Mae’r adran Creadigrwydd a Dysgu Digidol o fewn PCYDDS (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant) yn ymgorffori pedwar prif faes o arbenigedd a phrofiad.
Ewch i'r ardal berthnasol i ddarganfod mwy.

Yn arwain ar Addysgeg Ddigidol, datblygu a chyflawni cynnwys dysgu digidol blaenllaw a defnyddio technoleg yn effeithiol ar gyfer asesu dysgu myfyrwyr, gwahaniaethu’r cyflawni a darparu profiadau dysgu digidol cadarn, perthnasol a diddorol ar gyfer ein dysgwyr.

Yn arwain ar Ddylunio er mwyn cynorthwyo gofynion dysgu, marchnata a chyfathrebu. Mae’r adnoddau yn cynnwys:
- Dylunwyr Graffeg
- Gwasanaethau Argraffu
- Cynhyrchu Fideos
- Ffotograffiaeth ac Effeithiau Gweledol

Yn arwain ar ddatblygiad gwe’r Athrofa, mae’r tîm gwasanaethau gwe yn cynnal ac yn cadw’r wefan ddwyieithog a chanolog sydd ar gyfer y cyhoedd (www.ydds.ac.uk), a gwefannau cysylltiedig. Mae’r gwasanaethau yn cynnwys:
- Dylunio a Datblygu Gwefannau
- Hyfforddi ar gyfer, a chynnal a chadw’r System Rheoli Cynnwys (CMS)
- Profiad Defnyddwyr (UX)
- Dylunio Cynnwys
- Chwiliadau Gwefan a Chyrsiau
- Sicrhau Ansawdd
- Trefn Lywodraethol a Hygyrchedd.

Yn arwain y gwaith o ddylunio a chreu cynnwys Realiti Estynedig i gefnogi dysgu ac addysgu, marchnata, a datblygiadau busnes. Meysydd datblygu rydym yn eu harchwilio ar hyn o bryd:
- Realiti Estynedig – Realiti Rhithwir / Realiti Estynedig
- Ystafelloedd Ymdrochol
- Teithiau Rhithwir Rhyngweithiol