Rheolwr Gwasanaethau Gwe ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yw Clive Jones, ac mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad yn datblygu a rheoli gwefannau dwyieithog cymhleth ar gyfer y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Mae Clive yn gweithio yn Abertawe. Mae ef hefyd wedi gweithio mewn rolau creadigol yn y Brifysgol, ym meysydd cymorth clyweledol a chynhyrchu fideos ar gampysau Llambed a Chaerfyrddin.
Mae Clive yn chwarae rhan hanfodol yn natblygiad strategol gwefannau dwyieithog y Brifysgol, ac mae’n rheoli tîm bychan o broffesiynolwyr Gwe.
Prif ddiddordebau Clive yw datblygu gwefannau ymatebol, rheoli gwefannau, UX, marchnata digidol, hygyrchedd digidol a dylunio cynnwys. Mae’n dod yn wreiddiol o ardal Llanbedr Pont Steffan, yng Ngorllewin Cymru, mae’n Gymro Cymraeg rhugl, ac mae’n frwdfrydig dros y Gymraeg a diwylliant Cymru.
Gwybodaeth Gyswllt
E-bost: clive.jones@uwtsd.ac.uk