UWTSD Home - Y Brifysgol - Campysau, Canolfannau a Lleoliadau - Campws Caerfyrddin - 10 Peth Gorau I’w Wneud Yn Caerfyrddin
10 Peth Gorau I’w Wneud Yn Caerfyrddin
1. Bwyta!
Mae llawer o gaffis a bwytai lleol annibynnol yng Nghaerfyrddin ac fel cymuned mae’r Drindod Dewi Sant yn hyrwyddo ethos cefnogi busnesau bach lleol.
Dyma ychydig o leoedd yng Nghaerfyrddin i fwynhau brecwast / cinio / swper neu ychydig o dapas a cherddoriaeth fyw.
- Yr Egin - ar y Campws!
- Yr Atom
- Caffi Karmen – man hudolus!
- Pethau Da
- Diablo's - Tapas a cherddoriaeth fyw!
- Florentinos
- Lorenzos - Cerddoriaeth fyw!
- Y Warren - Lle gwych i lysieuwyr!
- Sinamon
- Sinsir
2. Ymweld â chestyll yr ardal!
Mae nifer anhygoel o gestyll a thyrau hardd a hanesyddol wedi eu lleoli o fewn tafliad carreg i Gaerfyrddin. Mae golygfeydd trawiadol i’w gweld o’r mannau hyn i gyd:
- Castell Caerfyrddin
- Castell Llansteffan
- Castell Dryslwyn
- Tŵr Paxton
- Castell Dinefwr
- Castell Talacharn
- Castell Carreg Cennen
3. Archwiliwch y Traethau!
Mae Caerfyrddin yn ffodus am ei bod wedi ei lleoli’n agos iawn i rai o draethau gorau’r rhanbarth. Byddem yn argymell eich bod yn ymweld â threfi glan môr Dinbych-y-Pysgod a Saundersfoot neu draeth Llansteffan i enwi ond rhai ac mae digon o draethau godidog eraill heb fod yn llawer pellach i ffwrdd!
4. Rhywbeth ychydig yn wahanol…
- Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain
- Parc Antur a Sŵ Folly Farm
- Parc Bywyd Gwyllt Manor Dinbych-y-Pysgod
- Mwyngloddiau Aur Dolau Cothi
- Parc Thema Oakwood
5. Neidio ar y trên ... ond ewch chi ddim yn bell!
Yng Nghaerfyrddin mae rhywbeth at ddant pawb felly os ydych chi'n hoff o drenau…
Rheilffordd dreftadaeth Gymreig yw Rheilffordd Gwili, sy'n gweithredu llinell reilffordd safonol wedi'i chadw o safle Cyffordd Abergwili y tu allan i’r dref ar hyd darn pedair milltir a hanner o'r hen reilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth.
6. Os ydych chi'n caru celf, mae gennym ni…
- Oriel Myrddin
- Oriel Origin
- Oriel Stryd y Brenin
- Ysgol Gelf Caerfyrddin
7. Byddwch yn Egnïol!
- Mynd i’r gampfa ar y campws.
- Beicio; yn ogystal â bod golygfeydd hyfryd i'w hedmygu yma wrth feicio mae hefyd felodrom yma yng Nghaerfyrddin a llwybr beicio Bae Caerfyrddin.
- Os ydych chi'n fwy o feiciwr mynydd mae llwybrau gerllaw yng Nghoedwig Brechfa, Coedwig Cwm Rhaeadr, Allt Nant-y-Ci a Choedwig Crychan.
- Canŵio a rafftio Dŵr Gwyn
- Chwilota’r arfordir
- Marchogaeth ceffylau
- Llethrau sgïo sych Penfro
- Parc Dŵr Blue Lagoon
8. Crwydro ac Archwilio…
- Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
- Parc Caerfyrddin
- Cwm Rhaeadr
- Dylan Thomas
- Gerddi Hywel Dda
- Gerddi Aberglasne
- Y Gerddi Botaneg
- Llyn Llech Owain
9. Ewch ar daith i gampws y Drindod Dewi Sant yn Llambed!
Oeddech chi’n gwybod bod bysys ar gael i’ch cymryd o Gaerfyrddin i Lambed ac yn ôl? Yma yn Y Drindod Dewi Sant mae croeso i chi ar unrhyw un o'n campysau. Ewch ar daith i Lambed a chymerwch gip ar ein 10 peth gorau i'w gwneud yn Llambed
Mae'r un peth yn berthnasol ar gyfer y 10 peth gorau i'w gwneud yn Abertawe
10. Mae rhywbeth yn digwydd yng Nghaerfyrddin trwy’r flwyddyn…
Yn dymhorol cynhelir Gŵyl y Gaeaf ac arddangosfa Tân Gwyllt mawr ym Mharc Caerfyrddin yn ogystal â Marchnad Nadolig yng nghanol y dref. Mae’r farchnad awyr agored yng Nghaerfyrddin yn cael ei chynnal ar ddydd Mercher a dydd Gwener ac mae’n gwerthu bwyd, cynnyrch ffres, celf a chrefft a llawer mwy.