Isod ceir manylion am fwrsarïau sydd ar gael i’n myfyrwyr israddedig 2022/23
Dewiswch yr adran ofynnol i ddarganfod mwy.
Bwrsariaethau Mynediad
Bwrsari Myfyrwyr o gefndir gofal
Bwrsari sydd ar gael i fyfyrwyr o dan 25 oed sy’n dod i’r brifysgol o gefndir gofal (i helpu gyda chostau cychwynnol adnoddau ac offer
Meini Prawf Cymhwystra:
Profiad o ofal (3 mis neu ragor yn byw o dan Ofal Awdurdod Lleol dros eu tair oed). Ar gael i rai o dan 25 yn unig.
Bydd disgwyl i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu cais e.e. Cadarnhad o’ch amgylchiadau trwy lythyr gan eich Awdurdod Lleol (ALl) neu Awdurdod Gofal, yn cadarnhau eich bod o dan ofal eich ALl am gyfnod o 3 mis neu fwy dros eich tair oed.
Swm y Dyfarniad: Hyd at £1,000
Gwybodaeth Ychwanegol: Ffurflen gais i gynnwys thystiolaeth ategol
Mae’r bwrsariaeth yn cael ei dalu mewn 3 taliad (un bob tymor) - 25%, 25% a 50%
Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsari Myfyrwyr o gefndir gofal
Bwrsari dilyniant penodol ar gyfer myfyrwyr sy’n cofrestru ar gwrs israddedig, amser llawn yn PCYDDS yn syth wedi cwblhau cwrs lefel 3 (neu cyfatebol) yng Ngholeg Sir Gâr neu Coleg Ceredigion.
Swm y dyfarniad: Hyd at £500
Gwybodaeth Ychwanegol: Bydd disgwyl i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu cais e.e. copi o'r dystysgrif neu drawsgrifiad yn cadarnhau eich biod wedi cwblhau'r cwrs coleg yn ystod y flwyddyn academaidd 2021-22.
Gwnewch gais Nawr: Ffurflen Gais Bwrsari Coleg Cyfansoddol
cymorth â chostau yn ymwneud ag anabledd
Bwrsariaeth i fyfyrwyr sydd ag angen cymorth gyda chostau Asesiad Diagnostig i gefnogi costau Profion Diagnostig (gwahaniaethau dysgu) a/neu offer arbenigol (pan nad yw myfyrwyr yn gymwys i gael y Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) a/neu i gynorthwyo gyda chostau cyfraniadau unigol (ar gyfer myfyrwyr Cyllid Myfyrwyr Lloegr).
Mae Gwasanaethau Myfyrwyr wedi nodi bod angen asesiad diagnostig ar y myfyriwr,
Neu
Mae angen offer arbenigol ar y myfyriwr ond nid yw’n gymwys i gael cymorth y Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA).
Swm y Dyfarniad: Hyd at £700
Dyddiad olaf i wneud cais: Gall myfyrwyr wneud cais unrhyw bryd
Gwybodaeth Ychwanegol: Ni ellir dyfarnu’r arian hwn i fyfyrwyr sydd eisoes yn derbyn cymorth y DSA.
Ffurflen gais i gynnwys copi o’ch llythyr hysbysiad Cyllid Myfyrwyr a phrawf o'r costau offer arbenigol (lle'n berthnsaol)
Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsari Anabledd
ar gyfer myfyrwyr dan 25 oed sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu rhieni
Hyd at £1000 i gynorthwyo myfyrwyr (18-25 oed) sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu rhieni ac nad ydynt yn cael unrhyw gyswllt â nhw neu nad ydynt mwyach yn cael eu cefnogi gan eu teulu oherwydd bod y berthynas wedi chwalu gan arwain at roi’r gorau i gysylltu ers 12 mis neu fwy.
Meini Prawf Cymhwystra:
Rhaid i fyfyrwyr fod o dan 25 oed a bydd yn ofynnol iddynt ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu cais e.e. cadarnhad gan Gyllid Myfyrwyr eu bod yn cael eu hasesu am gyllid fel myfyriwr sydd wedi ymddieithrio, neu gopi o’r dystiolaeth a roddwyd i Gyllid Myfyrwyr yn rhan o’r cais ymddieithrio.
Swm y Dyfarniad: Hyd at £1,000
Gwybodaeth Ychwanegol: Ffurflen gais i gynnwys tystiolaeth ategol
Mae’r bwrsari'n cael ei dalu mewn tri rhan – 25% yn nhymor 1, 25% yn nhymor 2 a 50% yn nhymor 3.
Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsari Myfyrwyr sydd wedi Ymddieithrio
Ar gyfer myfyrwyr Lefel 4, 5 a 6 o gefndir BAME / Teithwyr sy'n dymuno gwneud gweithgaredd ymchwil neu perfformiad.
Myfyrwyr sy'n sy’n ymgymryd ag ymchwil neu weithgarwch perfformio
Meini Prawf Cymhwystra:
Bydd myfyrwyr cymwys yn nodi eu bod yn perthyn i un o’r grwpiau ethnig o dan y penawdau canlynol ar restr gyhoeddedig Llywodraeth y DU:
- Grwpiau Cymysg neu Amlethnig
- Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig
- Du, Affricanaidd, Caribïaidd neu Ddu Prydeinig
- Grŵp Ethnig Arall
Mae myfyrwyr o ethnigrwydd Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig hefyd yn gymwys am y bwrsari hwn.
Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru eu hethnigrwydd gyda’r Brifysgol fel rhan o’u proses gofrestru.
Swm y Dyfarniad: Hyd at £500
Gwybodaeth Ychwanegol: Gall y gweithgareddau gynnwys: Mynychu neu gyflwyno mewn cynhadledd; Costau’n gysylltiedig â phrosiect ymchwil neu sioe; Costau teithio a chostau academaidd.
Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsari Cydraddoldeb Ethnig
ar gyfer myfyryw sy'n ofalwyr a/neu myfyrwyr â chostau gofal plant
Myfyrwyr sy'n Ofalwyr Ifanc (o dan 25), yn Ofalwyr am aelod o'r teulu neu'n rhieni â chostau Gofal plant
Hyd at £1000 i fyfyrwyr o dan 25 sy’n gweithredu fel Gofalwr Oedolion Ifanc
Hyd at £500 i gynorthwyo oedolion dibynnol, os nad yw myfyriwr yn gymwys i gael y grant Oedolion Dibynnol a’r Grant Cymorth Arbennig drwy Gyllid Myfyrwyr (byddai’r dystiolaeth sy’n ofynnol yn cynnwys y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) neu’r Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) perthnasol)
Hyd at £500 i gynorthwyo gyda chostau gofal plant, os nad oes arian ar gyfer gofal plant ar gael drwy’r llywodraeth neu Gyllid Myfyrwyr
Gwybodaeth Ychwanegol: Disgwylir i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth i gefnogi’u cais e.e. llythyr o ffynhonnell broffesiynol yn cadarnhau eu statws / llythyr Cyllid Myfyrwyr yn dangos nad ydynt yn derbyn y grantiau eraill.
Mae'r bwrsaiau'n cael eu talu mewn rhan-daliadau.
Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsari Rhieni a Gofalwyr
ar gyfer myfyrwyr sy’n dod o ardaloedd Ehangu Cyfranogiad MALIC 40
Hyd at £100 i gefnogi myfyrwyr sy’n dod o ardaloedd Ehangu Cyfranogiad fel y’u dynodwyd gan Lywodraeth Cymru.
Meini Prawf Cymhwystra: Mae cod post cartref y myfyrwyr (nid eu cyfeiriad adeg tymor) yn perthyn i ddau gwintel isaf MALlC 40 fel y’u darperir gan Lywodraeth Cymru.
Dyddiad olaf i wneud cais: Nid oes angen gwneud cais cychwynnol; bydd y Brifysgol yn cysylltu â myfyrwyr sy’n gymwys am y bwrsari hwn.
Gwybodaeth Ychwanegol: Gall myfyrwyr dderbyn y bwrsari unwaith yn y flwyddyn academaidd a phrosesir y bwrsari ym mis Mai.
cymorth â chostau cefnogaeth llesiant
Myfyrwyr Trawsryweddol ac Anneuaidd
Hyd at uchafswm o £250 i bob myfyriwr cymwys, a ddarperir fel arfer yn ôl-weithredol ar ôl cyflwyno derbynebau prynu.
Rhagwelir y bydd y bwrsari hwn yn cynorthwyo myfyrwyr Trawsryweddol ac Anneuaidd i gael cymorth llesiant priodol – er enghraifft, teithio i apwyntiadau, presgripsiynau, gwasanaethau cymorth a lloches.
Bydd myfyrwyr yn nodi eu bod yn Drawsryweddol neu’n Anneuaidd a byddant wedi ysgwyddo costau llesiant perthnasol.
Swm y Dyfarniad: Hyd at £250
Gwybodaeth Ychwanegol: Dyfernir y bwrsari hwn fel arfer fel ad-daliad ar ôl cyflwyno derbynebau priodol. Os na all myfyrwyr dalu costau ymlaen llaw yna anogir ceisiadau i’r Gronfa Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr.
Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen Bwrsari Llesiant Myfyrwyr Trawsryweddol ac Anneuaidd
ar gyfer myfyrwyr sy'n ymgymryd â modiwlau drwy gyfrwng y Cymraeg
Myfyrwyr sy'n astudio ymgymryd â modiwlau cyfrwng Cymraeg
Dyfernir y wobr i fyfyrwyr israddedig sy’n cynnal y cyfan neu ran o’u hastudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg/yn ddwyieithog:
£50 am bob 10 credyd a gwblhawyd yn llwyddiannus drwy gyfrwng y Gymraeg/yn ddwyieithog (rhaid bod o leiaf 50% o’r modylau yn ddwyieithog a chanddynt côd C)
Swm y Dyfarniad: Hyd at £900 (neu £1200 mewn rhaglenni gradd dwy flynedd ddwys)
Dyddiad olaf i wneud cais: 30ain Ebrill 2023
Gwybodaeth Ychwanegol: Mae’r wobr yma’n gysylltiedig â chanlyniadau ac mi fydd yn cael ei wobrwyo wedi’r byrddau arholi ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.
Sylwer na fydd myfyrwyr sydd eisoes yn derbyn Ysgoloriaethau Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gymwys ar gyfer £500 cyntaf yr ysgoloriaeth hon ac yn derbyn yr elfen ychwanegol yn unig.
Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Gwobr Cyfrwng Cymraeg / Dwyieithog
Bydd yr ysgoloriaeth hon ar gael i gefnogi pedwar myfyriwr sydd â statws ffoadur neu sy’n ceisio lloches yn y DU.
Mynediad i'r Brifysgol a chefnogaeth i fyfyrwyr â statws ceisiwr lloches y DU neu statws ffoadur.
Mi fydd y bwrsari yma'n hepgor ffioedd ac yn cynnwys cefnogaeth atodol ar gyfer astudio yn cychwyn yn y flwyddywn academaidd 2023/24.
Er mwyn gwneud cais ar gyfer y bwrsari yma bydd angen bod ymgeiswyr yn cwrdd â'r cymwysterau a'u nodwyd yn y telerau ac amodau.
Mae'r cymwysterau'n cynnwys:
- Dal statws o'r rhestr a nodwyd uchod a
- Derbyn cais di-amod neu amodol ar gyfer astudio ar gwrs amser llawn, Israddedig yn PCYDDS.
Duddiad cau ar gyfer ceisiadau: 31ain Mail 2023
Ffurflen gais: FFurflen gais Bwrsari PCyDDS Noddfa
Bwrsariaethau Cymorth Ariannol
Cymorth â chostau Datblygu Gyrfa neu profiad gwaith
Telir costau o hyd at £200 ar gyfer cyrsiau datblygu byr neu Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (yn ychwanegol at y cwrs) neu Hyd at £1000 ar gyfer interniaethau a drefnwyd gan y myfyriwr (yn dibynnu ar y profiad). Rhaid i gyrsiau neu Interniaethau fod yn berthnasol i’r rhaglen academaidd.
Er y gall myfyrwyr wneud mwy nag un cais, yr uchafswm y gellir ei ddyfarnu at ei gilydd i unrhyw fyfyriwr mewn blwyddyn academaidd yw £1000.
Ni chaiff myfyrwyr sydd wedi’u penodi’n Interniaid INSPIRE neu sy’n elwa o interniaethau STEM y Brifysgol wneud cais yn ychwanegol trwy’r gronfa hon oherwydd ariennir y rolau hynny drwy’r gronfa hon eisoes. Mae myfyrwyr sy'n cynrychioli’r Brifysgol yn yr Eisteddfod hefyd yn cael eu cefnogi drwy’r gronfa hon, felly mae unrhyw daliadau’n cyfrannu at yr uchafswm dyfarniad o £1000.
Bwriedir i’r Bwrsari Datblygu Gyrfa gynorthwyo â phrofiad gwaith yn gysylltiedig â chostau teithio / llety. Ni ddylai’r profiad gwaith fod yn elfen orfodol o leoliad gwaith o fewn y cwrs.
Ymgeisiwch nawr: Ffurflen gais Bwrsari Datblygu Gyrfa
cymorth â chosatu cwrs
Myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig
Hyd at £250 i gynorthwyo myfyrwyr amser llawn i wneud cais am gostau yn gysylltiedig â’u cwrs
Dyfernir y bwrsari hwn fel arfer fel ad-daliad ar ôl cyflwyno derbynebau prynu. Os na all myfyrwyr dalu costau ymlaen llaw yna anogir ceisiadau i’r Gronfa Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr.
Gall costau yn gysylltiedig â’r cwrs gynnwys: llyfrau arbenigol, offer arbenigol ac ati.
Er y gall myfyrwyr wneud mwy nag un cais lle mae’r cymorth y gofynnir amdano yn llai na £250, yr uchafswm y gellir ei ddyfarnu at ei gilydd i unrhyw fyfyriwr mewn blwyddyn academaidd yw £250
Swm y Dyfarniad: Hyd at £250
Gwybodaeth Ychwanegol: Bydd angen i fyfyrwyr gyflwyno copiau o dderbynebiadau fel prawf o’r costau
Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsari Costau Cwrs
am gymorth â dyfais neu costau rhyngrwyd
Myfyrwyr amser llawn a rhan amser sydd wedi cofrestru ar gwrs yn YDDS
Bwrsariaeth sydd ar gael i fyfyrwyr ag angen cymorth gyda chostau cysylltedd ddigidol
- Bydd dyfais YDDS Microsoft Surface Go (Intel Pentium Gold Processor, 64GB Solid State Drive, 4GB RAM) gyda clawr bysellfwrdd yn cael ei ddarparu i fyfyrwyr cymwys trwy gydol eu cwrs.
- Bydd y Brifysgol yn cadw perchnogaeth dyfeisiau a fydd yn cael eu rheoli gan TG &S.
- Mae’r ddyfais Microsoft Surface Go yn cael ei ddyfarnu i ddarparu mynediad i is-strwythur Microsoft Office y Brifysgol a sicrhau mynediad i Moodle, yr Hwb a gwasanaethau eraill ar-lein y Brifysgol. Nid yw’n bosibl cyfnewid y ddyfais hon am ddewis arall, ac nid yw’r fwrsariaeth hon wedi’i chynllunio i gefnogi ceisiadau am offer arbenigol. Dylai myfyrwyr drafod unrhyw ofynion ar gyfer offer arbenigol gyda staff y rhaglen yn eu Sefydliad academaidd.
- Ar ddiwedd cyfnod astudio mae myfyrwyr sydd wedi cwblhau dros 240 o gredydau yn gymwys i gymryd perchnogaeth o’r ddyfais a ddyrannwyd iddynt.
- Grant hyd at £100 y flwyddyn i gefnogi prynu a gosod band eang cartref neu grant hyd at £100 y flwyddyn i gefnogi prynu band eang symudol
- Cefnogaeth dros dro drwy fenthyciad ddyfais a mynediad at fand eang symudol tymor byr wedi'i dalu ymlaen llaw lle bo angen.
- Cyfeirio at grantiau a chynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi mynediad cyflym i'r rhyngrwyd fel sy'n briodol.
- Bydd dyraniad dyfeisiau yn ddarostyngedig i delerau ac amodau.
Meini Prawf Cymhwyster Dyfais:
Mae'r fwrsariaeth hon wedi'i chynllunio i gefnogi myfyrwyr sydd wedi cofrestru sydd:
- Yn methu â chael mynediad at ddyfeisiau electronig addas er mwyn cyrchu a defnyddio cyfres o offer ar-lein UWTSD Moodle, Hwb a Microsoft Office, gan gynnwys Timau
ac - Yn gallu dangos bod cost yn rhwystr i brynu dyfais yn bersonol.
Meini Prawf Cymhwyster Cysylltedd:
Mae'r fwrsariaeth hon wedi'i chynllunio i gefnogi myfyrwyr sydd wedi cofrestru sydd:
- Yn methu â chael mynediad at fand eang domestig addas (neu'n byw mewn ardaloedd nad ydyn nhw'n cael eu cynnwys ar hyn o bryd gan ddarparwyr band eang y DU) i gefnogi ymgysylltiad â dysgu o bell
ac - Yn gallu dangos bod cost yn rhwystr i brynu band eang yn bersonol.
Dyddiad olaf i wneud cais: Ceisiadau ar agor drwy gydol y flwyddyn academaidd
Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsari Cysylltedd Digidol
cymorth â chostau graddio
Hyd at £100 i gynorthwyo Graddedigion sydd mewn trafferthion ariannol gyda chostau sy’n gysylltiedig â mynychu seremoni graddio.
Er mwyn gwneud cais ar gyfer y bwrsari yma mi fydd angen:
- eich bod ar fin graddio o gwrs PCYDDS ac yn gymwys i fynychu'r seremonï graddio
- eich bod wedi cadanhau eich bod yn bwriadau mynychu seremoni graddio PCYDDS
- i chi ddangos bod angen cymorth ariannol gyda chostau resymol yn ymwneud â graddio
Swm y Dyfarniad: Hyd at £100
Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsari Costau Graddio
cymorth â chostau cyfnod lleoliad gorfodol
Myfyrwyr sy'n ymgymryd â lleoliad gorfodol
Hyd at £250 i gynorthwyo myfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliad gorfodol fel rhan o’u cwrs.
Dyfernir y bwrsari hwn fel arfer fel ad-daliad ar ôl cyflwyno derbynebau prynu. Os na all myfyrwyr dalu costau ymlaen llaw yna anogir ceisiadau i’r Gronfa Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr.
Er y gall myfyrwyr wneud mwy nag un cais lle mae’r cymorth y gofynnir amdano yn llai na £250, yr uchafswm y gellir ei ddyfarnu at ei gilydd i unrhyw fyfyriwr mewn blwyddyn academaidd yw £250
Swm y Dyfarniad: Hyd at £250
Gwybodaeth Ychwanegol: Mi fydd angen i fyfyrwyr gyflwyno derbynebau fel prawf o'r costau.
Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsari Cyfnod Lleoliad
cymorth â chostau sesmeter o Astudio Dramor
Myfyrwyr israddedig amser llawn y DU/EU
Bwrsariaeth sydd ar gael i unrhyw fyfyriwr israddedig sy’n dymuno ymgymryd â semester lawn o astudio dramor gyda un o’n sefydliadau partner.
Swm y Dyfarniad: Hyd at £250
Dyddiad olaf i wneud cais: 1af Tachwedd 2022 a 7fed Mawrth 2023
Gwybodaeth Ychwanegol: Ffurflen gais i gynnwys copi o’r llythyr cynnig oddi wrth y Swyddfa Rhyngwladol
Noder bod y bwrsariaeth yma’n cael ei dalu wedi i’r Swyddfa Rhyngwladol gadarnhau bod y myfyriwr wedi cyrraedd y sefydliad partner
Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsari Astudio Dramor
Yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd
Athrofa Rheolaeth ac Iechyd: Bwrsari Rhagoriaeth Academaidd (mynediad)
Bydd myfyrwyr sy'n gymwys i wneud cais ar gyfer y gwobrau yma yn fyfyrwyr sy'n dychwelyd i Addysg Uwch o ganlyniad ardrawiad y pandemig COVID 19. Mi fydd y bwrsari yn cael ei wobrwyo i ymgeiswyr sydd wedi dangos rhagoriaeth academaidd yn ystod y broses ymgeisio ac yn dychwelyd i addysg uwch o ganlyniad COVID ar eu gyrfaoedd blaenorol.
Mae croesi fyfyrwyr a gychwynnodd eu cwrs ym mis Medi, Ionawr neu Ebrill wneud cais ar gyfer y bwrsari yma.
Mi fydd y wobr fel arfer yn cael ei dalu mewn dau rhan: 50% ar wobrywo'r bwrsari 50% ar ddiwedd y semester cyntaf o'ch astudiaethau (ar sail mynychiad a chyrhaeddiad).
Rhaid bod ymgeiswyr wedi cofrestru ar rhaglen academaidd yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd, yn astudio o leiaf 40 credyd. Bydd pump gwobr o £1000 yr un ar gael ar gyfer y disgblaethau canlynol:
- Busnes
- Academi Goleu Glas
- Chwaraeon a Byw'n Iach
- Lletygarwch a Thwristiaeth
- Iechyd a Gofal Digidol
Mae'r wobr yn un cystadleuol. Bydd angen i ymgeiswyr gyflwyno dataganiad ysgrifenedig byr (dim mwy na 350 o eiriau) yn esbonio rhai o'r rhwystrau maent wedi eu gwynebu o galnlyniad pandemig COVID 19 a sut y bydd eu hastudiaethau yn eu cefnogi wrth ddilyn eu llwybr gyrfaol.
Ffuflen gais: Athrofa Rheolaeth ac Iechyd - Bwrsari Rhagoriaeth Academaidd
Dyddiad cau: 1af Tachwedd 2022
Athrofa Addysg a'r Dyniaethau
Ar agor i fyfyrwyr, yn eu blwyddyn cyntaf o astudio yn y Brifysgol, sy'n cwrdd ag o leiaf un o'r meini prawf canlynol:
- yn dod o ardal cyfrangoaid isel yn AU (fel y diffiniwyd gan data AU Oedolion / POLAR4 yn Lloegr a data MALIC 40 yng Ngymru)
- o dan 25 oed gyda phrofiad o system Gofal y DU
- yn aelod cyntaf o'u teulu i fynychu Prifysgol
- yn rhiant neu'n gyfrfifol am ofal aelod o'r teulu
- wedi cael diagnosis o anabledd neu wahaniaeth dysgu pendol
Rhaid bod ymgeiswyr wedi cofrestru ar gwrs academaidd o fewn yr AAD ac yn astudio 40 credyd neu fwy.
Mae'r wobr yn un cystadleuol. Bydd angen i ymgeiswyr gyflwyno dataganiad ysgrifenedig byr (dim mwy na 350 o eiriau) yn esbonio rhai o'r rhwystrau maent wedi eu goresgyn er mwyn ennill lle yn AU a sut y bydd eu hastudiaethau yn eu cefnogi wrth ddilyn eu llwybr gyrfaol.
Ffurflen gais:Yr Athrofa Addysg a'r Dyniaethau - Bwrsari Cyfranogiad Addysg Uwch
Dyddiad cau: 1af Tachwedd 2022
Bwrsariaethau Athrofa
Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru (WISA)
ar gyfer merched sy'n cofrestru ar gwrs israddedig amser-llawn mewn pwnc STEM
Myfyrwyr israddedig amser llawn
Dyfernir y bwrsari i ymgeiswyr sy’n ystyried eu hunain yn fenywod sydd wedi dangos rhagoriaeth academaidd yn ystod y broses ymgeisio.
Bydd ymgeiswyr sydd wedi derbyn eu cynnig gan y Drindod Dewi Sant (fel cynnig CADARN) i astudio rhaglen israddedig amser llawn ym maes Peirianneg, Cyfrifiadura, Adeiladu neu Gadwraeth Amgylcheddol yn gymwys i gael eu hystyried
Swm y Dyfarniad: Hyd at £2,500
Dyddiad olaf i wneud cais: 1af Tachwedd 2022
Gwybodaeth Ychwanegol: Mae’r bwrsariaeth yn cael ei ryddhau mewn rhan–daliadau.
Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Rhagoriaeth Academaidd Menywod mewn STEM
ar gyfer myfyrwyr sy'n cofrestru ar gwrs israddedig llawn amser mewn pwnc Gwyddoniaeth neu'r Celfyddydau
Myfyrwyr israddedig amser llawn.
Dyfernir y bwrsari i ymgeiswyr sydd wedi dangos rhagoriaeth academaidd yn ystod y broses ymgeisio.
Bydd ymgeiswyr sydd wedi derbyn eu cynnig gan y Drindod Dewi Sant (fel cynnig CADARN) i astudio rhaglen israddedig amser llawn ym mhortffolio WISA yn gymwys i gael eu hystyried.
Swm y Dyfarniad: Hyd at £2,500
Dyddiad cau: 1at Tachwedd 2022
Gwybodaeth Ychwanegol: Mi fydd y bwrsari'n cael ei ryddhau mewn rhan-daliadau.
Ymgeisiwch nawr: Ffurflen gais Rhagoriaeth Academaidd Ethnig o fewn WISA
Ar gyfer myfyrwyr sy'n dychwelyd i addysg uwch o ganlyniad i effaith Covid ar eu gyrfa
Myfyrwyr israddedig amser llawn
Dyfernir y bwrsari i ymgeiswyr sydd wedi dangos rhagoriaeth academaidd yn ystod y broses ymgeisio ac sy’n dychwelyd i addysg uwch o ganlyniad i effaith Covid ar eu gyrfaoedd blaenorol.
Bydd ymgeiswyr sydd wedi derbyn eu cynnig gan y Drindod Dewi Sant (fel cynnig CADARN) i astudio rhaglen israddedig amser llawn mewn Celf, Dylunio, y Cyfryngau neu’r Celfyddydau Perfformio yn gymwys i gael eu hystyried.
Swm y Dyfarniad: Hyd at £2,500
Dyddiad olaf i wneud cais: 1af Tachwedd 2022
Gwybodaeth Ychwanegol: Mae’r arian yn cael ei ryddhau mewn rhan-daliadau.
Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Rhagoriaeth Academaidd yn y Celfyddydau Creadigol Ôl-Covid
Ar gyfer myfyrwyr sy'n dychwelyd i addysg uwch o ganlyniad i effaith Covid ar eu gyrfa
Myfyrwyr israddedig amser llawn
Dyfernir y bwrsari i ymgeiswyr sydd wedi dangos rhagoriaeth academaidd yn ystod y broses ymgeisio ac sy’n dychwelyd i addysg uwch o ganlyniad i effaith Covid ar eu gyrfaoedd blaenorol.
Bydd ymgeiswyr sydd wedi derbyn eu cynnig gan y Drindod Dewi Sant (fel cynnig CADARN) i astudio rhaglen israddedig amser llawn ym maes Peirianneg, Cyfrifiadura, Adeiladu neu Gadwraeth Amgylcheddol yn gymwys i gael eu hystyried.
Swm y Dyfarniad: Hyd at £2,500
Dyddiad olaf i wneud cais: 1af Tachwedd 2022
Gwybodaeth Ychwanegol: Mae’r bwrsariaeth yn cael ei dalu mewn rhan-daliadau.
Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Rhagoriaeth Academaidd ym maes STEM Ôl-Covid
I'w gyhoeddi
Yr Athrofa (Addysg a’r Dyniaethau)
Athrofa Addysg a'r Dyniaethau: Bwrsari Anabledd
Ar agor i fyfyrwyr, yn eu blwyddyn cyntaf o astudio yn y Brifysgol, sydd wedi datgan anabledd neu wahaniaeth dysgu pendol megis Dyslecsia, Dyspracsia, ADD neu Syndrom Asperger.
Rhaid bod ymgeiswyr wedi cofrestru ar gwrs academaidd o fewn yr AAD ac yn astudio 40 credyd neu fwy.
Mae'r wobr yn un cystadleuol. Bydd angen i ymgeiswyr gyflwyno dataganiad ysgrifenedig byr (dim mwy na 350 o eiriau) yn esbonio rhai o'r rhwystrau maent wedi eu goresgyn er mwyn ennill lle yn AU a sut y bydd eu hastudiaethau yn eu cefnogi wrth ddilyn eu llwybr gyrfaol. Fe cewch ebost yn gofyn i chi gyflwyno'r datganiad wedi i chi gwblhau'r ffurflen yma.
Ffurflen gais:Yr Athrofa Addysg a'r Dyniaethau - Bwrsari Anabledd Yr Athrofa (Addysg a'r Dyniaethau) - Bwrsari Anabledd
Dyddiad cau: 1af Tachwedd 2022
Athrofa Addysg a'r Dyniaethau: Bwrsari Cyfiawnder Cymdeithasol a Chynhwsiad
Ar agor i fyfyrwyr yn eu blwyddyn cyntaf o astudio yn y Brifysgol sydd yn, neu eisioes wedi, ymgymryd â menter neu prosiect sy'n anelu at gynyddu ac ehangu cyfiawnder cymdeithasol a chynhwysiad.
Rhaid bod ymgeiswyr wedi cofrestru ar gwrs academaidd o fewn yr AAD ac yn astudio 40 credyd neu fwy.
Mae'r wobr yn agored i fyfyrwyr o bob cefndir ag amryw o ddiddordebau. Rydym yn deall bod cyfiawnder cymdeithasol a chynhwysiad yn cwmpasu ystod eang iawn o weithgareddau a phryderon.
Mae'r wobr yn un cystadleuol. Bydd angen i ymgeiswyr gyflwyno disgrifiad ysgrifenedig byr o'r prosiect/ menter cyfiawnder cymdeithsaol a chynhwysiad y buont yn ymgymryd ag ef a'u cyfraniad penodol hwy at lwyddiant y gwaith (dim mwy na 350 o eiriau). Fe cewch ebost yn gofyn i chi gyflwyno'r darn ysgrifenedig wedi i chi gwblhau'r ffurflen gais yma.
Ffurflen gais: Athrofa Addysg a'r Dyniaethau - Bwrsari Cyfiawnder Cymdeithasol a Chynhwysiad
Dyddiad cau: 1af Tachwedd 2022
Athrofa Addysg a'r Dyniaethau: Bwrsari Academaidd Cydraddoldeb Ethnig
Ar agor i fyfyrwyr, yn eu blwyddyn cyntaf o astudio yn y Brifysgol, sy'n nodi eu bod yn perthyn i un o’r grwpiau ethnig o dan y penawdau canlynol ar restr gyhoeddedig Llywodraeth y DU:
- Grwpiau Cymysg neu Amlethnig
- Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig
- Du, Affricanaidd, Caribïaidd neu Ddu Prydeinig
- Grŵp Ethnig Arall
Mae myfyrwyr o ethnigrwydd Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig hefyd yn gymwys am y bwrsari hwn.
Rhaid bod ymgeiswyr wedi cofrestru ar gwrs academaidd o fewn yr AAD ac yn astudio 40 credyd neu fwy.
Mae'r wobr yn un cystadleuol. Bydd angen i ymgeiswyr gyflwyno dataganiad ysgrifenedig byr (dim mwy na 350 o eiriau) yn esbonio rhai o'r rhwystrau maent wedi eu goresgyn er mwyn ennill lle yn AU a sut y bydd eu hastudiaethau yn eu cefnogi wrth ddilyn eu llwybr gyrfaol.
Ffurflen gais: Yr Athrofa Addysg a'r Dyniaethau - Bwrsari Cydraddoldeb Ethnig
Dyddiad cau: 1af Tachwedd 2022
Bwrsari ar gyfer myfyrwyr campysau Llundain a Birmingham yn unig. Gweler y dudalen Saesneg am wybodaeth.