Skip page header and navigation

Mae cefnogi Ymgeisydd mor bwysig...

Rydym yn deall eich bod siŵr o fod yn ceisio dod o hyd i gymaint o wybodaeth â phosibl er mwyn helpu i gefnogi ymgeisydd trwy’r cyfnod hollbwysig hwn yn eu bywyd.  Dyma pam rydyn ni wedi casglu’r holl wybodaeth ddefnyddiol rydyn ni’n credu y dylech chi ei gwybod er mwyn medru cynnig y gefnogaeth orau i ymgeiswyr a’i rhoi mewn un lle.​  

Sut i Gefnogi Ymgeisydd

P’un ai a ydych eisiau helpu drwy gynnig cymorth gyda’r cais neu’n eu gadael nhw i fynd ati ar eu liwt eu hunain, efallai y byddwch eisiau dysgu am rai o’r pethau pwysig, felly mae ymgyfarwyddo gydag UCAS a Peak Times yn lle da i gychwyn. Os yw eich plentyn neu berson ifanc mewn addysg ar hyn o bryd, fel arfer bydd eu hysgol neu eu coleg yn eu cyflwyno i UCAS ac yn eu tywys trwy’r broses o wneud cais i brifysgol.  

Dyma rai o’r prif bethau y dylech chi eu gwybod am UCAS a phroses ymgeisio UCAS.​

  • Mae UCAS yn golygu Universities and Colleges Admissions Services - gwasanaeth canolog sy’n gweithredu fel y canolwr rhwng ymgeiswyr a phrifysgolion. 
  • Dylai pob cais ar gyfer cyrsiau israddedig (gradd gyntaf) gael eu cyflwyno trwy UCAS yn hytrach nag yn uniongyrchol i’r Brifysgol.
  • Mae pob cais yn cael ei wneud yn electronig drwy wefan UCAS.​
  • Mae saith adran i’r cais: 
    • Manylion personol
    • Opsiynau
    • Addysg
    • Cyflogaeth
    • Datganiad personol
    • Manylion terfynol 
    • Talu ac Anfon
  • Mae’r cais yn gallu cael ei gadw felly does dim angen cwblhau’r cyfan ar yr un pryd. Mae’n bwysig bod ymgeiswyr yn cymryd eu hamser gyda’r broses hon.
  • Gall myfyrwyr gwblhau cais UCAS yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Mae gan fyfyrwyr uchafswm o bum opsiwn cwrs - gallai’r rhain fod yn bum cwrs mewn pum prifysgol wahanol, neu gellir gwneud cais ar gyfer cyrsiau gwahanol yn yr un brifysgol. Wrth wneud eu dewisiadau, nid oes angen eu graddio yn nhrefn blaenoriaeth. Dim ond y cais sy’n cael ei wneud iddyn nhw y bydd y prifysgolion yn ei weld ac ni fydd modd iddyn nhw weld ble arall y mae’r myfyriwr wedi gwneud cais.
  • Yn yr adran Manylion Personol, bydd ymgeiswyr yn cael cyfle i nodi unrhyw anghenion unigol fel angen am gymorth ar gyfer anabledd.​ Bydd nodi eu hanghenion yn sicrhau bod prifysgolion yn gallu gwneud trefniadau penodol i’w cefnogi drwy gydol y broses ymgeisio a thu hwnt, felly mae’n bwysig datgan unrhyw anableddau. 
  • Yr adran fydd yn cymryd yr amser hiraf i’w chwblhau yw’r Datganiad Personol.​ Dyma ran bwysicaf y cais hefyd gan ei fod yn gyfle i’r ymgeisydd ddweud wrth y prifysgolion pam eu bod yn haeddu lle ar y cwrs.

Y dyddiad cau swyddogol ar gyfer cais UCAS yw diwedd mis Ionawr bob blwyddyn, gweler gwefan UCAS am y manylion. Fodd bynnag, mae ysgolion a cholegau fel arfer yn gosod dyddiadau cau mewnol gan fod angen amser arnyn nhw i atodi geirda at gais y myfyriwr felly gwnewch yn siŵr bod yr ymgeisydd yn ymwybodol o’r dyddiad cau hwn.​

Fel rhiant neu warcheidwad, gall fod yn anodd gwybod sut y gallwch chi helpu ymgeisydd trwy’r broses ymgeisio.​ Rydym wedi llunio canllaw i’ch helpu drwy broses ymgeisio UCAS, gan gynnwys awgrymiadau ar ba gefnogaeth sydd ei angen yn ystod y gwahanol gamau.  

  • Pan fydd yr arholiadau Safon UG wedi dod i ben, gallwch annog eich plentyn neu oedolyn ifanc i lunio rhestr hir o gyrsiau posibl. Mae dewis cwrs yn gallu bod yn dasg anodd ond gallan nhw ddechrau drwy ystyried y canlynol:​

    • Rhagolygon Gyrfa - efallai bod ganddyn nhw yrfa mewn golwg yn barod, os felly helpwch nhw i ymchwilio i ba gyrsiau gradd fydd yn caniatáu iddyn nhw gyrraedd eu nod. Os nad ydyn nhw’n gwybod beth maen nhw eisiau ei wneud yn y dyfodol, atgoffwch nhw nad oes rhaid iddyn nhw wneud penderfyniad pendant nawr oherwydd bydd ennill gradd mewn unrhyw faes yn rhoi sgiliau trosglwyddadwy iddyn nhw i’w helpu i gael gyrfa mewn sawl maes gwahanol. 
    • Astudiaethau Presennol – efallai eu bod nhw eisiau parhau â phwnc maen nhw’n ei astudio yn yr ysgol neu’r coleg ar hyn o bryd, ond mae’r brifysgol hefyd yn gyfle i ddysgu rhywbeth hollol newydd. Mae mynd i sesiynau blasu yn ffordd wych o gael blas ar wahanol gyrsiau a’r hyn y maen nhw’n ei gynnig.   
    • Diddordebau a Hobïau – atgoffwch nhw y byddan nhw fwy na thebyg yn treulio tair blynedd neu fwy yn astudio’r un cwrs, felly mae’n bwysig eu bod yn ei fwynhau. Gall gradd prifysgol fod yn fwy na diddordeb academaidd, gallai fod yn hobi ac os oes ganddyn nhw fwy nag un diddordeb, mae’n bosibl astudio gradd gydanrhydedd.​  
    • Gofynion Mynediad - edrychwch yn ofalus ar y gofynion mynediad i wneud yn siŵr eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i’w bodloni.​

    Mae’n bwysig gwneud gwaith ymchwil wrth ddewis cwrs prifysgol. Mae nawr yn amser da i ddechrau ymchwilio a dechrau mynd i Ddiwrnodau Agored neu Sesiynau Blasu prifysgolion.​ Mae dod i wybod am gynnwys y cwrs yn ogystal â dysgu mwy am y brifysgol yn rhan bwysig o’r cam hwn.

    Y peth pwysicaf i’w gofio wrth iddynt geisio dewis eu cwrs yw mai y nhw sydd i benderfynu yn y pen draw. Byddwch yno i’w cefnogi a pheidiwch â chael eich temtio i lywio eu penderfyniad i unrhyw gyfeiriad er eich budd personol. 

    Mae’n amser da i ddechrau drafftio’r datganiad personol. Gallech gynnig helpu drwy dynnu sylw at eu cryfderau a helpu gyda syniadau ar sut i lenwi unrhyw fylchau yn eu profiad.​ Mae’n gyfle i’w hannog i chwilio am waith cyflogedig neu wirfoddol, cysgodi neu interniaethau sy’n berthnasol i’w meysydd diddordeb.​

  • Mae’n dymor gwneud ceisiadau UCAS. Os nad ydynt eisoes wedi dewis cwrs, gallan nhw ofyn am gyngor gan athrawon a chynghorydd gyrfaoedd. Parhewch i fynd i gymaint o Ddiwrnodau Agored ag y gallwch er mwyn eu helpu i wneud penderfyniad gwybodus.​ Ac efallai y gallech ofyn iddyn nhw sut mae eu datganiad personol yn dod yn ei flaen.​ 

    Gyda’r dyddiad cau ar Ionawr 15 yn prysur agosáu, gwnewch yn siŵr eu bod wedi gwneud eu dewisiadau terfynol ac wedi rhoi trefn ar eu datganiad personol. A allech chi helpu gyda gwirio terfynol a phrawfddarllen cyn iddo gael ei gyflwyno?

    Dylai cynigion gan y prifysgolion ddechrau cyrraedd yn ystod y cyfnod hwn, ond os nad yw eich plentyn wedi clywed yn ôl eto, does dim angen poeni - mae gan brifysgolion tan fis Mai i ymateb a bydd rhai yn ymateb yn gynt nag eraill. Efallai y bydd gwahoddiadau am gyfweliadau a phrofion mynediad hefyd yn cyrraedd yn ystod y cyfnod hwn, felly gallwch chi helpu i baratoi ar gyfer y rhain a sicrhau bod trefniadau teithio yn cael eu gwneud.​ 

    Os ydyn nhw’n gwneud cais ar gyfer cwrs creadigol, efallai y gallwch hefyd holi sut mae eu portffolio o waith yn dod yn ei flaen. ​ 

    Mae nawr hefyd yn amser da i ddechrau edrych ar gyllid myfyrwyr a gwneud cais.

    Amser penderfynu: ydyn nhw wedi derbyn ac ymateb i gynigion? Ydy eu dewisiadau wedi newid? Ydyn nhw wedi penderfynu ar eu cynigion cadarn a’r rhai wrth gefn? Ceisiwch gael cynllun wrth gefn rhag ofn na fydd pethau’n troi allan yn union fel yr oeddent wedi gobeithio.​ 

    Mae angen iddynt fod wedi rhoi trefn ar eu cais am lety myfyrwyr hefyd gan fod neuaddau preswyl fel arfer yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.

    Tymor arholiadau: amser i wneud yn siŵr eu bod wedi paratoi orau y gallan nhw i gael y graddau sydd eu hangen, a chynnig cymorth emosiynol iddyn nhw yn ystod y cyfnod anodd hwn.

    • Gwnewch yn siŵr eu bod yn barod ar gyfer diwrnod y canlyniadau (sydd ar ddydd Iau yng nghanol mis Awst fel arfer) gyda gwybodaeth ar sut i wirio a chadarnhau eu lle drwy UCAS Track.
    • Mae’n syniad da osgoi trefnu gwyliau tramor yn ystod cyfnod y canlyniadau oherwydd mae’n debygol y bydd angen i chi allu cysylltu â’r brifysgol y maen nhw wedi ei dewis. 
    • Os ydych chi’n credu ei bod hi’n bosibl y bydd angen i’ch plentyn neu berson ifanc ddefnyddio’r broses Glirio, mae’n werth gwneud rhywfaint o ymchwil gefndirol ar gyrsiau ac opsiynau posibl ymlaen llaw, a gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw fynediad i’r rhyngrwyd a ffôn ar ddiwrnod y canlyniadau.
    • Efallai y bydd rhai prifysgolion yn gofyn am raddau yn unig yn ystod y broses Glirio, ond gall eraill ofyn cwestiynau i’w helpu i benderfynu a ddylid cynnig lle. Bydd angen eich cefnogaeth emosiynol yn ystod y broses hon, a all beri straen, a bydd angen iddynt wneud y galwadau ffôn eu hunain.​ Byddwch yn barod gyda’r manylion cyswllt perthnasol a allai fod yn ddefnyddiol ar y diwrnod.​
    • Unwaith y byddant wedi sicrhau lle, mae’n bwysig gwirio beth sy’n digwydd nesaf o ran llety os ydynt yn bwriadu byw mewn neuadd. Efallai y bydd angen iddynt gadarnhau bod ystafell ar gael iddyn nhw, ac fel arfer byddan nhw’n cael manylion llawn ynglŷn â beth sydd angen iddyn nhw ddod gyda nhw a dyddiadau symud i mewn.
    • Ar y cam hwn, gallwch eu helpu i baratoi ar gyfer bywyd prifysgol drwy drefnu’r holl bethau bach o adref allai helpu iddynt ymgartrefu yn eu cartref newydd. Os nad yw’ch plentyn neu berson ifanc wedi arfer coginio neu olchi eu dillad eu hunain, nawr yw’r amser i’w helpu i wella eu sgiliau.​
    • Fel arfer, mae myfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn dechrau eu cwrs yn ystod trydedd neu bedwaredd wythnos mis Medi, felly mae’n syniad da cadw penwythnosau’n rhydd o gwmpas yr amser hwnnw oherwydd efallai y bydd angen help arnynt i symud i’w llety. Yr unig beth y gallwch chi ei wneud wedyn yw aros am yr alwad ffôn gyntaf..!

Os yw trefn y Brifysgol yn newydd i chi efallai y bydd gennych gwestiynau pellach ynglŷn â sut bydd y cwrs yn cael ei ariannu, ble fyddan nhw’n aros, neu’n bwysig iawn, sut y byddan nhw’n cael eu cefnogi… Mae gennym wybodaeth am bob un o’r agweddau hyn er mwyn helpu i dawelu eich meddwl. 

Rydym yn deall nad breuddwyd yn unig yw dilyn trywydd addysg uwch, ond buddsoddiad sylweddol yn eich dyfodol. Rydym nid yn unig wedi ymrwymo i ddarparu addysg wych i chi, ond profiad prifysgol gwych hefyd.

Students collaborating at a desk

Ydych chi’n bwriadu byw oddi cartref tra byddwch chi’n astudio? Beth am greu’r profiad prifysgol rydych wedi breuddwydio amdano erioed?

Two students chatting in student accommodation

Mae gwasanaethau cymorth myfyrwyr mewn prifysgol yn chwarae rhan ganolog wrth sicrhau bod myfyrwyr yn cael profiad academaidd llwyddiannus ac wrth eu bodd

Group of students jumping on the beach

Lorem ipsum dolor

A person using a laptop
“Mae’n bwysig bod eich plentyn yn mynd ati’n annibynnol i wneud cymaint â phosib o’r broses ymgeisio eu hunain er mwyn magu hyder a bod yn rhan ganolog o’u penderfyniadau ar gyfer eu dyfodol eu hunain. Yr hyn sy’n bwysig yw eich bod chi, fel rhiant, yno ar hyd y daith ac yn gefnogol yn ystod penderfyniadau pwysig er mwyn sicrhau bod eich plentyn yn barod ar gyfer y cam nesaf.”
Parent of Chloe - BA Primary Education with QTS