Mae Academi Llais Ryngwladol Cymru (WIAV) yn ganolfan addysg perfformio lleisiol gyffrous, sy’n falch o’i chymysgedd o staff a hyfforddwyr rhyngwladol, academaidd a diwydiantseiliedig.
Mae’r tenor bydenwog Dennis O’Neill a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi dod at ei gilydd i roi hyfforddiant o’r radd flaenaf i fyfyrwyr. Mae WIAV yn amgylchedd arbenigol ac unigryw ar gyfer nifer fach o gantorion a chyfeilyddion eithriadol sydd ar ddechrau eu gyrfa broffesiynol.
Canolfan arloesol sy’n cynnig graddau arbenigol a fydd yn darparu ein myfyrwyr gyda thechneg gadarn law yn llaw â dealltwriaeth eang o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt.
Mae'r ganolfan yn bair byrlymus o actorion, cantorion, a dawnswyr y dyfodol. Mae ethos gwaith y cyrsiau wedi’i selio ar barch a chydweithio, ac mae hyn yn deillio o’r gefnogaeth mae’r myfyrwyr yn ei dderbyn gan ein staff a thiwtoriaid ymroddedig a phroffesiynol. Mae ein myfyrwyr yn ffurfio grwpiau clos, gan ddatblygu perthynas bersonol a phroffesiynol sy’n para am flynyddoedd.