Dod i adnabod ein myfyrwyr
Chloe Jones
Cwrs: BA Addysg Gynradd Gyda SAC
Tref enedigol: Pencader
Dywedwch ychydig wrthym amdanoch chi'ch hun ...
- Rwy'n fyfyriwr trydedd flwyddyn yn graddio eleni.
- Rwy'n mwynhau chwarae chwaraeon yn fy amser hamdden - hoci a phêl-droed yn bennaf.
- Rwy'n mwynhau cystadlu â'm clwb CFfI mewn amryw o ddigwyddiadau.
Sut y daethoch chi i fod yn fyfyriwr yn y Drindod Dewi Sant a beth wnaeth eich denu chi i astudio gyda ni?
Roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a gallai’r Drindod Dewi Sant gynnig hynny i mi, a thrwy'r cwrs roeddwn i eisiau ei astudio. Roeddwn hefyd eisiau astudio mewn prifysgol a oedd yng Nghymru a heb fod yn rhy bell o gartref. Felly’r Drindod Dewi Sant oedd yr opsiwn gorau i mi gan ei bod yn cynnig yr hyn yr oeddwn yn chwilio amdano.
Sut y byddech chi'n disgrifio'ch amser yn y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin?
Rwyf wedi mwynhau fy amser yn y Drindod Dewi Sant ac wedi cael llawer o brofiadau y gallaf eu cymryd gyda mi i fy ngyrfa ar ôl graddio. Rwy'n credu fy mod i wedi tyfu fel unigolyn ac wedi magu hyder oherwydd y gwahanol brofiadau y mae’r Brifysgol wedi'u cynnig i mi.
Disgrifiwch ddiwrnod arferol i chi ar y campws a beth ydych chi'n ei wneud yn y nos ac ar benwythnosau tra ar y campws?
Rwy’n tueddu i fod mewn darlithoedd dair gwaith yr wythnos ac am weddill yr wythnos rwy’n gweithio ar fy aseiniadau ac yn cwblhau ymrwymiadau eraill. Rwy'n gwybod bod llawer o gymdeithasau ar y campws sy'n trefnu gweithgareddau a digwyddiadau amrywiol i ddifyrru myfyrwyr yn ystod yr wythnos a'r penwythnosau, gan fy mod i'n aelod o gwpl ohonyn nhw fel y Gymdeithas Gymraeg, Y Gymdeithas Athrawon, Côr y Gangen a'r timau chwaraeon. Mae pob dydd Mercher fel arfer yn ddiwrnod gêm i'r timau chwaraeon, mae hwn yn gyfle gwych i weithio fel tîm a chwarae yn erbyn prifysgolion eraill.
A allwch chi rannu unrhyw berlau cudd rydych chi wedi'u darganfod yn ystod eich amser yn y Drindod Dewi Sant? Y lleoedd gorau i astudio / bwyta / cymdeithasu / archwilio yn gyffredinol.
Byddwn yn argymell ymweld â’r Egin i gael coffi neu ginio, rwyf wedi treulio llawer o fy amser yma yn cymdeithasu. Lle arall y byddwn yn argymell treulio'ch amser sbâr rhwng darlithoedd yw’r CWAD. Os ydych chi am astudio mewn man tawel, yna'r llyfrgell yw'r lle gorau, mae yna ddigon o lyfrau ac amgylchedd gwaith priodol yno.
Cyngor i fyfyrwyr campws Caerfyrddin yn y dyfodol?
Fy mhrif gyngor yw ‘ewch amdani’ gan roi cynnig ar bopeth sydd gan y brifysgol i'w gynnig. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ymuno â gwahanol gymdeithasau er mwyn dod i adnabod myfyrwyr eraill a chofiwch gynnig bod yn llysgennad myfyrwyr – mae hwnnw’n brofiad gwych!
Beth ydych chi'n ei garu fwyaf am y campws?
Rwy'n hoffi bod y campws yn fach, mae hyn yn golygu y gallwch ddod i adnabod pawb yno. Nid yw maint fy nosbarth yn rhy fawr sy'n rhoi cyfle i ni ddod i adnabod ein darlithwyr yn dda hefyd.
Beth ydych chi'n ei garu fwyaf am yr ardal?
Rwy'n mwynhau ein bod ni'n ddigon agos at gefn gwlad a'r arfordir. Ond hefyd yn ddigon agos i dref Caerfyrddin ar gyfer siopa ac adloniant fel y sinema neu fowlio.
Siobhán Eleri
Cwrs: BA Addysg Gynradd gyda SAC
Tref enedigol: Caerfyrddin
Dywedwch ychydig wrthym amdanoch chi'ch hun ...
Rwy'n fyfyriwr trydedd flwyddyn sy'n mwynhau fy ngradd yn ogystal â'r holl gymdeithasau sydd gan y brifysgol i'w cynnig!
Sut y daethoch chi i fod yn fyfyriwr yn y Drindod Dewi Sant a beth wnaeth eich denu chi i astudio gyda ni?
Yr hyn a’m denodd i astudio yma oedd y cwrs, y ffaith ei fod yn lleol ac wedi caniatáu imi astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Sut fyddech chi'n disgrifio'ch amser yn y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin?
Profiad llawn hwyl a heriol sydd wedi fy aeddfedu.
Sut brofiad yw byw yng Nghaerfyrddin?
Dyma lle ces i fy magu felly mae'n wych gallu derbyn f’addysg uwch yma!
Disgrifiwch eich diwrnod arferol ar y campws a beth ydych chi'n ei wneud yn y nos ac ar benwythnosau tra ar y campws?
Rwy’n treulio’r rhan fwyaf o’r amser mewn darlithoedd neu ar leoliad mewn ysgolion lleol ac felly rydw i'n hoffi ymlacio gyda ffrindiau gyda'r nos a chael hwyl ar benwythnosau!
A allwch chi rannu unrhyw berlau cudd rydych chi wedi'u darganfod yn ystod eich amser yn y Drindod Dewi Sant? Y lleoedd gorau i astudio / bwyta / cymdeithasu / archwilio yn gyffredinol.
Mae’r ‘Cofio Lounge’ yn gyrchfan gwych ar gyfer ‘brecinio’ yn y dref tra bod y ‘Cuckoo’s Nest’ yn gweini coctêls blasus gyda’r nos. Mae sawl man bwyta ar y campws - fy newis personol yw caffi Yr Egin, sef ‘Y Gegin’, lle gewch chi bryd da a chyfle i sgwrsio hefyd!
Cyngor i fyfyrwyr campws Caerfyrddin yn y dyfodol?
Manteisiwch i'r eithaf ar eich amser, beth bynnag ‘ych chi’n chwilio amdano o'ch profiad prifysgol. Yn bwysicaf oll, byddwch eich hun a gwnewch yn siŵr eich bod yn cael digon o hwyl!
Beth ydych chi'n ei garu fwyaf am y campws?
Ei fod yn agos at y dref a chefn gwlad. Hefyd, ei fod yn cyfuno adeiladau prifysgol a gweithleoedd proffesiynol.
Beth ydych chi'n ei garu fwyaf am yr ardal?
Dyna fy nhref enedigol :)