Hafan YDDS  -  Ymchwil  -  Canolfan BRIDGES UNESCO   -  Lansio Canolfan BRIDGES UNESCO: Y Dd(d)aear

Lansio Canolfan BRIDGES UNESCO: Y Dd(d)aear

A photo seeming to show layers of glistening brown-shaded paints swirling and glowing in strange lines.

| Ffoto gan Sina Katirachi ar Unsplash

Croeso i dudalen lansio Canolfan BRIDGES UNESCO yn y Drindod Dewi Sant

Bydd y lansiad yn cyflwyno nodau, gwerthoedd a chyfleoedd y Ganolfan drwy arddangos prosiectau sy’n defnyddio cryfderau’r Dyniaethau i greu arloesedd wrth feddwl a gweithredu.

Ni fydd y lansiad yn ddigwyddiad goddefol. Bydd yn weithredol, yn anffurfiol ac yn gofyn i chi ymgysylltu. Os ydym am symud at ffyrdd newydd o ddeall, mae angen i ni weithredu’n feiddgar. Mae’r lansiad hwn yn ymateb i’r alwad honno.

Ble a Phryd

  • 2 Tachwedd 2022
  • Yr Ystafell Ddarllen, Adeilad Alex, Abertawe

Manylion y Prosiect

Mae’r prosiectau a gyflwynir yn y lansiad yn arddangos ymagweddau a dulliau gwahanol o adnabod y Ddaear (a daear).

Dyfeisiwyd, ac arweinir, y prosiect cyntaf gan grŵp o bobl frodorol o Colombia a benderfynodd addysgu gwyddonwyr amgylcheddol confensiynol am eu dulliau o adfywio’r tir, dulliau nas cofnodwyd o'r blaen.

Mae’r ail yn gynllun cydweithredol rhyngddisgyblaethol gydag artist o Gymru sy’n gofyn cwestiynau ynglŷn â’r ddaear ac sy’n defnyddio’r celfyddydau i weithio gyda’r pridd ac archwilio cysylltiadau gyda’r bywydau dan draed a gymerir yn ganiataol.

Mae’r trydydd prosiect yn arddangos pŵer dychmygus a chreadigol chwarae gemau i geisio atebion i faterion amgylcheddol. Mae gemau’n annog positifrwydd ac yn caniatáu i chwaraewyr gydweithio i ddefnyddio tensiynau a rhwystredigaethau i ddatrys problemau cymhleth.

Rhaglen
  • 10.00 - Cyrraedd a Choffi 
  • 10.30 – Croeso a Chyflwyniadau 
    • Cyflwyno’r Ganolfan; cenhadaeth a chyfleoedd 
  • 10.40 – Anerchiad byr: 
    • Yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor PCYDDS 
    • Gabriela Ramos – Cyfarwyddwr Cyffredinol Cynorthwyol UNESCO 
    • Steven Hartman – Cyfarwyddwr Gweithredol BRIDGES UNESCO 
    • Carlos Alvarez Pereira, Is-Lywydd, Clwb Rhufain 
  • 11.30 - Munekan Masha (Gadewch iddo gael ei (Ail)Eni), a gyflwynir gan yr Athro Alan Ereira a Jose Manuel Sauna Mamatacan, cynrychiolydd pobl frodorol y Kogi, Colombia. 
  • 12.30 – Cinio bwffe anffurfiol 
    • Bwth Realiti Rhithwir: taith gerdded rithwir drwy ecosystemau pell [Gweithgaredd dewisol] 
  • 1.30 – Sut beth ydyw i fod yma: Archwilio Galar, Lle a Chof, cyflwynir gan Helen Acklam, artist pridd. 
  • 2.00 – Chwarae Gemau Difrifol: Chwarae Gemau i Ddeall Newid Hinsawdd [Gweithgaredd gyda GamEngage, Prifysgol Caerdydd] Cyflwynir y prosiect hwn gan gyd-sylfaenwyr GamEngage, Dr Feng Mao (Prifysgol Warwick) a Dr Shasta Marrero (Prifysgol Caerdydd). 
  • 2.30 – Te a Thrafodaeth gan Banel Arbenigol, sesiwn Holi ac Ateb, a lywyddir gan Dr Nicholas Campion, Cyfarwyddwr Athrofa Cytgord, Cyfarwyddwr Canolfan Sophia ar gyfer Astudio Cosmoleg mewn Diwylliant, Cyfarwyddwr Golygyddol Gwasg Canolfan Sophia  
    • Yr Athro Veronica Strang, Anthropolegydd Diwylliannol, Arbenigwr Dŵr  
    • David Cadman, Athro Ymarfer, Athrofa Cytgord, PCYDDS 
    • Yr Athro Piero Dominici, Cymdeithasegydd, Athronydd, Cyfarwyddwr Gwyddonol y Rhaglen Ymchwil ac Addysg Ryngwladol CHAOS 
    • Ila Malhotra Gregory (hi/nhw), hwylusydd, holwr a gwehydd. Mae ganddyn nhw gefndir mewn gweithredaeth ieuenctid, ail-ddychmygu systemau a hwyluso mannau ar gyfer hunanymchwiliad. 
    • Yr Athro Elena Rodriguez Falcon, Dirprwy Is-Ganghellor, Cymrawd o’r Academi Frenhinol Peirianneg 

 

Manylion Cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at Despoina Tsimprikidou – d.tsimprikidou@uwtsd.ac.uk

Google Maps       Teithio i Abertawe