Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored:Caerfyrddin
Her drwy Ddewis
Mae gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant dros 160 o flynyddoedd o brofiad o gynnig cyrsiau cysylltiedig â chwaraeon, yr awyr agored ac iechyd.
Cyrsiau Israddedig (Caerfyrddin)
Ar Campws Caerfyrddin rydym yn cynnig y rhaglenni israddedig a ganlyn:
- BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
- BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Maeth Chwaraeon)
- BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Hyfforddi Personol)
- BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Ffitrwydd Awyr Agored)
- BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Ffisioleg Ymarfer Corff Clinigol)
- BSc Therapi Chwaraeon
- BSc Iechyd y Cyhoedd
- BSc lechyd, Maeth a Ffordd o Fyw
- BA Addysg Antur Awyr Agored
- BA Addysg Gorfforol
- DIP AU Astudiaethau Nyrsio ac Iechyd
Cyrsiau Israddedig (Abertawe)
Ymweld Portffolio Iechyd Abertawe yma
Cyrsiau Ôl-raddedig (Caerfyrddin)
Mae’r ddarpariaeth ôl-raddedig yn cynnwys yr MA Addysg Awyr Agored sefydledig ac yn ddiweddarach, yr MA Addysg Gorfforol.
Cynigir y ddwy raglen MA drwy ‘ddysgu cyfunol’ sy’n cynnwys dau weithdy penwythnos ar gyfer pob modwl, wedi’u cefnogi gan ddysgu o bell a chymorth ar-lein.
Mae yna gyfle i fyfyrwyr y rhaglen MA Addysg Gorfforol fynd ar daith gyfnewid i Brifysgol Greensboro, Gogledd Califfornia, UDA.
Graddau Ymchwil (Caerfyrddin)
Mae cyfleoedd llawn a rhan amser ar gael i fyfyrwyr astudio ar lefel Doethuriaeth ar gyfer PhD o fewn meysydd disgyblaeth Addysg Awyr Agored ac Addysg Gorfforol.
Dylai ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn ymchwil lefel Doethuriaeth gysylltu â Dr. Andy Williams.
Pam Astudio Yma
1. Mae perthnasedd galwedigaethol yn thema gre sy’n tanategu pob gradd ac anogir myfyrwyr yn gryf i gael profiad a chymwysterau ychwanegol i gefnogi eu huchelgeisiau gyrfaol.
2. Dechreua lleoliadau gwaith a gwirfoddoli gyda gwahanol asiantaethau yn y tymor cyntaf un ac fe’u datblygir ymhellach trwy gydol y gwahanol raglenni, yn aml fel modwl dewisol neu orfodol.
3. Mae yna hefyd gyfle i ymgymryd â thaith gyfnewid ryngwladol am chwe mis yn UDA (Gogledd Carolina neu Galiffornia) neu Norwy yn ystod yr ail flwyddyn ac yn Abertawe, caiff myfyrwyr Rheolaeth Chwaraeon gyfleoedd i fynd ar amrywiaeth o leoliadau rhyngwladol.
4. Mynediad am ddim i’r ystafell iechyd, neuadd chwaraeon a phwll nofio i gefnogi diddordebau gradd.