Mae Fiona yn Swyddog Cynnwys y We gyda’r Tîm Gwasanaethau Gwe.
Mae ei rôl yn ffocysu ar brif wefan uwtsd.ac.uk/, ac mae’n cynnwys ychwanegu deunydd newydd, creu neu ddileu tudalennau, ac ymgymryd â gwiriadau rheoli ansawdd.
Treuliodd nifer o flynyddoedd yn gweithio dramor ym mae Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor. Ar ôl gadael yr Almaen yn 2014 a dychwelyd i’r DU, trosglwyddodd i lyfrgelloedd, ac yn y pendraw, gwnaeth Ddiploma Ôl-raddedig mewn Gwybodaeth ac Astudiaethau Llyfrgell gyda Phrifysgol Aberystwyth.
Mae ei diddordebau proffesiynol yn cynnwys ymddygiad ceisio gwybodaeth a hygyrchedd. Yn ei hamser hamdden, mae hi’n mwynhau beicio, cerdded a dysgu Cymraeg.
Gwybodaeth Gyswllt
E-bost: f.mclellan@uwtsd.ac.uk