Mae Rachel yn gynorthwyydd datblygu’r we ac ymunodd â’r tîm yn 2021.
Mae gan Rachel ddiddordeb brwd mewn popeth creadigol boed yn ddatblygu’r we, dylunio’r we, ffotograffiaeth neu ffilm. Mae’n mwynhau gweithio’n gydweithredol gydag eraill i uno pob agwedd ar greadigrwydd at ei gilydd a dod â gweledigaethau’n fyw. Mae ei rôl fel cynorthwyydd datblygu’r we yn cynnwys ychwanegu neu olygu deunydd newydd ar dudalennau gwe, creu neu archifo tudalennau, gweithredu cod HTML a CSS lle bo angen, newid maint delweddau ac optimeiddio ar gyfer y we a chysylltu a thrwsio dolenni sydd wedi torri, yn ogystal â rhoi cymorth gyda’r we lle bo angen.
Cyn ei swydd flaenorol gwnaeth Rachel astudio Cynhyrchu Cyfryngau Newydd yn Y Drindod a graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf, mae ei set sgiliau’n eang a gall defnyddio a chynhyrchu cynnwys yn hyderus boed ar y we, yn ffotograffiaeth neu’n ffilm.
Yn ystod ei hastudiaethau yn Y Drindod dechreuodd Rachel weithio gydag amrywiaeth o gwmnïau allanol i ehangu ei phrofiadau. Mae ei henw’n ymddangos ar un o ffilmiau S4C o’r enw ‘Beddgelert’ a gynhyrchwyd gan Bad Wolf, y gweithiodd Rachel arno fel Rhedwr a chynorthwyydd camera. Mae hi hefyd wedi gweithio’n rheolaidd gyda Broadside Productions fel cynorthwyydd ffotograff a chamera tu ôl i’r llen. Gweithiodd Rachel yn allanol gyda Cwtch Productions fel ffotograffydd, fideograffydd priodasau nes 2020 ac yma y dysgodd i gymhwyso ei haddysg a’i set sgiliau i amgylchedd gwaith proffesiynol a deliodd â llawer o gleientiaid yn gydweithredol ac unigol.
Yn ei hamser rhydd mae Rachel yn mwynhau dysgu sgiliau newydd, mynd i’r gampfa, treulio amser gyda’i theulu a’i ffrindiau a mynd am dro gyda’i chŵn.
Gwybodaeth Gyswllt
E-bost: r.davies@uwtsd.ac.uk