Hafan YDDS  -  Ymchwil  -  Ymchwil Mewn Celf a Dylunio  -  Canolfan Ymchwil Trochi

Canolfan Ymchwil Trochi

Students sit wearing VR headsets and holding controllers in the middle of the Victorian-style reading room at the Alex Building.

Mae’r Ganolfan Ymchwil Trochi yn rhyngddisgyblaethol o ran ei natur, ac mae’n ymroddedig i hyrwyddo gwybodaeth trwy ymchwil trochi. Ein prif nod yw archwilio potensial technolegau realiti rhithwir (VR), realiti estynedig (AR), a realiti cymysg (MR) mewn parthau amrywiol, gan gynnwys celf a dylunio, addysg, seicoleg, pensaernïaeth, a chadwraeth ddiwylliannol.

Rydyn ni’n blaenoriaethu gwthio ffiniau trochi trwy ddatblygu dulliau, offer, a thechnegau arloesol i wella ansawdd a realaeth profiadau trochi o fewn cyd-destunau addysgol. Meithrinir cydweithio rhyngddisgyblaethol ymhlith ymchwilwyr o feysydd seicoleg, cyfrifiadureg, celf, dylunio, a pheirianneg i hyrwyddo dulliau synergaidd mewn ymchwil trochi.

Bwriad y ganolfan yw cael effaith sylweddol trwy fynd i’r afael â heriau’r byd go iawn. Trwy ddefnyddio technolegau trochi mewn ffordd gyfrifol a moesegol, rydyn ni’n ymdrechu i gynnal preifatrwydd, diogelwch data, a lles defnyddwyr. Mae ein Labordy Trochi o’r radd flaenaf yn galluogi dylunio, prototeipio, a gwerthuso profiadau trochi.

Mae’r Ganolfan Ymchwil Trochi’n mynd ati i geisio cydweithrediadau â sefydliadau academaidd, partneriaid ym myd diwydiant, asiantaethau’r llywodraeth, a sefydliadau nid-er-elw. Trwy’r partneriaethau hyn, rydym yn hwyluso cyfnewid gwybodaeth, prosiectau ymchwil ar y cyd, cyfleoedd ariannu, a mentrau trosglwyddo technoleg i fwyhau effaith ein hymchwil.

Cynigir rhaglenni hyfforddi, gweithdai, a seminarau i addysgu ymchwilwyr, myfyrwyr, a gweithwyr proffesiynol y diwydiant am dechnolegau trochi a’u cymwysiadau. Darperir interniaethau a chymrodoriaethau ymchwil hefyd i feithrin talent sy’n dod i’r amlwg yn y maes.

Mae ymgysylltu â’r gymuned ehangach yn agwedd allweddol ar ein cenhadaeth. Trefnir arddangosfeydd cyhoeddus, cynadleddau ymchwil ac arddangosiadau trochi i godi ymwybyddiaeth, ysbrydoli chwilfrydedd, ac annog cyfranogiad y cyhoedd mewn ymchwil trochi.

Mae’r Ganolfan Ymchwil Trochi’n gweithredu yn ganolfan ar gyfer ymchwil trochi rhyngddisgyblaethol, gan hyrwyddo gwybodaeth, a defnyddio technolegau trochi i fynd i’r afael â heriau yn y byd go iawn.

Proffiliau Staff