgen ar gyfer cymorth.
- Os ydych eich wedi prynu dyfais eich hun gallwch wneud cais am hyd at £250 tuag at y gost trwy'r fwrsariaeth Costau Cwrs. Bydd angen i chi ddarparu copi o'r derbynneb ar gyfer eich pryniant. Cliciwch yma am ffurflen gais Bwrsariaeth Costau Cwrs: Ffurflen gais Bwrsariaeth Costau Cwrs
- Os na allwch fforddio prynu'ch dyfais eich hun gallwch wneud cais am gymorth drwy'r fwrsariaeth hon ond gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais. Bydd angen i chi:
- Cwblhau’r ffurflen gais ar-lein
- Darparu copi o'ch llythyr Cyllid Myfyrwyr yn dangos lefel y cymorth ariannol yr ydych yn ei dderbyn (dadansoddiad llawn gan gynnwys unrhyw hawl i grant gofal plant)
- Cwblhau ffurflen incwm a gwariant y byddwn yn ei hanfon atoch ar ôl derbyn y cais ar-lein
- Darparu mis o gyfriflenni banc cyfredol ar gyfer pob cyfrif a ddelir gan gynnwys balans cyfredol, gyda nodiadau i gadarnhau eich costau craidd.
Dyddiad olaf i wneud cais: ceisiadau ar agor drwy gydol y flwyddyn academaidd.
Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsari Cysylltedd Digidol
cymorth â chostau graddio
Hyd at £100 i gynorthwyo graddedigion sydd mewn trafferthion ariannol gyda chostau sy’n gysylltiedig â mynychu seremoni graddio.
Er mwyn gwneud cais ar gyfer y bwrsari yma mi fydd angen:
- eich bod ar fin graddio o gwrs PCYDDS ac yn gymwys i fynychu'r seremoni graddio
- eich bod wedi cadarnhau eich bod yn bwriadu mynychu seremoni graddio PCYDDS
- i chi ddangos bod angen cymorth ariannol gyda chostau resymol yn ymwneud â graddio
Swm y Dyfarniad: Hyd at £100
Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsari Costau Graddio
cymorth â chostau cyfnod lleoliad gorfodol
Myfyrwyr sy'n ymgymryd â lleoliad gorfodol
Hyd at £250 i gynorthwyo myfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliad gorfodol fel rhan o’u cwrs.
Dyfernir y bwrsari hwn fel arfer fel ad-daliad ar ôl cyflwyno derbynebau prynu. Os na all myfyrwyr dalu costau ymlaen llaw yna anogir ceisiadau i’r Gronfa Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr.
Er y gall myfyrwyr wneud mwy nag un cais lle mae’r cymorth y gofynnir amdano yn llai na £250, yr uchafswm y gellir ei ddyfarnu at ei gilydd i unrhyw fyfyriwr mewn blwyddyn academaidd yw £250
Swm y Dyfarniad: Hyd at £250
Gwybodaeth Ychwanegol: Mi fydd angen i fyfyrwyr gyflwyno derbynebau fel prawf o'r costau a nodi cyfeiriad y lleoliad a phellter y siwrnau.
Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsari Cyfnod Lleoliad
Bwrsari Cymhelliant Gradd Meistr Llywodraeth Cymru
ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio gradd Meistr Ôl-raddedig a addysgir yn llwyr neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg
Meini prawf:
- Ar gael i’r rheiny sy’n astudio rhaglenni gradd meistr 180 credyd gydag o leiaf 40 credyd a'i addysgir neu ymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg
- Ar gael ar gyfer rhaglenni cymwys cyfrwng Cymraeg sy'n cychwyn ym MCYDDS o fis Medi 2023
- Cyrsiau llawn amser a rhan amser yn gymwys
- Ar gael ar gyfer myfyrwyr dros 60 oed hefyd.
Maint y wobr: hyd at £1,000
Dyddiad cau: 31ain Mawrth 2024
Sut i wneud cais: Ffurflen gais Bwsari Cymhelliant Cwrs Meistr Llywodraeth Cymru: Cyfrwng Cymraeg
Ar gael i fyfyrwyr dros 60 oed sy'n byw yng Nghymru ac sy'n astudio rhaglen Meiostr 180 credyd lawn a'i addysgir (neu ymchwil) yn PCYDDS
Meini cymhwyster: Rhaid bod myfyrwyr wedi bod yn byw yng Nghymru cyn cychwyn y cwrs.
Ar gael i fyfyrwyr dros 60 oed nad ydynt yn medru â derbyn y Benthyciadau Meistr drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru
Maint y wobr: hyd at £4,000
Dyddiad cau: 31ain Mawrth 2024
Sut i wneud cais: Ffurflen gais Bwrsari Cymhelliant Gradd Meistr Llywodraeth Cymru: 60+
Meini cymhwyster:
- Ar gael i’r rheiny sy’n astudio rhaglenni gradd meistr 180 credyd a addysgir neu ymchwil mewn pynciau STEMM
- Ar gael i raglenni meistr STEMM cymwys sy’n dechrau yn YDDS o fis Medi
Pynciau Cymwys:
- Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch (MSc,PGDip, PgCert)
- Data a Deallusrwydd Artiffisial (MSc, PGDip, PGCert)
- Gwyddor Data a Dadansoddeg (MSc, PGDip, PGCert)
- Peirianneg Meddalwedd (MSc, PGDip, PGCert)
- Peirianneg Meddalwedd a Deallusrwydd - Artiffisial (MSc, PGDip, PGCert)
- Rheolaeth Eiddo a Chyfleusterau (MSc)
- Adeiladu Cynaliadwy (MSc)
- Peirianneg Fecanyddol (MSc)
- Rheolaeth Prosiectau Peirianneg (MSc)
- Peirianneg Diwydiannol (MSc)
- Gweithrediadau Darbodus ac Ystwyth (MSc)
- Peirianneg Beiciau Modur (MSc)
- Peirianneg Chwaraeon Moduro (MSc)
- Cadwraeth a Rheolaeth Amgylcheddol (MSc)
- Cyrsiau llawn amser a rhan amser yn gymwys
- Ar gael hefyd i fyfyrwyr 60 oed neu’n hŷn
- Mae’r nawdd STEMM hwn yn ychwanegol i’r cynllun nawdd ôl-raddedig sydd ar waith ar gyfer myfyrwyr Cymru
Maint y wobr: Hyd at £2,000
Dyddiad cau: 31ain Mawrth 2024
Sut i wneud cais: Ffurflen gais Bwrsari Cymhelliant Llywodraeth Cymru: STEM
Hepgoriadau ffioedd
ar gyfer myfyrwyr israddedig (a graddedigion diweddar PCYDDS) sy’n mynd ymlaen i raglen ôl-raddedig a’i addysgir gan PCYDDS.
Bwrsariaeth a ddyfernir i fyfyrwyr sydd newydd (o fewn dwy flynedd) gwblhau gradd israddedig yn Y Drindod Dewi Sant ac sy’n mynd ymlaen i raglen ôl-radd amser llawn neu rhan amser e.e. MA/MRes (ond yn eithrio PGDip/PG Cert)
Swm y Dyfarniad: Hyd at £2,500
Dyddiad olaf i wneud cais: n/a - mi fydd y bwrsari yn cael ei wobrwyo yn awtomatig i unrhyw fyfyriwr cymwys.
Gwybodaeth Ychwanegol: Mae’r bwrsariaeth yn cael ei wobrwyo fel gostyngiad ffîoedd pro-rata â chost a dwysder astudio. Mae’r £2,500 ar gyfer cyrsiau â ffioedd o £7,500 neu fwy. (Bydd gostyngiad o £1,000 ar gyrsiau MA llawn â ffiöedd o £5050)
Myfyrwyr ôl-raddedig
Mae’r bwrsariaeth ar gael i’r rheiny sy’n dysgu o bell ac yn cofrestru ym mlwyddyn cyntaf rhaglen ôl-radd a addysgir yn YDDS
Swm y Dyfarniad: Hyd at £1,550
Dyddiad olaf i wneud cais: Mi fydd y bwrsari yma'n cael ei wobrwyo yn awtomatig i fyfyrwyr cymwys. Mi fydd yr ostyngiad yn ymddangos yn eich cyfrif MyTSD.
Gwybodaeth Ychwanegol: Mae’r bwrsariaeth yn cael ei wobrwyo fel gostyngiad ffîoedd mewn rhan-daliadau ar draws y flwyddyn academaidd. pro-rata â’r dwysder astudio e.e. bydd myfyrwyr sy’n astudio 60 credyd mewn blwyddyn yn derbyn gostyngiad o £550 yn y flwyddyn gyntaf a £500 y flwyddyn yn y ail a’r drydedd. (Mae'r bwrsari yma yn cael ei wobrwyo ar gyfer cyrsiau â chostau ffioedd dysgu o £7500)
Myfyrwyr ôl-raddedig (DU/EU)
Mae’r bwrsariaeth ar gael i fyfyrwyr o'r DU/UE sy’n dysgu o bell ac yn cofrestru ym mlwyddyn cyntaf rhaglen Meistr (ag eithrio’r Dyniaethau) a addysgir yn YDDS.
Swm y Dyfarniad: Hyd at £1,000
Dyddiad olaf i wneud cais: Mi fydd y bwrsari yma'n cael ei wobrwyo yn awtomatig i fyfyrwyr cymwys. Mi fydd yr ostyngiad yn ymddangos yn eich cyfrif MyTSD.
Gwybodaeth Ychwanegol: Mae’r bwrsariaeth yn cael ei wobrwyo fel gostyngiad ffîoedd mewn rhan-daliadau ar draws y flwyddyn academaidd. pro-rata â’r dwysder astudio e.e. bydd myfyrwyr sy’n astudio 60 credyd mewn blwyddyn yn derbyn gostyngiad o £500 yn y flwyddyn gyntaf a £500 yn yr ail flwyddyn.
.Cymorth â Myfyrwyr ôl-raddedig
Mae’r bwrsariaeth ar gael i’r rheiny sy’n dysgu o bell ac yn cofrestru ar gwrs MBA a addysgir ar y cyd gyda Ducere.
Swm y Dyfarniad: Hyd at £1,000
Dyddiad olaf i wneud cais: Gall myfyrwyr ymgeisio ar unrhyw adeg
Gwybodaeth Ychwanegol: Mae’r bwrsariaeth yn cael ei wobrwyo fel gostyngiad ffîoedd mewn rhan-daliadau ar draws y flwyddyn academaidd. pro-rata â’r dwysder astudio e.e. bydd myfyrwyr sy’n astudio 60 credyd mewn blwyddyn yn derbyn gostyngiad o £500 yn y flwyddyn gyntaf a £500 yn yr ail flwyddyn.
Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen Gais ar gael yn fuan
Bydd yr ysgoloriaeth hon ar gael i gefnogi pedwar myfyriwr sydd â statws ffoadur neu sy’n ceisio lloches yn y DU.
Mynediad i'r Brifysgol a chefnogaeth i fyfyrwyr â statws ceisiwr lloches y DU neu statws ffoadur.
Mi fydd y bwrsari yma'n hepgor ffioedd ac yn cynnwys cefnogaeth atodol ar gyfer astudio yn cychwyn yn y flwyddyn academaidd 2024/25.
Er mwyn gwneud cais ar gyfer y bwrsari yma bydd angen bod ymgeiswyr yn cwrdd â'r cymwysterau a'u nodwyd yn y telerau ac amodau.
Mae'r cymwysterau'n cynnwys:
- Dal statws o'r rhestr a nodwyd uchod a
- Derbyn cais di-amod neu amodol ar gyfer astudio ar gwrs amser llawn, israddedig yn PCYDDS.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 30ain Mai 2024
Ffurflen gais: Ffurflen gais Bwrsari PCyDDS Noddfa
Ar gyfer myfyrwyr Lefel 4, 5 a 6 o gefndir BAME / Teithwyr sy'n dymuno gwneud gweithgaredd ymchwil neu perfformiad.
Myfyrwyr sy'n ymgymryd ag ymchwil neu weithgarwch perfformio
Meini Prawf Cymhwystra:
Bydd myfyrwyr cymwys yn nodi eu bod yn perthyn i un o’r grwpiau ethnig o dan y penawdau canlynol ar restr gyhoeddedig Llywodraeth y DU:
- Grwpiau Cymysg neu Amlethnig
- Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig
- Du, Affricanaidd, Caribïaidd neu Ddu Prydeinig
- Grŵp Ethnig Arall
Mae myfyrwyr o ethnigrwydd Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig hefyd yn gymwys am y bwrsari hwn.
Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru eu hethnigrwydd gyda’r Brifysgol fel rhan o’u proses gofrestru.
Swm y Dyfarniad: Hyd at £500 ar gyfer costau cynhadledd neu ymchwil (neu hyd at £250 tuag at costau academaidd a theithio)
Gwybodaeth Ychwanegol: Gall y gweithgareddau gynnwys: Mynychu neu gyflwyno mewn cynhadledd; Costau’n gysylltiedig â phrosiect ymchwil neu sioe; Costau teithio a chostau academaidd.
Tystiolaeth: Bydd angen i chi gyflwyno prawf o'r costau e.e Talebau ar gyfer offer academaidd, tocynnau teithio ayyb
Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsari Cydraddoldeb Ethnig
ar gyfer myfyrwyr sy'n ofalwyr a/neu myfyrwyr â chostau gofal plant
Myfyrwyr sy'n Ofalwyr Ifanc (o dan 25), yn Ofalwyr am aelod o'r teulu neu'n rhieni â chostau Gofal plant
Hyd at £500 i gynorthwyo gyda chostau gofal plant (mewn meithrinfa neu gyda gofalwr cofrestredig o fewn y DU), os nad oes arian ar gyfer gofal plant ar gael drwy’r llywodraeth neu Gyllid Myfyrwyr. Mae'r wobr yma'n cael ei wneud mewn dau randaliad – 50% bob semestr.
neu
Hyd at £500 i gynorthwyo oedolion dibynnol, os nad yw myfyriwr yn gymwys i gael y grant Oedolion Dibynnol a’r Grant Cymorth Arbennig drwy Gyllid Myfyrwyr (byddai’r dystiolaeth sy’n ofynnol yn cynnwys y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) neu’r Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) perthnasol). Mae'r wobr yma'n cael ei wneud mewn dau randaliad – 50% bob semestr.
neu
Hyd at £1000 i fyfyrwyr o dan 25 sy’n gweithredu fel Gofalwr Oedolion Ifanc
Gwybodaeth Ychwanegol: Disgwylir i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth i gefnogi’u cais e.e. llythyr o ffynhonnell broffesiynol yn cadarnhau eu statws / llythyr Cyllid Myfyrwyr yn dangos nad ydynt yn derbyn y grantiau eraill. Mae'r wobr yma'n cael ei wneud mewn tri rhandaliad – 25% yn y tymor cyntaf, 25% yn yr ail dymor a 50% yn y tymor olaf.
Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsari Rhieni a Gofalwyr