Skip page header and navigation

Y Broses o wneud Cais DBS – Cyfarwyddyd ar gyfer Ymgeiswyr

Mae rhai cyrsiau a gynigir gan Y Drindod Dewi Sant yn gofyn i ymgeiswyr gael Gwiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Bydd y cyrsiau hyn yn cynnwys lleoliad neu weithgaredd sy’n golygu cyswllt sylweddol â phlant ac /neu oedolion agored i niwed. Cyfeirir atynt fel gweithgareddau a reoleiddir.

Os bydd angen gwiriad DBS ar gyfer cwrs, bydd hynny wedi’i nodi’n glir ar dudalen wybodaeth y cwrs ar wefan y Drindod Dewi Sant (ac ar wefan UCAS os yw hynny’n berthnasol) ac mewn unrhyw lythyr cynnig dilynol a anfonir gan y Brifysgol.

Rhaid cwblhau’r broses DBS yn foddhaol cyn y caniateir i fyfyriwr ymgymryd ag unrhyw waith neu leoliad sy’n gofyn am gysylltiad â phlant a/neu oedolion agored i niwed. Ceir gwybodaeth bellach ym Mholisi Derbyn y Brifysgol.

Popeth sydd angen i chi ei wybod am Gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Cofrestru ar gyfer y gwasanaeth ar-lein

Mae’r Brifysgol yn defnyddio gwasanaeth allanol ‘First Advantage KnowYourPeople’ i brosesu ceisiadau DBS.

Ar ôl i chi dderbyn eich cynnig am le, neu wedi cadarnhau ar UCAS mai’r Drindod Dewi Sant yw eich dewis Pendant, byd gofyn i chi ‘hunan-gofrestru’ ar gyfer y gwasanaeth DBS ar-lein.

Anfonir e-bost atoch gan y Tîm Derbyniadau yn cynnwys y ddolen i’r dudalen gofrestru. Bydd yr e-bost hefyd yn cynnwys y Swydd rydych chi’n gwneud cais amdani. Wedi i chi gofrestru, byddwch yn gallu cychwyn ar eich cais.

Cwblhau’r ffurflen gais

Argymhellwn fod y canlynol gennych wrth law i’ch cynorthwyo wrth gwblhau’r ffurflen:

  • Manylion a dyddiadau unrhyw newid enwau
  • Cyfenw eich mam cyn priodi
  • Hanes llawn eich cyfeiriad am 5 mlynedd yn cynnwys dyddiadau
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Pasbort Dilys (os oes gennych un)
  • Trwydded Yrru Ddilys (os oes gennych un)
  • Cerdyn adnabod cenedlaethol dilys (os oes gennych un)

Os nad oes gennych y wybodaeth uchod wrth law, gallwch ddychwelyd i gwblhau’r ffurflen rywbryd eto ar ôl cofrestru.

Talu

Ar hyn o bryd, cost ymgeisio am DBS yw £53.74 sy’n daladwy’n uniongyrchol i First Advantage drwy ddefnyddio eu system dalu ar-lein. Mae’r swm hwn yn cynnwys ffi o £38 a godir gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) ar gyfer y gwiriad manylach, ffi gweinyddol o £7.52 a godir gan First Advantage am brosesu’r cais GDG, a ffi gweinyddol o £8.22 a godir gan Swyddfa’r Post ar gyfer gwirio eich dogfennau. Ni fyddwch yn gallu cwblhau eich cais DBS nes i’r taliad gael ei wneud.

Gwirio Dogfennau

Fel rhan o’r broses ymgeisio i’r DBS, mae’n ofynnol i ymgeiswyr ddarparu o leiaf 3 dogfen hunaniaeth wreiddiol. Rhaid i’r dogfennau hyn fodloni gofynion y rhestr o ddogfennau a ganiateir gan y DBS

Gwirio mewn cangen o Swyddfa’r Post sy’n cynnig Gwasanaeth Gwirio CRB ac ID

Fel rhan o’r gwasanaeth ar-lein, gall ymgeiswyr cael eu dogfennau wedi’u gwirio gan Swyddfa’r Post gan ddefnyddio ‘Gwasanaeth Gwirio CRB ac ID’. Ceir rhagor o wybodaeth am y canghennau sy’n cynnig y gwasanaeth hwn ar wefan y Swyddfa Bost

Bydd angen i chi fynd â chopi printiedig o daflen y Gwasanaeth Gwirio ID gyda chi wrth ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.

Cofrestru ar gyfer Gwasanaeth Diweddaru’r DBS

Argymhellwn fod pob ymgeisydd yn cofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Diweddaru. Ar ôl i chi gyflwyno eich cais DBS, gallwch danysgrifio i’r Gwasanaeth Diweddaru ar unwaith drwy ddefnyddio eich cyfeirnod cais DBS. Gallwch hefyd ymuno â’r Gwasanaeth Diweddaru ar dderbyn eich tystysgrif DBS, drwy ddefnyddio rhif eich tystysgrif. 

Os byddwch yn dewis gwneud hyn, bydd rhaid i chi ymuno â’r Gwasanaeth Diweddaru o fewn 30 diwrnod ers y ‘dyddiad dyroddi’ sydd ar eich tystysgrif. Cost y Gwasanaeth Diweddaru yw £13 y flwyddyn, a dylid talu’r ffi hon yn uniongyrchol i’r DBS.

Gellir cyfeirio unrhyw gwestiynau yn ymwneud â Gwiriadau DBS at y Tîm Derbyniadau ar: dbs@pcydds.ac.uk

Cwestiynau Cyffredin am Gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

  • Mae’r Brifysgol yn defnyddio gwasanaeth allanol ‘First Advantage KnowYourPeople’ i brosesu ceisiadau DBS.

    Wedi i chi dderbyn cynnig am le yn y Drindod Dewi Sant fel eich dewis pendant, cewch e-bost gan y Tîm Derbyniadau a fydd yn cynnwys dolen i dudalen Gofrestru/Mewngofnodi First Advantage KnowYourPeople lle bydd angen i chi gofrestru.

    Bydd yr e-bost hefyd yn cynnwys y Swydd rydych chi’n gwneud cais amdani. Bydd angen hwn arnoch wrth gofrestru am y gwasanaeth ar-lein.

  • Ar hyn o bryd, cost gwiriad DBS manylach yw £53.74 y dylid ei dalu’n uniongyrchol i First Advantage drwy ddefnyddio eu system dalu ar-lein. 

    Mae’r swm hwn yn cynnwys ffi o £38 a godir gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) ar gyfer y gwiriad manylach, ffi gweinyddol o £7.52 a godir gan First Advantage am brosesu’r cais GDG, a ffi gweinyddol o £8.22 a godir gan Swyddfa’r Post ar gyfer gwirio eich dogfennau.

    Ni fyddwch yn gallu cwblhau eich cais DBS nes i’r taliad gael ei wneud.

  • Datgeliad DBS

    Os oes gennych dystysgrif DBS ddilys yn eich meddiant ar hyn o bryd ac mae gennych danysgrifiad dilys i Wasanaeth Diweddaru’r DBS, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau a fydd yn gallu gwirio a yw’n bodloni gofynion y cwrs ai peidio. Gallwn dderbyn yn unig dystysgrifau sydd â’r un lefel o wiriad â’r hyn sydd ei angen ar gyfer y cwrs rydych chi’n ymgeisio amdano e.e. mae eich tystysgrif yn wiriad Manwl ar gyfer y Gweithlu Plant ac mae’r cwrs yn gofyn am wiriad Manwl ar gyfer y Gweithlu Plant. 

    Os nad yw eich tystysgrif yn bodloni gofynion y cwrs, e.e. rydych chi’n meddu ar wiriad Manwl ar gyfer y Gweithlu Plant ac Oedolion ond mae’r cwrs yn gofyn am wiriad Manwl ar gyfer y Gweithlu Plant, neu os nad ydych wedi cofrestru gyda Gwasanaeth Diweddaru’r DBS, yna bydd yn ofynnol i chi wneud cais am dystysgrif newydd.

    I wirio a ganiateir i chi ddefnyddio tystysgrif gyfredol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar: dbs@pcydds.ac.uk. Gwnewch yn siŵr eich bod yn lanlwytho copi o’ch tystysgrif gyfredol i’n cynorthwyo i wirio a yw’n addas.

    Os ystyrir bod eich tystysgrif bresennol yn dderbyniol i’w defnyddio, bydd angen i chi gael tanysgrifiad dilys i Wasanaeth Diweddaru DBS a bydd angen i hyn fod ar waith nes eich bod wedi cwblhau unrhyw waith neu leoliadau sy’n cynnwys cyswllt â phlant a/neu oedolion agored i niwed y mae angen i chi ymgymryd â nhw yn rhan o’ch cwrs. Os byddwch yn caniatáu i’ch tanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru’r DBS ddarfod, bydd gofyn i chi wneud cais am ddatgeliad Manwl newydd trwy’r Drindod Dewi Sant ac ni chaniateir i chi fynychu lleoliadau sy’n cynnwys gweithgaredd rheoledig neu barhau â’r lleoliad hwn nes eich bod wedi cwblhau’r broses DBS yn foddhaol.

    Sylwer pan fod angen gwiriad DBS, mae’n rhaid iddo fod yn wiriad Manwl. Ni allwn dderbyn tystysgrifau gwiriad Sylfaenol cyfredol.


    Datgeliad ar gyfer yr Alban

    Mae Datganiadau’r Alban yn ddilys yn yr Alban yn unig ac o’r herwydd ni chânt eu derbyn. Bydd angen i chi ymgeisio am wiriad DBS Manwl.


    Datgeliad Access NI

    Ni allwn dderbyn Datganiadau Mynediad Gogledd Iwerddon gan eu bod ond yn gywir ar y dyddiad cyhoeddi. Bydd angen i chi ymgeisio am wiriad DBS Manwl.

  • Gan fod Gwasanaeth Diweddaru’r DBS ond yn ddilys ar y cyd â’r dystysgrif wreiddiol, ni allwn dderbyn hyn. Mae’r Gwasanaeth Diweddaru ond yn dangos gwybodaeth a ychwanegwyd ers i’r dystysgrif wreiddiol gael ei chyhoeddi. Nid yw’n dangos unrhyw wybodaeth na marcwyr a oedd yn bresennol ar y dystysgrif wreiddiol.

    Os na allwch ddarparu eich tystysgrif DBS gwreiddiol pan fo’n ofynnol yn ystod proses wirio DBS y Brifysgol, cyn neu yn ystod lleoliad sy’n cynnwys gweithgaredd rheoleiddiedig, bydd angen i chi ymgeisio am ddatgeliad Manwl newydd drwy’r Drindod Dewi Sant ac ni chaniateir iddynt fynychu lleoliadau sy’n cynnwys gweithgaredd rheoledig neu barhau â lleoliad o’r fath nes eich bod wedi cwblhau’r broses DBS yn foddhaol.

  • I ddilyn statws cais sydd wedi’i gyflwyno, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth dilyn ceisiadau DBS swyddogol. Bydd rhaid i chi fewnosod rhif cyfeirnod eich cais a’ch dyddiad geni er mwyn dilyn cynnydd eich cais. Os na allwch ddod o hyd i’ch rhif cyfeirnod, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar: dbs@pcydds.ac.uk.

  • Pan fydd y DBS yn cyhoeddi’r dystysgrif, bydd y Brifysgol yn derbyn llythyr electronig o gadarnhad. Os bydd y Brifysgol am i chi ddangos y dystysgrif wreiddiol, byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol.

  • Bydd yn rhaid i chi apelio yn uniongyrchol i’r DBS ynglŷn ag unrhyw wybodaeth anghywir sydd ar dystysgrif DBS. Ceir y manylion cyswllt ar wefan y DBS

  • Fel rhan o’r broses o wneud cais DBS, bydd angen i ymgeiswyr ddarparu o leiaf 3 dogfen adnabod wreiddiol. Dylai’r dogfennau hyn fodloni gofynion y rhestr o ddogfennau a ganiateir gan y DBS 

    Gwirio mewn cangen o Swyddfa’r Post sy’n cynnig Gwasanaeth Gwirio CRB ac ID

    Fel rhan o’r gwasanaeth ar-lein, gall ymgeiswyr cael eu dogfennau wedi’u gwirio gan Swyddfa’r Post gan ddefnyddio ‘Gwasanaeth Gwirio CRB ac ID’. Ceir rhagor o wybodaeth am y canghennau sy’n cynnig gwasanaeth y Swyddfa Bost.

    Bydd angen i chi fynd â chopi printiedig o daflen y Gwasanaeth Gwirio ID gyda chi wrth ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Cynhyrchir y ffurflen hon ar eich cyfer unwaith eich bod wedi cwblhau’ch cais DBS ar-lein drwy First Advantage.

  • Gwasanaeth tanysgrifio ar-lein yw’r Gwasanaeth Diweddaru sy’n cadw eich tystysgrifau DBS safonol a manwl yn gyfredol. Mae hefyd yn caniatáu i gyflogwyr wirio tystysgrif ar-lein, gyda’ch cydsyniad chi.

    Mae’r gwasanaeth hwn yn lleihau’r angen i wneud cais am dystysgrifau lluosog pan fyddwch yn symud o un swydd i un arall yn yr un gweithlu neu pan fo angen ailwirio.

    Gall sefydliadau wneud gwiriad statws cyflym ar-lein i weld a yw tystysgrif unigolyn yn dal i fod yn gyfredol – gan arbed amser ac arian.

    Argymhellwn fod pob ymgeisydd yn cofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Diweddaru. Mae’n costio £13 y flwyddyn. Bydd angen rhif eich tystysgrif arnoch a rhaid i chi gofrestru ymhen 30 diwrnod ar ôl rhoi’r dystysgrif. Mae tanysgrifiad i’r Gwasanaeth Diweddaru yn para am flwyddyn. Os na fyddwch yn adnewyddu eich tanysgrifiad cyn iddo orffen, bydd angen i chi wneud cais am wireb DBS newydd a chofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Diweddaru eto.

  • Yn ogystal â derbyn datgeliad Manwl boddhaol oddi wrth y Gwasanaeth Diogelu a Gwahardd, bydd gofyn hefyd i ymgeiswyr o dramor ddarparu tystiolaeth i’r Brifysgol o wiriad boddhaol gan yr heddlu yn unrhyw wlad gartref y maent wedi preswylio ynddi (heblaw’r DU) am 12 mis a rhagor (boed yn barhaus neu yn gyfanswm) yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf, pan oeddent yn 18 oed neu drosodd.

    Mae gofyn i’r ymgeiswyr y mae hyn yn berthnasol ar eu cyfer ddarparu’r wybodaeth hon cyn y gallant gofrestru’n llawn ar raglen y mae angen gwiriad DBS manwl ar ei chyfer a chyn y gellir rhoi caniatâd iddynt ymgymryd â gwaith sy’n gofyn am gysylltiad â phlant neu oedolion agored i niwed. Mae’r broses ymgeisio ar gyfer cael gwiriad cofnodion troseddol i ymgeiswyr o dramor yn amrywio o wlad i wlad. Mae gwybodaeth bellach ar gael ar wefan gov.uk