Mae Canolfan Cyngor Cyfreithiol Y Drindod Dewi Sant yn darparu cyngor cyfreithiol am ddim i'r gymuned leol. Yn enwedig i'r rhai sy'n methu â chael cymorth cyfreithiol drwy fudiadau elusennol eraill.
Darparir cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim gan fyfyrwyr cyfraith y Brifysgol, dan oruchwyliaeth Siân Turvey, Rheolwr Canolfan Cyngor Cyfreithiol a Rheolwr Rhaglen y Gyfraith, eu darlithwyr a chyfreithwyr sy'n ymarfer yn ein cwmni partner, Peter Lynn and Partners. Mae Canolfan Cyngor Cyfreithiol Y Drindod Dewi Sant yn rhan o rwydwaith elusen LawWorks. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan LawWorks.
Gall Canolfan Cyngor Cyfreithiol Y Drindod Dewi Sant gynnig cyngor cyfreithiol rhagarweiniol ar amrywiaeth o faterion cyfreithiol, gan gynnwys:
- honiadau o esgeulustod;
- ewyllysiau a phrofebau;
- eiddo;
- anghydfodau rhwng landlord a thenant;
- cyflogaeth;
- priodasol;
- teulu;
- cyngor cychwyn busnes.
Gallwn eich helpu i nodi'r gyfraith berthnasol, y datrysiadau posibl sydd ar gael i chi a'r camau nesaf posibl sy'n ymwneud â'ch problem. Fodd bynnag, ni allwn ddarparu cynrychiolaeth mewn gwrandawiadau, gallwn eich cyfeirio at gymorth a chymorth bellach pan fo angen.
Nid ydym yn rhoi cyngor ar y canlynol:
- materion troseddol;
- dyled;
- cyllid.
Mae ein horiau agor rhwng 10a.m. a 2p.m. bob dydd Mercher. Bydd angen i chi gysylltu â ni i drefnu apwyntiad. Gallwch anfon e-bost atom yn law@pcydds.ac.uk neu lenwi ffurflen ymholiadau ar-lein, gan adael eich manylion cyswllt a chrynodeb byr o'ch ymholiad. Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y bo modd i drefnu apwyntiad.
Cyntaf i’r felin fydd hi o ran trefnu apwyntiadau a gellir eu cynnal ar-lein drwy MS Teams neu ar Gampws Busnes Abertawe. Sylwer nad ydym yn cynnig cyngor cyfreithiol dros y ffôn na thrwy’r e-bost.
Gweler Siân Turvey (e-bost: sian.turvey@uwtsd.ac.uk) am fanylion sut i wirfoddoli yng Nghanolfan Cyngor Cyfreithiol Y Drindod Dewi Sant.
Mae'r Ganolfan Cyngor Cyfreithiol yn gyfle gwerthfawr i fyfyrwyr ddefnyddio gwybodaeth gyfreithiol ddamcaniaethol mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn. Bydd gwirfoddoli yn y Ganolfan Cyngor Cyfreithiol yn caniatáu i fyfyrwyr elwa o addysg gyfreithiol ymarferol drwy ddatblygu eu sgiliau cyfreithiol, cael profiad o’r gyfraith ar waith ac adfyfyrio ar foeseg a phroffesiynoldeb mewn ymarfer.
Bydd myfyrwyr sy'n gwirfoddoli yn ymdrin ag ymholiadau gan y cyhoedd drwy ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau gan gynnwys gwrando gweithredol, cyfathrebu gweithredol, empathi a drafftio. Bydd myfyrwyr yn cynnal cyfweliadau wyneb yn wyneb ac ar-lein â chleientiaid a byddant yn ymchwilio i'r gyfraith er mwyn defnyddio egwyddorion cyfreithiol mewn materion bywyd go iawn.