Myfyrwyr Israddedig Amser-llawn
Gwneud cais ar-lein ar UCAS
Gwneir pob cais i astudio ar gyfer rhaglen radd lawn-amser yn y Brifysgol neu Ddiploma Addysg Uwch trwy UCAS gan ddefnyddio Apply
Codau’r Sefydliad
T80 - Caerfyrddin, Abertawe a Llambed
Myfyrwyr mewn ysgol neu goleg sydd wedi cofrestru gydag UCAS
Mae pob ysgol a phrifysgol yn y DU (a nifer fechan o sefydliadau dramor) wedi cofrestru gydag UCAS i reoli ceisiadau eu myfyrwyr. Bydd angen ichi gael ‘gwirair’ gan eich tiwtor neu gynghorydd gyrfaoedd, fydd ei angen arnoch wrth gofrestru gydag UCAS.
Mae hyn yn cadarnhau’r sefydliad yr ydych yn gwneud cais oddi wrtho ac yn caniatáu i’ch canolwr atodi eich geirda. Gallwch dalu am eich cais naill ai trwy gerdyn credyd neu ddebyd ar-lein, neu trwy dalu i’ch ysgol neu ganolfan gofrestredig a fydd wedyn yn talu UCAS.
Ymgeiswyr annibynnol yn y DU
Mae ymgeiswyr eraill o’r DU, nad ydynt mewn ysgol neu brifysgol, yn gwneud cais ar-lein yn annibynnol ac yn gyfrifol am dalu’r tâl cywir, am gael ac atodi’r geirda academaidd ac am lenwi a chyflwyno’r cais ar-lein i UCAS. Dylai eich canolwr eich adnabod yn ddigon da i ysgrifennu amdanoch ac am eich addasrwydd ar gyfer addysg uwch.
Ni fydd UCAS yn derbyn geirda gan aelodau’r teulu, perthnasau eraill na chyfeillion. Bydd angen ichi wneud eich taliad ar-lein trwy ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd. Nid oes raid i’r cerdyn fod yn eich enw chi, ond bydd rhaid ichi gael cydsyniad deiliad y cerdyn.
Ymgeiswyr rhyngwladol o’r tu allan i’r DU (yr UE ac yn fyd-eang)
- Mae unigolion o’r UE (ac eithrio’r DU) a gweddill y byd, yn gwneud cais yn annibynnol, ac eithrio’r sawl y mae eu hysgol neu brifysgol wedi cofrestru gydag UCAS.
- Mae cyngor ar gael gan swyddfeydd y Cyngor Prydeinig a chanolfannau eraill dramor, fel eich ysgol neu brifysgol.
- Ar gyfer pob ymgeisydd, mae cyfarwyddiadau llawn ar UCAS i’w gwneud mor hawdd â phosib ichi lenwi eich cais ar-lein.
- Os oes angen rhagor o wybodaeth a chyngor arnoch, gallwch gysylltu ag Uned Gwasanaethau Cwsmeriaid UCAS ar +44 (0)871 468 0468, ar agor Llun - Gwener, 08:30 - 18:00 (amser y DU).
Pryd i wneud cais
Bydd UCAS yn dechrau prosesu ceisiadau ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd o ddechrau Medi ymlaen.
Dyddiad cau UCAS ar gyfer y mwyafrif o’n rhaglenni llawn-amser israddedig yw 15fed Ionawr. Fodd bynnag, dylech wirio’r dyddiad cau ar gyfer eich dewis gwrs ar wefan UCAS.
Y cyngor yw i gyflwyno eich cais i UCAS cyn y dyddiad cau sydd wedi ei bennu; fodd bynnag, gallwch ymgeisio wedi’r dyddiad hwnnw os oes dal lle ar y cwrs neu’r cyrsiau yr ydych wedi eu dewis.
Myfyrwyr israddedig rhan-amser
Bydd ein ffurflen ymgeisio ar lein yn eich galluogi i gwblhau’ch cais yn electronig neu os byddai’n well gennych gallwch ofyn am ffurflen drwy gysylltu â’r Gofrestrfa.
Canllaw cam wrth gam trwy'r broses ymgeisio UCAS
Mae'r fideos yma yn darparu canllaw cam wrth gam trwy'r broses ymgeisio UCAS a chyngor ar ysgrifennu'r datganiad personol holl bwysig hwnnw.
Sut i Wneud Cais
Beth i Gynnwys yn eich Datganiad Personol
Datganiad Personol - Beth Sydd Angen Gwybod cyn Dechrau
- Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn croesawu ymgeiswyr a chanddynt ystod amrywiol o gymwysterau’r DU a rhyngwladol.
- Rydym wedi ymrwymo i annog mwy o bobl i fanteisio ar addysg uwch ac rydym felly’n ystyried pob ymgeisydd yn ôl eu teilyngdod unigol.
- Rydym gan amlaf yn gwahodd ymgeiswyr i’r Brifysgol i drafod eu dewis gwrs ac rydym yn falch o gynghori darpar fyfyrwyr am y rhaglen briodol a’r paratoadau ar gyfer astudio ar lefel addysg uwch.
- Bydd y Brifysgol yn gwneud cynigion i bob rhaglen israddedig unigol ar ffurf pwnc, gradd, uned neu bwyntiau Tariff.
Beth yw Tariff UCAS?
- System ennill pwyntiau ydyw i adrodd ar gyrhaeddiad ar gyfer mynediad i addysg uwch.
- Mae’n rhoi gwerth rhifyddol i gymwysterau.
- Mae’n rhoi cyfatebiaethau rhwng gwahanol fathau o gymwysterau.
- Mae’n rhoi cymariaethau rhwng ymgeiswyr sydd â gwahanol fathau o gyrhaeddiad.
Sut mae’r system ennill pwyntiau yn gweithio?
- Mae modd ennill pwyntiau o wahanol gymwysterau, e.e. TAG Lefel A / AS.
- Nid oes uchafbwynt i’r nifer y pwyntiau y gellid eu hennill, gan gydnabod felly hyd a lled cyrhaeddiad y myfyrwyr yn llawn.
- Nid oes cyfrif ddwywaith yn digwydd – ni all myfyrwyr gyfrif yr un cymhwyster neu ei debyg ddwywaith.
- Bydd sgoriau Uwch Gyfrannol yn cael eu llyncu gan y sgoriau lefel A yn yr un pwnc.
- Bydd sgoriau 'Scottish Higher' yn cael eu llyncu gan y sgoriau 'Advanced Scottish Higher' yn yr un pwnc.
- Ceir tabl sy’n dangos y pwyntiau Tariff UCAS ar gyfer pob cymhwyster yn 'UCAS Tariff Calculator'
Gofynion Mynediad Isaf
Isod ceir enghreifftiau o’n gofynion isaf i ymgeiswyr, fodd bynnag am ofynion mynediad penodol ar gyfer pob cwrs, ewch i’n gwefan PCYDDS neu i wefan UCAS.
Rhaglenni Gradd Anrhydedd
Fel arfer isafswm o ddau lefel A a chymwysterau cefnogol UG, neu gyfatebol. Efallai y bydd gofynion cwrs penodol i’w hystyried.
Dilpoma Genedlaethol Uwch (HND)
Fel arfer isafswm o un lefel A a chymwysterau cefnogol AS, neu gyfatebol.
Sgiliau Allweddol
Mae’r Brifysgol yn croesawu’n gynnes geisiadau gan fyfyrwyr sy’n astudio cymwysterau Sgiliau Allweddol, ond nid ydynt yn debygol o gael eu cynnwys yn nhermau’r cynnig a wneir. Bydd y Brifysgol yn derbyn uchafswm o 20 pwynt ar gyfer Sgiliau Allweddol Lefel 3.
Cyrsiau Mynediad
Y mae niferoedd cynyddol o fyfyrwyr yn ymgeisio nawr ar ôl cwblhau cyrsiau Mynediad, ac rydym yn croesawu myfyrwyr o’r fath yn gynnes. Y mae cyrsiau Mynediad yn cael eu cynnig mewn partneriaeth â cholegau Addysg Uwch lleol. Y mae cyrsiau o’r fath wedi eu cynllunio yn benodol ar gyfer myfyrwyr gydag ychydig, neu ddim cymwysterau ffurfiol, a fyddai o fantais iddynt cael profiad astudio cyn mynd ymlaen i ymgeisio am le mewn addysg uwch.
Dychwelyd i Astudio? Cymwysterau Ansafonol?
Rydym yn croesawu ceisiadau oddi wrth unigolion nad oes ganddynt gymwysterau ffurfiol ond sydd ganddynt yr ysbrydoliaeth a’r ymrwymiad i astudio ar gyfer cymhwyster Addysg Uwch. Rydym yn awyddus i annog myfyrwyr sy’n dychwelyd i astudio i ymgymryd â’n rhaglenni a gallwn ystyried ceisiadau yn seiliedig ar deilyngdod yr unigolyn. Os ydych yn gallu dangos profiad addas neu dystiolaeth o astudio diweddar, efallai y byddwn yn gallu ystyried rhain yn lle cymwysterau academaidd ffurfiol. Byddwn yn eich gwahodd i gyfweliad i drafod cwrs addas a pharatoadau ar gyfer astudio tuag at gymhwyster.
Cydnabod Dysgu Blaenorol
Y mae’r Brifysgol yn falch i ystyried ceisiadau oddi wrth unigolion gyda chymwysterau ardystiedig addas a fydd o bosibl yn eu galluogi i gael mynediad i raglen ar lefel bellach. Gofynnir i ymgeiswyr ddarparu trawsgrifiad ar gyfer ystyriaeth y tiwtor derbyn ac i gwblhau Ffurflen Cydnabod Dysgu Blaenorol yn ystod y cyfnod ymgeisio.