Wales and its great outdoors is the ultimate adventure location. From coastline to countryside, Wales has it all with activities to suit everyone.
Arfordir Cymru yw’r maes chwarae perffaith ar gyfer syrffio a chwaraeon dŵr yn cynnwys barcudfyrddio, ceufadu, arforgampau a padlfyrddio ar eich traed.
Chwaraeon Antur
Chwilio am hyrddiad o adrenalin? Mae Cymru yn gartref i rai o brofiadau eithafol ac antur gorau’r byd. Dringo, ‘zip lines’, trampolinio tanddaearol a cherdded ceunentydd – mae’r cyfan yng Nghymru.
Cerdded
Fel myfyriwr yng Nghymru, bydd rhai o olygfeydd mwyaf hyfryd y byd ar stepen eich drws, boed yn arfordir, fynydd, ddyffryn neu fryn. Awydd her? Tri chopa Cymru mewn 24 awr – rhowch gynnig arni!
Seiclo a Beicio Mynydd
Mae canolfannau beicio mynydd Cymru yn cynnig llwybrau un trac, mannau poeth reidio rhydd a reidiau gwledig gwyllt o’r radd flaenaf ar gyfer dechreuwyr a rhai proffesiynol. Hefyd, mae’r Rhwydwaith Seiclo Cenedlaethol yng Nghymru yn darparu dros 1,200 milltir o antur ‘olwynion rhydd’.
Penrhyn Gŵyr
Yn dafliad carreg mewn car o Abertawe, cafodd Penrhyn Gŵyr ei ddynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol cyntaf y DU yn 1956.
Parc a Thraeth Gwledig Pen-bre
Nepell o Lanelli, Sir Gâr, mae gan Barc a Thraeth Gwledig Pen-bre bum can acer o barcdir bendigedig yn cynnwys traeth sydd wedi ennill gwobrau, llethr sgïo sych, llethr tobogan, trên fach, golff byr, maes chwarae antur, golff giamocs, canolfan ymwelwyr a chaffi.
Bae Ceredigion
Bae Ceredigion yw bae mwyaf arfordir Cymru a chanddo lain eang sy’n cynnwys nifer o faeau llai rhwng penrhynion Sir Benfro a Phen Llŷn.
Cestyll Cymru
Mae 427 o gestyll yng Nghymru felly mae’n debygol iawn y gwelwch un pan fyddwch yn astudio yma.
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Wedi’i gosod yng nghefn gwlad fendigedig Sir Gâr, mae’r Ardd yn gyfuniad diddorol iawn o’r modern a’r hanesyddol.