Hafan YDDS - Bywyd Myfyrwyr - Gwybodaeth Hanfodol i Fyfyrwyr - Ysgrifennu Datganiad Personol
Cyngor wrth ysgrifennu’r Datganiad Personol
Mae ysgrifennu’ch datganiad personol yn gallu bod yn heriol ac mae angen i chi ysgrifennu amdanoch eich hun mewn modd addas a phroffesiynol.
Rydym wedi nodi’r deg peth pwysicaf i chi wneud wrth ysgrifennu’r datganiad personol.
- Dwedwch wrthym am eich diddordeb yn y pwnc ac o ble ddaeth y diddordeb.
- Rhowch fanylion – beth ydych chi’n mwynhau astudio am y pwnc?
- Ydych chi’n darllen yn ehangach am eich pwnc? Os ydych, dwedwch wrthym ni beth.
- Dwedwch wrthym ni am brofiad gwaith perthnasol.
- Pa sgiliau ydych chi wedi datblygu drwy brofiad gwaith/swydd rhan amser/astudiaethau/diddordebau?
- Peidiwch â rhestri’ch sgiliau – rhowch esiamplau o sut ydych chi wedi eu datblygu a’u defnyddio.
- Cofiwch sicrhau fod yr hyn rydych chi’n sôn amdano’n berthnasol i’r cwrs.
- Peidiwch â sôn am bethau sy’n amherthnasol.
- Defnyddiwch feddalwedd cywiro sillafu neu eiriadur!
- Byddwch yn gadarnhaol a byddwch yn hyderus wrth sôn am eich cryfderau – dyma’ch cyfle i ddweud wrthym ni pam eich bod yn berffaith ar gyfer y cwrs.