Hafan YDDS  -  Y Brifysgol  -   Campysau, Canolfannau a Lleoliadau  -  Campws Caerfyrddin

CAMPWS CAERFYRDDIN



EIN CAMPWS GWEITHGAR

Darganfyddwch Yr Awyr Agored Gwych

Dewch yn arwr eich stori eich hun yn nhref farchnad hardd Caerfyrddin. Barod i ddechrau’ch antur? Byddwch yn egnïol gyda pheth o’r caiacio môr, arforgampau, beicio mynydd a dringo creigiau gorau yn y byd. Yn swatio ar yr Afon Tywi, dim ond hanner awr ydych chi o Fannau Brycheiniog a thraethau tywodlyd hardd Sir Benfro. Mae’r cefndiroedd trawiadol hyn yn berffaith ar gyfer ein cyrsiau cyffrous – o chwaraeon, iechyd ac addysg awyr agored i’r diwydiannau perfformio.

Cymuned Yn Gyntaf

Dewiswch le y byddwch yn perthyn iddo. Mae cymuned glos Caerfyrddin yn amgylchedd gofalgar i ffynnu ynddo – man lle mae pawb yn gwybod eich enw. Byddwch yn cael eich trwytho ym mywyd y campws, gan ddod y person gorau y gallwch fod a pharatoi ar gyfer llwyddiant academaidd, personol a phroffesiynol. Oherwydd pan fyddwch chi’n dod o hyd i ble rydych chi’n ffitio, rydych chi’n gwybod eich bod ar y llwybr cywir.

Beth Fyddwch Chi’n Ei Astudio

Darganfyddwch amrywiaeth o gyrsiau ymarferol, gweithredol, gan gynnwys Busnes, Chwaraeon ac Iechyd, Celfyddydau Perfformio, Ieuenctid a Chymunedau, Astudiaethau Addysg a Gwneud Ffilmiau Antur. Ewch allan o’r ystafell ddosbarth. Cymerwch ganol y llwyfan. Ysbrydolwch y genhedlaeth nesaf. Gwnewch wahaniaeth i gymdeithas. A dysgwch y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ymgymryd â’r byd fel myfyriwr graddedig hynod gyflogadwy.

Campws Caerfyrddin

Archwiliwch ardal Campws Caerfyrddin Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a'r hyn sydd gan y dref i'w gynnig.