Two female tourism students standing close together and smiling for the camera.

Cael y Sylw sydd ei angen ARNOCH am Oes o Lwyddiant - Ymgeisiwch wneud Mwy Drwy ymgymryd ag Astudio Rhan Amser yn Y Drindod Dewi Sant.

Yn ystyried dilyniant gyrfa, newid swydd neu am ddilyn yr hyn yr ydych yn frwdfrydig drosodd? Pa beth bynnag yw eich rheswm, gall astudio rhan-amser ddatgloi eich potensial, gan roi rhyw ymdeimlad enfawr o gyflawni personol ac unigol.

Mae’r Brifysgol yn cynnig graddau uwch seiliedig ar ymchwil, ystod eang o raglenni a addysgir ac amrywiaeth o gymwysterau proffesiynol poblogaidd. Mae’r cyfan wedi’u dylunio â’r byd gwaith mewn golwg. Os hoffech chi astudio ar gyfer gradd israddedig neu Ddiploma Cenedlaethol Uwch (HND) / Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) ond ni allwch ymrwymo eich hun i ymgymryd ag astudio amser llawn, mae’n bosibl y gallai astudio cwrs rhan-amser fod yn allweddol i’ch llwyddiant yn y dyfodol.

Gellir gwneud ceisiadau ar gyfer astudio rhan-amser ar raglenni dewisol drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.

Yn ogystal â’r manylion personol ac academaidd y mae’r ffurflen gais yn gofyn amdanynt, gofynnir hefyd am enwau dau ganolwr. Yn ddelfrydol, dylai fod eich canolwyr yn gallu darparu geirda academaidd, ond mae geirdaon gan bobl broffesiynol  neu eirdaon personol yn dderbyniol hefyd ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt wedi bod yn ymwneud â maes addysg yn ddiweddar.


Polisïau a Gweithdrefnau