Skip page header and navigation

Cefnogaeth

Rydyn ni’n ymdrechu i roi arweiniad gwerthfawr i’n myfyrwyr pan fyddan nhw ar ddechrau eu taith academaidd. Mae dewis prifysgol yn benderfyniad pwysig, ac rydyn ni’n deall y gall y broses ymgeisio fod yn gyffrous ac yn ddychrynllyd yr un pryd. 

P’un ai eich bod ar fin gadael yr ysgol, neu’n bwriadu dychwelyd i fyd addysg, nod ein tudalennau cyngor cynhwysfawr yw eich helpu i ddeall y broses ymgeisio ac i egluro popeth, o ysgrifennu datganiad personol gafaelgar a deall anghenion ychwanegol rhai cyrsiau, fel gwiriadau DBS, i weithdrefnau Cydnabod Dysgu Blaenorol. 

Wrth i chi ddysgu mwy am yr adnoddau sydd ar gael, gobeithio y cewch chi’r holl wybodaeth a’r gefnogaeth yr ydych eu hangen er mwyn teimlo’n hyderus wrth i chi ymuno â’n cymuned academaidd fywiog. Ond os oes gennych ragor o gwestiynau, cofiwch gysylltu â ni. 

Cyn gwneud Cais

Mae’n bwysig eich bod yn ymchwilio eich dewisiadau’n ofalus cyn gwneud cais. Darllenwch yr holl wybodaeth sydd i’w chael ar dudalennau’r cyrsiau ar wefan y Brifysgol a, phan fo’n berthnasol, y wybodaeth sydd ar wefan UCAS. Ewch i Ddiwrnodau Agored er mwyn dysgu mwy am y Brifysgol ac am y cyrsiau sydd o ddiddordeb i chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os byddwch angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Derbyniadau’r Brifysgol a byddan nhw’n eich cysylltu â’r Tiwtor Derbyn perthnasol.

Ar ôl penderfynu ar eich rhaglen(ni), efallai dylech ystyried beth i’w gynnwys yn eich datganiad personol a phwy ddylai fod yn ganolwr i chi.

Mae gweithdrefnau Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) y Brifysgol yn bodoli er mwyn i ymgeiswyr allu hawlio credydau am asesiadau ardystiedig y maen nhw eisoes wedi’u gwneud, neu er mwyn gwerthuso’r ddysg a gafwyd trwy brofiad a dyfarnu credydau amdano. Gellir defnyddio credydau o’r fath er mwyn ymuno â rhaglen, er mwyn cael eich eithrio o rai rhannau o raglen, neu fel cyfraniad tuag at ddyfarniad academaidd. 

Mae mwy o wybodaeth i’w gael ym Mholisi Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) y Brifysgol yma 

  • Gall ymgeiswyr sydd eisoes wedi ennill credydau trwy wneud astudiaethau ffurfiol ar lefel Addysg Uwch wneud cais am Gydnabyddiaeth o Ddysgu Ardystiedig Blaenorol (RPCL). Gall y credydau hyn fod wedi’u hennill mewn sefydliad arall, o ardystiadau proffesiynol, neu o fod wedi gwneud rhaglen astudio arall sy’n wahanol i’r un y mae’r ymgeisydd yn cofrestru amdani yn awr.

    Gall ymgeiswyr sydd wedi ennill dealltwriaeth a sgiliau tebyg o ganlyniad i’w profiad yn y gweithle, boed hynny yn gyflogedig neu’n wirfoddol, neu sydd wedi gwneud astudiaethau/hyfforddiant lle nad oedd ardystiad proffesiynol neu addysgol ffurfiol, gwneud cais am Gydnabod Dysgu Drwy Brofiad (RPEL). 

    Os ydych chi’n ddarpar ymgeisydd sy’n awyddus i hawlio credydau am ddysgu sydd wedi’i asesu a’i ardystio ar lefel Addysg Uwch yn y gorffennol, neu sydd am gael gwerthuso a dyfarnu credydau am ddysgu drwy brofiad blaenorol, sicrhewch eich bod yn gwneud cais am y lefel mynediad cywir ar eich ffurflen gais a’ch bod yn cyfeirio at hyn yn eich datganiad personol. 

  • Bydd penderfyniadau ynghylch cydnabod dysgu blaenorol yn seiliedig ar gywerthedd. Bydd rhaid gallu dangos bod y dysgu ardystiedig neu’r profiad yn gywerth â’r addysg a geir o gwblhau’r modiwl(au) yr ydych yn ceisio cael eich eithrio rhag eu cwblhau neu eisiau trosglwyddo credyd ar eu cyfer.

    Cydnabyddir Dysgu Blaenorol cyn belled nad yw’n arwain at ‘gyfrif ddwywaith’. Golyga hyn na ellir ail-ddefnyddio dysgu sydd eisoes wedi cyfrannu at un cymhwyster er mwyn cael eithriad Cydnabod Dysgu Blaenorol mewn cymhwyster arall ar yr un lefel neu ar lefel is.

    Bydd gofyn i ymgeiswyr sy’n nodi eu bod eisiau gwneud cais am Gydnabod Dysgu Blaenorol, gwblhau ffurflen RPCL / RPEL fel rhan o’r broses fynediad. 

    Fel arfer, rhaid prosesu ceisiadau cyn i’r ymgeisydd gofrestru er mwyn caniatáu eithriad(au)/trosglwyddo credyd(au).

    Rheolwyr y Rhaglen fydd yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ar geisiadau RPCL eu rhaglenni astudio. Bydd Pennaeth Gweithredol y Gofrestrfa a’r Pennaeth Derbyn yn gwirio bod y broses briodol wedi’i dilyn cyn cymeradwyo hawliad. 

    Bydd unrhyw geisiadau am Gydnabod Dysgu drwy Brofiad Blaenorol (RPEL) yn cael eu hystyried gan Fwrdd Cydnabod Dysgu ac Achredu Profiad Blaenorol y Brifysgol.

  • Yn ogystal â bodloni unrhyw amodau academaidd a nodir yn y llythyr cynnig, bydd gofyn i ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais am Gydnabyddiaeth o Ddysgu Ardystiedig Blaenorol (RPCL) gwblhau’r broses RPCL yn llwyddiannus cyn y gellir cadarnhau eu lle. 

    Ar ôl derbyn ein cynnig, bydd yr ymgeisydd yn cael hysbysiad trwy’r porth ymgeisio, MyTSD, yn eu gwahodd i gwblhau ffurflen gais am RPCL.

    Bydd angen i’r ymgeisydd roi gwybodaeth fanwl am eu haddysg ardystiedig ar y ffurflen gais RPCL yn ogystal â chynnwys prawf dogfennol (ar ffurf trawsgrifiad) bod y cymhwyster, neu ran ohono, wedi’i ennill. Rhaid i’r credydau sy’n cael eu hawlio gael eu cyflwyno ar yr un ffurflen gais. 

Ar ôl i chi Wneud Cais

Ar ôl i chi gyflwyno’ch cais, boed trwy UCAS neu gan ddefnyddio ffurflen gais uniongyrchol y Brifysgol, byddwch yn derbyn e-bost yn cynnwys manylion mewngofnodi ar gyfer porth ymgeiswyr y Brifysgol, MyTSD. Hwn fydd eich porth myfyrwyr os byddwch yn cofrestru ar raglen PCYDDS nes ymlaen. 

Dywedwch wrth Dîm Derbyn y Brifysgol (ac UCAS lle bo’n berthnasol) os yw’r cyfeiriad e-bost ar eich ffurflen gais yn anghywir, y cyfeiriad hwn a ddefnyddir i gyfathrebu â chi ynglŷn â statws eich cais ac i’ch hysbysu o unrhyw dasgau sydd i’w cwblhau yn ystod y broses dderbyn.

Unwaith y byddwn wedi’i dderbyn, bydd eich cais yn cael ei asesu gan y Tiwtor Derbyn perthnasol. Efallai y cewch chi wahoddiad i gyfweliad, i glyweliad neu i gyflwyno portffolio, gan ddibynnu ar ba raglen yr ydych yn ceisio amdani. 

Three staff members walking and in discussion

Asesiad Statws Ffioedd

Mae deddfwriaeth Llywodraeth y DU yn caniatáu i sefydliadau addysgol sy’n derbyn nawdd cyhoeddus godi dwy lefel ffi wahanol: ffi is ar gyfer myfyrwyr ‘cartref’ a ffi uwch ar gyfer myfyrwyr ‘tramor’.

Er mwyn cael ffioedd ar y gyfradd myfyrwyr ‘cartref’, rhaid i chi fodloni gofynion preswylio a statws mewnfudo penodol. Mae manylion y meini prawf a ddefnyddir i asesu statws ffioedd i’w gweld ar wefan Cyngor y DU dros Faterion Myfyrwyr Rhyngwladol  (UKCISA). 

Os na all y Brifysgol asesu eich statws ffioedd gan ddefnyddio’r wybodaeth sydd yn eich cais am fynediad, cewch neges ar MyTSD yn gofyn i chi gwblhau Ffurflen Asesu Ffioedd ac i gyflwyno dogfennaeth gefnogol. 

Sicrhewch eich bod yn llenwi ac yn dychwelyd y ffurflen cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi unrhyw oedi wrth brosesu eich cais.

Ar ôl derbyn eich Ffurflen Asesu Ffioedd a’ch dogfennaeth gefnogol, bydd tîm Derbyn y Brifysgol yn asesu eich statws ffioedd ac yn cysylltu â chi os byddan nhw angen unrhyw wybodaeth bellach.

Data Cyd-destunol

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth ar eich ffurflen UCAS er mwyn gwerthuso’n degch tebygolrwydd o lwyddo yn eich astudiaethau â ni. Rydyn ni’n defnyddio mwy na’ch graddau a’ch graddau disgwyliedig wrth ystyried a fyddwch chi’n ffynnu ac yn cael budd o’r profiad dysgu yma. Gelwir hyn yn ‘Dderbyniadau Cyd-destunol’.

Rydyn ni’n ystyried eich cais cyfan pan fyddwn yn gwneud ac yn cadarnhau cynigion. Yn ystod y broses ymgeisio, byddwn yn ystyried eich datganiad personol er mwyn deall beth sy’n eich cymell i astudio gyda ni, ac yn edrych ar eich geirda a’ch graddau disgwyliedig. Mae defnyddio derbyniadau cyd-destunol yn caniatáu i ni ystyried ystod ehangach o wybodaeth pan fyddwn yn cynnig lleoedd ac yn cadarnhau cynigion. Rydyn ni’n creu darlun byw o bwy ydych chi er mwyn sicrhau y gallwch chi ffynnu yn PCYDDS.

Mae PCYDDS wedi ymrwymo i ehangu mynediad ac i sicrhau bod y rhai sydd â’r potensial i lwyddo yn cael eu hannog i wneud cais i astudio gyda ni. Gallwch wirio a yw eich cod post o fewn Cwintel 1 neu Gwintel 2 trwy edrych ar gofrestr y Swyddfa Fyfyrwyr.

Byddwn yn casglu’r wybodaeth yr ydym ei hangen o’ch cais UCAS felly does dim angen i chi roi unrhyw wybodaeth ychwanegol. Os cewch chi’ch nodi fel rhywun sy’n gymwys i gael cynnig cyd-destunol, bydd hyn wedi’i nodi’n amlwg ar y llythyr cynnig a ddanfonir atoch.

Dim ond myfyrwyr o’r DU sy’n gwneud cais drwy UCAS ar gyfer cyrsiau uniongyrchol PCYDDS sy’n gymwys i gael cynigon cyd-destunol.


  • Mae pob cais yn cael ei ystyried yn unigol ac mae’r wybodaeth a ddefnyddiwn yn dod o’ch cais UCAS.

    Er mwyn gweld a ydych yn gymwys i gael cynnig cyd-destunol neu ddim, bydd y wybodaeth ganlynol yn cael ei hystyried:

    1. A yw cod post eich cartref mewn Cymdogaeth Cyfranogiad Isel?

    Os nodir eich bod mewn ardal cwintel POLAR4 1 neu 2 byddwch yn gymwys i gael cynnig cyd-destunol.

    Mae’r wybodaeth a roddir i ni gan UCAS yn ein galluogi i nodi a ydych yn byw mewn cod post sydd yng nghwintel isaf POLAR4 ar hyn o bryd. Gwiriwch Gofrestr y Swyddfa Fyfyrwyr i weld a yw eich cod post yng Nghwintel POLAR4 1 neu 2. 

    2. Y genhedlaeth gyntaf i dderbyn Addysg Uwch

    Os mai chi yw’r genhedlaeth gyntaf o’ch teulu i fynd i Addysg Uwch, byddwch yn gymwys i gael cynnig cyd-destunol. Rydyn ni’n cael yr wybodaeth hon gan UCAS fel rhan o’ch ffurflen gais.

    3. Rydych wedi bod mewn gofal neu wedi derbyn gofal am gyfnod o 3 mis neu fwy 

    Os ydych chi wedi bod mewn gofal neu wedi derbyn gofal am gyfnod o 3 mis neu fwy, byddwch yn gymwys i gael cynnig cyd-destunol. 

    Rydyn ni’n cael y wybodaeth hon o’ch cais UCAS, felly mae’n bwysig eich bod yn datgan hyn wrth wneud cais. 

  • Os ydych chi’n gymwys i gael cynnig cyd-destunol bydd eich cynnig yn is na’r hyn sy’n arferol ar gyfer y cwrs dan sylw, neu bydd hyn yn cael ei ystyried pan fo’r canlyniadau’n cael eu rhyddhau. Mae hyn yn golygu y gallwn eich derbyn hyd yn oed os nad yw eich graddau cystal â´r hyn a ragwelwyd. 

    Mae defnyddio data cyd-destunol yn ein galluogi i nodi’n deg, y gallwch chi lwyddo yn eich rhaglen ddewisol yn PCYDDS, sy’n golygu y gallwn ni roi cynnig ar radd is yn hyderus i chi.

Derbyn Cynnig o Le

Os cewch gynnig o le, sicrhewch eich bod yn darllen eich llythyr cynnig a’r Cytundeb Myfyrwyr yn ofalus cyn ymateb, ac ymatebwch gan ddefnyddio’r un system ymgeisio a ddefnyddiwyd gennych i wneud y cais - UCAS Hub neu MyTSD. Os ydych wedi newid eich cyfrinair MyTSD ers iddo gael ei ddanfon i chi ac wedi ei anghofio, cliciwch ar y ddolen anghofio cyfrinair ar y sgrin mewngofnodi er mwyn ei ailosod.

Os gwnaethoch ddatgan unrhyw anableddau neu gyflyrau iechyd yn eich cais am fynediad, sicrhewch eich bod yn llenwi ffurflen Ymholiad Anghenion Cymorth y Brifysgol, mae dolen iddi i’w chael yn eich llythyr cynnig. Mae’r Brifysgol yn annog ymgeiswyr i ddatgelu unrhyw anableddau cyn gynted ag sy’n bosibl yn ystod y broses ymgeisio, a thrwy gydol eu hamser yn y Brifysgol. Gall y wybodaeth yr ydych yn ei rhannu gael ei ddefnyddio i benderfynu ar addasiadau rhesymol ac ar fesurau digolledu. Os byddwch yn gwrthod rhannu’r wybodaeth hon, gallai hyn gyfyngu ar allu’r Brifysgol i sicrhau bod trefniadau cymorth priodol yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer eich astudiaethau. 

UWTSD Student Hwb staff members
Hwb Myfyrwyr

Ar ôl derbyn cynnig o le, gall ymgeiswyr lawrlwytho ap Hwb PCYDDS. Mae’r ap yn cynnig gwybodaeth hanfodol i fyfyrwyr sy’n astudio gyda PCYDDS. Ar ôl cofrestru, gallwch weld amserlenni’r cyrsiau trwy ddefnyddio’r ap Hwb.

Ar ôl derbyn cynnig, rhaid i ymgeiswyr lwytho unrhyw ddogfennau gofynnol i gefnogi eu cais trwy ddefnyddio porth ymgeiswyr y Brifysgol, MyTSD.

Yn dibynnu ar y rhaglen, gall dogfennau o’r fath gynnwys:

Tystysgrifau a thrawsgrifiadau cymwysterau;

Prawf adnabod: e.e. pasbort, trwydded yrru, tystysgrif geni, a gweithred newid enw neu dystysgrif priodas i ddangos bod eich enw wedi’i newid, lle bo hynny’n berthnasol;

Llun maint pasbort ar gyfer eich ID Myfyriwr;

Dylai’r ymgeiswyr sydd angen gwiriad DBS fel rhan o gael eu derbyn ar raglen astudio wneud cais DBS trwy ddefnyddio porth ymgeiswyr y Brifysgol, MyTSD. Mae rhagor o wybodaeth am y broses gwneud cais DBS i’w gael isod.

  • Mae’n ofynnol i ymgeiswyr gael Gwiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer rhai cyrsiau a gynigir gan PCYDDS. Bydd y cyrsiau hyn yn cynnwys lleoliad neu weithgaredd sy’n golygu cyswllt sylweddol â phlant ac /neu oedolion agored i niwed, a chyfeirir atynt fel Gweithgareddau a reoleiddir.

  • Er mwyn diogelu ein myfyrwyr, staff ac ymwelwyr a galluogi’r Brifysgol i ddarparu’r gefnogaeth briodol, anogir y rhai sy’n gwneud cais i’r Brifysgol a myfyrwyr sydd wedi cofrestru i ddatgan os oes ganddyn nhw unrhyw euogfarnau troseddol cyn gynted â phosibl.

Cysylltu â’r Adran Dderbyniadau

  • Ffôn: 0300 500 5054
    E-bost: admissions@uwtsd.ac.uk


    Campws Caerfyrddin

    Swyddfa Dderbyniadau
    Y Gofrestrfa
    PCYDDS
    Llawr 1af Adeilad Dewi
    Heol y Coleg
    Caerfyrddin 
    SA31 3EP


    Campws Llambed

    Swyddfa Dderbyniadau
    Y Gofrestrfa
    PCYDDS
    Adeilad Caergaint
    Llanbedr Pont Steffan
    SA48 7ED


    Campws Abertawe

    Swyddfa Dderbyniadau
    Y Gofrestrfa
    PCYDDS
    Technium 1
    Heol y Brenin
    Abertawe
    SA1 8PH

  • Ffôn: 0300 373 0651
    E-bost: homerecruitmentwales@uwtsd.ac.uk 

  • Ffôn: 0121 229 3000
    E-bost: birminghamadmissions@uwtsd.ac.uk

  • Ffôn: 0207 566 7600
    E-bost: londonadmissions@uwtsd.ac.uk

  • Ffôn: 01792 482050
    E-bost: international.registry@uwtsd.ac.uk

  • Ffôn: 01267 676849
    E-bost: RegistryPGR@uwtsd.ac.uk 

  • Os oes gennych unrhyw ymholiadau’n ymwneud â’ch cofnod cofrestru myfyriwr, arholiadau, graddio neu os ydych am wneud cais am drawsgrifiad/tystysgrif mewn perthynas â’ch astudiaethau yn PCYDDS, cysylltwch â Thîm Gwasanaethau’r Gofrestrfa.