Global Postgraduate Scholarship

Mae gan Y Drindod Dewi Sant gymuned ôl-raddedig amrywiol. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob math, p'un ai a ydych wedi graddio'n ddiweddar neu wedi bod allan o fyd addysg ers amser.

Gellir gwneud ceisiadau ar gyfer yr holl gyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir  ac Ymchwil Ôl-raddedig (Ac eithrio Hyfforddiant Athrawon TAR) drwy glicio’r ddolen isod, yn ogystal ag yn uniongyrchol o'r dudalen cwrs berthnasol.

Gwnewch Gais Nawr Benthyciadau ôl-raddedig

Yn ogystal â’r manylion personol ac academaidd sydd eu hangen ar y ffurflen gais, bydd rhaid i chi enwi dau ganolwr. Yn ddelfrydol, fe ddylai eich canolwyr allu darparu geirda academaidd, ond mae geirdaon proffesiynol neu bersonol (nid teulu) yn dderbyniol i ymgeiswyr nad ydynt wedi bod mewn addysg yn ddiweddar. Os nad ydych yn siŵr ynghylch cael geirda, cysylltwch â’r tiwtor derbyn a fydd yn gallu rhoi arweiniad i chi. 

Am ragor o gyngor ac arweiniad ar sut i wneud cais, cysylltwch â'n Tîm Derbyn yn yr Adran Gofrestrfa yn admissions@uwtsd.ac.uk

Hefyd, ceir gwybodaeth i fyfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd yn adran Ryngwladol y safle hwn.

Fel arall, os nad ydych yn gallu llenwi’r ffurflen gais ar-lein, gallwch gyflwyno cais drwy lenwi’r ffurflen berthnasol isod a’i dychwelyd i Adran y Gofrestrfa.  

Hyfforddiant Athrawon TAR 

Dylid gwneud ceisiadau i raglenni TAR Cynradd ac Uwchradd drwy wefan ceisiadau UCAS. Am ragor o wybodaeth am y broses gwneud cais ac i ddod o hyd i atebion i gwestiynau cyffredin, ewch i’n tudalennau TAR pwrpasol.

Rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno’ch cais o leiaf 6 wythnos cyn i’ch dewis rhaglen ddechrau.  Bydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y cyfnod hwn yn cael eu hystyried yn unigol.

  • Derbynnir myfyrwyr ar raddau ymchwil a chyrsiau dysgu o bell ddwywaith y flwyddyn: 1 Chwefror a'r 1 Hydref.
  • Mae rhaglenni ôl-raddedig a addysgir sy’n tarddu o raglenni Caerfyrddin a Llambed yn dechrau ar 1af Hydref (a gall rhai dechrau ar 1af Chwefror yn amodol ar argaeledd).
  • Mae rhaglenni sydd wedi’u seilio yn Abertawe yn dechrau yn ystod wythnos olaf mis Medi ac ar ddechrau wythnos olaf mis Ionawr
  1. Cyn llenwi ffurflen gais, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â’r tiwtor derbyn y mae eu manylion cyswllt ar dudalen wybodaeth y cwrs i drafod eich addasrwydd ar gyfer eich dewis raglen ac i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.

  2. Dylai'r sawl sy'n gwneud cais am raglenni Caerfyrddin neu Lambed lenwi'r ffurflen gais ar-lein ar ein gwefan a'i chyflwyno gyda'ch dogfennau ategol. Byddwn yn cydnabod ein bod wedi cael eich cais drwy anfon neges e-bost atoch.

  3. Ar gyfer rhaglenni Abertawe, llenwch y ffurflen gais sydd ar ein gwefan (pdf y gallwch ei olygu) a'i chyflwyno gyda'ch dogfennau ategol yn ôl y cyfarwyddiadau, naill ai mewn e-bost, neu fel copi caled yn y post neu mewn person yn y cyfeiriad a roddir ar y ffurflen.

  4. Bydd y Tîm Derbyn yn y Gofrestrfa yn cysylltu â chi mewn e-bost am ragor o wybodaeth os oes angen asesiad pellach ar eich cais e.e. mewn perthynas â’ch statws ffioedd neu unrhyw addasiadau rhesymol sydd eu hangen.

  5. O fewn tair wythnos i gael eich holl ddogfennau cais (gan gynnwys geirdaon) ac ar ôl cyfweliad (os yn berthnasol) fe ddylech gael penderfyniad gan Dîm Derbyn y Gofrestrfa mewn ysgrifen (drwy bost safonol yn y DU ac mewn neges e-bost i gyfeiriadau dramor).

  6. Os byddwch yn llwyddo i gael cynnig lle ar eich dewis raglen, bydd y cynnig a gewch chi’n ddiamod, neu’n amodol ar fodloni gofynion penodol.

  7. Bydd angen ichi naill ai derbyn neu wrthod eich cynnig yn unol â'r cyfarwyddiadau yn eich llythyr cynnig (o fewn dwy wythnos o ddyddiad eich llythyr, neu cyn i'r rhaglen ddechrau - p'run bynnag sy'n gyntaf). Os byddwch yn derbyn cynnig amodol am le, bydd angen ichi ddarparu’r ddogfennaeth ofynnol, fel a nodir yn eich llythyr cynnig, yn dystiolaeth eich bod wedi bodloni amodau eich cynnig.

  8. Unwaith y bydd eich lle wedi’i gadarnhau, fe ddylech gael gwybodaeth gofrestru ac ymsefydlu tua thair i bedair wythnos cyn i’r cwrs ddechrau.

1. PROSESU CEISIADAU

1.0   Gall amseroedd prosesu ceisiadau amrywio ond ar yr amod bod gennym eich holl ddogfennau ategol, fel arfer, gallwch ddisgwyl cael penderfyniad o fewn tair wythnos i gyflwyno'ch cais. 

1.1.   Os nad ydych wedi cael unrhyw ohebiaeth gan y Brifysgol o fewn y cyfnod hwn a hoffech dracio cynnydd eich cais, cysylltwch â’r Tîm Derbyn yn admissions@uwtsd.ac.uk  Cofiwch, os bydd rhaid ichi fynychu cyfweliad, gall trefnu amser sy'n gyfleus i bawb beri oedi wrth brosesu'ch cais.

1.2   Efallai na fydd raid cael cyfweliad bob tro, mewn rhai achosion, gall Tiwtoriaid Derbyn wneud penderfyniad yn seiliedig ar eich ffurflen gais a’ch dogfennau ategol.

2. CANOLWYR

2.0   Er mwyn osgoi unrhyw oedi diangen wrth brosesu’ch cais, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â’ch canolwyr cyn cyflwyno’ch cais i dynnu ei sylw at y ffaith y bydd y Brifysgol yn cysylltu ag ef/â hi i ofyn am eirda. 

2.1   Hoffwn i’ch canolwr allu rhoi geirda i’r Brifysgol o fewn 2 wythnos i gael y cais.  Sylwch efallai na fydd yn bosibl ystyried eich cais yn llawn nes i ni dderbyn eich geirda.

2.2   Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich canolwr yn darparu geirda.

2.3   Os ydych chi wedi bod allan o addysg a/neu waith am gyfnod ac nid ydych yn siŵr sut i gael geirda academaidd, trafodwch hyn gyda'r tiwtor derbyn a fydd yn gallu rhoi cyngor ichi ar drefniadau amgen.  

3. EICH GWYBODAETH GYSWLLT

3.0   Sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod i’r Tîm Derbyn yn admissions@uwtsd.ac.uk os bydd unrhyw newid i’r manylion cyswllt oedd ar eich ffurflen gais, gan gynnwys eich cyfeiriad post.  Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn cael gohebiaeth berthnasol gan y Brifysgol, sy'n gallu cynnwys cais am ragor o wybodaeth i gefnogi'ch cais, gwahoddiad i fynychu cyfweliad, cynnig lle a gwybodaeth am gofrestru ac ymsefydlu.

4. CEISIADAU RHYNGWLADOL A PHRESWYLWYR TRAMOR

4.0   Bydd ymgeiswyr rhyngwladol sy’n byw dramor yn cael eu llythyr cynnig mewn neges e-bost a bydd copi caled yn cael ei anfon i’w cyfeiriad adref.

5. DERBYN, GWRTHOD A GOHIRIO CYNNIG

5.0   Os byddwn yn cynnig lle ichi, mae’n hanfodol eich bod yn ymateb iddo'n unol â'r cyfarwyddiadau yn eich llythyr cynnig.

5.1   Os na fyddwch yn derbyn eich cynnig yn ffurfiol, ni chewch unrhyw ohebiaeth yn y dyfodol ynghylch cofrestru ac ymsefydlu.

5.2   Sylwch, os byddwch chi’n gwrthod eich cynnig, caiff eich cais ei dynnu’n ôl.

5.3   Os ydych yn dymuno gohirio ein cynnig, bydd rhaid ichi roi gwybod i’r Gofrestrfa mewn ysgrifen, admissions@uwtsd.ac.uk. Cewch ofyn i ohirio’ch lle nes y sesiwn academaidd nesaf, ond ar ôl hyn, bydd rhaid ichi lenwi cais newydd.

Rhaglenni Ôl-raddedig a Addysgir (MA/MSc/MTh/MBA)

Disgwylir i ymgeiswyr feddu ar radd gyntaf dda (dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch) er y gellir derbyn ymgeiswyr a chanddynt ddosbarthiadau gradd is ar lefel Tystysgrif neu Ddiploma Ôl-raddedig, gyda chyfle i uwchraddio i lefel Meistr os byddwch yn gwneud cynnydd boddhaol.

Caiff pob cais ei ystyried ar ei deilyngdod, felly gellir cynnig lleoedd yn seiliedig ar gymwysterau a meini prawf mynediad ansafonol, gan gynnwys aeddfedrwydd, cymwysterau proffesiynol a phrofiad perthnasol. Awgrymwn bod ymgeiswyr nad oes ganddynt gymwysterau ansafonol yn cyflwyno curriculum vitae byr gyda'u ffurflen gais.

Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan aelodau’r Lluoedd Arfog ac yn cydnabod yr hyfforddiant a’r addysg a gânt wrth hyfforddi.   

Myfyrwyr Rhyngwladol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol ac yn ystyried y cyfryw geisiadau drwy ddefnyddio’r un meini prawf academaidd ag yr ydym ar gyfer pob cais arall. Rhaid i bob myfyriwr rhyngwladol nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddangos eu gallu mewn Saesneg llafar ac ysgrifenedig, trwy feddu ar sgôr IELTS gradd 6.5 ar y lleiaf (neu gyfwerth).

Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr ag anableddau. Mae ein staff cymorth myfyrwyr ar gael i drafod eich sefyllfa unigol a gweithio gyda staff academaidd i wneud unrhyw addasiadau rhesymol i’ch helpu i elwa i’r eithaf ar eich astudiaethau. Os oes gennych anabledd, rydym yn eich annog i ddod atom i drafod eich anghenion gyda ni cyn gynted â phosibl.

I wneud cais am le ar gwrs TAR (Tystysgrif Addysg i Raddedigion) llawn amser, llenwch ffurflen gais drwy’r system ‘Apply’ ar-lein ar wefan Hyfforddiant Athrawon UCAS.

Ni chewch gyflwyno mwy nag un cais yn yr un cylch.

Cyn gwneud cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn bodloni gofynion mynediad y cwrs sydd o ddiddordeb ichi. Dangosir y gofynion mynediad ar wefan Hyfforddiant Athrawon UCAS. 

Os oes gennych chi radd C mewn TGAU Saesneg Iaith neu Fathemateg ac rydych yn bwriadu ymgymryd â phrawf cywerthedd, rhowch ‘gohirio’ yn yr adran cymwysterau priodol.

Pryd i wneud cais ar gyfer cyrsiau TAR

Mae yna ddwy ffenest ar gyfer gwneud cais, ‘Apply 1’ ac ‘Apply 2’.

  • Mae ‘Apply 1’ yn agor tua diwedd mis Hydref y flwyddyn cyn i’r rhaglen hyfforddi gychwyn ac yn cau ar ganol mis Medi’r flwyddyn y mae’r rhaglen yn cychwyn. Gall ymgeiswyr wneud hyd at dri dewis yn ‘Apply 1’ a fydd yn cael eu hystyried gan y darparwyr hyfforddiant ar yr un pryd.
  • Mae‘Apply 2’ yn agor ym mis Tachwedd y flwyddyn cyn i’r rhaglen hyfforddi gychwyn ac yn cau ar ddiwedd mis Hydref y flwyddyn y mae’r rhaglen yn cychwyn. Gall ymgeiswyr fynd i ‘Apply 2’ wedi iddynt fod trwy ‘Apply 1’ ac os nad oes ganddynt unrhyw gynigion. Yn ‘Apply 2' bydd ymgeiswyr yn gwneud un dewis ar y tro; gallant wneud gymaint o ddewisiadau ag y mynnent o fewn y ffrâm amser ond cânt eu hystyried yn olynol.

Argymhellir eich bod yn gwneud cais yn gynnar, gan fod lleoedd yn cael eu llenwi’n gyflym. Bydd rhai rhaglenni’n cau i geisiadau yn ystod y cylch. Dylai ymgeiswyr wirio statws argaeledd rhaglenni’n rheolaidd ar wefan Hyfforddiant Athrawon UCAS, am y gall rhaglenni sydd wedi cau ailagor eto’n ddiweddarach.

Ffi Ymgeisio

Wedi ichi gwblhau’r cais ar-lein, bydd angen ichi dalu ffi prosesu ceisiadau UCAS, dros y rhyngrwyd gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd.

Am ragor o wybodaeth ar y broses gwneud cais, ewch i wefan Hyfforddiant Athrawon UCAS

Ar hyn o bryd, mae’r broses gwneud cais ar gyfer yr Academi Sinoleg yn cael ei diweddaru. Dysgwch ragor am yr Academi Sinoleg