Pethau y Dylech Wybod
Mae gwneud cais i Brifysgol yn gofyn bod myfyrwyr dichonol yn cwblhau nifer o bethau sy’n amrywio o fynychu ffeiriau UCAS i ysgrifennu datganiad personol. Rydym wedi rhoi ychydig o wybodaeth at ei gilydd i helpu ymgeiswyr gyda’r broses hon.
Ceir yma, dudalennau sy’n esbonio UCAS, yn cynnig awgrymiadau ar sut i ysgrifennu’r datganiad personol, a chanllaw ar UCAS Extra. Rydym hefyd wedi cynnwys dolen i’n Blog Myfyrwyr er mwyn eich bod yn gallu darllen am brofiadau ein myfyrwyr wrth iddynt fynd ar eu taith o wneud cais ac am eu cyfnod gyda ni yn y brifysgol.
Ceir dolenni hefyd i rai safleoedd allanol a allai ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol ar eich cyfer yn ystod y broses o wneud cais.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses ymgeisio, peidiwch ag oedi rhag cysylltu â ni, neu ymwelwch â ni ar ddiwrnod agored a gofynnwch gymaint o gwestiynau ag sydd angen eu gofyn arnoch i wneud dewis gwybodus.