UWTSD Home - Sefydliadau ac Academïau - Coleg Celf Abertawe - Y Ganolfan Gwydr Pensaernïol - Astudiaethau newydd ac achos
Gweler isod astudiaethau achos ac eitemau newyddion diweddar yn cynnwys gwybodaeth am weithdai.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cael gwybodaeth bellach am y Newyddion a’r Astudiaethau Achos canlynol, Cysylltwch â'r tîm. I sicrhau y cewch chi’r holl wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau a gweithdai, Cysylltwch â'r tîm a gofynnwch i gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio.
Newyddion
Mae’r gweithdai nesaf wedi’u cadarnhau am y dyddiadau canlynol:
Dosbarthiadau Meistr yr Hydref
Paentio Gwydr | 17eg-20fed Medi 2019
Staen Arian ac Enamel | 21-23 Medi 2019
Cynhelir y dosbarthiadau meistr peintio gwydr dros dri diwrnod a hanner, a’r rhai staen arian ac enamel dros ddau ddiwrnod a hanner.
Mae’r dosbarthiadau meistr yn addas i ddechreuwyr neu'r rhai sydd â phrofiad blaenorol o beintio gwydr. Bydd Jonathan yn arddangos peintio gwydr gan ddefnyddio techneg sy’n caniatáu gosod nifer o haenau o baent cyn tanio. Bydd hefyd yn trafod deunyddiau, offer ac amseroedd tanio. Yn ystod y dosbarth meistr bydd digon o amser i gyfranogwyr ymarfer y dechneg a chreu samplau.
Mae’r galw am y sesiynau hyn yn fawr bob tro ac mae’n rhaid cadw lle ymlaen llaw. I gadw’ch lle neu os bydd angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch, cysylltwch â: Owen Luetchford ar 07769 210127 neu e-bostiwch agc@uwtsd.ac.uk