Jack Tremlet
Mae Jack wastad wedi bod â diddordeb angerddol mewn chwaraeon a ffitrwydd ac mae wedi gweithio yn y diwydiant hamdden ers dros 15 mlynedd. Ers ymddeol o chwarae rygbi yn 2012, mae Jack wedi troi at chwaraeon dygnwch ac mae wedi cwblhau Ironman Cymru ddwywaith, dros ddeg marathon ac wedi ennill medalau yng nghystadlaethau rhedeg ar y ffordd Meistri Cymru.
Cymwysterau
- MSc Gwyddor Chwaraeon gyda Rheolaeth o Brifysgol Abertawe
- BSc (Anrhydedd) Gwyddor Chwaraeon o Brifysgol Brunel (Gorllewin Llundain)
- REPS Lefel 3 Hyfforddwr Ffitrwydd Uwch
- REPS Lefel 4 Hyfforddwr Personol
- REPS Lefel 4 - Ymgynghorydd i Raglen Atgyfeirio Sefydliad Wright
- Cymhwyster mewn Atgyfeiriadau Ymarfer Corff
Jason Hopkins
Graddiodd Jason o Goleg y Drindod Caerfyrddin yn 2004 gyda gradd mewn BA Hanes. Aeth ymlaen i fod yn Athro Hanes ac Addysg Grefyddol yn Ysgol y Frenhines Elisabeth Cambria / Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth yng Nghaerfyrddin ar ôl cwblhau TAR yn Athrofa Abertawe.